giovedì, giugno 07, 2007

Tasa'r tŷ ma'n gallu siarad...

Mi wnaeth Llinos bei pysgod i mi neithiwr. Mi wnes innau dysan melys iddi hi. Mae pysgod a thatws melys yn gyfuniad rhyfeddol o dda, yn enwedig os mai pei pysgodyn mam Llinos sydd wrth y llyw (ar y plât, yn hytrach, bosib). A dyna, gyfeillion, bydd diwedd y ddadl honno.

Roedd ddoe yn cynnwys hynny a phrynu papur toiled. Dydw i nac Ellen (ninnau ar ben ein hunain yn y tŷ ers wythnos bellach) yn gwybod lle y mae hi i gyd wedi mynd. Heb bryd hefyd yn glanhau’r tŷ ffiaidd hwnnw. Does dim hwfar gennym ni, ‘dach chi’n gweld (wel, oes, ond megis putain wael, nid yw’n sugno) felly dros y misoedd diwethaf mae’r llwch wedi bod yn ymgasglu i bob congl o’r tŷ. Mae ‘na fôr ohono ar hyd llawr pren Haydn, a dw i’n ofni symud fy ngwely i, tra bo dillad Ellen sydd wastad ar y llawr yn gorchuddio unrhyw fudred oddi tanodd.

Mae’r coridor a’r grisiau hefyd yn llychlyd. Mae’r gegin yn weddol lân, a’r toiled yn drewi o chŵyd o hyd achos dydi’r tyweli sydd llawn o’m gwin coch a chyri heb gael eu lluchio hyd yn hyn.


Rhaid dweud mai ffiaidd o dŷ ydyw. Dw i ‘di blino ar Newport Road. Dw i am fynd i Grangetown. Mwy na thebyg.

mercoledì, giugno 06, 2007

Y Jôc

Jôc a glywais gan Lowri Llewelyn neithiwr, sy'n hollol rybish ond ddaru fo neud i mi chwerthin cymaint fel y bu imi ei decstio i mam Lowri Dwd:

Pam oedd Sion a Siân yn chwarae efo torth?

Er mwyn gwneud i'r gêm bara!


Haha, diolch, diolch yn fawr.

martedì, giugno 05, 2007

Slipper Lobster, King Prons a'r hanes rybish yn ei chyfanrwydd

Hoffwn i air sydyn efo chi, a minnau’n teimlo fy mod i wedi eich hanwybyddu yn ddiweddar. Mi ges i hynod o benwythnos da, er na’i dechreuwyd felly wrth i mi aros i mewn ac yn cael Kinch a Haydn yn torri i mewn i f’ystafell am dri o’r gloch y bore (d’on i meeethu cysgu dim … ar ôl hynny) a rhoi fy radio ymlaen a mynd ar fy nerfau yn gyffredinol.

Mi es i weld y gêm efo Rhys a’i frawd a mawr syndod a gefais o weld Dafydd Wigley yn Pica Pica, ei lais dwfn, cyfoethog yn rholio oddi ar y waliau’n orgasmig fwyn. Ambell i beint yng Ngwesty’r Angel oedd pia hi wedyn, cyn i bopeth fynd ar chwâl yn Dempseys (lle y bu mi waredu Rhys a’i frawd a Sioned - anegwyddorol ydwyf yn fy meddwod), ac ar chwâl mwy fyth yn y Gatekeeper, lle nad ydw i wedi bod ers amser maith, a bu imi gofio pam achos mae’n rhy fawr i rywun bach fel fi, efo’i teirllawr a’i sŵn. Ac yna i’r Model Inn, gyfeillion, canys fy mod isio clywed carioci, a lle nad ydw i’n cofio llawer unwaith eto. O ia, a Chlwb Ifor, lle’r mwyaf dw i’n cofio ydi troi neud tyrbo shandi wrth y bar llawr uchaf ond i’w gweld yn ffizio allan o’r peint ar hyd a lled y lle, a chael lwc eitha’ gas gan ŵr y bar.

Argol, mi fytish i’n dda ar y Sul. Mi ges gynnig gan Kinch i fynd am dro i weld ei fam a Dennis (y Menace, yn ôl Kinch) a dau arall o’r Ynys yn y nos. Wedi cael cinio dydd Sul yn y Claude ac It’s Pizza Time! (hanfodol ydyw’r ebychnod fan hyn - mae o hyd yn oed ar fy ffôn) mi wnaethon ni’n ffordd i Champers. Dw i heb gael noson o chwerthin caletach ers sbel, felly byddwn i’n apelio i bawb gofio mai dim ond pobl fel y ni ydi pobl Ynys Môn wedi’r cyfan, ac arwynebol yw eu hisraddoldeb, mewn difri.

Pigwn ni ar Sir Ddinbych yn y dyfodol.

Sut bynnag, mi drïais i King Prawn (mae Brenin Prôn yn wirion o beth i ddweud felly gwnaf i ddim - wyddoch chi fod ‘na ffasiwn anifail â Slipper Lobster? Hah! Gwirion.) ac mi oedd yn odidog yn wir, ond yn cymryd tuag awr i’w phlicio a dw i’n dal i ddrewi o berfeddion y môr. Ond ‘sdim ots gen i.


Gwglimij o Slipper Lobster:

(Iawn, dw i'n fodlon cyfaddef mai 'lobster slippers' nes i roi yn Gwglimij, ond mae'n rhaid i'r Sock Mynci gael ffrind, yn does?)

venerdì, giugno 01, 2007

Memme

Mae Wierdo (sy’n ddynas od, wedi’r cyfan) wedi fy nhagio efo ryw Memme neu rhywbeth, sef bod rhywun yn eich tagio i ddweud wyth peth newydd amdanoch chi eich hun. Nid yn un i wastraffu cyfle o’r math, dyma wyth ffaith amdanaf na wyddoch chi ynghynt, neu anghofioch chi, neu fe fydd yn eich atgoffa o’r hyn sy’n hysbys eisoes i chi. Neu rwbath. Beth bynnag, dyma nhw, a gwir yw pob un:

1. Fy hoff gantor ydi Dafydd Iwan. Mentrwn i ddweud fy mod i’n gwybod y geiriau i o leiaf hanner cant o’i ganeuon (mae o’n gwybod nhw i gyd, dw i’n cymryd). Fy hoff fand, wrth gwrs, yw Celt.

2. Dw i’n haeddu mwy o barch.
3. Yn anad dim, dyheaf fod yn ddewin yn byw mewn tŵr uchel, oeraidd.
4. Gas gen i blant â’r malais uchaf a chwerwaf posibl. Gwarchod yw fy syniad i o uffern.
5. Yn gyffredinol, fy nghas bobl yw genethod ‘girly’ twp sy’n caru pinc, siarad yn fain ac yn arwynebol (yn amlwg bydda i’n casau Big Brother flwyddyn yma). Dydyn nhw ddim hyd yn oed yn ddoniol. Maen nhw’n troi fy stumog.
6. Fy hoff air yw ‘amgyffred’
7. Yn fwy na dim hoffwn i ysgrifennu llyfr; ond dw i’m yn gwybod beth fyddwn i’n ysgrifennu amdano nac yn credu y byddai neb yn ei gyhoeddi (h.y. llyfr crap fyddai)
8. Mae llawer o bobl yn fy ystyried yn goeglyd; ond dw i’n ystyried fy hun yn onest.


Ac mi dagia i PAWB sy’n darllen y blog i wneud hwn. HA! Hawdd.

giovedì, maggio 31, 2007

Hwyliau da

Henffych gyfeillion (a darllenwyr amhenodol)! Dw i mewn hwyl dda heddiw, a minnau wedi ennill 3 botel o win coch diolch i gystadleuaeth darogan canlyniadau’r etholiad Maes E. Mae rhagolygon fy mhenwythnos yn wych felly! Hwyrach yr agoraf i un heno. Unig y byddaf; mae Haydn yn mynd adref ac Ellen tua Chaerfyrddin, a does gwell cysur na gwin ar gyfer achlysuron megis unigedd, digalondid, meddwi’n racs a bwyta caws a grawnwin. Hoffwn i fod yn rhywun sy’n yfed gwydraid o win coch bob diwrnod, gyda chaws. Ond byddaf i methu fforddio hynny, a hyd yn oed petawn i, byddwn i’m yn mynd i Lidl bob nos jyst er mwyn eu prynu.

Mi fydda’ i’n eithaf hoff o sôn amdanaf i fy hun (pam lai?), a phan fyddaf yn bôrd mi fydda i’n lyrcio o amgylch Facebook a Bebo yn chwilio am rhai o’r pethau ‘na i lenwi i mewn; chi’n gwybod, y math o bethau y mae genod bach 14 oed yn licio’u hateb fel have you ever kissed a member of the same sex, have you ever been abroad, have you ever been scared by an inanimate object, have you ever been so drunk you don’t remember anything ac fel rheol mi fyddaf yn ateb ‘Do’ (yn Gymraeg) i bob un, heb na chywilydd nac ots. Ond mae’n iawn, achos does neb byth yn eu darllen nac yn gweld fy enaid ar agor i’r byd a’r Betws-y-Coed.

Bydda i hefyd yn licio lyrcio o’u hamgylch yn edrych ar beth mae pawb yn dweud wrth bawb. Dw i’n meddwl bod pawb sy’n hoff o’r rhyngweithiadau ‘ma yn gwneud hynny, mewn gobaith ofer bod rhywun, yn rhywle, yn siarad amdanynt. Hah! Dim peryg. Un peth sydd gan bobl Facebook a Bebo a phob ryw aelod gwefan felly yn gyffredin yw mai hwythau (h.y. ninnau), yn anad dim, yw pobl leiaf diddorol y byd, ac nid eu (ein) haeddiant mo cael neb yn siarad amdanynt (amdanom).

Ffeithiau diddorol amdanaf:-
Dw i’n gwybod nifer sylweddol o enwau coed yn Gymraeg

Dwi’n meddwl bod peiriannau ffacs bellach yn ddibwynt

martedì, maggio 29, 2007

Pethau y gwelwyd gennyf ar y ffordd i'r gwaith

Dw i’n licio rhestrau, ac mae pobl sydd ddim yn elynion i mi. Dyma restr o bethau y gwelais ar y ffordd i’r gwaith heddiw;

Dynes Somali yn poeri
Dynes wen wedi gwisgo fel dynes Somali
T.H. Parry-Williams
Dyn gyda locsyn am ei ên ond na thrawswch na seidbyrns

Pa un yw’r celwydd? Sws i’r enillydd, mawr ddirmyg i bawb nas atebant.

Mi es i’r Gogledd wedi’r cyfan, fel y gwyddoch, a’r oll a ddaethpwyd yn ôl gyda mi oedd botel o win coch, stamp coch gan Dyfed a ffan, a sylweddolais eiliad yn ôl mai cyfuniad eithaf od ydyw. Beth bynnag, wedi llwyddo gyrru i lawr mewn tair awr a thri chwarter (record newydd i mi, yr heileit oedd rhedeg drosodd cwningen oedd yn gelain eisoes, a chlywed BYMP, jyst er mwyn gwneud yn siŵr) mi ddychwelais i dŷ gwag, unig ac oer. Mi es felly i dŷ’r genod.

Roedd Llinos yn cwyno bod ei thraed yn drewi ac yn rhwbio’i dwylo ar eu hyd cyn rhoi eu dwylo wrth ei thrwyn a chyhoeddi nad oeddent wedi’r cwbl (fe’r oeddent), wrth i Lowri Dwd drafod ei llwyddiant diweddaraf wrth chwalu perthynas. A Lowri Llew yn cyhoeddi “dw i’n darllen dy flog bob dydd ... ond dim ond achos dw i’n bôrd”.


Mae’n siŵr bod chithau hefyd erbyn hyn. Ta ra.

YPDÊT:
Anghofiais ddweud ond mi ges freuddwyd neithiwr fy mod i mewn hofrennydd efo rhywun yn mynd o Ddinas Dinlle i Fanceinion, cyn mynd i’r ystafell newid a mynd i ymladd brwydyr Lord of the Rings-aidd mewn byd digidol. Myfi a redais i’r ochr a myfi oedd y cyntaf i farw (sy’n siomedig, a finnau’n ystyried fy hun yn ymladdwr benigamp, yn erbyn pobl sy’n llai na phum troedfedd a chenhinau pedr, wrth gwrs). Braf oedd ymladd ochr yn ochr â Saruman, fy arwr ffilmyddol a ffrind meddyliol.

Hefyd, a nid celwydd mo hyn, gwelais enfys ddoe uwchben Caerdydd – un pedwar lliw o goch a glas a melyn a gwyrdd. Erbyn i’r daith dod i ben roedd yr enfys wedi ymffurfio'n ddau liw, sef coch a melyn.

Rhagrybudd, bosib?

domenica, maggio 27, 2007

Glaw a gweirydd gwyrddion

Dw i’n ôl yn y Gogledd tan bora ‘fory. Roeddwn i am fynd allan i Fethesda heno ond o ystyried pa mor ffiaidd ydyw’r tywydd dw i’m yn credu y byddaf isio. Felly mi es i weld Nain.

Doedd gan Nain ddim byd o werth i’w ddweud, oni bai am bwyntio allan fod fy ngwallt yn teneuo, cyn mynd o gwmpas fy ffrindiau gan eu sarhau, megis dweud bod Ellen yn ‘hogan hen ffash’ a Haydn ‘ddim mor ddel â’i daid’ a hynny oll cyn adrodd stori am ‘boi yn bron â marw oherwydd gwenwyn yn ei ddant yn mynd i’w galon’.

A chlywed fy nhaid yn dweud “Farmers aren’t tight – they’re like a duck’s arse – watertight”. Sy’n wir ond doeddwn i ddim isio’i chlywed.

Ond dw i’n falch fy mod i wedi dod adref - dw i’n meddwl bod fy mryd i wedi bod ar wneud, felly er y bu imi fynd allan nos Wener (ac edifar rhywfaint - gas gen i stryd Tiger Tiger; hen le ymhongar ydyw, a da i ddim os mae dwy o’r parti yn cael cic owt - un am gysgu a’r llall am chwydu ar draed y bownsar).

Felly dyma fi adref, o flaen y cyfrifiadur gyda phanad a hithau’n bwrw glaw tu allan. Dim pobl Metro. Dim aer trwm, trwchus. Dim ceir cyson. Dim ond glaw a gweirydd gwyrddion.

Oes rhywun eraill wedi sylweddoli mai cynnig Cysill am ‘cyflogai’ yw ‘cachasid’?

venerdì, maggio 25, 2007

Pesda neu Gaerdydd?

Hawdd a gwaeth byddai bywyd heb benderfyniadau. Prin y byddwn ni’n gwneud unrhyw beth. Mae penderfyniad arall eto fyth o’m mlaen unwaith eto drachefn. Wn i ddim os i dreulio fy mhenwythnos ym Methesda neu yng Nghaerdydd.

Chaf i ddim pysgota os af i fyny, a dw isio pysgota, wrth gwrs. Mae Dyfed efo fy ngwialen bysgota a phopeth sy’n mynd efo hi. Fe fydd yn bedair awr dda i fynd fyny, ond mi gaf noson allan ym Methesda ar y nos Sul.

Bydd Caerdydd yn gadael i mi aros a meddwl am dai, a gobeithio cael diawl o sesh, heb orfod symud. Mi ges ambell i fotel neithiwr, a minnau mewn tymer yfed cwrw, ond mae’r amser wedi dyfod imi unwaith eto feddwi a gwneud ffŵl o fy hun o flaen pawb. Duw, fyddai’n ei wneud o hyd; Rhodri Morgan y byd meddw ydwyf, wedi’r cwbl.

Ond efallai na eith neb allan. Fyddwn i’n flin wedyn. Wast o amser go iawn.

Mi dreuliaf weddill y diwrnod yn pendroi am y peth, yn hidio am ddim arall oni bai am beth sydd i ginio a pa le ga’i fyw (ydw, dal i gwyno am hynny, a chwyno y gwnaf. Os dachi’m yn licio clywed hynny, gwnewch rywbeth arall, fel darllen blog Rhys Llwyd).

Mi welish ddyn hyll a’i wallt yn hir a rhywbeth yn ei farf bora ‘ma. Edrychodd fel dynes o’r cefn, a Lowri Dwd o’r blaen.