mercoledì, agosto 19, 2009

Onslow

Fel rheol 'does gen i ddim mynadd blogio pan fy mod adra'n Rachub, ond waeth i mi ddweud y cefais freuddwyd ryfedd neithiwr. Ro'n i'n darllen erthygl mewn papur newydd, erthygl hirfaith a dweud y gwir, am Onslow Keeping Up Appeareances a'i fod wedi dod allan yn hoyw.

Glywsoch chi fan'ma gynta.

lunedì, agosto 17, 2009

Dringo'r Wyddfa

Dyna oedd y cynllun, ond mi gerddasom o amgylch Llyn Padarn cyn mynd yn pissed.

martedì, agosto 11, 2009

Bro vs. Cenedl

Mae’r Hen Rech a Blogmenai wrthi’n dadlau am rinweddau a phroblemau brogarwch/plwyfoldeb a’r ffordd y maent yn cyd-fynd â chenedlaetholdeb. Rŵan, tai’m i fentro i mewn i’r ddadl hon yn uniongyrchol, ond fe hoffwn gynnig ambell i sylw, os y caf, Syr.

Mae’n gwbl hysbys i unrhyw sydd wedi darllen pwt gwleidyddol ar y blog hwn nad ydw i’n gefnogol i Lais Gwynedd, ‘does gen i ddim da i ddweud am y blaid honno mae arna’ i ofn, ond mae brogarwch ac i raddau helaeth plwyfoldeb yn rhan annatod o’m cyfansoddiad, fe welir hynny o deitl y blog hwn ei hun. Iawn, dwi’n byw yng Nghaerdydd am y tro, ond yn fy hanfod dwi’n ‘fab y mynydd oddi cartref yn creu cân...’ Un o Ddyffryn Ogwen fydda i, a dwi gymaint o un o Ddyffryn Ogwen ag ydwyf o Gymro.

Yn draddodiadol, mae brogarwch yn rhan annatod o ddaliadau’r cenedlaetholwr Cymreig; D.J. Williams fyddai’r amlycaf o’u plith mae’n siŵr. Mae eich bro, gan amlaf, yn cronni’r hyn rydych yn ei garu am eich gwlad, i mi yr iaith, y dirwedd, y bobl. Pe na charwm Ddyffryn Ogwen ni a charwn Gymru. Mae honno’n ffaith. Mae’r dyhead i weld parhad y pethau hynny sy’n unigryw a chraidd i’m bro yn gwbl ynghlwm wrth y pethau hynny sy’n llywio fy nyheadau ar gyfer cenedl y Cymry.

Efallai nad ydi brogarwch erbyn hyn yn rhan mor hanfodol o genedlaetholdeb Cymreig. Mae hynny’n beth trist. Dydi cenedlaetholdeb lwyr genedlaethol ddim yn rhywbeth dwi’n cytuno ag ef. Peth personol ydi hynny, dwi ddim yn genedlaetholwr sifig eithr cenedlaetholwr diwylliannol i bob pwrpas.

Ond er mwyn i genedlaetholwyr ymafael mewn grym rhaid edrych ar Gymru fel uned, yn gymuned genedlaethol. Yr her ydi gwneud hynny ac ymladd y frwydr genedlaethol, heb adael bwlch o ran brwydrau lleol. Mae’n anodd dadlau, mi gredaf, i Blaid Cymru lwyddo yn hynny o beth ym Meirionnydd, a gwelwyd yn sgîl hynny dyfodiad Llais Gwynedd. Wn i ddim a ydi’r Blaid wedi ail-wreiddio, ond mae’n hanfodol i adennill Gwynedd i’r gorlan werdd.

Mae brogarwch yn bwysig i’r Cymry Cymraeg. Os na all Plaid Cymru gyfleu’r dyheadau hynny, mae ganddi broblem gyda’i chefnogaeth greiddiol. Rhaid iddi beidio â chymryd y gefnogaeth honno yn ganiataol, ac fedra i ddim ond helpu â theimlo bod arweinyddiaeth Plaid Cymru yn gwneud hynny o hyd, hynny yw y dysgwyd gwersi yn lleol (am wn i) ond nad ydi’r gwersi hynny wedi cyrraedd y brig – ond fy argraff i o’r sefyllfa ydi hynny.

