mercoledì, maggio 24, 2006

Panad a phentrefi diflas Cymru

Bob tro dw i adra dw i'n yfed tua maint Tryweryn o baneidiau. Efallai dyna'r rheswm pam nad ydw i'n cysgu llawer, a finna'n hen lwmp o gaffîn ddi-egni. Oes gwell na phanad? Oes rhywbeth mwy henffashwn o Gymreigaidd na hi, tybed? Y peth gora am banad ydi ei chael hi mewn mwg neu rhyw hen gwpan sy gen ti ers blynyddoedd. Dileit yw panad. Mi a'i charaf.

Un peth dw i ddim yn caru ydi Bethel. Mi basiais i drwy Bethel ar fy ffordd o Dre ddoe. Er fod Anti Betty ac Yncl Owie yn byw 'na does gan Bethel ddim cymeriad o gwbl. Hi, yn wir, yw pentref mwyaf ddifflach a diflas Cymru, a mae i Gymru ei siâr ohonynt, ond i gyd gydag o leiaf un nodwedd diddorol:

  • Libanus - enw diddorol
  • Llanfairfechan - wrth lan y môr
  • Pentrefoelas - y lle siocled 'na
  • Llanilar - Dai Jones
  • Llanbrynmair - y ddraig gwydr
  • Capel Curig - does neb yn siwr lle mae'r union bentref
  • Pob pentref ar Ynys Môn - pawb yn falch eu bod nhw, pawb sy'n byw ynddynt a'u naws cyffredinol o ddiflas ar Ynys Môn ac nid y tir mawr
  • Mynydd Llandygai - mi fedri di weld Rachub ohono

Crybwylliad byr mi wn, gwyddwn i fod 'na lawer mwy ohonynt ond unig nodwedd Bethel ydi dy fod ti'n gorfod arafu yno ar dy ffordd i Gaernarfon neu fel arall, a mae o'r math o le dwyt ti ddim isho gwario llawer o amser yno. Ond gwell imi beidio slagio'r lle off yn ormodol rhag ofn i Anti Betty ddarllen a rhoi stid imi.

martedì, maggio 23, 2006

Wastio 'Mywyd

Dw i wedi bod yn gwneud dim byd ers bod adra. Anadlu a bwyta, efallai, ond fawr o ddim. Dw i wedi bod yn gwylio Big Brother, wrth gwrs, a mwynhau gweld y boi Pakistani'n pisio pawb off, y dynes ddu yn drewi a'r Cymry Cymraeg, Imogen a Glyn, yn, wel, gwneud ddiawl o'm byd i fod yn hollol onast. Mae'r ddau ohonyn nhw yn hynod, anfaddeuol o boring ar y funud.

Dwisho mynd i Fangor heddiw i brynu Cysgliad i'r llapllop a'r cyfrifiadur yma imi gael sillafu'n gywir a ballu. Mi ragwelaf (a mi ydw i'n rhagweld pethau, a dw i bob amser yn gywir) bydd medru sillafu yn gywir o fantais pan yn athro aeddfed.

Deffroais am hanner awr wedi saith bora 'ma. Od ydyw hyn o'r herwydd pan dw i adra dw i'm yn deffro tan o leiaf 10 rhan fwyaf o'r amser. Dod adra ydi 'ngwyliau i bellach, a pham mae rhywun yn mynd i Rachub am wyliau mae nhw unai gyda hiraeth, heb bres neu'n paratoi ar gyfer hunanladdiad.

W, newydd gofio bod 'na CD allan gan Celt heddiw, so bydd yn RHAID imi brynu hwnnw. 'Sgen i'm car ar y funud ond dw i'n cael menthyg un Nain tra ei bod hi'n dawnsio llinell yn nghanolfan Cefnfaes, felly mi wna i bob dim yn ogystal a sortio allan joban am yr haf i'm hun. 'Misho gweithio. Tydi tyfu fyny yn beth annifyr? (er nad ydw i erioed wedi tyfu fyny pasio 5"7, ac annhebyg y gwna i rwan. Plantos, peidiwch boddra byta'ch llysiau i dyfu fyny'n iach, ges i llwyth ohonyn nhw a rwan mae pawb yn fy ngalw i'n Hobbit Tew. Bastads.)

domenica, maggio 21, 2006

Dydd Sul Glawiog yn Rachub

Dyma fi'n ôl yn yr hen fro unwaith eto! A mai'n bwrw glaw. Dydi hynny ddim yn beth da. Roedd hi'n bwrw glaw yr holl ffordd fyny yn y car. Cefais yr anffawd o yrru fyny efo Dyfed, sy'n digon i wneud rhywun eisiau crio (ond dim digon i wneud Dyfed grio - mae o 'mond yn crio ar y coroni yn ffilm Narnia).

Does gen i ddim cynllun bendant ar gyfer heddiw, heblaw bod Nain (bendith arni) wedi dweud ei bod hi'n gwneud cinio i bawb. Fydd hynny'n dda, dw i angen egni achos doeddwn i methu cysgu neithiwr. Dad 'di meddwi yn gwneud swn yn dod i mewn a wedyn rhyw hogia am hannar 'di dau'n bora yn gweiddi rwbath am 'my fucking shin'. Annymunol iawn.

Mae Dad yn y ffenast rwan yn dweud imi fynd i lle Nain am fwyd, sy'n biti achos mae genni lot mwy i'w ddweud i chi. Duw, 'motsh. Hwyl am y tro, gyfeillion!

venerdì, maggio 19, 2006

Gwinllan a roddwyd

Shwmai gyfeillion! Methu aros i siarad lot efo chi heddiw. Dwidi deffro'n hwyr ac angen mynd i lle'r genod (eu cartref, nid toiled) i futa baget ac hefyd i'w cythryddu nad ydw i wedi bod yn adolygu unwaith yn rhagor.

Saunders Lewis sydd heddiw. Boi bach hyll, fainlais, cenedlaetholwr i'r carn oedd yn hoff o losgi ysgolion fomio. Gwinllan a roddwyd i'm gofal yw Cymru fy ngwlad; melltith o waelod fy enaid i ti, Llywelyn; trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo. Dyna'r oll dw i'n wybod. Ond mi fedra i adrodd Gwinllan a Roddwyd o gof...

Gwinllan a roddwyd i'm gofal yw Cymru fy ngwlad
I'w thraddodi i'm plant
Ac i blant fy mhlant
Yn dreftadaeth tragwyddol;
Ac wele'r moch yn rhuthro arni i'w baeddu.
Minnau yn awr,
Galwaf ar fy nghyfeillion,
Cyffredin ac ysgolhaig,
Deuwch atyf i'r adwy,
Safwch gyda mi yn y bwlch;
Fel y cedwir i'r oesoedd a ddel y glendid a fu.

Gwych! O leia os dw i'n methu heddiw bydda i'n gwybod fy mod i wedi gwneud ychydig o waith drwy flogio!

mercoledì, maggio 17, 2006

Hannar ffordd...

Dwy wedi'i wneud, dwy i fynd! Arholiad echrydus heddiw sy'n gwneud imi feddwl efallai y dylwn i wedi adolygu mwy (yn benodol am yr hen benillion a Daniel Owen) ond Duw 'mots, byw ac iach ydwyf innau heddiw. Mi gymrais i fy ffisigs i gyd fel hogyn bach da (o Rachub) ac am y tro cyntaf ers hydoedd, neithiwr mi ges i noson dda o gwsg a nis deffroais mewn poen o gwbl. Wondyrffwl, y doctor 'ma, wyddoch chi. Dallt bob dim yn iawn.

Eniwe, dw i newydd gerdded i'r Rhath o Dalybont yn y glaw mawr, yn anffodus sylweddoli bod y parker neis 'na y prynais i rhyw ddeufis yn ôl ddim yn wotyrprwff, a wedi socian fy waled a'n ffôn, ynghyd â ddau feiro, tabledi a goriad drws ffrynt. Ond 'sdim am ostwng fy hwyliau, dwi'n iach unwaith yn rhagor! Warwww!

Hannar ffordd...

Dwy wedi'i wneud, dwy i fynd! Arholiad echrydus heddiw sy'n gwneud imi feddwl efallai y dylwn i wedi adolygu mwy (yn benodol am yr hen benillion a Daniel Owen) ond Duw 'mots, byw ac iach ydwyf innau heddiw. Mi gymrais i fy ffisigs i gyd fel hogyn bach da (o Rachub) ac am y tro cyntaf ers hydoedd, neithiwr mi ges i noson dda o gwsg a nis deffroais mewn poen o gwbl. Wondyrffwl, y doctor 'ma, wyddoch chi. Dallt bob dim yn iawn.

