lunedì, gennaio 25, 2010

Dillad Dad a hanesion eraill

Bob tro y bydd rhywun yn cyrraedd adra mae dau sicrwydd. Y cyntaf yw bod Nain yn fwy gwallof nag erioed, ‘rhen gorigl gam iddi, ac y bydd Mam wedi prynu dau beth i mi. Y cyntaf ydi jel cawod. Tasech chi’n gweld faint o jel cawod sy’n fy llofft adra fe fyddech chi’n taeru ‘na fi ydi’r person glanaf fu. Yn anffodus dydi hynny ddim yn wir, fi fydd y cyntaf i gyfaddef fod yn gas gen i folchi ac y bydda i dim ond yn gwneud o ddyletswydd. Ro’n i’n ddigon hapus yn cael dwy gawod yr wythnos yn y Brifysgol, sy’n ddrwg am fyfyriwr hyd yn oed. A gwyddom y ffieidd-dra myfyrwyr yn eu llawn ogoniant.

Yr ail beth fydd Mam wedi prynu ydi crysau-t. Mae ‘na ddwy ochr i’r geiniog hon, a’r ddwy ochr yn echrydus. Yn gyntaf, fydda i byth yn eu licio. Fydda i’n mynnu nad ydi hi’n eu prynu ond mi wnaiff beth bynnag – pwy ddiawl fu gan fam a wrandawodd? O ran hynny bydd yn prynu ambell un a phob un wan jac naill ai union yr un peth ond mewn lliw gwahanol, neu’n debyg uffernol.

These are the ones I got you from Cheshire Oaks – they’re expensive ones.
I don’t like them, Mam.
Oh well, never mind, they were only cheap.


Dyna ddudodd y sgriwan annwyl y tro hwn. Yr ail beth ydi bod gen i ddigonedd o ddillad beth bynnag. Tasa Broadway yn llwyfannu drama chavaidd ‘roll byddai’n rhaid gwneud ydi galw acw a gofyn cael benthyg dillad i gast cyfan. Y broblem efo fi ydi na fydda i’n lluchio dillad yn aml iawn, felly mae ‘na ddigonedd o sanau a phethiach yn yr ystafell sy’n hen fel y diawl ond sy’n rhywsut dianc fy ngolwg.

Yn bur ffodus byddaf yn rhoi trefn ar bethau heno, gan fod y bobl elusen wedi rhoi bag drwy’r drws. Dwnim os ydyn nhw isio sanau, ond byddan nhw’n cael pentwr bob tro y byddan nhw’n dod acw. Sion Corn y Sanau ydwyf yn wir.

Ond dyna drasig oedd gweld bod Dad wedi prynu dillad iddo’i hun. O, mam bach. Mae gan fy Nhad synnwyr ffasiwn ceffyl dall fel y mae hi, ond ar ôl i Mam ddweud bod angen rhagor o ddillad arno y peth olaf yr awgrymodd wrth ddweud hynny oedd y dylai brynu ei ddillad ei hun.

Felly, ac yntau wedi bod ym Mangor gydag Anti Rita, daeth nôl gyda dau ddiledyn erchyll. Y cyntaf oedd crys-t piws, sy’n rhy dynn iddo. Argol, os wyt ti’n cael dy mid-life creisis rŵan, Dad, yn dy oed a’th amser, fyddi di’n fyw am byth, feddyliais i. Yr ail beth oedd fflîsî arall fyth. Mae gan Dad fwy o fflîsîs na neb arall yn y byd, a phob un yn llwyd neu’n frown.

Pan fydda i’n hanner cant a chwech, dwi ddim isio bod fel Dad.

domenica, gennaio 24, 2010

Aberafan ac Ogwr

Dyma ddwy etholaeth gyfagos dwi’n teimlo na ddylent gael dadansoddiadau trylwyr yn eu cylch, ac felly rhyw fath o ddadansoddiadau lite fydd y rhain. Y rheswm am hyn ydi eu bod ymhlith y rhai lleiaf tebygol o newid dwylo, i’r graddau nad ydyn nhw am newid dwylo, a’u bod yn etholaethau tebyg i’w gilydd. Dydi’r rhain ddim yn dir naturiol i’r un blaid arall eithr y Blaid Lafur, ac mae’n anodd gweld pwy all lenwi’r bwlch yn y naill neu’r llall. Dechreuwn gydag Ogwr.

Cafodd Llafur 74% o’r bleidlais yma ym muddugoliaeth 1997. Hyd yn oed yn isetholiad 2002 cafodd dros hanner y bleidlais. Ond i geisio dyfalu beth all ddigwydd yn 2010, edrychwn ar faint y mae nifer pleidleisiau’r pleidiau wedi cynyddu neu ddirywio ers 1997. Ceir canlyniad yr etholiad cyffredinol diwethaf a’r newid ers ’97 yn y cromfachau.

Llafur 18,295 (-9,868)
Dem Rhydd 4,592 (+1,082)
Ceidwadwyr 4,243 (+527)
Plaid Cymru 3,148 (+469)

Y Democratiaid Rhyddfrydol, felly, yw’r blaid sydd wedi elwa fwyaf ers 1997, ond nid oes neb wedi manteisio o gwbl ar gwymp y Blaid Lafur yma. Roedd y Rhyddfrydwyr, Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr o fewn 5% i’w gilydd ym 1997 a dyna’r sefyllfa o hyd yn 2005. Cafodd Llafur bymtheg y cant yn llai o’r bleidlais ers ’97, ond, a dwi’n diawlio’n hun am ailadrodd hyn eto, aeth ei phleidlais i lawr tua thraean. Ni wnaeth wahaniaeth – roedd Ogwr o hyd yn waetgoch.

O alw draw i’r Cynulliad am eiliad, llwyddodd Plaid Cymru gael 27% o’r bleidlais ym 1999. Erbyn 2007 Plaid Cymru oedd yn yr ail safle unwaith eto ond roedd ei phleidlais wedi dirywio i 17%. Cafodd Llafur dros hanner y bleidlais – mymryn yn fwy na chafodd ym 1999. Yn draddodiadol, os yw Llafur yn ennill yn gadarn mewn etholaeth Cynulliad, mi wnaiff yn well fyth mewn etholiad San Steffan.

Felly does neb am ddisodli Llafur yma. Gan ei bod yn sedd mor ddiogel i Lafur, mae rhywun yn llawn disgwyl i’w phleidlais ddisgyn, gan nad oes perygl iddi golli. Ond dyma un o ambell sedd y gallai’r nifer sy’n pleidleisio ostwng hyd yn oed yn is na 58% yr etholiad diwethaf.

Proffwydoliaeth: Mwyafrif o tua 10,000 i Lafur.

I’r gorllewin, ceir etholaeth Aberafan, y mae ei chadernid i Lafur yr un mor amlwg, ac yn un o ambell etholaeth lle y cafodd dros 25,000 o bleidleisiau yn fynych. Ers yr wythdegau, mae Plaid Cymru, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dod yn ail yma, ac yn ddiweddar nid ydynt yma chwaith fwy na phump y cant oddi wrth ei gilydd. Beth am ddilyn yr un fformiwla ag uchod felly o ran nifer y pleidleisiau?

Llafur 18,077 (-7,573)
Dem Rhydd 4,140 (+61)
Plaid Cymru 3,545 (+1,457)
Ceidwadwyr 3,064 (+229)

Awn ni ddim i fanylu ond yn amlwg Plaid Cymru ydi’r unig blaid sydd wedi manteisio ar ddirywiad Llafur. Mae’n werth nodi, fodd bynnag, hyd yn oed yn yr wythdegau a dechrau’r nawdegau, fod y Ceidwadwyr a’r Rhyddfrydwyr yn fynych cael dros 5,000 o bleidleisiau yma. Dim ond y cenedlaetholwyr sydd wedi gweld cynnydd ers hynny.

Galwn draw i’r Cynulliad yn gyflym eto. Mae’r duedd ddiweddar at ymgeiswyr annibynnol wedi bod yn amlwg yn Aberafan, ond i bob pwrpas mae’r pedair prif blaid yn eu hunfan ers 1999 – nid yn annhebyg i Ogwr. Roedd hyd yn oed mwyafrif Llafur yn debyg. Tra gellir gweld bod Llafur yn dirywio yma, a hefyd yn Ogwr, nid yw i’r fath raddau â rhan fwyaf o’r wlad, ac nid oes neb wedi llenwi’r bwlch. Pe gwelwn dranc gwirioneddol ar y blaid Lafur yn ystod y blynyddoedd nesaf, bydd hon yn un o’r seddau a fydd yn parhau’n driw iddi tan y diwedd chwerw.

Hyd yn oed yn etholiadau Ewrop y llynedd cafodd Llafur tua’r un faint o bleidleisiau a’r tair plaid arall gyda’i gilydd. Yn wir, yn Aberafan dydi nifer y cynghorwyr yma heb newid, i bob pwrpas, ers blynyddoedd chwaith – Llafur sy’n rheoli yma o hyd ar gyngor Castell-nedd Port Talbot, sef wrth gwrs dim ond un o ddau gyngor a reolir ganddi ben ei hun.

Gallech wneud dadl dda o blaid unrhyw un o’r tair plaid arall yn dod yn ail yma eleni. Yr unig sicrwydd y tu hwnt i hynny ydi y bydd Llafur yn teyrnasu yma o hyd – gyda mwyafrif erchyll o fawr, os nad un sy’n cymharu â dyddiau ei llawn gogoniant.

Proffwydoliaeth: Unwaith eto, mwyafrif tua 10,000 i Lafur.

Dwi’n meddwl ar ôl ymwared â Threfaldwyn, Aberafan ac Ogwr bod nifer o etholaethau diddorol iawn i’w dadansoddi yng Nghymru: Ynys Môn, Bro Morgannwg, Gorllewin Caerfyrddin a Phontypridd yn eu plith. Wrth i ni gyrraedd yr hanner ffordd, dyma sut mae Cymru Rachubaidd 2010 yn edrych erbyn hyn.



sabato, gennaio 23, 2010

Trefaldwyn

Pnawn da bawb! Ar ôl ambell sedd bur anniddorol (sori os dwi’n pechu rhywun yn dweud hynny!) gall sedd Trefaldwyn fod yn ddiddorol eleni – yn ôl rhai. Bydd unrhyw un sy’n darllen y dadansoddiad hwn yn gwybod yn iawn hanes tir gwleidyddol y rhan hon o’r byd, a’r ddau a fydd yn mynd benben â’i gilydd i’w chynrychioli. Ond adawn ni hwy tan ddiwethaf, ia?

Dwi’n meddwl fy mod yn gywir yn dweud mai dyma’r unig un o holl seddau Cymru nas cynrychiolwyd byth gan Lafur, felly teg dweud na fydd hi’n disgwyl buddugoliaeth annisgwyl yma eleni. Chafodd Llafur fyth ugain y cant o’r bleidlais yma dros y deng mlynedd ar hugain ddiwethaf. Yn wir, byddwn i ddim yn synnu petai Llafur yn colli ei hernes eleni – caiff yn sicr llai na deg y cant o’r bleidlais.

Dydi Trefaldwyn ddim cweit mor anobeithiol i Blaid Cymru o ran natur yr ardal. Yn wir, mae ardaloedd o’r etholaeth sy’n ymddangos yn dir naturiol iddi, ond mae’r rhain yn ardaloedd isel eu poblogaeth, yn bennaf yn y gorllewin pellaf. Gan ddweud hynny, ‘does gan Blaid Cymru’r un cynghorydd ym Mhowys gyfan, felly yn amlwg ‘does seiliau cadarn i’w chefnogaeth adeiladu arni.

Unwaith erioed y mae wedi cael dros 15% o’r bleidlais yn yr etholaeth, sef ym 1999. Fodd bynnag, mae ymgyrch frwd yn mynd rhagddi, ac fe ddylai’r Blaid o leiaf oddiweddyd Llafur i’r trydydd safle. I fod yn onest, byddai peidio â gwneud yn siomedig iawn.

Awn felly fesul etholiad i weld yr unig ddwy blaid all ennill Trefaldwyn, sef y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol. Erbyn 1997, roedd mwyafrif y Dems Rhydd yn gadarn iawn, sef bron yn 20%, a phleidlais y Torïaid wedi dirywio o draean ers ’83, i lawr o dros 12,000 i fymryn uwch 8,000. I ddadansoddi 2010 rhaid i ni ddadansoddi’r hyn a ddigwyddodd yma yn Oes Lembit.

Fel y gwelwch, fydd hynny ddim yn cymryd hir.

Gwnaeth Lembit Opik enw iddo’i hun yn gyflym iawn, a daeth yn aelod lleol digon poblogaidd. Gogwydd wrth y Ceidwadwyr gafwyd yn 2001 wrth i’w pleidlais hwy lithro’n is fyth. Yn gryno, dyma eto’r sefyllfa bedwar blynedd yn ddiweddarach - gostyngodd pleidlais y Ceidwadwyr i 27% gyda nifer eu pleidleisiau’n sefydlog ar ychydig dros 8,000. Llwyddodd Lembit gael dros hanner y bleidlais. Peidiwn â diystyru hynny - ym mhrif gadarnle Cymreig y Rhyddfrydwyr, chafodd y blaid ddim mwyafrif o’r pleidleisiau ers degawdau. Roedd ennill 51% o’r bleidlais yn gamp.

Ond yn ôl rhai gall y Rhyddfrydwyr chwalu’n llwyr yma eleni. Er bod Lembit Opik erioed wedi mwynhau sylw’r cyfryngau, mae ei fwynhad o hynny wedi cynyddu’n sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Ar yr un llaw mae’n dangos ei fod yn fod dynol, ac mae ganddo broffil y gall y rhan fwyaf o wleidyddion ond dyheu amdano. Wedi’r cyfan, dyma Ddemocrat Rhyddfrydol amlycaf Prydain, heb os – mae mwy o bobl yn gwybod pwy ydi Lembit na Nick Clegg. Mae’r ffaith ei fod yn ysgrifennu i’r Daily Sport yn hytrach na’r Mail neu Express yn ategu at hynny.

Gall sylw drwg, wrth gwrs, ddod â ben i yrfa wleidyddol. Ond er bod Lembit yn dod drosodd fel ffŵl, dydi o ddim yn llwgr nac yn annifyr. Dyn od, ond dyn iawn yn y bôn. Gall pobl faddau hynny, a gall pobl droi yn erbyn y rhai sy’n ymosod ar gymeriadau o’r fath, sydd yn eu crombil yn ddigon diniwed.

Ar y llaw arall, dydi bod yn ffŵl fwy nag unwaith ddim yn fantais wleidyddol. Mae’n gwneud iddo ymddangos ei fod yn esgeuluso ei ddyletswyddau gwleidyddol ac nad yw’n gwasanaethu ei etholwyr i’w lawn allu. Y gwir ydi, mae ei weithgareddau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi ennyn cythruddo yn fwy na chanmoliaeth.

Mae Glyn Davies, wrth gwrs, yn wrthwynebydd cadarn. Byddai rhai yn dweud adnabyddus – ond y gwir ydi y tu hwnt i’r swigen wleidyddol (sy’n cynnwys ninnau sy’n ymddiddori mewn gwleidyddiaeth) ‘does fawr neb yn gwybod pwy ydi o. Mae pob un wan jac o bobl Maldwyn yn gwybod am Lembit – ni ellir dweud yr un peth am Glyn. Enw da sydd ganddo, nid enw mawr.

Tasem yn sôn am etholiad Cynulliad, byddwn i’n llai siŵr o ddiystyru Glyn Davies. Yn y sedd honno mae’r Ceidwadwyr yn fwy peryglus.

Ym 1999 cafodd y Rhyddfrydwyr, yn ôl eu harfer diweddar, bron i hanner y bleidlais, neu 48%. Gyda 23%, roedd y Ceidwadwyr ymhell iawn y tu ôl, dyna’n wir eu canlyniad gwaethaf yma ers cyn cof. Ond rhwng 1999 a 2007 roedd y gogwydd i’r Ceidwadwyr yn wyth y cant, a’r mwyafrif Rhyddfrydol yn is na dwy fil o bleidleisiau. Heb ddylanwad UKIP, a gafodd 10% o’r bleidlais, digon posibl mai Dan Munford, nid Mick Bates, fyddai’r aelod cyfredol. Os nad ydi Trefaldwyn yn un o brif dargedau’r Ceidwadwyr yn 2010 mae rhywbeth o’i le.

Y Ceidwadwyr hefyd enillodd yma yn 2009. Daeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn drydydd y tu ôl i UKIP. Ymddengys bod felly gefnogaeth weddol i’r blaid fechan honno yn y rhan hon o Gymru, ond ymddengys ei bod yn dwyn cefnogaeth gan y ddwy brif blaid yma. Yn 2010, bydd hynny’n fanteisiol i’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Nid diystyru’r canlyniad ydw i, roedd yn ganlyniad echrydus i’r Rhyddfrydwyr. Ond ai dylanwad Lembit oedd hynny, neu bobl a oedd am roi cic i Lafur drwy wisgo esgidiau Ceidwadol neu UKIP? Yr ail, dybiwn i.

Er gwaethaf y ffaith bod y niferoedd sampl ym mhob ardal yn erchyll o fach, awgrymodd arolwg diweddaraf YouGov o Gymru y bydd y bleidlais Ryddfrydol yn syrthio bump y cant a’r Ceidwadwyr codi ddeg y cant. Dwi’n reddfol amheus o bolau Cymreig, hyd yn oed un sy’n defnyddio rhyw lun o etholiadeg, ond petai hynny’n digwydd yn Nhrefaldwyn, ni fyddai’r Ceidwadwyr yn ennill – byddai mwyafrif gweddus gan y Rhyddfrydwyr o hyd.

A dyna gwblhau’r dadansoddiad byrraf a wnaed gennyf, ac mi ddywedaf wrthych pam: fydd Trefaldwyn ddim yn etholaeth eithriadol o ddiddorol eleni. Er gwaethaf ‘camymddwyn’ (a all yn hawdd apelio at rai pobl, chwi gofiwch) Lembit, ac ‘amlygrwydd’ Glyn Davies (mynegais fy marn am hynny uchod) y gwir ydi y bydd Trefaldwyn yn parhau’n etholaeth Ryddfrydol. Mae angen gogwydd anferthol o bron i ddeuddeg y cant ar y Ceidwadwyr i ennill yma - yn erbyn nid y blaid fawr amhoblogaidd ond y drydedd blaid.

Mewn etholaeth fel hon, bydd yr ychydig Lafurwyr yn bendant yn dewis Rhyddfrydwr. Tybiaf y gallai ambell Bleidiwr fenthyg pleidlais i Glyn Davies, ond ‘does llawer ohonyn nhw yma chwaith. A bydd ymddangosiad UKIP yma’n rhwystr i’r Ceidwadwyr yn fwy na’r Dems Rhydd.

Unwaith erioed y mae’r Rhyddfrydwyr wedi colli yma, sef 1979. Enillwyd y sedd yn hawdd ers 1983, a dydi’r Ceidwadwyr heb gael dros ddeuddeg mil o bleidleisiau ers 1987. Rŵan, byddwn i ddim yn synnu petaent o leiaf yn dechrau adennill y lefel honno o gefnogaeth yn 2010 – heb amheuaeth caiff Glyn Davies ymgyrch dda ac y bydd gogwydd sylweddol ato - ond dwi ddim yn meddwl bod perygl o ddifrif y bydd y bleidlais Ryddfrydol yn syrthio’n llai na 40%.

Proffwydoliaeth: Mwyafrif o 3,000 i Lembit Opik, a synnwn i ddim iot petai’n fwy na hynny.

venerdì, gennaio 22, 2010

Arfaethedig Daith

Diolch byth fy mod i’n mynd i’r gogledd. Mae’r car wedi bod drwy’r amser gwaethaf posib yng Nghaerdydd wrth i’r syspenshyn golapsio nos Fawrth a dwi heb ei gael yn ôl. Ond, â gras Duw, mi fyddaf yn ei gael yn ôl y pnawn ‘ma ac i fyny’r af i Rachub, pentref fy nghalon a’m bryd.

Eironi’r peth ydi mai un o’r rhesymau dwi’n mynd i’r gogledd ydi cael y brêcs wedi’u gwneud yn Ivor Jones Llangefni. Fanno y mae Nain wedi mynd erioed a dywed hi mai fanno y dylwn fynd. Car Nain ydi’r car o hyd, ond gan y bydda i’n bump ar hugain eleni, ac felly yn ôl pob tebyg wedi goroesi traean cyntaf fy mywyd, fydd yr yswiriant yn is ac i’m henw y daw.

Fydd Nain hefyd yn cael ei phen-blwydd ddydd Sadwrn. Dydyn ni byth wedi bod yn deulu sy’n dathlu penblwyddi a’u bath. Pan fyddwch chi’n cyrraedd oed Nain rydych chi’n dueddol o ofni pen-blwyddi a gorymdaith ddi-baid angau, nid fy mod isio swnio’n anobeithiol. Mae, wrth gwrs, fanteision i fod yn hen – oed yr addewid ydi hi, wedi’r cwbl.

Un peth fydd yr henoed yn ei wneud sy’n gwneud i mi feddwl “o myn uffarn” ydi bwyta’r un bwyd ddydd ar ôl dydd. Wrth gwrs, deuant o oes lle na cheid pasta a chyri a’u bath (fedra i ddim cyfleu jyst faint dwi’n licio ysgrifennu “a’u bath”). Fydd fy Nhaid yn ymhyfrydu yn dirmygu bwyd modern, i’r graddau ei fod yn honni nad oes dim yn bod efo bwyta braster. Mae’r eironi iddo gael strôc oherwydd ei fod yn bwyta gormod o fraster wedi’i golli’n llwyr arno.

Bydd Nain ar y llaw arall yn licio cyri, a phasta, ond nid cogyddes mohoni. Yn wir, bydda’n well gen i lyfu silff ffenest ‘na bwyta bwyd Nain yn ddigon aml, ond mi all wneud grefi da sy’n gorchuddio popeth arall. Y wers i’w dysgu ydi os na allwch goginio, dysgwch wneud grefi da neu gael swydd sy’n talu i chi allu brynu uffarn o lot o sos coch.

A thros y penwythnos, gan na fyddaf yn meddwi (wel, cawn weld!) gobeithiaf ddod â dau ddadansoddiad gwleidyddol arall i chi. Felly byddwch falch bod gennych rywbeth i edrych ymlaen ato.

giovedì, gennaio 21, 2010

Dartiau

Dwi’n gobeithio mynd i weld dartiau yng Nghaerdydd ym mis Ebrill. Rhys y dyn moel sy’n ceisio cael tocynnau, a chredaf y deuai Haydn (drewllyd) a Ceren Sian (absennol ers misoedd ond ddim mor ddrewllyd). Bydd rhywun wrth ei fodd efo dartiau, mae’n gêm y galla i eistedd i lawr a’i wylio yn ddi-dor. Mae’n gynhyrfys a ‘sdim angen i chi fod yn iach i gystadlu. Os rhywbeth, anogir afiachrwydd, sydd i’w ganmol yn y gymdeithas nanïaidd hon.

Pa chwaraeon all rhywun feddwi a gweiddi a dawnsio ynddo, wir? Heblaw am griced - ond mae’n gas gen i griced – mae o bosibl yn un o’m Deg Casineb Uchaf, a chredwch chi fi mae’n frwydr frwd bod yn y rhestr honno. Ew, na, ‘sdim i guro cyffro dartiau.

Ro’n i’n eithaf da ar ddartiau am gyfnod. Yn fy llofft yn Rachub, y mae Mam yn gwrthod ei gweddnewid er gwaetha’r ffaith nad ydw i’n byw yno’n gyson ers dros chwe mlynedd, mae dartfwrdd. Ro’n i’n treulio amser maith yn ymarfer, er fy mod wedi cael llai o drebl twenties na theithiau i’r lleuad. Mae Mam yn dda yn darts, roedd hi’n fy nghuro’n eitha’ cyson, dyna pam y bu i mi chwarae dartiau ben fy hun gan fwyaf. Doedd Dad da i ddim, ond i fod yn deg dydi Dad ddim yn dda yn unrhyw beth. Tad ydyw, wedi’r cyfan. Dangoswch i mi dad all wneud rhywbeth, yn dda, a chi a gewch wahoddiad i’r tŷ am lasiad o win coch da a chawn weld sut ddatblygith y nos.

Dydi rhai pobl ddim yn ystyried dartiau yn chwaraeon. Yn fy ffordd gul o feddwl dwi’n anghytuno â phawb sy’n anghytuno â mi. Mae gen i set o bethau yn fy mrên o bethau sy’n chwaraeon a phethau sy ddim. Dydi golff ddim, er enghraifft. Anhgytuno? Dos i ffwc.

Ta waeth, gobeithio y cawn docynnau ac y cawn fynd. Mae’n braf cael rhywbeth i edrych ymlaen ato!

mercoledì, gennaio 20, 2010

De Caerdydd a Phenarth

O rannu fy amser rhwng Rachub a Chaerdydd fe fyddaf yn dueddol o bleidleisio yn Arfon, ond petawn i ddewis pleidleisio yng Nghaerdydd yn yr etholaeth hon y byddwn yn bwrw’r bleidlais honno. Rŵan, o ran seddau’r brifddinas (sydd hefyd yn cynnwys Penarth yn y Fro) mae hon yn un o dair na fyddech yn disgwyl i newid dwylo, ond dydi hynny ddim yn meddwl y bydd troi lliw’r etholaeth yn amhosibl.


Dwi’n rhywun digon prin sydd wedi byw mewn etholaethau ac wedi fy nghynrychioli gan bob un o brif bleidiau Cymru. Yng Nghonwy fe’m cynrychiolwyd gan Lafur, Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr ar adegau a lefelau gwahanol, ac yn fy nghyfnod fel myfyriwr yn Cathays a’r Rhath y Dems Rhydd. Yma yn Ne Caerdydd a Phenarth, Llafur sy’n teyrnasu’n gadarn iawn ers blynyddoedd.

Fyddwch yn gyfarwydd â’r AS lleol, hefyd, neb llai nag Alun Michael, nid y math o enw y byddwn yn disgwyl i gael ei ddisodli dros y misoedd nesaf. Fodd bynnag, mae enw da Alun Michael wedi cael cnoc y llynedd gyda’r busnes treuliau, a dydi ei wraig heb helpu materion yn ddiweddar. Bydd y fath eiriau yn sicr yn cael effaith ar yr etholiad hwn, ond ni ba raddau, ni wn.

Ychydig eiriau am yr etholaeth ei hun yn gyntaf. Mae hon yn etholaeth dlawd ar y cyfan gyda’r canran uchaf o Foslemiaid yng Nghymru - sydd ond yn 3.9%. Mae’n ymestyn yn helaeth o ardaloedd na fyddech yn disgwyl i’r un blaid ond am Lafur gael effaith ynddynt - Llaneirwg, Butetown, Grangetown - i Benarth, sef yr unig ran o’r etholaeth y mae gan y Ceidwadwyr bleidlais naturiol - ac i’r de o Benarth wedyn i ardal Sili. Ac eto ceir yma rhai o eiconau’r Gymru fodern megis Canolfan Mileniwm Cymru ac, wrth gwrs, y Cynulliad Cenedlaethol.

Yn gyntaf dwi am waredu Plaid Cymru o’r hafaliad. Dydi’r Blaid byth wedi cael mwy na phedair mil o bleidleisiau yma, hyd yn oed ym 1999. Er ei bod yn ceisio cryfhau mewn ardaloedd fel Grangetown, aflwyddiannus fu’r ymdrech hyd yn hyn (un o siomedigaethau’r Blaid yn etholiadau 2008 yw na ddychwelodd yr un cynghorydd yn y ward). Bydd ennill degfed o’r bleidlais eleni yn gamp. Nid tir naturiol i genedlaetholdeb Cymreig yw’r sedd hon ar unrhyw lefel. Ni aiff yn wyrdd o fewn yr ugain mlynedd nesa’, credwch chi fi.

Reit, awn at y pleidiau eraill ar ein hunion felly. Yn fras iawn dyma hanes y tair plaid rhwng 1992 a 2005. Yn gyntaf, fel arfer, canran y bleidlais yn ’05 ac yna’r newid o 1992.

Llafur 47% (-9%)
Ceidwadwyr 22% (-12%)
Dems Rhydd 20% (+11%)

Mae natur y bleidlais Lafur yma wedi bod yn ddiddorol. Roedd yn uwch yn 2001 nac ym 1992 – ac yn is yn ’97 na’r etholiad diwethaf hwnnw. Ar y cyfan, fodd bynnag, dydi’r dirywiad ddim mor wael â nifer o seddau Llafur eraill.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gweld cynnydd mawr yma – ond yn bennaf yn ardal Caerdydd ac nid Penarth ar y cyngor. Mae hyn wedi dechrau adlewyrchu mewn etholiadau cenedlaethol, ac mae’r ffaith iddynt bron â dyblu eu pleidlais rhwng 1997 a 2005 yn destun i waith caled ar ran y blaid yn ardal Caerdydd.

Stori drist sydd i’r Ceidwadwyr yma. Roedd y bleidlais Geidwadol dros draean o’r bleidlais, 16,000 o bleidleisiau, nôl ym 1992, ond dirywiodd i fymryn dros hanner hynny erbyn 2005.

Symudwn heibio 2007 am ennyd. Awn i 2008 a’r etholiadau Cyngor. Dyma nifer y cynghorwyr ddychwelodd y pleidiau yma:

Ceidwadwyr 11
Llafur 9
Dem Rhydd 6

Mae’r Ceidwadwyr yn dominyddu ym Mhenarth. Y broblem iddynt ydi nad ydynt yn gryf iawn yn Ne Caerdydd, maen nhw’n hynod o wan os rhywbeth. Y cyferbyniad rhyfedd yn hynny o beth ydi er mai dyma’r ardaloedd mwyaf poblog yn yr etholaeth, sy’n gadarnleoedd traddodiadol Llafur, dyma’r math o ardaloedd lle mae’r niferoedd sy’n pleidleisio yn llai. Felly er bod potensial y pleidleisiau Llafur yn uchel, fel y gwelwn o ganlyniadau etholiadol, gall patrwm apathi Llafurwyr yn hawdd iawn gael ei adlewyrchu yma. Ategir at hynny y ffaith bod y Dems Rhydd wedi dechrau bwyta i mewn i’r bleidlais Lafur yng Nghaerdydd ers blynyddoedd, ac mae uchafswm pleidleisiau Llafur yn fwy cyfyng na fu.

Profwyd hyn i raddau yn Etholiadau Ewrop. Dyma ganlyniadau’r etholaeth i bob plaid gafodd dros ddeg y cant o’r bleidlais:

Ceidwadwyr 22.6%
Llafur 21.9%
Plaid Cymru 11.4%
UKIP 11.3%

Dau beth felly. Yn gyntaf, mi enillodd y Ceidwadwyr. O drwch blewyn, gyda chanran isel. Fel yr etholiad cyfan hwnnw yng Nghymru, Llafur gollodd yn hytrach na’r Ceidwadwyr enillodd. Yn wir, roedd canran y Ceidwadwyr yn is nag yn etholiadau Cynulliad 2007 o bump y cant.

Yr ail beth, wrth gwrs, ydi na chafodd y Democratiaid Rhyddfrydol ddeg y cant o’r bleidlais. Fe’u curwyd gan Blaid Cymru (a allai yn hawdd fod yn arwydd o gynnydd y Blaid yn y ddinas – post arall!) ac UKIP. Mae isafswm pleidleisiau’r Dems Rhydd yn amlwg yn erchyll o isel yma.

Ceisiaf ddyfalu isafsymiau ac uchafsymiau nesaf. O ran y Dems Rhydd, dydi’r polau ddim yn edrych yn rhy dda, ac mewn sawl ffordd dydi’r etholaeth hon ddim yn dir naturiol iddynt . Ond, er gwaethaf siom Ewrop y Rhyddfrydwyr, dwi ddim yn ei gweld yn amhosibl y byddant yn bwyta’r bleidlais Lafur ymhellach yma – mae eu heffeithiolrwydd wrth wneud hynny yng Nghaerdydd yn syfrdanol. Gallan nhw gael unrhyw beth rhwng 6,500 a 9,500 o bleidleisiau.

Yn etholaeth fwyaf poblog Cymru, ni fydd hynny’n ddigon i gipio’r sedd.

Beth am y Ceidwadwyr? Er iddynt ennill yr etholaeth y llynedd, roedd y ganran yn ddigon pathetig. Yn gyffredinol, dydyn nhw heb ddod yn agos at gael traean o’r bleidlais ers 1992 – a hyd yn oed bryd hynny roedd y fuddugoliaeth i Lafur yn hawdd. Yn ogystal, does ganddyn nhw ddim gwreiddiau yn ne Caerdydd ei hun, dim ond Penarth, sy’n llai poblog.

Awgrymodd arolwg diweddaraf YouGov ogwydd o 9% i’r Ceidwadwyr yng Nghymru. Hyd yn oed petai hynny’n digwydd yn yr etholaeth hon gyda nifer sylweddol uwch yn pleidleisio, fyddai’r Ceidwadwyr ddim yn taro’r 14,000. Dwi am amcangyfrif pleidlais rhwng 9,000 a hynny iddynt yn 2010 – mae’n anodd gweld na fyddant yn ennill tir yma i ryw raddau o leiaf.

Hyd yn oed yn 2007, llwyddodd Llafur ennill dros ddeng mil o bleidleisiau yma, ac a thros 17,000 yn 2005. Gwyddwn fod uchafswm posibl Llafur yma’n uchel iawn – y tu hwnt i allu’r Ceidwadwyr i’w gyrraedd – ond mae’r isafswm yma’n ddirgelwch. Ar hap, synnwn petai’n llawer is na 15,000, ond gyda phobl Butetown a Grangetown yn llai tebygol o bleidleisio na phobl Penarth, mewn blwyddyn ddrwg synnwn i ddim petai’n agosach i’r 13,000.

Yn syml, problem y Ceidwadwyr ydi mwyafrif Llafur – mae’n 25%. Yn ddamcaniaethol, petai dwy ran o dair o’r etholwyr yn pleidleisio eleni, byddai hynny’n golygu, ar ogwydd uniongyrchol, bod angen i’r Ceidwadwyr ennill o leiaf bymtheg mil o bleidleisiau – saith mil yn fwy na chawsant yn 2005.

A all y Ceidwadwyr ennill yma? Mae’n annhebygol, ond gallant, ond byddai’n rhaid i’r canlynol ddigwydd:

1) Nifer uchel yn pleidleisio ym Mhenarth a’r cyffiniau
2) Nifer isel yn pleidleisio yn Ne Caerdydd
3) Y Democratiaid Rhyddfrydol yn parhau i ddwyn pleidleisiau gan Lafur yng Nghaerdydd
4) Gogwydd cryf i’r Ceidwadwyr ym Mhenarth

Mae pob un heblaw am rif 3 yn debygol o ddigwydd – dydw i ddim yn gwbl siŵr am rif 3. Er gwaethaf amhoblogrwydd y llywodraeth ganolog, dydi Cyngor Caerdydd, a arweinir gan y Rhyddfrydwyr, ddim yn eithriadol boblogaidd. Fel gydag ambell sedd arall hefyd, pan fo’n frwydr ddeuffordd rhwng y Ceidwadwyr a Llafur a Llafur mewn perygl, gall sbarduno Llafurwyr y tu hwnt i’r garfan ‘selogion’ i bleidleisio hefyd.

Proffwydoliaeth: Gogwydd sylweddol i’r Ceidwadwyr, ond Alun Michael i fynd â hi o ryw 2,500 – 3,000 o bleidleisiau.

lunedì, gennaio 18, 2010

Goruwchnaturioldeb

O ddeffro ddydd Sadwrn, y bore’n atgof pell unwaith eto, roedd yn gryn syndod i mi ganfod darn o gibab ar lawr y lownj, ac unwaith eto sos coch o amgylch fy ngwefusau peraidd. Mae’n rhaid dy fod wedi cael cibab neithiwr, felly, ddywedish i wrth fy hun cyn digalonni a gweld bod yr haul yn dechrau machlud unwaith eto.

Ychydig oriau wedyn, wedi cael Pizza Hut i, wel, i frecwast mewn ffordd, er ei bod hi o leiaf chwech erbyn hyn, eisteddais lawr o flaen yr hen Sky+. Dwi ddim yn meindio mai dim ond rybish sydd ar y cannoedd sianeli o gwbl – cyn belled y bo modd i mi ddewis pa rybish dwi am ei wylio dwi’n ddigon bodlon.

Mae’n gyfuniad anffodus iawn mai sianel 201 sy’n mynd â’m bryd a minnau’n teimlo’n sâl o’r noson gynt. Chi wyddoch i mi sôn o’r blaen am y ffordd dwi’n teimlo’n paranoid y diwrnod ar ôl sesiwn – nid am fy ffolideb amlwg o’r noson flaenorol (dwi wedi hen ymdopi efo hwnnw) ond y ffaith bod rhywun yn paranoid yn gyffredinol. Dydi cyfuno hynny â’r Unexplained Channel ddim yn ffordd dda o fyw. Mae’n ddrwg i’r meddwl, a bron cyn waethed â’r cibab i’r galon.

Dwi wrth fy modd efo’r goruwchnaturiol, i’r graddau ei fod yn un o’r pethau y disgrifiwn fel diddordeb. Dwi’n meddwl bod hyn yn deillio o pan oeddwn fachgen ac yn gasglwr brwd y Monsters in my Pocket. Mae gen i feddwl agored am bopeth hefyd – wedi’r cyfan mae ‘na wraidd i bopeth. Dydi hynny ddim yn golygu y creda’ i mewn unrhyw beth, cofiwch, wna i ddim.

A dweud y gwir mae gen i set graidd o bethau’n dwi’n credu ynddynt, a ddim. Mi ydw i yn fodlon cyfaddef fy mod i’n credu mewn ysbrydion, er enghraifft. Rŵan, enghraifft benodol ydi honno ac, mi fyddai’n onest, mae’n deillio o brofiad personol – ond beth yn union ydi ysbryd, wel, wn i ddim go iawn. Ar y llaw arall dwi ddim yn credu mewn soseri hedfan a phobol o blanedau eraill yn dod yma. Mae’n anhygoel y pethau y bydd rhai pobl yn credu ynddyn nhw – os ydach chi isio hwyl jyst teipiwch ‘werewolves’ a ‘Wales’ i mewn i Gwgl i weld y pethau dwl y dywed rhai.

Os ydych chi tua fy oed i, un o’r rhaglenni mwyaf arswydus ar y teledu yng nghrombil y nawdegau oedd Strange But True? efo Michael Aspel. Roedd yn ddi-ffael yn rhoi ias i mi. Yn bur ffodus, fe’i hailadroddir yn gyson ar yr Unexplained Channel, gan roi cyfle i mi eto fwrw golwg arni gyda meddwl oedolyn, os nad oedolyn cwbl anaeddfed.

Yn y cyfnod ôl-yfed, mi fydd Strange But True? o hyd yn gwneud i mi deimlo’n ddigon annifyr. A minnau yno ar y soffa’n llwfrhau dwi’n gwneud y peth call, aeddfed i’w wneud, sef ceisio dod i fyny gydag eglurhaon neu fynnu’n groch ‘mae nhw’n deud clwydda’/‘yn amlwg rhywbeth arall ydi hwnnw’. Gas gen i gyfaddef mai’r peth anodd i’w wneud ydi, wel, credu.

venerdì, gennaio 15, 2010

Ionawr a Llefrith

Felly dyma benwythnos arall yn ein hwynebu. Fel y fi, mae’n siŵr y byddwch yn falch o’i weld yn dyfod, heblaw os ydych chi’n gweithio mewn siop. Ha ha, Rhys.

Yn gyffredinol, dydi’r penwythnos yng nghrombil Ionawr ddim yn rhywbeth rydyn ni’n cyboli efo fo’n ofnadwy. Yn ôl fy arfer blynyddol rhaid imi gwyno am fis Ionawr. Hen fis tywyll a hyll ydyw. Fodd bynnag, yn wahanol i’r arfer dwi wedi bod yn gwneud pethau eleni, gan gadw’n hun yn brysur cymaint ag y gallaf.

Mae’n wirion bod pobl yn penderfynu gwneud dim ym mis Ionawr, o bob mis. Wn i ein bod wedi’n stwffio a’n diddanu dros y ‘Dolig a’r Flwyddyn Newydd, ond nefoedd, a oedd ffordd waeth o wynebu’r dywyllaf fis na phenderfynu i ymwrthod ag alcohol, partis a throi’n feudwy? Mae’n drewi o hunangosbi yn fwy na dim.

Dwi’n un o’r rhai sy’n argyhoeddedig o fodolaeth blŵs mis Ionawr, mae pawb yn teimlo’n ddigon gwag ac isel. Ond eleni, fel y dywedais, dwi wedi ymwrthod â hynny. Yr unig beth sy’n fy nigio ydi gwybod y bydd fy miliau nwy yn uffernol, a’r unig beth sy’n fy nhristáu ydi fy mod allan o lefrith ers deuddydd.

Fues i fyth yn un am lefrith. Cofiaf yn iawn y tro cyntaf i lefrith droi arna’ i. Ro’n i’n ysgol fach, ac roedd hi’n nos Sul a ninnau’r teulu yn cael cyri, ac roedd gen i lasiad o lefrith i’w yfed – mewn cwpan blastig 101 Dalmatians. Fetia’ i mai ym mis Ionawr oedd hynny ‘fyd. Casáu Ionawr.