Pwynt a wnaeth Blogmenai oedd bod cefnogi’r pleidliau rhanbarthol yn wrth-genedlaetholgar. Rŵan, dwi’n meddwl bod hynny’n sweeping statement i raddau helaeth iawn, ond nid pwynt annheg mohono. Dydi Llais Gwynedd, er enghraifft, ddim am ddod â rhagor o bwerau i’r Cynulliad, ac o ran hynny pwerau dros bethau fel tai ac addysg a all fod yn gwbl angenrheidiol i ddiogelu’r pethau hynny y mae nifer yn Llais Gwynedd yn sefyll drosynt: ysgolion lleol, gwasanaethau lleol, yr iaith Gymraeg (er bod ambell un yn LlG yn malio dim am yr iaith, dwi’n llwyr fodlon dweud).

Drwy ymdynnu o un mudiad cenedlaethol, er gwaethaf ei wendidau (a dwi fy hun wedi cwyno droeon yma am wendidau’r Blaid), gwanychir yr achos cenedlaethol. Os gwanychir hwnnw ‘does dwywaith am un peth, ni chawn y grym ar lefel genedlaethol i fedru ddiogelu yn pethau hynny y mae rhai yn Llais Gwynedd yn ceisio eu harbed; drwy wanhau’r prif fudiad cenedlaethol, fe allai niweidio’r hyn y mae’n brwydro drosto yn y pen draw. Byddai dirywiad cenedlaetholdeb ar y lefel genedlaethol yn cael effaith andwyol iawn ar frogarwch, a hefyd plwyfoldeb yn ei holl ffurfiau. Yng Nghymru, ac yn y Gymru Gymraeg yn benodol, ni ellir arwahanu brogarwch a chenedlaetholdeb, ac mae brogarwch yn naturiol yn arwain at genedlgarwch.

Dwi ddim yn dweud, roedd, ac mae dal i raddau, angen cic yn din ar Blaid Cymru yng Ngwynedd. Mae’r plwyfoldeb a fu’n rhan o ddaliadau y Blaid ar lefel leol o hyd yn berthnasol yn y rhan honno o’r wlad. Ond os ydym yn chwarae brogarwch a chenedlaetholdeb yn erbyn ei gilydd, credwch chi fi, fydd y ddau beth allan o’r gêm yn sydyn reit.

lunedì, agosto 10, 2009

Y Cibab

Dyna oedd un o jôcs poblogaidd f’arddegau – be ti’n galw babi Arab? Cebabi oedd yr ateb oni wyddoch chi hynny eisoes, ac mae’n dal i wneud i mi chwerthin, unigolyn cwbl anwleidyddol gywir ag wyf. Ond mi fydda i’n licio cibab. Mae’n ffaith bur ryfedd na chyffyrddais mewn cibab yn ystod blwyddyn gynta’ nac ail flwyddyn y brifysgol, nac am gyfnod hir wedi ei gadael. Pan fuon ni’n byw yn Russell Street roeddwn i a Kinch yn ffans enfawr o le cibab Troys ar City Road. Nid lle donner cibab oedd hi ond cibabs Twrcaidd go iawn, a oedd yn ein tyb ni yn anfarwol o flasus.

Troys bob tro oedd y gorau gen i, gyda chibabs Caernarfon yn ail agos. Erbyn hyn, er na fydda i’n cael cibab yn aml, mae o’n drît chwil a drygionus ambell waith. Mi fyddaf yn dweud wrth fy hun, ‘cei, mi gei gibab os ti’n mynd adra rŵan yn hytrach nag aros allan’ ac mi fydda i’n cael clamp o beth afiachus gan gerdded ar hyd Heol Penarth yn nwfn y bore bach.

Ro’n i wedi bod yn fflat Kinch am oriau nos Sadwrn, yn gwylio gêm Newcastle ac WBA ac yna cael gêm o poker. Dwi heb wneud ers hir. Ar y cyfan dydw i ddim yn chwaraewr poker drwg, ond mae gen i dueddiad i flyffio yn rhy aml, gamblar bach ag wyf – sy’n iawn pan fo rhywun yn sobor ac mi weithiodd hynny’n dda ar ddechrau’r gêm nos Sadwrn, ond po fwyaf i mi feddwi y mwyaf gwirion yr aeth y blyffio a fi oedd y cyntaf allan yn y pen draw.

Wedi deg can o John Smiths a dau lasiad o win coch mae’n deg dweud fy mod wedi blino, ac y dylwn fynd adra o Dreganna draw nôl i Grangetown, sy ddim yn daith gwbl gysurus wedi hanner nos mewn crys-t a throwsus tri chwarter, ac mi oeddwn wedi cael awch am gibab.

‘Does fawr o le ar agor yn Grangetown yn hwyr i rywun cael eu ffics o chwilfwyd ond mae un lle yng Nglan-yr-afon. Dwi’m yn cofio’r enw, mae wrth ymyl lle y bu’r genod oll yn byw flynyddoedd nôl, a hwythau’n mynd yno’n ddigon aml i gael rhywbeth ar ddiwedd noson, ond doeddwn i byth wedi bod fy hun. ‘Cibab a sglodion!’ meddwn i wrth foi y siop. Mae’n anodd cyfleu pa mor afiach o le ydyw o’r tu allan, ond, er fy racsrwydd, mi drodd rhywbeth fy stumog.

