venerdì, settembre 17, 2010

Y Pab, Pabyddiaeth a ffydd heddiw

Mae crefydd yn anodd ei drafod yn gall a synhwyrol. Yn y bôn mae rhywun yn credu neu ddim, a dyna ddiwedd arni, mae’n llwyr ymwneud â’ch daliadau personol ar y mater. Dyma pam fy mod prin yn ei drafod yma; mae’n sbardun i drafodaeth sy’n gwneud i’r ochr grefyddol weithiau swnio’n oramddiffynol ac, yn anffodus, dwl, a’r ochr anffyddiog yn wenwynig a chasinebus. Mae rhai o’r trafodaethau mwyaf dig a chwerw dwi wedi eu cael efo hyd yn oed fy ffrindiau yn ymwneud â chrefydd.

Fel y gallwch ddychmygu, mae rhywun fel y fi sy’n teimlo’n agosach at Babyddiaeth nag unrhyw enwad arall yn llawn gefnogi ymweliad y Pab â Phrydain. Mae llawer o feirniadaeth wedi bod o du anffyddwyr, fel y gellid ei ddisgwyl, a chanmoliaeth wedi dod o’r ochr nid yn unig Gristnogol ond crefyddol yn gyffredinol. Dwi’n gefnogol iawn i’r ymweliad.

Rŵan, dydi hynny ddim yn meddwl fy mod i’n meddwl bod y Pab yn berffaith. Mae ganddo gwestiynau eto i’w hateb o ran sgandalau cam-drin plant sy’n frith yn rhengoedd ei Eglwys, a dwi’m yn cytuno ar farn ei Eglwys ar sawl peth ond dof at hynny yn y man. Ond dwi yn credu ei fod yn ddyn diffuant ac o dan ei Babaeth mae’r Eglwys o’r diwedd yn mynd i’r afael â hyn. Roedd cwrdd â rhai o’r dioddefwyr yn gam mawr na fyddai nifer wedi’i wneud - prin y byddai ei ragflaenydd wedi. Ond mae o hyd waith i’w wneud, mae angen i’r Eglwys lwyrlanhau ei hun. Nid amddiffyn yr Eglwys ar y pwynt hwn ydw i ar unrhyw gyfrif, ond dylai pobl nad ydynt yn Gatholigion hefyd o leiaf gydnabod yr ymdeimlad anobeithiol, diymadferth a deimlir gan ddilynwyr y ffydd honno ynghylch y datgeliadau hyn. Mae’n brifo.

Gan ddweud hynny mae llawer mwy yn gyffredin rhwng fy naliadau i a daliadau’r Pab nag sydd o wahaniaethau – ac mae hyn yn wir am lawer iawn o anffyddwyr chwith o’r canol hefyd. Anwybodaeth fyddai dweud fel arall; mae ei farn ar yr amgylchedd, hawliau gweithwyr, cariad a phroblemau cymdeithasol yn debyg iawn i nifer yn y gymdeithas seciwlar honedig-oddefgar sydd ohoni. Y gwir ydi, mae nifer o’r bobl sy’n wrthwynebus i ymweliad y Pab jyst yn wrthwynebus i grefydd ffwl stop: mae Pabyddiaeth yn darged hawdd.

Fel y dywedais, mae Pabyddiaeth yn atyniadol iawn i mi. Y rheswm bod cymaint o Gatholigion yn parhau i ymwneud â’u Heglwys, o’u cymharu â dirywiad enfawr yr Eglwys Anglicanaidd ac yn arbennig y capeli, ac er gwaethaf y sgandalau afiach yn ei chylch, ydi ei bod yn parhau i ddiwallu anghenion ysbrydol ei dilynwyr. Aeth Protestaniaeth ar ôl materion cymdeithasol ac economaidd, ond fe gadwodd Pabyddiaeth yn driw at yr ochr ysbrydol. Onid dyna un o brif ddibenion crefydd?

Serch hynny, nid Pabydd mohonof am dri rheswm yn benodol. Y cyntaf ydi dwi’n anghytuno’n chwyrn â safiad yr Eglwys ar ordeinio merched. Yn ail, dwi’n meddwl bod yr agwedd at wrywgydiaeth yn anghywir. A dwi ddim yn llwyr gytuno â’i safiad ar erthylu. Ar wahân i hynny, ‘does fawr o wahaniaeth rhyngof i â’r Eglwys Babyddol ond gan fod yr uchod yn wahaniaethau digon sylfaenol ac anodd i mi’n bersonol eu hesgeuluso, mae’n anodd i mi wneud y naid.

Ond mae crefydd yn bwysig i gymdeithas. Mae cod moesol clodwiw Cristnogaeth yn sail i hunaniaeth a gwareiddiad y Gorllewin. Ac nid cyd-ddigwyddiad ydyw mai gwledydd mwyaf rhydd a democrataidd y byd yn gyffredinol yw’r rhai sydd â thraddodiad Cristnogol. Nod y gymdeithas seciwlar, ac anffyddiaeth, ydi dymchwel hynny waeth beth fo’r gost. Mi fydd y gost yn fawr, dwi’n amau, ac onid ydym wedi gweld cymdeithas ei hun yn dirywio law yn llaw â dirywiad Cristnogaeth?

Mae Prydain yn gyffredinol ymfalchïo yn ei natur oddefgar. Ond dydi’r goddefgarwch hwnnw ddim bellach yn ymestyn at bobl o ffydd. Mae ar ffydd ei hun fai am hyn, neu bobl sy’n eithafol o leiaf, ond os ydych yn datgan ffydd yn gyhoeddus ym Mhrydain heddiw rydych yn destun bychanu a dychan. All hynny ddim bod yn iawn nac yn deg ar unrhyw gyfrif. A dwi’n gobeithio y bydd ymweliad y Pab yn rhoi hwb i bobl, o ba ffydd bynnag y bônt, i eto deimlo’n ddigon hyderus i fynegi eu ffydd a sefyll drosti yn wyneb anffyddiaeth sy’n benderfynol o’i difa hi a’i gwerthoedd yn llwyr.

mercoledì, settembre 15, 2010

Clywed dim

Yn ein grŵp ni, dwi’n un o’r bobl olaf i glywed pob dim – wyddoch chi, y pethau cyfrinachol, gwleidyddiaeth y criw etc – ac mae hynny gan amlaf oherwydd un prif reswm. Fydd neb yn dweud wrtha i achos bod pawb yn gwybod nad oes gen i fawr o ddiddordeb. Mae hyn yn ymestyn i lawer o bethau, dwi ddim balchach gwybod be mae neb arall yn ei wneud i fod yn hollol onest. Dwi’n cael digon o drafferth gwybod be dwi’n ei wneud hanner yr amser.

Ar ddydd Llun dwi byth yn gwybod be dwi’n ei wneud. Gan amlaf mae’r ôl-hangover ar ei anterth, ond yn ddigon rhyfedd mae dydd Llun yn ddiwrnod cynhyrchiol iawn i mi – yn y gwaith, yn y tŷ. Er enghraifft, ro’n i’n teimlo’n ofnadwy ddydd Llun (er ro’n i’n teimlo’n waeth ddoe ac i fod yn onast efo chi dwi’m yn teimlo’n dda iawn heddiw achos mi gysgish ddeg awr neithiwr sy ddim yn iach i ddyn na duw) ond pan gyrhaeddais adref mi fu i mi lanhau’r tŷ nes ei fod yn sgleining a hefyd gwneud digon o fwyd i bara deuddydd.

Ro’n i’n bod yn gynhyrchiol, yn doeddwn.

A hithau’n ddydd Mercher fodd bynnag mae rhywun yn dechrau cael teimlad o’r hyn y bydd y penwythnos yn ei addo. Mae Rhys yn gadael Caerdydd am Lanelli, sy ‘chydig fel gadael Cate Blanchett am Anti Marian ond wrandawiff hwnnw ddim, ffwrdd â fo, felly mi fydda ni’n cael diwrnod llawn o gamfihafio mewn amryw rannau o’r ddinas. Y llefydd lle cafwyd hwyl ar hyn y blynyddoedd – y Tavistock, y Maci, y Mochyn Du. O na fyddai Shorepebbles, heddwch i’w lwch, yn fyw o hyd.

Taswn i, a minnau yma ers saith mlynedd hudol erbyn hyn (a saith mlynedd nôl do’n i’m disgwyl byw mor hir â hyn heb sôn am fod dal yn byw yng Nghaerdydd), yn gorfod dewis fy hoff le yma y Tavistock fyddai hwnnw o hyd. Daeth yn gyrchfan i Gymry dwyrain y ddinas erbyn diwedd ein blwyddyn ar Russell Street, ond wn i ddim ai dyma’r achos bedair blynedd yn ddiweddarach. Un broblem fawr efo’r Tavistock oedd y pen ar y peintiau, fe allech chi agor ski slope arnyn nhw, wyddoch chi, y math o ben sy’n digon mawr nes peri i chi ei sgubo efo biarmat i’r blwch llwch, ond chewch chi’m blychau llwch mewn tafarndai ddim mwy. Wn i ddim sut y bydd datrys y broblem pan ddaw’r Sadwrn, ond dwi ôl ffôr eu rhoi nhw ar lawr, dim ond jyst er mwyn gweld Rhys yn cachu ei hun.

lunedì, settembre 13, 2010

Y Ci Bab

Tasa gen i amser ac amynedd, fe gaech gofnod llawn o’r penwythnos a fu. Does gen i’r un ac felly chewch chi ddim. Bydd rhai yn ddigon fodlon ar hynny ‘fyd. Roedd y penwythnos a fu ymysg y chwilaf dwi wedi’u cael ers cyn cof.

Ond yr isafbwynt gyrhaeddodd nos Sadwrn. Ro’n i wedi bod allan efo gwaith tan 6 fora Sadwrn ond wedi llwyddo deffro am 12 ddydd Sadwrn ei hun. Erbyn dechrau yfed eto, yng Nghanolfan y Mileniwm fel pobol barchus, doedd ‘na ddim gobaith y gallwn yfed cwrw. Mae canlyniadau’r diffyg gallu i wneud hyn fel rheol yn fy nhroi at y fodcas neu’r jin. A dwi’n licio fodca a jin yn fawr.

Mi fedra i dancio diod fel nas gwelwyd. Caiff pobol syndod ar faint y gall yr Hogyn yfed weithiau. Ond y broblem ydi dydw i ddim yn dal fy niod yn dda iawn. Mae’n fater o megis dechrau nad oes gorffen. Fydd y geg yn mwydro a’r coesau’n gwegian ar fyr o dro wrth i mi barablu o amgylch y ddinas ‘ma ym mherfedd nos fel chwyligwgan chwil.

Ia, nos Sadwrn. Topio fyny o’r noson o’r blaen o’n i, sy wastad yn beth peryg. Ond hynny fu a daeth hi’n ddiwadd nos a chafodd ambell un ohonom dacsi i Grangetown. Ro’n i’n benderfynol o gael cibab a hynny gawsom ni gyd, er nad ydw i’n cofio’n union lle. Ta waeth, y peth nesa i mi ei gofio ydi bod yn y stryd tu allan i’r siop efo fy nghibab yn ista ar lawr, fy nghefn at y wal.

Am ryw reswm, roedd ‘na foi o’r Eglwys Newydd yn Grangetown (ac roedd hyn yn y bore bach go iawn) efo’i gi bach hyll o’r enw Reggie. Fel y byddaf yn ei grybwyll yn ddigon aml, dwi’n caru cŵn. Pug oedd o dwi’n meddwl, ond ro’n i a fo fel ffrindiau gora, yntau’n cael mwythau ond, hefyd, gibab. Rŵan, ro’n i wedi mynnu a swnian ers cryn dipyn fy mod i isho cibab, ond y gwir plaen amdani ydi y ci, nid y fi, gafodd y rhan fwyaf helaeth ohono. Gan gynnwys y salad.

Ar ôl i’r ffatan fynd (a minnau weiddi “Ta ta Reggie!” arno) gofiais i ddim am y peth tan bnawn Sul. Mae’n troi arna i sut. Ro’n i’n meddwl bod fy llaw dde yn drewi ‘chydig. Mi oedd. O gi. O boer ci. Daeth y cyfan nôl. A bu bron i mi chwydu. Ond wnes i ddim, y Sul a aeth yn ei flaen, gan fflashbacs lu o nos Wener a nos Sadwrn yn blethwaith chwareus, direidus. Bydda i’n licio’n fawr mynd allan i chwarae ar y penwsos.

giovedì, settembre 09, 2010

Toshack a Gatland

Wrth i mi sgwennu hwn mae’n bur debyg y bydd John Toshack yn gadael ei swydd fel rheolwr y tîm pêl-droed cenedlaethol. Ffaith ryfedd a ddarllennais yn y Western Mail oedd bod canran y gemau enillodd Toshack fel rheolwr, hyd yn hyn o leiaf, yn weddol uchel, sef 41% - sy’n sylweddol uwch na rheolwyr eraill Cymru dros y blynyddoedd gan gynnwys Mark Hughes a Terry Yorath. Mae’r farn arno yn ddigon cymysg hefyd. Byddai rhai yn dadleu ei fod wedi camu i sgidiau rheolwr hynod boblogaidd gyda thîm yr oedd ei sêr yn heneiddio – ac i fod yn deg dydi bod yn rheolwr ar Gymru ddim yn beth hawdd ar yr adegau hawsaf.

Ond yn y garfan arall ydw i, mae arna’ i ofn. Ac eithrio ambell i ganlyniad derbyniol nodweddwyd ei gyfnod diweddaraf fel rheolwr gan bêl-droed a oedd ymysg y salaf i mi ei weld – roedd y golled 0-2 yn erbyn Y Ffindir yng Nghaerdydd yn sicr yn isafbwynt. Yn wir, dydi hi ddim yn syndod i’r torfeydd arferai heidio i weld Cymru’n chwarae yng nghyfnod Hughes ddirywio’n enbyd. Dadleua rhai fod ‘na rŵan chwaraewyr ifanc addawol yn dod i’r amlwg, ond does â wnelo hynny dim â Toshack mewn difrif. Nhw sydd wedi bod yn ddigon da i ddod drwy’r system, a Flynn sydd wedi’u eu “magu” nhw.

Yn bersonol, dwi’n meddwl bod Toshack wedi mynd â’r tîm cyn belled ag y gall ers blynyddoedd bellach. Gwynt teg ar ei ôl o.

Ar y llaw arall mae’n fwyfwy tebygol y gallai Warren Gatland aros yn ei swydd am bedair blynedd yn ychwanegol, a’i fod o bosibl ar fin arwyddo cytundeb i’r diben hwnnw, flwyddyn cyn i Gwpan y Byd ddechrau. Rŵan, gall neb amau dawn a gallu Gatland fel rheolwr. Mae Cymru yn bethwmbrath o dîm gwell ers iddo gymryd yr awennau, heb sôn am ei gyflawniadau gynt. Ac, ar y cyfan, mae rygbi Cymru mewn lle da.

Ond ai fi ydi’r unig un sy’n anesmwyth gyda chynnig cytundeb iddo flwyddyn cyn Cwpan y Byd? Er gwaetha’r ffaith bod perfformiadau Cymru dros yr ychydig flynyddoedd ers y Gamp Lawn wedi bod yn dderbyniol, mae’r canlyniadau eu hunain wedi dod yn gynyddol dadrithiol. Roedd Chwe Gwlad eleni, a’r gêm ddilynol yn erbyn De Affrica yn sicr, yn siom fawr. Mae Gatland yn iawn i ddweud nad yw Cymru yn rhy bell o fod yn dîm “da iawn” – gall rhywun weld hynny - ond mae o wedi dweud hynny ers cyhyd y mae’r rhywun yn gorfod meddwl pryd y daw’n dîm o’r safon honno, os o gwbl.

Dyma fy mhrif gonsyrn. Petai Cymru’n cael gemau siomedig yn yr hydref, Chwe Gwlad annigonol, a Chwpan y Byd wael – o ran canlyniadau, sef y peth pwysig – fe allai rhywun ddadlau o bosib bod cyfnod Gatland wrth y llyw wedi bod yn anfoddhaol ar y cyfan, er gwaethaf y Gamp Lawn gychwynnol yn 2008. Ond erbyn hynny gallai fod wedi arwyddo cytundeb newydd a gallai Cymru fod yn styc efo rheolwr sydd ddim wedi gwneud y job gystal ac y dylai gyda’r adnoddau sydd ganddo. Byddech chi ddim yn synnu petai URC yn gwneud smonach o bethau ar ôl hynny, ac unwaith eto yr un hen stori fydd hi i rygbi Cymru.

mercoledì, settembre 08, 2010

Caneuon Gyrru Cymraeg

Yn ddiweddar wnes i losgi cryno-ddisg, ‘Canueon Gyrru Cymraeg’ ydi’r sgrifen blêr ar y blaen. Mae’n nhw’n llifo mewn i’w gilydd yn dda ar y cyfan – blaw am rif 8 ydwi’n difaru ei rhoi arno fo rwan – a dwnim os ydi rhif 6 rili yn gân ‘yrru’ chwaith, fe’i llosgwyd yn fyrfyfyr! Dwi’m yn meddwl bod o’n hawdd iawn dod o hyd i ganeuon gyrru da yn Gymraeg, dim fatha Saesneg.

Yn bersonol, ac mae’n siŵr yn ddisgwyliedig, dwi’n meddwl mai Celt ydi’r band Cymraeg gorau i yrru iddo fo. Ond mi geisiais rhoi amrywiaeth ar y cryno-ddisg. Dwnim pam, fel’na ydwi.

Mae pobl yn dueddol o feddwl mai Don’t Stop Me Now gan Queen ydi’r gân yrru orau erioed, yn sicr yn Saesneg – be ydi’r gân yrru orau yn Gymraeg tybed? Mae’n fôt i yn mynd i Lawr y Lôn gan Sobin, ond beth ydach chi’n ei feddwl?

Fy nghryno-ddisg

1. Lawr ym Morocco (Meic Stevens)
2. Tocyn (Brân)
3. Dagrau Caled (Mim Twm Llai)
4. Space Invaders (Bando)
5. Abacus (Bryn Fôn)
6. Lleisiau (Epitaff)
7. Heyla (Frizbee)
8. Goleuadau Llundain (Daniel Lloyd a Mr Pinc)
9. Angen Ffrind (Diffiniad)
10. Ddim ar Gael (Celt)
11. Breuddwyd Roc a Rôl (Edward H)
12. Rhy Hwyr (Huw Chiswell)
13. Gwesty Cymru (Geraint Jarman)
14. Bodlon (Kentucky AFC)
15. Draenog Marw (Crysbas)
16. Dawns y Glaw (Anweledig)
17. Blithdraphlith (Sibrydion)
18. Lawr y Lôn (Sobin a’r Smaeliaid)
19. Cymru, Lloegr a Llanrwst (Y Cyrff)
20. Madrach (Derwyddon)

Be sy’n bygio fi ydi dwi’n gwbod bod ‘na UN, jyst UN, arall ond dwi’m yn ei chofio!

lunedì, settembre 06, 2010

Diléit

Un peth od sydd wedi digwydd yn bennaf ers i mi ddechrau cyfieithu ydi rhywbeth y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei gael y ffordd arall rownd. Yn bur aml fydda i efo gair Cymraeg yn fy mhen, ac nid gair amlwg ond yn aml yn un digon anarferol, a fydda i er fy myw methu cofio’r Saesneg. Y diweddaraf o’u plith oedd y gair ‘dirmygus’. I fod yn onest dwi ‘di methu â chofio be ydio yn Saesneg ers wythnosau ond bob amser wedi anghofio am y peth pan fo’r modd gennyf i ganfod y cyfieithiad.

Wrth gwrs, pan ofynnais i amryw bobl, Nain, Anti Nel, y chwaer, Dad a Mam (wn i ddim pam Mam achos Saesneg ydi Mam, ond mae hi newydd benderfynu dysgu Cymraeg. Mi ordrodd goffi yn gyfan gwbl Gymraeg ryw bryd yn ddiweddar, a oedd yn destun sioc i Dad, a hefyd brynu CD Bryn Fôn. Mae Mam yn licio Bryn Fôn. I like coffio dy wyneb, medd hi) beth ydi ‘dirmygus’ yn Saesneg ond ‘doedd ‘run ohonyn nhw’n gwbod beth oedd o’n Gymraeg beth bynnag.

Scornful neu contemptuous ydi ‘dirmygus’ mi wn erbyn hyn. Ac un arall diweddar oedd ‘esgeulus’. Mi allwn yn hawdd agor Cysgeir rŵan i ffeindio allan. Ond dwi’n dwat a dwi ddim am wneud. Oherwydd, er gwaethaf y teimlad rhwystredig hwnnw o methu â chyfieithu ar y pryd (fedra i ddim cyfieithu ar y pryd beth bynnag cofiwch, nid y math yna o gyfieithydd ydwi), mae ‘na ryw ddiléit dwi’n ei theimlo o wybod gair digon posh yn y Gymraeg a ddim gwbod be dio’n Saesneg, i’r fath raddau nad oes gen i glem.

Ond ew, un peth arall sy’n ddiléit i mi fod adra ydi dwi’n clwad fy hun fy acen ogleddol gomon yn llifo’n ôl. Mai’n braf gallu siarad yn digon bygythiol ac uchal heb i wneud ddweud dy fod yn bod yn ‘ymosodol’. Yn wir, dwi ‘di clywed acen Dyffryn Ogwen yn cael ei disgrifio fel ‘ymosodol’ ambell waith. Ac fel unrhyw un arall werth ei halen o Ddyffryn Ogwen, dwi’n cymryd hynny’n gompliment ar y diawl!

sabato, settembre 04, 2010

Y ddoe na ddaw yn ôl

Felly neithiwr mi gyrhaeddais Rachub fach drachefn. O fod yma ychydig ddyddiau’r flwyddyn mae’r ddelwedd berffaith sydd gennyf yn fy mhen ohoni yn dueddol o gael cnoc go hegar ond fydda i wedi hen anghofio unwaith y byddaf nôl yng Nghaerdydd. Weithiau dwi’n meddwl fy mod yng Nghaerdydd o hyd, am lawer hirach na thybiais, megis estrys â’i phen mewn bell dywod. Haws ydi hi, wedi’r cwbl.

Ond, na, er gwaethaf popeth fy Rachub i ydyw o hyd, ar ei newydd wedd ai peidio, a’m Arfon innau ‘fyd. Canai Nain o hyd

Show me the way to go home
Sir Gaernarfon neu Sir Fôn

A dwi wastad wedi uniaethu gan fod Môn, Mam Cymru (sy llawn blydi weirdos a dyna ddiwadd arni), wedi bod yn rhan lawn cymaint o’m mywyd ag Arfon gadarn. Doedd dim yn well gen i na phan fues yn nhŷ Nain ‘stalwm bob penwythnos yn clwad ei straeon o’i phlentyndod; ei bod hi’n ara’ deg yn gwisgo i’r ysgol, a’i bod yn cael ffrae gan ei thaid am fynd i’r twlc moch efo Anti Nel a neud tân yno i geisio coginio tatws. Ond, yn ddiweddar, a hithau’n heneiddio, mae rhywun yn clywed yn ei llais a rhwng llinellau ei brawddegau fod y byd yn rhy wahanol erbyn heddiw a bod y pethau bychain pwysig iddi’n araf ddadfeilio; fel na phetai cornel fach ym myd mawr heddiw i ffydd na iaith y ffordd o fyw y’i magodd.

Efallai rhyw ddydd fydda i’n cael dweud y fath bethau i bobol, wn i ddim. Dwi’n cofio Rachub fach pan oedd yn Rachub lai, cyn i Fron Bethel gael ei chodi nag ysgol y sgwâr droi’n fflatiau henoed. Dwi’n cofio ‘fyd ‘stalwm nad y ni oedd bia’r caeau sydd i’r de o’r tŷ – yr hen Huw oedd bia nhw. Cadwai ddefaid a dwy fuwch yno. Dim byd mawr, er bod buwch yn beth gweddol fawr, yn enwedig os ydach chi’n fach. A phorai’r ddwy wrth Ysgol Llanllechid weithiau a dyma fi’n dweud wrth fy ffrindiau “dwi’n nabod nhw”. Credai neb mohonof, cofiwch, ‘sneb yn credu dim y dyweda i achos mae pobol yn gallach na hynny.

Erbyn heddiw ni sy’n berchen ar y caeau. Nid oes na dafad na buwch yno mwyach – dwy ferlen wyllt yn unig (Wil a Guto!). Nid oes llif yn y ffrwd fach lle nofiai’r penbyliaid a’r gelenod oherwydd bod y caeau rŵan yn wyllt gan dyfiant. Ond gwell dwy ferlen wyllt a llystyfiant na dwsin o dai i Saeson.

Bydd fy Nain Eidalaidd wastad yn deud Arglwydd, I been in Rachub for 64 years, and I’ve enjoyed my life here.

Dwinnau ‘fyd, ac mae’n braf, doed â ddel, gofio fy mod i wedi. Pan fydd y ddinas wedi darfod â mi, dyma’r unig le yn y byd y gallwn fod. Diolch i Dduw mawr y cymylau mai hogyn o Rachub ydw i.