martedì, marzo 17, 2009

Y Synhwyrau Nid a Gollwn

Petai’r dewis o’ch blaen, pa synnwyr byddech chi’n ei golli? Cofiaf i’r cwestiwn hwnnw gael ei ofyn i mi flynyddoedd nôl yn ‘rysgol fach gan Mr Oliver. Chofia i mo’r wers ei hun, ond yn wahanol i bawb arall fy ateb i oedd fy ngolwg gan fy mod isio ci. Ddaru o byth ddod i’r meddwl nad oes pwynt cael ci fel anifail anwes os dwyt ti methu ei weld. Dwi’n cofio gwers ysgol uwchradd yn Saesneg yn gofyn a oedd pawb yn optimist neu besimist a dim ond y fi a ddywedodd pesimist ond stori arall (yr wyf newydd ei hadrodd yn ei chyfanrwydd) ydi honno.

Erbyn hyn dwi’n ŵr ifanc gwancus hawddgar sy’n gwybod mwy am bethau felly, yn ddoeth fel y mynyddoedd a byrlymus fel y llif, ac nid fy ngolwg a gollwn, er bod manteision amlwg i hynny, fel osgoi pobl Metro a dweud “lle ydwi?” jyst er mwyn mynd ar nerfau pobl.

Fy nghlyw nid a gollwn gan fy mod yn licio Hogia’r Wyddfa. Meind iw fyddwn i’m yn gorfod clywed rap Cymraeg, ond medraf osgoi hwnnw ar hyn o bryd beth bynnag. Dydw i ddim yn clywed yn dda iawn beth bynnag.

Byddai colli teimlad yn ddiddorol, ond byddai’n sbwylio fy moreau.

Blas nid a gollwn ychwaith oherwydd fy mod i’n caru bwyd a sawr gormod.

Dwi’n meddwl mai arogl a gollwn i pe bai’n rhaid colli synnwyr. Ar yr un llaw byddai methu ag arogli bacwn, bara, gwair neu fore clir yn torri fy nghalon, ond mae ‘na ddigon o arogleuon afiach yn y byd hwn y gallwn fyd hebddynt e.e. Haydn.

Gan ddweud hynny y prif gasgliad ydi na hoffwn golli un o’m synhwyrau. ‘Sgen i ddim chweched ac mae unrhyw un sy’n dweud bod ganddo yn siarad bolocs.

lunedì, marzo 16, 2009

Isafswm pris unedau alcohol? Ffyc off!

Nid anodd mo casáu’r llywodraeth. Fel cenedlaetholwr mae’n ddigon hawdd dweud pa lywodraeth bynnag a geir yn San Steffan y byddaf yn ei chasáu, ond mae’r cam arfaethedig nesaf i geisio roi isafswm cost ar unedau o alcohol wirioneddol wedi fy ngwylltio i.

Oni bai eich bod yn llwyr-ymwrthodwr, a phrin ydi’r rheini, byddwch yn mwynhau mynd yn joli, neu gael ambell i gan neu fotel o win gyda’r nos, neu joch o hyn a’r llall, wn i ddim. Yn ôl y cynlluniau bydd potel o win o leiaf yn £4.50, sy’n wirion – ‘does ‘na ddim problem ag alcohol rhad. Mae’r peth yn hurt. Mae ‘na dreth fawr ar alcohol fel ag y mae sy’n codi miliynau ar filiynau i’r llywodraeth.

Dwi ‘di bod i’r ysbyty ‘di cael damwain fach pan yn chwil, ond â phob parch, dwi yn talu fy nhrethi arferol heb sôn am y dreth ar bopeth arall, a chael triniaeth fyddai fy hawl, p’un ag oeddwn wedi bod yn gyfrifol ai peidio.

Byddai peidio â rhoi triniaeth i mi gyffelyb â gwrthod triniaeth i rywun sy’n bwyta gormod o Facdonalds, sef ei hawl ef neu hi. Mae gennym hefyd yr hawl i wneud yr hyn a fynnem â’n cyrff, yn fy marn i, ar yr amod nad ydym yn amharu ar eraill. Dyna pam fy mod yn cefnogi’r gwaharddiad ysmygu, ond eto’n anghytuno efo’r trethi eithriadol sydd ar fygyns.

Ta waeth, os ydym i gredu bod y llywodraeth am i bobl yfed llai, ydyn nhw wir jyst am godi isafswm pris ar alcohol? Mae prisiau alcohol wedi cynyddu a chynyddu ers blynyddoedd maith, ac eto ar yr un pryd mae ymddygiad gwrthgymdeithasol a phobl yn mynd i’r ysbytai wedi cynyddu, nid gostwng. Welwch chi batrwm? Wela i...

