giovedì, gennaio 26, 2006

Queen

Dw i'n dal at fy addewid o flogio beunyddiol drwy'r wythnos. A dw i dal i gasau'r sock mynci (bastad!!!). Ond dw i'n teimlo'n well heddiw, a dw i wedi bwcio tocyn tren at Ddydd Sul o Gaer i Gaerdydd. Mae 'na stop am awr yn yr Amwythig, sydd probabli y lle gwaethaf yn y byd i stopio am awr dw i'n dyfalu. Y llefydd gwaethaf dw i wedi gorfod stopio am amser sylweddol ydi Crewe a Bryste. Fues i'n Bryste am awr bryd hynny ar fy ffordd o Fangor i Reading. Eshi off yn Birmingham bai mistec de, a fues i hanner ffordd rownd yr ynys cyn cyrraedd y benodedig fan.

Ia, wedi'i fwcio felly. Mae gorsaf drenau Bangor yn lle rhyfedd ac annifyr: mae'n drewi o rech (YDI MAE O) a mae 'na boi sy'n edrych ac yn siarad fel fel Roy Cropper o Coronation Street yn gweithio yno (YDI MAE O). Tybed a oes cysylltiad?

O realiti, ac mae'r cyfnod hwn o freuddwydion gwirion yn dal i fynd yn ei flaen. Geshi freuddwyd fy mod i (ynghyd a Dyfed a Haydn am rhyw reswm) yn rhan o gast Queen: The Musical, a oedd yn cael ei gyfarwyddo gan Simon Cowell (a ddywedodd fy mod i'n ddawnsiwr o fri: dw i yn, yn mynd 'tha DI ar speed yn Clwb nos Sadwrn, weda i 'tho ti!). Dw i'm yn cofio llawer mwy ond fy mod i wedi gwisgo fyny fel boi o Clockwork Orange a'm jaced i'n rhy dynn amdanaf.

Ond fe wyddwn i o le y tardda'r freuddwyd hwn. Oeddwn i'n ty ddoe yn stwnshian ac yn canu i fi'n hun cyn dod ar draws rhaglen Queen: The Musical yn y cyntedd. A mae Haydn wastad yn son am y blwmin peth. A dwisho mynd i'w weld - yr unig sioe gerdd yn hanes y ddynolryw sydd gennai ronyn o chwant eisiau ei gweld. Gas gennai sioeau cerdd: mae'i wreiddiau o'r adeg y bum yn ddisgybl yng Nglanaethwy am flwyddyn. Ond aeth Cefin yn flin gyda fi unwaith a pwdais a cwitio (wel, rhywbeth fel 'na).

Mi awn i rwan a gwastraffu gweddill fy niwrnod yn mynd i rhoi petrol yn car a yfed paneidiau diddiwedd. A smalio mai Freddie Mercury ydwi, a mynd rownd y lle yn canu 'I Want To Break Free' efo un o sgertiau'r chwaer.

Nessun commento: