mercoledì, ottobre 22, 2008

Llwyglyd Fi

Sut ddiawl gall rhai pobl fyw ar sŵp, ni wn. Dwi wedi rhoi pwysau ar yn ddiweddar, yn dewach nag y bûm ers misoedd, o ganlyniad i ailymafael â’r yfed â brwdgarwch. O ganlyniad i hynny, a’r Cywasgiad Credyd, roedd ‘na gryn dipyn o sŵp yng nghypyrddau Machen Street. Dyna oedd i de ddoe. Sŵp cennin a thatws - cachu tenau Baxters, waeth i chi biso a’i yfed ddim. Nid yw’n cyrraedd uchelfannau Big Soup, sy’n sŵp i ddynion yn anad neb.

Yn fanno yr oeddwn. Y Weakest Link ar y teledu, a minnau’n syllu bur drist i mewn i fowlen o ddŵr blas. Gallwch ddychmygu nad hapusaf o fodau’r ddaear yr oeddwn yr eiliad honno. Fe’i bwytawyd a dyna ddiwedd arni.

Am ryw reswm es ati i wylio gêm United yn nhŷ’r genod efo Ceren. Caiff Ceren ei phen-blwydd ar yr 8fed Hydref, ac yn chwilfrydig gwelsom ei bod yn rhannu ei phen-blwydd gyda Matt Damon, Sigourney Weaver a Brenin Zog Albania. Hefyd, dyma ddiwrnod annibynniaeth Croasia.
Ar y llaw arall, mae fy mhen-blwydd i, 19eg Ebrill, hefyd yn ddiwrnod o ddathlu i Maria Sharapova (rydyn ni’n siwtio i’r dim), Rivaldo a’r Brenin Mswati III o Wlad Swazi. Dyma hefyd Ddiwrnod y Beiciau.

Ta waeth, ar ôl hynny ro’n i’n teimlo’n anhygoel o lwglyd. Yn bur sydyn sylwais y byddai’r ymdrech fach, resynus i golli pwysau dros yr wythnos nesaf yn aflwyddiannus. Adref yr es, a bwyta dau Babybell a thri phaced (hehe) o greision halen a finag am hanner awr wedi deg. O leiaf heno mi fyta i fel mochyn gan ddallt yn iawn fod angen bwyd call ar hogyn fel fi. Geith sŵp fynd i ffwcio’i hun.

martedì, ottobre 21, 2008

Unbennaeth Sion Corn

Dros y penwythnos galwais heibio fy hen Arch Gas-gyfaill Dyfed y Blewfran yng Ngwalchmai draw. Gofynnodd imi, yn y modd aneglur, slyriog arferol a fyddai’n well gennyf fyw mewn gwlad ddemocrataidd neu unbennaeth a reolid gan Sion Corn.

Wrth gwrs, Sion Corn dywedais heb amheuaeth, ond wedi meddwl am y peth dwi ddim isio rhoi anrhegion i bobl na bwyta twrci bob diwrnod, byddai gyfystyr â’r Almaen Natsiaidd (ac eithrio’r twrci a’r anrhegion). Yn wir, byddai Sion Corn Arweinydd yn rêl cont.

Ond mae’n bosibl mai efe sydd wrthi’n ein rheoli eisoes. Cyrhaeddodd y Nadolig i mi bythefnos nôl yn siopa yn Boots ar fusnes o ryw fath, a gweled yr anrhegion yn dechrau pentyrru. Dwi heb weld hysbysebion eto. Mi ddônt yn fuan.

65 sydd tan y Nadolig – sy’n 17.8% o’r flwyddyn o Nadolig i bob pwrpas (i’r rhai ohonoch sydd mor hoff â mi o ganrannau 84% o’r amser). Does dianc. Ac unwaith eto mi fydd yn llusgo’r peth ymlaen am un rhan o bump o’r flwyddyn gan dynnu unrhyw werth oddi wrtho drachefn. Bob blydi blwyddyn. Mae hi fel bod unbennaeth arfaethedig Sion Corn yma eisoes.

lunedì, ottobre 20, 2008

Y Ferlen Waedgarol

Mae ‘na ferlod yn cae acw yn Rachub. Merlod gwyllt ydynt, rhai y cânt eu rhyddhau i’r mynyddoedd pan ddaw’r amser, ond eu bod hefyd yn cael eu bridio. Bydda i wrth fy modd ac yn cael fy rhyfeddu gan ferlod a cheffylau gwyllt y Carneddau, ac mae’n rhywbeth bach rhyfedd i ymfalchïo ynddo bod rhai y ffordd hon yn gofalu amdanynt yn ddi-dâl o’u gwirfodd.

Ond hen fasdad ydi Wil y Ferlen. Na, go iawn rŵan, Guto, Wil a Siôn ydi enw tair o’r merlod a Charlie ydi’r llall, hen beth tew sy’n hŷn na’r tair arall. P’un bynnag, mae Mam yn obsesd ac yn ailadrodd hyd syrffed faint y mae’n mwynhau eu cael yn y caeau. Gyda’r wiwer lwyd sy’n dringo to bob hyn a hyn a’r draenog yn y sied mae’n eithaf sŵ ar ymylon Tyddyn Canol ar hyn o bryd.

Mae’r merlod eu hunain yn mwynhau hefyd, mi dybiaf, gan eu bod yn cael digonedd o fara, bananas, afalau, caraintsh a hyd yn oed fajitas, yn bennaf gan Mam ond fel anifail garwr mewn ffordd an-filgydiaeth (nid mor eang fy rhywioldeb â chynnwys creaduriaid Duw mi a’ch sicrhaf) byddaf hefyd yn mynd yno i’w helpu pan fyddaf yn y Gogledd.

Un distaw ydi Wil ar y cyfan. Hen fwli ydi Charlie, bach a gwan ydi Guto a’r un clyfar ydi Sion. Ond yna’r oeddwn â charaintsh yn fy llaw yn bwydo Wil. Ac mi gydiodd ei ddannedd ynof. Wn i ddim p’un a ydych yn gyfarwydd â bwydo merlod ond rhaid dal eich llaw yn gwbl wastad. Ro’n i’n gwneud hyn ond gyda phwl o waedgarwch mi frathodd Wil fy mys. Yn fwy na hynny, mi dynnodd y diawl fi yn ôl bron i’r cae ei hun dwy, dair gwaith, â’m mhen i’n siglo nôl a ‘mlaen fel dol, â’m llaw yng ngheg y bwystfil.

O le’r o’n i’n sefyll roedd yn brofiad iasol. Yr oll a welwn i oedd merlen wyllt o’m mlaen ac yn teimlo dannedd am fy mys, ac ni ymatalaf ddweud, malais lond ei lygaid.

Sgrechiais fel merch drwy’r cyfan. Mi gafodd Wil fraw a gollyngodd, ond drwy ddydd Sul roedd fy mys yn brifo’n ofnadwy. ‘Doedd o ddim yn ddoniol ar y pryd, cofiwch, ond mi fynnodd y Dwd fy ffrind y byddai’n talu £30 i’m gweld yn arswydus ddigon yn cael fy nhraflyncu gan ferlen. Mae ‘ngharwriaeth i o ferlod gwyllt y mynydd, ar y llaw arall, yn sicr wedi dod i ben dros dro.

giovedì, ottobre 16, 2008

Arolwg Barn Beaufort Research

Mae un o’r polau piniwn Cymreig cythryblus 'na wedi cael ei gyhoeddi heddiw. Er y’i hymchwiliwyd cyn yr argyfwng ariannol presennol, ac er ei bod yn hysbys iawn nad ydi polau piniwn yn bethau dibynadwy iawn yng Nghymru (mae’r Hen Rech Flin wedi trafod hyn o’r blaen) mae’n fy synnu bod Adam Price, er y wybodaeth honno, yn ceisio elwa ar yr arolwg barn.

Yn ôl yr arolwg, pe bai etholiad y cynulliad yn cael ei gynnal heddiw byddai Llafur ar 35% (sef 3% yn uwch), y Blaid ar 26% (sef 4% yn uwch), y Ceidwadwyr ar 19% (3% yn is) a’r Dems Rhydd ar 12% (3% yn is). Yn seiliedig ar hynny byddai’r Blaid yn ennill Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro ac yn colli sedd ranbarthol, gyda’r Ceidwadwyr rhywsut yn ennill sedd ranbarthol oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol yn rhanbarth y Gogledd.

Y canlyniad tebygol fyddai Llafur a Phlaid ar yr un faint o seddau, y Ceidwadwyr +1 a’r Dems Rhydd un i lawr. Rŵan, dydi Adam Price ddim yn ddwl, yn wir i’r gwrthwyneb, ond sut y gellir datgan bod cadw’r un nifer o seddau’n llwyddiant, wn i ddim. Yn wir, os mae Plaid Cymru i wireddu ei huchelgais o fod yn brif blaid Cymru, ennill seddau ar draul Llafur sy’n rhaid iddi wneud. Er mwyn gwneud hynny rhaid gweld gogwydd sylweddol o Lafur i’r cenedlaetholwyr. Yn ôl yr arolwg barn hwn, nid dyma’r achos o gwbl.

Fel dywed Denis Balsom o’r Wales Yearbook:


The increase in support shown by Labour and Plaid are within the margin of error, so essentially we are talking about no change since the Assembly election last year

Nid dadlau gyda’r pôl ei hun ydw i, fel mae’n digwydd. Fedra i ddweud yn ddiduedd y disgwyliwn i Blaid Cymru elwa ar drai Llafur yn yr etholiad nesaf, boed hynny’n un cyffredinol, Ewropeaidd neu’n edrych at 2011. Yr hyn sy’n fy synnu ydi clywed un o fawrion y Blaid yn ceisio rhoi’r argraff fod hwn yn bôl da i Blaid Cymru. Sbin yn wir, ond os taw aros yn yr unfan ydi’r uchelgais, ‘does ‘na fawr o obaith, nac oes?

mercoledì, ottobre 15, 2008

Y Dröedigaeth Werdd

Mi ddylem, wrth gwrs, achub y blaned ar gyfer ein plant. Dwi, wrth gwrs, heb blant a ddim yn bwriadu eu cael, felly mi allaf osgoi’r ddadl hon yn bur hawdd os y’i cyflwynir i mi ynghylch yr amgylchedd. Yn wir, pe bai gennyf blant, mi fuasent yn debyg yn tynnu ar fy ôl i, neu fy ngwraig. Pe buasent fel eu tad, mi wn na fyddwn yn eu hoffi. Pe buasent fel eu mam, mae’n bur debyg na fyddwn yn eu hoffi chwaith, canys fy ngwraig y byddai. Felly byddwn i ddim isio achub y blaned ar eu cyfer hwy chwaith.

A tai’m i seiclo i neb, mae’n brifo fy mhen-ôl gormod.

Ond gan ddweud hynny mae chwyldro distaw yn mynd rhagddo ym Machen Street. Mae Cyngor Caerdydd, nad ydw i’n ffan ohono ac ni fyddaf fyth (ffycin Cyngor ydi o wedi’r cwbl), wedi darparu biniau bach od lle y gellir gosod gwastraff bwyd. Wedi fy synnu ac yn chwilfrydig gan y datblygiad fe’u defnyddiaf yn gaeth, ac er lleolir f’un i yn y gegin does ‘na ddim drewdod yn dod ohono.

O ganlyniad i hyn, mae’r bag mawr lle rhoddir y bagiau gwastraff bwyd bach yn y bin ei hun. Felly lle rhown fy ngwastraff? Wel, mi osodais fag ailgylchu wrth ymyl y bin bwyd. Ar ôl llai na phythefnos mae’r peth yn llawn dop. Dwi methu credu’r peth, bron â bod. Yn wir, fedra i ddim dod o hyd i wastraff na ellir ei gompostio na’i ailgylchu (er rhaid i mi gyfaddef wn i ddim lle i roi’r tiwb past dannedd gwag sy yn yr ystafell ymolchi).

Rŵan, dydi hynny ddim yn golygu fy mod i gant y cant fy mod yn ailgylchu popeth y gellir ei ailgylchu – mae’n ddigon posibl fod ‘na bethau yn y bag ailgylchu sy ddim i fod yno. Ond Duw, chwarae teg i mi, fel un sy efo ffwc o ots am ffawd y ddynoliaeth ar ôl iddo drengi ei hun, dw ddim yn gwneud yn rhy ddrwg.

martedì, ottobre 14, 2008

Llafur yn ffarwelio â ...

Os oes Gwobr y Tarpan ymhlith pleidiau gwleidyddol Cymru, y Blaid Lafur sy'n ei hawlio yn ddi-amheuaeth yn ddiweddar! Does neb yn medru atal eu hunain rhag dianc, mae'n debyg!

Yn gyntaf, fe aeth Beti – gan wneud i Guto Bebb deimlo’n saffach am ei ddarpar swydd, mi fentraf ddweud...

Yn ddiweddarach aeth Martin, sy’n newyddion da i Arfon gan na fydd bendant yn ei chynrychioli, ond efallai yn llai o newyddion da i Blaid Cymru yn y wybodaeth y bydd unrhyw ymgeisydd arall yn gryfach...

Ond ai fi ydi’r unig un sy’n amau, jyst mymryn, y byddai’n well gan Beti ymladd sedd Arfon nag Aberconwy – wedi’r cyfan, dyma’i thiriogaeth naturiol hi i bob pwrpas.

Wedi’r cyfan, pwy fyddai’n well i ‘gadw’ Arfon i’r Blaid Lafur – yn sicr mewn etholiad y mae’n debyg y bydd angen pob sedd posibl arni?

Wrth gwrs, mae hyd yn oed Jane Davidson wedi penderfynu rhoi’r ffidil yn y to, er rhaid i mi ddweud yn bersonol fedra i ddim meddwl am unrhyw reswm pam y byddai rhywun fel Jane Davidson eisiau gwneud hynny; mae ei sedd yn ddigon ddiogel, a hithau’n weddol uchel ei pharch ymlith gweinidogion y Llywodraeth. Efallai mai wedi cael llond bol y mae hi, wn i ddim.

Ac rŵan sbïwch pwy sy wedi mynd, Eluned Morgan! Mae Vaughan Roderick (a Betsan Powys) wedi dweud ei fod yn ymwneud â rhesymau teuluol ond eto’n awgrymu, yn ddigon cywir a chyfrwys y bydd Pontypridd a Gorllewin Caerdydd yn chwilio am ymgeiswyr mewn tair blynedd.

Neu, efallai bod y pedwar wedi sylwi bod yr hen long Lafur yn prysur suddo? Prin y byddai Betty yn ennill Aberconwy, does gan Martin ddim cyfle yn Arfon. Dwi ddim yn rhagweld y byddai Jane Davidson yn disgwyl colli ym Mhontypridd yn 2011 (ac os byddai o leiaf byddai’n cyhoeddi ei bod yn sefyll lawr yn agosach at yr amser), ond mentrwn ddweud bod rhesymau gwleidyddol, o ryw natur, tu ôl i benderfyniad y ddynes benderfynol hon.

O ran Eluned Morgan, prin y byddai hi’n colli ei sedd fel dewis cyntaf Llafur yn etholiad Ewrop – mi fetia’ i unrhyw beth bod ganddi lygad ar 2011, a rhaid dweud pam lai – ond, tybed, ydi hi’n meddwl bod hynny yn well na fod yr unig ASE Llafur o Gymru yn Ewrop ar ôl flwyddyn nesa’? Ydi hi’n gwbl anghredadwy y gallai Plaid, y Torïaid, neu hyd yn oed y Dems Rhydd ennill sedd oddi ar Lafur?

Ta waeth, mae’n ymddangos bod Llafur Cymru ar ei lawr, a bod rhai aelodau yn sicr yn sylwi hyn. Gan ddweud hynny dio’m yn brain science, nadi?

Y Dagedwriaeth Fawr - Rhan II

Dwi ddim wedi cysgu neithiwr. Na’r noson gynt. Yr un oedd yr hanes; tagu a throi’n gythryblus o boeth hyd orfod agor y ffenestr. Dal i dagu am rywfaint a bod yn iawn. Deffro dwyawr wedyn yn tagu. Nôl i’r gwely, ac ymlaen y mae’r stori’n myned. Sydd o leiaf yn golygu fy mod yn gallu defnyddio fy hoff ddywediad, “Dwi’n teimlo fatha brechdan”, yn bur aml.

Synfyfyrio ddaeth i’m rhan yn y nos paham y mae’r tagu’n manteisio arnaf. Mae’n teimlo yr un fath â phan, tua deufis nôl os cofiwch, y tagais flewyn i fyny ar ôl tair noson o beswch diddiwedd. Mi fyddwn, fel y gellir dallt, yn poenydio’n arw pe byddid hynny’r achos, gan nad ydw i’n bwyta gwallt, llyfu cŵn na gwledda ar gathod.

Ond daeth damcaniaeth arall ataf ym min yr hwyr, a dw i ddim yn golygu hynny mewn ffordd ffyni. Na, wedi eildro o ddeffro neithiwr, a oedd yn dri o’r gloch y bore (do’n i methu cysgu dim) cofiais y ffaith ddifyr honno ein bod yn bwyta ar gyfartaledd wyth pry cop bob blwyddyn. Medrwch ddychmygu y parodd hyn gryn anesmwythder i mi yn fy stâd hanner-freuddwydiol, yn sicr yn y wybodaeth bryd hynny bod un wedi mynd i mewn i’m corn gwddw a chreu gwe yno, felly roedd yn rhaid i mi yfed dŵr.

Y drydedd waith i mi ddeffro, wel, tua chwarter wedi chwech, ro’n i’n eithaf sicr bod un arall wedi dilyn ogof fy ngheg at y llall. Am faint y gallent fod yno? Wrth gwrs, dydi’r ddamcaniaeth hon heb bara, yn hytrach dwi wedi setlo ar y ffaith bod gennyf annwyd neu haint erchyll, neu’n gobeithio, fel y tro diwethaf, heno’r drydedd noson y daw blewyn i’r amlwg ac y caf gysgu unwaith drachefn.

venerdì, ottobre 10, 2008

Tîm GB

Gwych ydi gweld ar fyrddau'r BBC yr ymateb sy gan y mwyafrif helaeth i Dîm Pêl-droed Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd.

Da iawn i'r Gymdeithas Bêl-droed am ddal ati i wrthwynebu; mae'n bur amlwg i unrhyw un fod y rhan fwyaf helaeth o'r Cymry yn gwbl wrthwynebus i'r ffasiwn beth a bod yr unig bwysau o'i blaid yn dod o dros y ffin.