Eniwe, dw i newydd gerdded i'r Rhath o Dalybont yn y glaw mawr, yn anffodus sylweddoli bod y parker neis 'na y prynais i rhyw ddeufis yn ôl ddim yn wotyrprwff, a wedi socian fy waled a'n ffôn, ynghyd â ddau feiro, tabledi a goriad drws ffrynt. Ond 'sdim am ostwng fy hwyliau, dwi'n iach unwaith yn rhagor! Warwww!

martedì, maggio 16, 2006

Arthrotec 50

Wedi cael digon o boen mi es i i'r doctors bora 'ma. Bues i'n disgwyl am ddwyawr cyn iddo fy ngweld i, yn gorfod dioddef y wirdos eraill oedd yn y man aros. Y gwaethaf oedd y babi bach Siapaneaidd 'ma oedd yn crio a chrio a minnau bron a marw isho'i dagu go iawn. Oedd o'n swnio fel un o'r teganau yna mae cwn yn chwarae efo sy'n gwichian. Afiach. Mae crio babanod yn mynd drwyddaf i fel gwynt main. Diolch i Dduw aeth y bastad bach i mewn yn o fuan.

Iawn Doctor be ga'i i'r hen arennau, meddaf i. Cefn chdi sy'n brifo, medda fo, dos i cemist a chael jel i dy gefn ac Arthrotec 50. Dydi doctoriaid yn gwybod dim byd, achos fy arennau i sy'n brifo a nid fy nghefn, ond wedi dwyawr o ddisgwyl doeddwn i'm am ddadlau.

Dydi'r cyffur Arthrotec 50 (Athrotec fysa'n addasach. Ha ha.) ddim yn argoeli'n dda chwaith. Mae'n rhestru rhai o'r side-effects posib fel:
  • Diahorrea
  • Poen yn bol
  • Angen byrpio
  • Colli pwysau
  • Teimlo'n chwil
  • Problemau gyda'r iau a'r arennau (sydd ddim yn dda o gwbl, nadi?)
  • Chwyddo'r tafod
  • Digalondid
  • Colled gwallt

Felly fydd dim ots os y bydda i'n foel, dipresd ac yn byrpio fel broga ar hyd a lled City Road achos fydd fy nghefn i'n teimlo'n well. Er dydi 'nghefn i ddim yn brifo. Fy arennau i sydd yn brifo. Fyddwn i well doctor, wir.

lunedì, maggio 15, 2006

Sut aeth hi ta, Hogyn o Rachub?

Dyna'r cwestiwn bydd pawb sydd efo diddordeb ynof yn gofyn, sy'n golygu chi os dachi'n penderfynu darllen y blogiad nesaf. Diolch am gymryd diddordeb yn fy mywyd pitw.

Iown ia. Ces i ddechrau hynod, hynod annifyr i'r diwrnod. Mi ddeffroais am 5.30 mewn poen unwaith eto efo'n cidnis i, a fu'n rhaid imi fynd lawr grisha i gael paracetamol. Gweithiodd hwnnw ddim felly oeddwn i'n cysgu on-ac-off tan hanner wedi deg, a wastad yn deffro efo'r poen 'ma. Dw i'n dechrau poeni rwan, i fod yn onast, achos mae hyn 'di bod yn digwydd ers bron i dair wythnos a bron bob bora. Af i ddim i'r doctor oherwydd arholiadau, a dw i methu ffeindio dim ar y rhyngrwyd. Ond dyna oni, eniwe, am bump awr fel hyn, cael mwy o baracetamols, a mae nhw 'di bod yn brifo drwy'r dydd, hefyd, ac y tro cyntaf. Felly doedd hynny'm yn ddechrau da, mae'n siwr.

Yn yr arholiad ei hun nes i'n tric arferol o peidio a aros tan y diwedd. Atebais i gwestiwn ar ieithoedd Celteg-P a Chymraeg Electronig. Son am falu cachu. A wedyn mi ges i sosij rol o Spar, oedd yn neis iawn am sosij rol o Spar. Dw i'm yn mynd i Spar yn aml am sosij rol.

'Sgen i'm bwyd yn y lle 'ma o hyd felly bydd rhaid imi ffeindio rwbath ar City Road nes ymlaen heno. Ai'm i Troys achos mi esi fanno neithiwr a gofynnodd rhyw foi Tyrcish i mi a Kinch os oedden ni'n rhannu cartref, cyn mynd ymlaen i ofyn os oedden ni'n rhannu gwely. Oeddwn i'n meddwl bod hynny'n beth powld iawn i'w ofyn, a na meddaf i (gan droi i ffwrdd a gwrthod cael te Twrcaidd). Misho sglod a sgod na pizza. Peryg y ffeindia i rwbath yng nghefn y rhewgell a'i droi i mewn i bryd o fwyd, achos 'sgen i'm pres ar y funud 'chwaith. Dim bwyd, dim pres, dim iechyd a dim clem. Nid hoff mohonof o'r cyfuniad.