lunedì, gennaio 09, 2006

Traethawd

Nid un i wneud gwaith mohonof os ydi hi'n haws peidio. Ond mae gen i ddawn efo traethodau. Anaml iawn y gwnaf i draethawd mwy na diwrnod cyn iddi fod i gael ei rhoi mewn (dw i newydd cymryd tri go i ddweud y frawddeg yna achos mae'n stafell i mor oer dw i methu pwyso'r allweddau'n hawdd o gwbl!). Mi fydda i'n eistedd lawr a gwneud traethawd 2,000 o eiriau mewn ambell i awr. Dw i wedi bod yn gweithio ar hwn ers un a o fewn llai na thair awr mae 1,500 wedi'i wneud. Malu cachu 'fyd - dw i'm wedi defnyddio unrhyw lyfryddiaeth na dim, yn bennaf oherwydd does gennai'm llyfrau amdano a mae'r llyfrgell yn bell i ffwrdd i'r gogledd (wel, yn Cathays). Felly dw i'n cael saib fechan a botal fach neis o gwrw haeddiannol.

Cwrw. Mmm. Mi brynais i baced o 24 botal o Bud yn ASDA echddoe am denar. Ond mae nhw'n rhai bychain, gwaetha'r modd, sy'n golygu nad oes taw wedi bod ar bawb yn fy herian eu bod nhw'n dechrau gwneud rhai hobbit-sized. Felly mi dw i'n hobbit bach blin iawn ar hyn o bryd.



Jeniwe gwell mi fynd ati rwan i ffeindio 500 gair arall y medrwn i roi yn y traethawd 'ma. Wedyn mi ga'i orffen weddill y cwrw, cysgu a mynd i'r Adran Gymraeg 'fory efo penmaenmawr a'i rhoi'n y blwch traethodau, cyn chwydu ar y ffordd allan. Ieeeeeeei!

1 commento:

Hogyn o Rachub ha detto...

A dw i newydd orffen! :-D!!