venerdì, gennaio 06, 2006

Rachub > Caerdydd

Ydw dw i'n f'ôl yn y brifddinas, wedi taith hir o'r gogledd i'r de efo Lowri Dwd (dyna ydi taith hir! - na, chwarae teg cefais cwmni da a byrgyr afiach). Mae'n neis cael y rhyddid i wneud be dw i isho eto - rhegi, yfad fy hun yn bost, gwisgo stockings (cyfuniad hwylus iawn) a.y.y.b. A mynd i Curry Club yn Ernest Willows unwaith yn rhagor am gyri lled-dda.

Helo Mawr i Mam Lowri 'Llygoden' Llewelyn, hefyd, sydd wedi bod yn darllen fy mlogiau hen a newydd dros y Rhagfyr (bywyd yn araf ym Mhontypridd, debyg). Mawr obeithiaf na fyddwch chi'n cael eich styrbio gormod gan y straeon difyr am eich merch fydd yn troi fyny nawr ac yn y man ...


Del, de?

I newyddion eraill, dw i YN ceisio gweithio allan sut mae newid lliwiau a ballu ar y blog. Anodd ydyw i mi. Oooooo mae o MOR neis medru mynd ar-lein heb ddisgwyl hanner awr i fynychu 'Materion Cymru' Maes E, tri-chwarter awr i wneud blog a chael dim fath o lwyddiant o gwbl yn agor e-bostiau (dydw i ddim yn derbyn lot o e-bostiau ond gan iVillage a jobseekers; does gen i ddim syniad beth ydi iVillage a dw i'm yn licio'r sownd o'r un arall).

Jeniwe, mae gennai draethodau ac arholiadau yn cropian fyny, felly disgwyliwch blogiad yn o fuan yn cwyno ac achwyn heb owns o boeni achos dw i wedi cael cynnig amodol o UWIC i wneud hyfforddiant fel athro eniwe so sodia gweddill y flwyddyn! Ha! Dw i am ddifetha'r nesaf genhedlaeth!

(Ffyc dw i 'di llwyddo newid y lliwiau ond mae'r proffeil dal yn Susnaeg. Unrhyw help yn cael ei werthfawrogi i'r uchel nefoedd!)

Nessun commento: