domenica, gennaio 15, 2006

SOBRWYDD

Am benwythnos ryfedd. Eshi'm allan nos Sadwrn. Ond mi a ges i ddiwrnod eithaf da ar y cyfan, yn eistedd yn y Tavistock am y rhan helaethaf o'r dydd a bwyta pizza yno. A wedyn gwylio Donnie Darko, sef ffilm hollol sdiwpid nad oeddwn i'n ei ddallt o gwbl (does neb yn ei ddallt). A wedyn gwneud fy nhric arferol o mynd i gwely a methu cysgu am tua tair awr er fy mod wedi blino'n arw.

Aethon ni allan nos Wener de a roedd pawb yn hollol hamyrd. Bai rhyw gwrw dydw i methu'n glir a'i dweud ydi o o Copa - Wofflhoffl dw i'n ei alw. Roedd y boi ochr draw i'r bar yn dallt, fodd bynnag. Mae'n sdwff beryg a achosodd benmaenmawr eithafol bore Sadwrn. Dw i'n teimlo'n sal yn meddwl amdani a dweud y gwir.

Roedd 'na lot o Ffrancwyr o amgylch y lle 'fyd, gyda Perpignan wedi dod i Gaerdydd. Fydda i'n hoffi siarad Ffrangeg pan ydwyf yn feddw: mi astudiais i Ffrangeg yn Lefel A a phrin y cawn i gyfle i'w ynganu bellach, felly mi es o amgylch y lle yn dweud "Je suis desole, mais je ne suis pas fluent en francais" (mae'n ddrwg gennyf ond dw i ddim yn rhugl yn Ffrangeg). A brofodd yn ddatganiad cywir iawn y noson hwnnw gan nad oeddwn i'n gallu gwneud allan beth oedd bron neb yn dweud, a hwythau dim ond yn syllu'n rhyfedd arnaf i pan oeddwn i'n siarad gyda nhw.

A rwan dw i wedi blino. Dylwn i rhoi ychydig o ddwr i'r planhigyn yn f'ystafell achos mae o braidd yn grebachlyd a brown erbyn hyn a dw innau'n teimlo union 'run peth!

Nessun commento: