mercoledì, dicembre 16, 2009

Anniddorol flwyddyn

Ro’n i dweud wrth Rhys neithiwr fy mod am ddoe ysgrifennu blogiad i ddadansoddi’r flwyddyn a fu. Wedi’r cyfan, mae’n rhywbeth dwi’n ei wneud ers blynyddoedd, ac yn fwy o ffordd i mi’n bersonol dod â therfyn ar bethau’r deuddeg mis diwethaf a dechrau o’r newydd.

Ond wrth i mi ddechrau ysgrifennu fe wagiodd fy mhen. Buan imi ddallt, er cryn siom i mi, nad ydw wedi gwneud unrhyw beth o werth yn ystod y flwyddyn. Yn wir, ar wahân i fynd i Farselona, ‘does dim. ‘Runig beth dwi wedi’i wneud yn gweithio, bwyta, yfed a chysgu. Am flwyddyn anniddorol.

Dydi hi heb â bod yn flwyddyn annifyr, cofiwch, eithr ddi-ddigwyddiad. Gallwn sôn am siom y Chwe Gwlad, Man Utd yn ennill y gynghrair eto – sonia’ i ddim am gynghrair y pencampwyr – etholiadau Ewrop (siom arall oedd hwnnw) ond, i beth? Wnes i ddim cyfrannu at yr un. Yn sicr, dwi’n gobeithio na wnes gyfrannu at aflwyddiant y Blaid yn yr etholiadau, ac yn anffodus nid fi gurodd yr Uwchgynghrair.

Ond dwi heb â gwneud dim. Fedra’ i ddim hyd yn oed cofio a ydw i wedi mwynhau’n arw neu os ydi hi wedi bod yn flwyddyn ddiflas, megis Sais mewn brechdan heb fenyn. Felly fedra’ i mo’i dadansoddi, sy’n drist iawn a minnau mor hoff o ddadansoddi.

Ar yr ochr gadarnhaol, dwi’n fyw (efallai y bydda i’n edifar erbyn blwyddyn nesa’, cawn weld), os nad yn iach yn y lleia’, ac mae gen i o hyd dŷ. Mae’r teulu ‘di goroesi blwyddyn arall, ac mae o hyd bobl i mi eu dirmygu (‘ffrindiau’ dwi’n credu ydi’r term).

O wel. At flwyddyn nesa’. O leiaf efallai y bydd rhywbeth yn digwydd yn 2010.

lunedì, dicembre 14, 2009

Pen-y-bont

Dwi am roi’r proffwydoliaeth olaf cyn y Nadolig heddiw, a byddwn ni chwarter ffordd drwy seddau Cymru. Gydag etholiad yn bosibl ym mis Mawrth, mae’n ddigon posibl na fydda’ i’n agos at ddadansoddi pob sedd – sy’n biti achos mae digon ohonynt yr hoffwn eu dadansoddi!

Ddywedish i ddigon yn ôl y byddai Llafur yn gwneud yn well na disgwyl, ac mae’r blaid i’w gweld yn gwneud hynny eisoes. Pam? Un rheswm syml y galla’ i ei gynnig. Wrth ateb polau piniwn a chwestiynau gwleidyddol amrywiol, nid yn unig y mae pobl wedi cymryd arnynt fod y Ceidwadwyr am ennill yr etholiad nesaf, ond yn gwybod hynny cyhyd fel y maen nhw’n ateb y cwestiynau hynny fel petaent eisoes mewn grym. Hynny ydi, i bob bwrpas, ymddengys i raddau fod pobl yn trosglwyddo eu pleidlais debycaf o’r etholiad wedyn i’r etholiad hwn.

Fy namcaniaeth bersonol ydi honno, wrth gwrs, ‘does tystiolaeth i’w phrofi. Ond fel y dywedais eisoes hefyd, fe welwn mi dybiaf shy Tory syndrome, ond er budd Llafur, flwyddyn nesa’. Yn fy marn i, ar hyn o bryd, mae’r senedd grog yn debygol cymaint ag ydi o’n bosibl.

Yn ogystal â hynny, dydi’r Torïaid ddim mwyach yn cael getawê ag esgeuluso polisïau – mae’n rhaid iddyn nhw bellach ddweud beth ydi’r rheini, ond rhywsut dydyn nhw ddim yn llwyddo i’w cyfleu yn dda iawn. Mae’r gêm amyneddgar y mae Llafur wedi ei chwarae, o bosibl, am dalu. Cawn weld i ba raddau. Yn wir, gall goblygiadau hynny hefyd fod o fudd i Blaid Cymru a’r Rhyddfrydwyr mewn seddau fel Aberconwy a Brycheiniog a Maesyfed.

Ond beth am oblygiadau hynny yn sedd Prif Weinidog newydd Cymru, Pen-y-bont? Er ei bod yn sedd ‘cymoedd’, dydi hi ddim fel gweddill y cymoedd. Mae’n ardal glan-y-môr sydd ddim yn rhannu’r etifeddiaeth lofaol i’r un graddau. Mae llai o salwch yma, a mwy o gyfoeth. Ac mae’r Ceidwadwyr yn gryfach o lawer yma.

Sonia’ i’n gyflym am Blaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yma.

Dydi Plaid Cymru byth, hyd yn oed ym 1999, wedi bygwth yma. Cafodd bron bum mil o bleidleisiau y flwyddyn honno ac ers hynny, dim. A ‘does fawr fwy y gallwn ddweud am y blaid yn y sedd hon.

Ond beth am y Democratiaid Rhyddfrydol? Dyblodd pleidlais y blaid o 10% i 21% rhwng 1992 a 2005, er eu bod yn wannach yn y Cynulliad. Mae ganddynt hefyd chwe chynghorydd yn y sir (Pen-y-bont ar Ogwr), sef yr un nifer â’r Ceidwadwyr. Pe bai Llafurwyr yn troi atynt yn y sedd hon, mae’n ddigon posibl y gallant esgyn i’r ail safle, ond mae’n annhebygol. Ers ’05, mae hi wedi bod yn segur iawn ar y Rhyddfrydwyr yn gyffredinol yng Nghymru, ac mewn etholiad mor bwysig ar y gorwel, hawdd dychmygu mewn sedd fel hon, a allai fynd yn Geidwadol mewn blwyddyn dda iddynt, y bydd y Rhyddfrydwyr yn teimlo gwasgfa rhwng y coch a’r glas.

Ond mae’n ddigon hawdd dychmygu y gallai Llafurwyr dadrithiedig droi atynt i raddau. Dwi ddim yn meddwl y bydd hynny’n digwydd y tro hwn, ond dydi hi ddim yn amhosibl yn y tymor canolig.

Y Ceidwadwyr, wrth gwrs, ydi’r prif her i Lafur yma. Tua 38% y cawsant yma yn ystod llwyddiant ’83 a hefyd etholiad ’88, gan sicrhau 16,000 o bleidleisiau y tro cyntaf, a chynyddu hynny i 17,500 bum mlynedd yn ddiweddarach. Yn syml, yn etholaethau Cymru, mae hynny’n lot o bleidleisiau.

Ond dirywio y mae’r blaid wedi ers hynny. Ni chafodd dros y 10,000 o gwbl ar ôl 1992 – hyd yn oed yn 2005 roedd ei phleidlais fymryn uwch y chwarter. Ac eto, llwyddasant ennill yma eleni yn etholiadau Ewrop o ychydig gannoedd. Darlun cymysg; weithiau mae etholiadau Ewropeaidd yn trymhau’r niwl yn hytrach na’i godi.

Ni ddylwn ddiystyrru’r canlyniad hwnnw, ond roedd un broblem bosibl gyda’r fuddugoliaeth – pleidlais gref UKIP. Annhebyg y bydd UKIP yn sefyll yma flwyddyn nesa’, ond yn amlwg mae pleidleisiau yma iddynt, a gall eu hymgeisyddiaeth yma dynnu digon o bleidleisiau wrth y Ceidwadwyr i roi’r sedd i Lafur. Yn ffodus i’r Ceidwadwyr, dydi hi ddim yn debyg y bydd UKIP yn ceisio yma.

Ond mae’n mynd heb ddweud bod y bleidlais Lafur yma’n uchel hefyd. Unwaith yn unig y mae hi wedi cael llai na 16,000 o bleidleisiau ac roedd hynny pan gollodd y sedd. Ers hynny mae wedi amrywio rhwng fymryn uwch hynny a thros 24,000 – mae hynny’n sylweddol uwch na’r uchafswm Torïaidd.

Ystyriwn ddau arolwg barn wrth feddwl am sut y gallai ei phleidlais newid. Un o ddydd Sul yn gyntaf, i YouGov a’r Sunday Times. Roedd y Ceidwadwyr ar 40% a Llafur ar 31%. Beth fyddai goblygiadau hynny i’r Ceidwadwyr?

O drosi’n uniongyrchol, byddai’r Ceidwadwyr yn ennill tua 35% o’r bleidlais, sy’n agosáu at lefelau’r wythdegau. Ond byddai Llafur ar 39%. Mae hynny’n bur agos ond eto: mantais i Lafur, felly. Gan ystyried hefyd bod Llafur yn gwneud yn well yng Nghymru nag yn y DU yn gyffredinol, a’r Ceidwadwyr yn waeth, mi ellir dadlau bod y 4% hwnnw’n fwyafrif twyllodrus o isel.

Beth am ddefnyddio’r arolwg barn Cymreig a gynhaliwyd eleni? Mae hynny’n hŷn erbyn hyn ond awgrymodd ogwydd o tua 10% yng Nghymru o Lafur i’r Ceidwadwyr. Y canrannau wedyn fyddai Ceidwadwyr 36%; Llafur 33%.

Felly, eto, mae’r darlun yma’n niwlog. Serch hynny, fe fyddwn yn dueddol o awgrymu, o’u cyfuno, mai mantais fechan i Lafur a awgrymir.

Er gwybodaeth, yn y Cynulliad, roedd y ddwy blaid yn gryfach yma yn 2007 nag ym 1999, fwy na thebyg oherwydd dirywiad Plaid Cymru. Ond y patrwm cyffredinol sydd i’w weld yn datblygu ydi bod y Ceidwadwyr yn gwthio ond nad oes ganddynt yr ‘wmff’ ychwanegol i allu ennill – hynny ydi, mae angen trydedd plaid gref yma i sicrhau buddugoliaeth Geidwadol.

Dyna hanes ’83 – y Democratiaid Cymdeithasol oedd wrthi eto, yn hawlio bron i chwarter y bleidlais. Mi all y ffurf gyfredol ar y blaid honno wneud hynny – o gynyddu ei phleidlais fymryn, gallai’r Rhyddfrydwyr roi’r sedd hon yn nwylo’r Ceidwadwyr. Yn reddfol, byddwn i’n dweud mewn sedd fel hon y byddai Rhyddfrydwyr yn fwy tueddol o fenthyg pleidlais i Lafur – a dyn ag ŵyr, gall ambell Bleidiwr hefyd – na gweld y Ceidwadwyr yn ennill yma, ond dydi hynny ddim yn sicr.

Efallai bod y bleidlais wrth-Dorïaidd yng Nghymru yn un gref – ond erbyn hyn mae’r bleidlais wrth-Lafur hefyd yn ffactor.

O ystyried hynny oll, a lluchio y nifer a fydd yn pleidleisio i’r fargen, gadewch i mi felly gynnig dyfaliad ynghylch isafswm ac uchafswm pleidleisiau’r Ceidwadwyr a Llafur. Ddywedwn i y bydd Llafur yn cael rhwng 13,500 a 15,500, ac y caiff y Ceidwadwyr unrhyw beth rhwng 11,000 a 15,000 – gobeithio bod hynny’n swnio’n deg i chi. Awgryma hynny yr un peth a wyddom eisoes – mi all y Ceidwadwyr ennill yma, ond efallai y bydd yn rhaid iddyn nhw wneud yn well nag y maen nhw ar hyn o bryd i sicrhau’r fuddugoliaeth honno, a gobeithio yn gyntaf y bydd y Llafurwyr yn aros adref, ac y bydd effaith pleidlais wrth-Dorïaidd yn fach.

Efallai, y tro hwn, mae hynny fymryn yn rhy obeithiol.

Proffwydoliaeth: Mwyafrif o tua 1,500 – 2,000 i Lafur.

venerdì, dicembre 11, 2009

Cyri Eidalaidd Nain

Bydd Nain yn dweud rhyw stori weithiau, hanner call fel ag y mae hi. Pan fydda’ i’n hen, dwi ddim isho bod fel Nain. A dweud y gwir, dwi ddim isho bod dim byd tebyg i un o’r ddwy Nain, y taid a’r taid arall heddwch i’w lwch. Pan dwi’n hen dwisho byw mewn hen dŷ budur a threulio fy holl amser yn y dafarn leol efo fy nghi o’r enw, dwnim, Cerys, dd’wedwn ni.

Bu bwyd byth yn gryfder gan Nain. Daw hyn i’r amlwg dros y ffôn pan fyddwn yn siarad. Bydda i’n siarad â Nain unwaith yr wythnos fel rheol, gan fod gen i alwadau am ddim ar ôl 6 rŵan, ac am o leiaf ddeg munud fel rheol, sy’n bethwmbrath o lot mwy nag y bydda i’n siarad â’r rhieni. Wrth gwrs, fel pawb, dwi’n caru fy rhieni, ond dydw i ddim yn dda iawn yn siarad â nhw dros y ffôn, y broblem fawr ydi bod eu bywydau hwy yr un mor ddigyffro â’m un i (ar y wyneb, tai’m i adrodd hanner y stwff dwi’n ei wneud nôl iddyn nhw!)

A minnau angen siarad â Mam, ond hithau’n y bath yn ôl Dad, ffonio Nain a wnes yn gyflym i ddweud helo. Fy nhaid, Grandad, canys Sais yw, atebodd. Bydda’ i’n gwneud ymdrech i siarad ond mi fydd hwnnw’n dweud yn syth bin ‘Your Nain’s here...’ cyn trosglwyddo’r ffôn ati.

Sôn am beth y cafodd i de y byddwn bron yn ddi-ffael. Fydda’ i’n licio siarad am fwyd gyda Nain – dwi’n meddwl bod pawb yn – achos mae’n mynd â chi’n nôl i ryw oes aur na fuoch chi’n rhan ohono. Wyddoch y math o beth; “ew, mae lobsgows yn cadw’n dda”, “mi eith tatws efo rhywbeth” ac ati. Ddim y tro hwn.

“Gafon ni Italian Cyri diwrnod o’r blaen,” dywedodd hi.

“Ti’n siŵr? Dwi’m yn meddwl bod ffasiwn beth,” meddwn i yn f’ôl, yn llawn gwybod fy mod yn gywir – mae o fel cymysgu Sais â charisma. Gwnewch y hynny beth a fynnwch.

Italian Cyri oedd hi ‘fyd, medd hi, un ‘medium’, ac egluro’r dull o’i goginio, sef gosod pasta (heb ei goginio) mewn dysgl a gosod y ‘cyri’ drosto a’i bobi am ugain munud.

Afraid dweud, bob tro y byddaf yn cael bwyd efo Nain, y bydda i’n awgrymu ffish a chips o siop.

giovedì, dicembre 10, 2009

Uchelgais

Mae’n dweud lot am fy mywyd i mai un o’m huchelgeisiau parhaus yw gweld y gig Meic Stevens nesa’, pan fydd yn perfformio yng Nghaerdydd, cyn iddo ef ei hun fynd i wlad y dall a’r byddar (sydd, yn ôl y sôn, rhywle i’r de o’r A55 ger Conwy). Hoffwn i hefyd flasu foie gras eto. Unwaith dwi wedi’i flasu, ac fe’m hargyhoeddwyd ar fy union mai cam-drin chwïaid ydi’r ffordd i fynd. Fel dywed y Catholigion (nad ydwyf o hyd – fawr o syndod o ystyried y pydew pechadurus sydd imi’n fywyd) rhaid i chi fod yn fodlon dioddef. Yn fy stâd lled-Gatholigaidd rhydd i mi felly newid y mantra i mae’n rhaid i chwïaid fod yn fodlon dioddef.

Lle o’n i? O ia, uchelgais. Dydi pobl uchelgeisiol ddim yn impressio fi, dydi o ddim yn rhywbeth dwi’n ei barchu. Dydi bod yn uchelgeisiol chwaith ddim yn rhywbeth dwi’n ei amharchu – pawb at y peth y bo – ond ‘does gen i fawr o fynadd efo’r holl beth. A dweud y gwir, mae gen i tua’r un faint o uchelgais ag sydd gen i o fynadd.

Dwi methu cweit dallt beth sy’n ddeniadol am uchelgais. Isio mwy o bres, isio’r tŷ mawr yn y wlad, isio sgrîn plasma a char fflash. Dwi o’r feddylfryd, ‘i be?'

Hyd yn oed ymhlith criw o ffrindiau mae ‘na clash digon amlwg rhwng y rhai sydd efo uchelgais, a’r rhai sydd heb, ac mae’n gallu cythryddu’r ddwy ochr, gydag un llwyth yn gweiddi “Dachi’n ddiog!” a’r llall “Dachi’n faterol!”

Dwi’n meddwl o blith rhai pobl dwi’n eu hadnabod, mae smygrwydd mawr o du ambell un di-uchelgais gan nad ydi’r rhai mwy uchelgeisiol wedi cyflawni fawr ddim er gwaethaf eu huchelgais. Tai’m i sôn am hynny neu mi ga’ i ffrae gan rywun. Mae’n llawer well gen i roi ffrae na chael un.

Y clash mawr ydi, wrth gwrs, eiddo a gweithgareddau. Dydi “dwi newydd brynu Ferrari” neu “dwi’n treulio ‘Dolig yn Affrica” (pwy ddiawl fydda isio gwneud hynny wn i ddim myn uffern) ddim am wneud argraff ar rywun fel y fi. Os dywedwch chi hynny, fe ddywedir nôl wrthych eich bod chi’n boring. Dwi byth wedi dallt beth sydd o’i le efo’r agwedd honno ar fod yn boring.

Wyddoch chi hyn yn barod os ydych chi’n darllen yn rheolaidd: car sy’n gyrru, tŷ sy’n ddigon glyd, swydd a chi - daflwn ni dêc-awê a gwin da i’r fargen hefyd – sy’n iawn i greadur fel fi. Y peth olaf y byddwn i isio o fywyd ydi bob amser chwilio am yr her neu’r dasg nesa’ – fyddwn i’n ffendio hynny’n uffernol o ddiflas. Yn wir, fydda i’n ddigon hapus mynd i weld y Creawdwr Mawr ar ddiwedd f’oes yn gwybod nad ydw i weld cyflawni uffar o ddim byd.

Ac, wrth gwrs, mae gweld y dirymyg yn llygaid ambell un uchelgeisiol wrth weiddi hynny’n groch bob amser yn gwneud i mi wenu fel giât!

mercoledì, dicembre 09, 2009

martedì, dicembre 08, 2009

Stori fawr y dydd (sori, Rhodri!)

Dwi’n meddwl ei bod hi’n ofnadwy ar ddiwrnod olaf Rhodri Morgan mai rhywbeth arall sy’n dwyn sylw byd y blogiau, a ddim ryw stori annwyl iawn, ychwaith. Ond, er mae’n siŵr na alla’ i gynnig safbwynt gwahanol, hoffwn o hyd ddweud fy nweud, gan geisio peidio ag ailadrodd unrhyw beth a ddywedyd mewn mannau eraill.

‘Does dwywaith amdani, mae grŵp y Blaid y llai, a grŵp y Ceidwadwyr yn fwy nag erioed. Mae hynny’n ergyd i Blaid Cymru, a taswn i’n Geidwadwr byddwn i’n bur fodlon ar fachu aelod o blaid elynol. Ond, taswn i’n Geidwadwr, Mohammed Ashgar fyddai’r un olaf o grŵp Plaid Cymru y byddwn i am ei ddwyn – ac fel cenedlaetholwr, er nad Pleidiwr pybyr, dwi’n falch mai Ashgar yn fwy nag unrhyw un arall sydd wedi croesi’r llawr.

Mae’r ateb pam yn ddigon syml – mae Mohammed Ashgar yn aelod da i ddim o’r Cynulliad. O ystyried ei berfformiad, mae’n anodd iawn gen i gredu y’i dewiswyd gan aelodau de-ddwyrain y Blaid oherwydd ei allu, wel, ei allu gwleidyddol – mae o wedi dangos ei hun i fod yn ddigon alluog ond nid mewn ffordd dda eithr ffordd ddigon slei ac annymunol. Ta waeth, mae’r dyn yn ofnadwy o flaen camera a dal yn treulio llawer o’i amser fel cyfrifydd.

Y mae ei fynd heddiw yn adrodd cyfrolau amdano ef a hefyd y blaid Geidwadol. Awn ni ddim i hynny – mae’n ddigon amlwg.

Awn ni ddim i sôn am a ddylai ymddiswyddo neu a ddylai trefn y Cynulliad newid. Bydd yr un yn digwydd a ‘sgen i ddim amynedd llunio dadl academaidd dros fy mhanad.

Mae gwers i Blaid Cymru, sef i ddewis aelodau ar allu yn unig – aiff hynny am orfodi merched ar ben y rhestrau hefyd (credaf i hynny ddod i ben rwan?). Gwn y dewisir ymgeiswyr y Blaid yn lleol ac nid yn ganolog, ond o ystyried pa mor ddi-lun ydi Ashgar fedra’ i ddim gweld pam arall y byddai aelodau cyffredin wedi ei ddewis ond am y demtasiwn o gael aelod ethnig cyntaf y Cynulliad dan y faner werdd. Chwarae’r gêm wleidyddol oedd y nod. Mae’r canlyniad yn fwy o own goal.

Os Ashgar oedd y mwyaf galluog, carismataidd, delfrydol o holl aelodau Plaid Cymru y rhan honno o Gymru, dwi’n gadach. Yn amlwg, petai wedi datgan ei farn fel ag y mae wedi heddiw ni fyddai erioed wedi bod yn agos at gael ei ddethol. Dwi’n amau bod rhywun wedi bod rhywfaint yn gelwyddog yn rhywle lawr y lein.

Byddai Ashgar ddim wedi cyrraedd Cynulliad 2011 yn ei sefyllfa gyfredol – dim ffiars. Annhebyg y deuai’n ail eto, heb sôn am gyntaf, ar y rhestr ar ôl ei berfformiad dros y trydydd Cynulliad. Gyda Phlaid Cymru’n targedu’n gwbl realistig Gaerffili ac Islwyn, byddai’n gwneud ei ethol yn llai tebygol fyth. A fyddai rhywun o lwyth mor uchelgeisiol yn fodlon ar hynny, tybed? Na. I lwyddo, roedd yn rhaid gadael. Oni fyddai fod ar restr y Ceidwadwyr yn ffordd dda o gadw swydd dda?

Beth am oblygiadau hynny? Mae’n rhoi cyfle i Blaid Cymru ddewis ymgeiswyr llawer cryfach yn y rhestr – er dwi’n meddwl bod y sïon am Adam Price yn sefyll yno yn hurt bost. Wrth gwrs na fyddai neb wedi dweud y byddai Plaid Cymru yn well heb Ashgar pan oedd yn AC Plaid Cymru, ond i fod yn gwbl onest, dwi’n meddwl ei fod yn gwbl wir.

A beth am y Ceidwadwyr? Anodd gen i gredu y byddai wedi mynd atynt heb ryw fath o addewid o sedd. Nid anodd gor-ddweud pa mor wael y mae hynny’n adlewyrchu ar y Ceidwadwyr. Goblygiadau hynny? Mae’r Torïaid yn sownd gydag aelod aneffeithiol a phur annymunol sy’n rhan o’r gêm wleidyddol er ei fwyn ei hun.

I fod yn deg, o leiaf petai hynny’n wir byddai’n dangos mai Tori ydyw!

lunedì, dicembre 07, 2009

Cynghannedd ddirgel

Prin iawn gysgish i neithiwr. Wyddoch chi fel y mae hi, noson hwyr a chwil nos Sadwrn (yn dwyn leitars pobl eraill – roedd gen i dri ar un pwynt) a rhywun yn dioddef nos Sul.


Fel arfer fedra i ddim cysgu nos Sul eniwe, ond y gwir ydi mae gen i reswm rhesymegol y tro hwn. Gan gyrraedd adra’n hwyr, a gwario ffecin ffortiwn (‘sgynno chdi ddim syniad faint dwi ‘di gwario mis yma) mi o’n i ar ddeffro rhwng deg a hanner dydd cyn penderfynu nad o’n i cweit yn iawn ac y byddai nap bach o les. Erbyn i mi ddeffro drachefn roedd y bydd yn dywyll a phump o’r gloch ar y gorwel.

Es i ddim i gwely tan dri nac i gysgu am o leiaf awr wedyn. Hardcôr dwi; ond dyna f’eglurhad am pam fy mod yn flinedig, rhag ofn eich bod wedi’i ystyried.

Fydda i’n cael e-byst rhyfedd nawr ac yn y man - a dweud y gwir fe gyrhaeddant y mewnflwch yn drist o amlach na negeseuon ar fy nghyfer i yn bersonol. Flynyddoedd nôl cofiaf un gan ryw Albert Jones neu rywun yn rhoi cyfle i mi ennill gwerth 40 pwys o gimwch. Wnes i ddim cystadlu yn y diwedd, a minnau ddim yn gwbl siŵr y byddai 40 pwys o gimwch yn ymarferol ar y pryd.

Ond mi ges un rhyfeddach, os rhywbeth, pythefnos nôl gan rywun o’r enw Myron Evans, ac atodiad ynghlwm yn llawn cynganeddion. Fe’m boncyffwyd, i gyfieithu’n flêr.

Wn i ddim sut y cafodd fy nghyfeiriad na pham yr anfonodd lu gynganeddion i mi. Wedi’r cyfan, alla’ i ddim cynganeddu, felly dwi ddim yn gallu cywiro fawr ddim ohono, dim ond darllen a mynd “Ew”. Nid ymatebais.

Gan ddweud hynny, dwi yn licio pethau randym fel hynna bob nawr ac yn y man, maen nhw’n cadw bywyd yn ddiddorol!

venerdì, dicembre 04, 2009

Mae hi'n Nadolig arnom!

Dyma ryfedd. Bron yn ddi-eithriad, ers blynyddoedd maith, pan fo’r adeg hon o’r flwyddyn ar y gweill dwi’n cael rant am y Nadolig.


Eleni, dwi ddim am, achos ‘does gen i ddim byd i rantio amdano. Dwi’n edrych ymlaen at y Nadolig. Dwi wedi cael i mewn i hwyl yr ŵyl. Dwi’n mwynhau gweld y siopau’n addurniadau, y goleuadau’n ddisglair gyda’r nos a’r ias sydd ar awel y cyfnos. A hefyd y cynnwrf a welir mewn pobl wrth baratoi ar ei gyfer.

Rŵan, alla’ i ddim egluro pam bod hyn wedi digwydd eleni. Gallai fod am nad ydw i wedi bod adra ers dros dri mis ac fy mod yn edrych ymlaen ato. Gallai fod am nad ydw i’n poeni dros bresanta – hynny ydi, mi wn yn union beth dwi am ei gael i bawb, fwy na heb. Er, mi ydw i wedi archebu tocynnau i’m chwaer ar-lein a dwi ddim yn siŵr os ydi’r archeb wedi cael ei phrosesu’n iawn am nad ydw i wedi cael cadarnhad drwy e-bost. Mi jecia i fy natganiad banc heddiw i weld.

Oes, mae ‘na rywbeth braf iawn am weld y Nadolig am y tro cyntaf ers wn i ddim faint heb fy sbectols sinigaidd arferol. Ew, braf fyddai gweld eira am unwaith yn y Nadolig.
Un peth a wnaeth fy nigalonni oedd meddwl am eira a’r Nadolig. Rŵan, dwi’n 24 oed erbyn hyn, â phrif ddyddiau fy ngogoniant y tu ôl i mi, ond dwi’n cofio Nadoligau gwyn pan oeddwn yn fach.
Dydi hyd yn oed nifer fawr o bobl sydd mewn prifysgolion ddim yn cofio hynny bellach – roedden nhw’n rhy ifanc. Mae’n biti bod y Nadolig gwyn yn araf ddiflannu ac yn troi’n fytholeg yn hytrach na’n ffaith, dydi?

Ymhen cenhedlaeth fydd y delweddau sydd yn y cyfryngau o Nadolig gwyn yn raddol ddiflannu hefyd, wrth geisio cyfleu delwedd real i do iau sy’n gwbl ddiarth i’r syniad. Ew, trist ydi hynny hefyd.

Ond tai’m i fod yn sinigaidd am y peth. Na wnaf wir. Wedi’r cyfan, mai’n Nadolig arnom!