Y gwir ydi, mae pobl yn eithaf licio meddwi (a ddim jyst pobl ifanc), ac os mae prisiau alcohol yn mynd i fyny, yn hytrach na chael ambell i beint mae pobl yn mynd yn syth am y fodca, archers, rym ac ati. Dyna sy wedi digwydd bob tro mae prisiau alcohol wedi cynyddu – mae’r peint traddodiadol wedi cilio yn lle’r stwff cryfach, a fydd yn eich meddwi yn gynt ac felly rydych chi’n gwario llai.

Pam nad oes neb wedi ystyried hynny? Mae’n eitha syml; dydi gwleidyddion, nac ychwaith rhai pobl fel yr uwch feddyg a awgrymodd y syniad twp hwn, yn byw yn y byd go iawn; dydyn nhw ddim yn gwybod be mae pobl go iawn yn licio’i wneud na pham ac yn byw mewn byd o edrych lawr ar y gweddill ohonom.

Os am ddatrys y broblem honedig oni fyddai addysg yn ddechrau, yn hytrach na chosbi pawb, o’r yfwyr achlysurol i’r rhai sy’n licio penwythnos meddwol heb amharu ar neb?

Waeth i ni gaeth treth ar anadlu myn uffern i! Pam na wneith y llywodraeth roi llonydd i ni?

domenica, marzo 15, 2009

Cwningod

Mae’n waith gwneud gwaith yn ystod yr wythnos, heb sôn am y penwythnos. Yn ffodus i mi, dwi byth yn gweithio ar benwythnosau. Ymlacio wnes i. Roedd Pesda yn gelain nos Wener – dwi ddim yn cofio’r tro diwethaf i mi fod allan yn stryd a bod bywyd llond y lle. Mae’n drist braidd. Dydi o ddim fel bod gan neb ddim arall i’w wneud.

Un peth nad wyf wedi’i weld yn Rachub dirion deg stalwm ydi cwningod. Yn ystod dyddiau fy ieuenctid, sy’n dal i fodoli mae’n siŵr, arferwn eu gweld yn rhedeg o gwmpas y caeau yn chwareus i gyd, ond nid ers blynyddoedd. Fel dwi’n ysgrifennu’r pwt hwn mae ‘na rai yn y cae y tu allan i’r ffenest, a hefyd rhai yn y caeau tu ôl yn ôl Dad, sy ddim y ffynhonnell fwyaf dibynadwy o wybodaeth o unrhyw fath, ond mae’n gwybod be ‘di cwningan. Fwy na thebyg.

Arferai’r chwaer fod yn berchen ar gwningen o’r enw Floppy, sydd afraid dweud yn enw anffodus ar hogyn pa rywogaeth bynnag ydyw, cyn i hwnnw redeg i ffwrdd i ymuno a’r cwningod gwylltion, ar ôl iddo ffwcio Piper, sef cwningan Rita. Hogyn oedd Piper ‘fyd, ond mi ffwcith gwningan rywbeth yn ddi-ganlyniad. O, i fod yn gwningan!

Gydag ail-ddyfodiaid y cwningod mae’r barcutiaid yn dyfod. Fydda i wrth fy modd efo barcutiaid – yn fwy na dim arall maen nhw’n symbol o adref i mi. Mae’n newid braf o wylanod a llygod mawr Grangetown, a’r gath gotsan ‘na sy’n ista ar silff gegin pan fydda i’n cwcio chicken.

venerdì, marzo 13, 2009

Yr Wylaidd Lemon

Ar ôl penwythnos trwm dydi hi ddim yn anarferol i mi deimlo’n erchyll am ddyddiau wedyn, ac nid oherwydd y pen mawr anochel a ddaw i’m canlyn ddydd Llun (fydda i’n weddol ddydd Sul fel rheol), a’r dŵr poeth sy’n para dyddiau.

Fy ngorn gwddw i sy’n brifo, a ‘sdim ots pa ffisig dwi’n ei gymryd mae gwellhad yn anobeithiol. Mi roddaf gynnig ar bopeth, Strefen (sef strepsils efo ibruprofen – dwi’n siŵr i mi grybwyll o’r blaen pa mor hoff ydw i o flas ibruprofen – tasa ‘na dda da blas ibruprofen mi a’u prynwn), ffisig go iawn, Smoothers, hylifau. Erbyn hyn mae’r gwddw’n brifo ers pedwar diwrnod a dwi’n diolch na fyddaf allan y penwythnos hwn, er y bûm allan neithiwr. Camgymeriad neu be!

Ond mae un arf wedi dod i’m sylw, y lemon. Na, nid bod yn sarhaus oeddwn, ond lemon y ffrwyth ydi’r achubiaeth (gyda llaw cawsom drafodaeth ryw bryd am ba fwyd na hoffech gael eich galw, sef lemon, rwdan a nionyn – mae’n siŵr bod mwy – sa chdi’m yn sarhau rhywun yn Saesneg drwy eu galw’n parsnip nafsat?), gyda dŵr poeth a rhywfaint o siwgr i leddfu ar y chwerwder.

Y peth ydi, mae lemon yn wrth-facteria, ac mae o’n gwneud mwy o les i’r gwddw na’r un ffisig neu dabled dwi wedi’i gymryd yn ddiweddar. Dwi wedi dweud erioed mai pethau naturiol sydd orau. Mae hefyd yn bryfleiddiad, ac wele ffaith ddiddorol, ddibwpas

A halved lemon is used as a finger moistener for those counting large amounts of bills such as tellers and cashiers

Da ‘di gwybodaeth!

giovedì, marzo 12, 2009

Cadwch y Facebook yn bur

Unwaith y bydda i’n dweud NA dwi’n ei olygu. Fydda i’n disgwyl i rywun wrando ar hynny. Wna i ddim swnian ar bobl i wneud pethau fy hun (yn enwedig os nad ydw i isio iddyn nhw wneud rhywbeth) ac yn derbyn yr ateb cyntaf bob tro.

Yn ddiweddar fydda i’n cael negeseuon ar Facebook am bob math o bethau. Negeseuon preifat ydyn nhw, yn gofyn i mi ymuno â grwpiau a mynd i ddigwyddiadau. Dwi wedi cael tair neges o wahoddiad i Celtfest ond dwi’m yn blydi mynd. Dwi’n ychwanegu’r ‘blydi’ yn bennaf oherwydd fy mod yn syrffedu ar gael fy ngofyn yn hytrach na bod y syniad yn wrthun i mi.

Yn ogystal â hynny mae’n gas gen i dîm rygbi Iwerddon a dwi ddim yn rhywun sy’n licio gwylio gêm efo ffans y gwrthwynebwyr, gan nad pwy fônt. Ac mi ddyweda i hyn: ma’r Gwyddelod ‘na’n gallu bod yn griw coci pan ddaw at rygbi, sy’n chwara teg, mae’n siŵr, o ystyried eu bod nhw heb ennill y Chwe Gwlad ers oes y blaidd a’r arth (diolch i flogmenai am y dywediad bach del hwnnw).

Ond bydda i’n cael fy ngwahodd i bethau rhyfedd hefyd. Yn wahanol i rai pobl dwi ddim yn gweld pwynt ymgyrchu dros Facebook ac anfon negeseuon drwyddo. Er enghraifft mae’r grŵp Cymru Yfory yn rhoi llwyth o negeseuon i mi ar Facebook, a’r unig ymateb sy gen i ydi STOPIWCH. Dydi o ddim yn fy ymgysylltu, nac yn ennyn fy niddordeb mwy, achos dydw i ddim yn mynd ar Facebook er mwyn gwleidydda, ymgyrchu neu gael gwybodaeth. Dwi’n mynd yno i fusnesu ar fy ffrindiau a gweld a oes rhywun wedi fy nhagio mewn rhyw fân nos Sadwrn lun.

Bai fi ydi hi am ymuno efo’r grŵp yn lle cynta, mwn, ond mae’n rhaid i rywun ddangos ei ochr weithiau.

Yr unig beth mae’n ei wneud i mi ydi gwneud i mi GOLLI diddordeb, erbyn hyn fe fyddaf yn dileu negeseuon felly heb hyd yn oed eu darllen. Alla i mond ei gymharu â chwain mewn trôns - ma’n ffycin annoying. Dwi ddim yn meddwl bod y bobl sy’n ystyried Facebook fel ‘ffordd dda o gyfathrebu ac ennyn diddordeb’ (nid dyfyniad ydi hwnnw gyda llaw) yn dallt hynny.

Hefyd mae’n gas gennai’r bobl yma sy’n meddwl eu bod nhw’n gwneud rhywbeth da drwy ymuno efo grwpiau fel Support the Monks Protests in Burma, er enghraifft. Fydda i’n licio grwpiau fel I Hate Cats, achos dyna ydi pwynt Facebook am wn i, sef ffordd digon ysgafn o basio’r oriau hirion, a busnesu ar dy fêts. Nid pulpud mohono.

Os ydach chi isio colli cefnogaeth i unrhyw achos, bombardiwch rhywun efo negeseuon preifat ar Facebook. Mae ‘na le ac amser, bobol bach.

mercoledì, marzo 11, 2009

Cloc y corff

Gallwn ymddiheuro am fy niffyg blogio yr wythnos hon hyd yn hyn, ond teimlaf nad wyf cymaint o golled â hynny ac na fyddai’r math o bobl fyddai’n darllen y llithflog hon yn gwerthfawrogi ymddiheuriad p’un bynnag.

Fy mai i ydi’r cyfan. Wnes i ddim cyrraedd adra tan wedi 7 nos Wener, sef wrth gwrs ar ôl saith o’r gloch fore dydd Sadwrn ac nid jyst cyn i Angharad Mair oresgyn y sgrîn am 7yh nos Wener. O ganlyniad i hyn ni chodais tan dri p’nawn Sadwrn. O ganlyniad i hynny roedd yn rhaid dechrau yfed am chwech nos Sadwrn (neu bosib iawn cynt, dywedwn 6) a doeddwn i ddim adra yn Stryd Machen tan bump fore Sul.

Ped ystyriem mai fy mhenwythnos fu ar ôl gorffen gweithio tua 4.30 nos Wener a chyn i mi ddechrau eto 8.30 fore Llun, roeddwn i’n yfed 39% o’r amser, gan lwyddo gysgu tua 22% o’r amser. Mae hynny’n ddifrifol wael, neu’n dda, yn dibynnu sut ydych chi’n ystyried y pethau hyn.

Bellach, fel y gwyddoch, mae’n ddydd Mercher a dwi dal yn dioddef sgîl-effeithiau un o’r penwythnosau trymaf ers i mi ei gofio ers blynyddoedd. Y peth drwg am hyn ydi’r nosweithiau hwyr sy wedi chwarae hafoc gyda chloc fy nghorff. Ar hyn o bryd dwi’n teimlo y dylwn fod naill ai’n cael brecwast neu’n gwylio Eggheads, dwi jyst ddim yn gwybod ddim mwy – a heb sôn am stwffio’n hyn llawn Remegel, Soothers a Strefen drwy’r wythnos, dydw i ddim yn cael hwyl.

Gogledd i mi penwythnos hwn. Caf yno iachad am fy mhechodau dinesig.

venerdì, marzo 06, 2009

Y Ddewi Lwyd

Pan farwaf a nefoedd fydd i mi’n gartref yn ôl pob tebyg soffa fydd, efo potel ddiddiwedd o win coch £3.99 o Lidl a rhifynnau niferus o Bawb a’i Farn ar y teledu. Byddaf, mi fyddaf yn hoff iawn o gyfuno Pawb a’i Farn ag alcohol, a gwrando ar y Ddewi Lwyd yn dweud ‘beth amdani?’ dro ar ôl tro. Tasa fo’n gofyn hynny i mi byddwn yn tagu ar fy nghreision.

Sôn am greision dydw i ddim yn cael eu bwyta oherwydd y Grawys ac wedi rhoi’r gorau iddynt. Mae hyn yn anodd i un mor addfwyn â mi, gan fy mod yn hoff iawn o greision. Y broblem ydi fe’m cyflwynwyd i Greggs go iawn wythnos diwethaf gan Rhys fy ffrind. Mi fydd gan rywun wendid am chicken sleisys, ac maen nhw’n rhatach yn Greggs nac yn unman arall.

Mae ‘na Greggs ymhobman yng Nghaerdydd, fedra i feddwl am bump yn ardal canol y ddinas. Mi fydd yn dweud Y Pobyddion ar eu harwyddion, er i mi gael syndod y tro cyntaf i mi weld y cyfryw arwyddion gan i mi feddwl mai Y Pabyddion roedden nhw’n ei ddweud.

Un peth drwg am Greggs, heblaw am botensial y bwyd i arwain at drawiad ar y galon, ydi’r brechdanau gan fod pob un yn cynnwys y nialwch mayonnaise ‘na. Fel un o’r lleiafrif y mae’n gas ganddo’r stwff fydd hyn yn eithaf problem ymhobman. Bu’n broblem fawr yn Amsterdam achos mae’r Iseldirwyr wrth eu bodd â’r stwff, a ddim yn licio pysgod ryw lawer; i mi mae hynny’n gyfuniad echrydus.

Ta waeth gyfeillion, mwynhewch y penwythnos, ac os daw’r Ddewi Lwyd atoch a gofyn ‘beth amdani?’ – wel, fydda i ddim yno i gynorthwyo.

mercoledì, marzo 04, 2009

Yr Ymbarél Aflwyddiannus

Roedd yn bwrw glaw yng Nghaerdydd ddoe a cherddai dynes folfawr o amgylch gyda chluniau mor fawr nes y peri i mi feddwl y dylai’r Cynulliad wahardd y fath bethau. Nid anodd sylwi bod ei chluniau’n socian oherwydd bod ei hymbarél mor fach fel na chwmpasai ei chluniau. Ystyriais hyn yn aflwyddiant ar ei rhan hi a'i dulliau dethol ymbarél, a cherddais i ffwrdd i chwilio am selotêp du. Ni chanfûm y cyfryw selotêp.