Roedd un gŵr, Somali dwi’n meddwl, yn y siop yn eistedd efo’i fygyr. Mi a’i gododd at ei wefusau, a beth ddaeth allan o’r ochr arall ond rhaeadr o saim yn diferu, a phan dwi’n dweud rhaeadr dwi’n sôn Aber Falls. Syllish i arno, ac mi syllodd yn ôl, ei lygaid yn dywedyd ‘ffac off’. Teimlais yn sâl, a throi’n ôl i arolygu’r cibab a oedd yn dyfod fy ffordd.

Ro’n i’n iawn wrth i mi gael fy seimbeth fy hun, wrth gwrs, a cherddais nôl adra yn llawen, a seimllyd, fy myd.

giovedì, agosto 06, 2009

Dy wialen a'th ffon am cysurant

Fedr pethau ddim mynd yn waeth. Mi glywais neithiwr fod y chwaer acw hefyd yn sâl, ac yn waeth fyth dwi newydd dynnu rhywbeth ar waelod fy nghefn yn gwneud panad ac yn cerdded o amgylch y lle fel bwgain brain efo polio.

Wyddoch chi be ydw i’n ei ddarllen ar y funud? Y Beibl. Nid allan o gymhelliant crefyddol o gwbl a dweud y gwir, ond dwi’n meddwl ei fod o’n un o’r llyfrau hynny y dylid ei ddarllen, os nad am fwy o reswm na mai dyma’r llyfr sydd wedi gwerthu mwy o gopïau na’r un arall yn hanes y byd.

Ni’m synnid o gwbl fy mod i’n dysgu digon, ac yn gwerthfawrogi rhywfaint o’r doethineb a gynigir ganddo – er teg yw dweud mewn llyfr fel y Beibl y byddem oll yn dehongli gwahanol ddarnau yn wahanol pe rhoesem gynnig arno – ond eto dwi’n gwrthod credu y bu Noa yn 600 mlwydd oed yn ystod y Dilyw Mawr. Dydi hyd yn oed Nain Eidalaidd ddim y 600 oed.

Ond mae’n ddiddorol, o leiaf, feddwl am darddiadau straeon fel Noa a Joseff (dwi heb heibio Genesis eto, a dwi’n fodlon dweud bod Genesis o fel asid trip yn fwy na dim arall hyd yn hyn – fydd Duw ddim yn meindio i mi ddweud hynny dwi’n siŵr), achos heblaw am ambell eithafwr does neb heddiw wirioneddol yn credu yn stori Noa, Adda ac Efa a’r gweddill ohono – ond mae’n rhaid bod rhyw fath o wraidd i’r sawl stori. Fyddai o leiaf yn ddiddorol gwybod beth. Efallai bod rhyw hen neges ddoeth ynghlwm wrtho nad ydw i’n ei weld ac mai dyna’r pwynt yn fwy nag adrodd hanes cywir. Fyddai gen i ddiddordeb darllen rhywbeth am ddamcaniaethau esboniadol hefyd. Ond wna i ddim, maesho mynadd g’neud hynny.

Er does â wnelo hunanwelliant ddim â darllen unrhyw lyfr, yn fy marn i, o lyfr crefyddol i’r llyfrau ‘How To Be Really Confident’ ac ati ‘na rydych chi’n eu gweld wedi’u pentyrru yn nhawelaf gorneli’r siopau llyfrau, yn benodol gan fod y bobl sydd angen y llyfrau hynny fwyaf yn rhy swil i’w prynu, mi dybiaf. Ond dwi hefyd yn meddwl bod hunanwelliant yn bwysig ac yn rhan annatod o’r seice/ysbryd dynol.

Ond mae’r fersiwn Cymraeg modern o Salm 23 yn rybish. Pa grefydd neu ddiffyg crefydd bynnag sy’n cymryd eich ffansi, mae

Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed, canys yr wyt ti gyda mi

yn go drawiadol, ac mae ‘na ferw yn y geiriau, yn enwedig o’i gymharu â

Er imi gerdded trwy ddyffryn tywyll du nid ofnaf unrhyw niwed: oherwydd yr wyt ti gyda mi

a geir yn y Beibl Cymraeg Newydd. Dallt be dwi’n feddwl?

mercoledì, agosto 05, 2009

Ffwc o flin

Mae gen i ddiawl o dymheredd.

Mae gen i gur pen afiach.

Ac mi gollish i’n ffôn nos Sadwrn. Prynais un newydd ddydd Sul dal ddim yn hollol sobor a dwi'n ei gasáu â chas perffaith. Costiodd £50.


‘Sdim rhyfedd dwi mewn tymer uffernol.

venerdì, luglio 31, 2009

Am. Wythnos. Ddiflas.

Wyddoch chi, dwi wedi cael wythnos ddiflas. Fy mai i ydi hyn, wrth gwrs, am beidio â gwneud dim byd yn y lle cyntaf, ond dwi ddim am baladurio am y peth achos mae’n gas gen i bobl sy’n ymdrybaeddu mewn hunandosturi. Ond bydd rhywun weithiau yn cael wythnos felly, mae’n rhan annatod o gylch bywyd – dwi wedi bod yn ddifynadd, yn ddi-ysgogiad ac, yn waeth fyth, yn lluddedig.

Ond o leiaf ei fod yn ddydd Gwener. Dwi wedi cyrraedd oes yn fy mywyd y bydda i’n fodlon bod yn ddifynadd ac yn ddi-ysgogiad ac yn lluddedig ar y penwythnos, a’i lenwi chan wneud dim. Mae’r teimlad hwnnw o gael dim gwaith drannoeth yn fy ngwneud i deimlo’n gynnes braf. Y broblem ydi wedi erbyn nos Sul bydd rhywun yn teimlo fel eu bod wedi gwastraffu penwythnos cyfan.

Er, dydw i ddim yn gwybod beth i’w wneud ar benwythnos felly, chwaith; siopa am fwyd da yn y farchnad, cael rhywbeth sbeshial i mi’n hun o dre’, dechrau ar yr ymrwymiad dwi isio’i wneud i Babyddiaeth ar y Sul, mynd i rywle hollol wahanol, actiwli llnau’r tŷ yn iawn o’r top i’r gwaelod – y gwir ydi os nad ydw i’n mynd allan dwi’n gwneud dim, heb sôn am y rhestr uchod. Dydi hynny ddim yn gynhyrchiol – ac fel rheol dydi hynny ddim yn beth da, ond mae o’n wir.

Duwadd, fel dwi’n ei ddweud, mae pawb yn cael wythnos felly o bryd i’w gilydd, ac mi fydd pethau’n ôl i’r arfer erbyn dydd Llun. Mi wneith hi botel o blonc heno, diwrnod diog yfory, a nôl bwyd ar y Sul. Un peth dwi’n caru o ddifrif am fy mywyd i ydi bod wastad haul ar fryn (nid yn llythrennol, yn amlwg). Fel y byddai Nain fwy na thebyg yn ei ddweud, “Cwyd dy galon, y tosspot”.

giovedì, luglio 30, 2009

E-byst

Dwi’n un o’r bobl drist hynny sydd byth, byth bythoedd yn cael e-byst sy’n edrych ar ei Fewnflwch bob hanner awr, rhag ofn. Rhag ofn beth, wn i ddim. Yr unig un sy’n fy e-bostio’n rheolaidd ydi Lowri Dwd, a does gan honno fawr ddim o werth i’w ddweud alla’ i sicrhau i chi. Fydd Mam yn e-bostio’n achlysurol, ond dwi ddim yn gwybod pam, does gan Mam fawr o ddim i’w ddweud chwaith heblaw am adrodd yr hyn mae hi wedi’i ddweud dros y ffôn yn barod.

Na, does neb yn anfon e-bost at yr hogyn truenus hwn. Ambell waith, caf e-bost gan y Cardiff Alumini, a dwi ddim yn dallt o gwbl pam ar wyneb y ddaear y mae’r Brifysgol yn trio cadw mewn cysylltiad efo fi, o ystyried nad oedden nhw’n fy licio i ryw lawer yno. Mae GO Wales yn gofyn i mi ydw i isio job. Dydw i ddim. Mae Darlows hefyd yn gofyn i mi a ydw i isio tŷ. Dydw i ddim.

Newydd weld bod ‘na, er hynny, 666 o negeseuon yn y mewnflwch, sydd ddim yn fy synnu gan fy mod wedi diflasu o ‘nghof yr wythnos hon, ac mae hi’n dywydd apocalyptaidd. Ych, sôn am gywilydd pe cawn yr Apocalyps rŵan. Sôn am siarad mân cachlyd efo Pedr Sant wrth y giatiau euraidd.

“Felly be fuost ti’n ei wneud yn ystod yr Apocalyps?”
“Cyfieithu”
“Fuck me mae hynny’n sad”

Ecseterâ.