giovedì, settembre 15, 2016

Y wên

Y mae’r wên yn un o’r pethau rhyfeddaf. Nid oes gennym ni ystum fwy amrywiol na hi; gall gwên gelu mil o eiriau, a dofi mil o bryderon. Ac er gwaethaf pob trybini, rywsut, mae anrheg fechan y wên waeth gan bwy yn gallu torri drwy gymylau a tharo’r galon gan chwipiad o lonni pur – ein harf yw yn erbyn y byd.

Rhyfeddaf wên, gwên drist; gwên colled, gwên cynhebrwng, gwên wedi ffrae. Yr adegau hynny pan fo dŵr yn bygwth dy lygaid a’r enaid yn drom gan faw byw – y mae’r wên honno’r odidocaf ohonynt, yn gwahodd cysur ac ennyn perthyn. Er gwaethaf popeth, wyf i a thi a ninnau yma; nid yw’r ddolen hon eto’n golledig yng nghyflawnder popeth.

Ond fy hoff wên i ydi gwên y galon drwy lygaid llawen; y wên sy’n datgelu popeth ac yn chwythu ymaith yr ing gan gorwynt disglair. Honno yw gwên dy fam a’th dad. Honno yw gwên ddidwyll dy ffrindiau. Y wên a roddi i’r rhai sy’n tanio ynot obaith ac yn gwneuthur i garnau creigiog cas y dyfodol droi’n llwybr deiliog am ennyd. Y wên sydd heb angen arni geg. Y wên sy’n gynhesach na choflaid.

Gwên, yn fwy na phopeth, ydi’r hyn sy’n ein gwneud yn fodau dynol. Gall gelu mil o eiriau, a dofi mil o bryderon, ond ni fu’r un wên a darwyd erioed yn wastraff.



martedì, agosto 30, 2016

Pob nos

Y mae pob nos yn hir. Ond digon hir nid yw; afon sychedig yw a’r tywyllwch yn annigonol amdani. Melino meddyliau ac ildio i’r creulonaf o’u plith; denig i fyd nad yw’n bod eithr o fewn llanast dy benglog bregus ac ysu’n aflwyddiannus ei waredu. Gadael dy ben am y gorwel. Pob atgof yn felysach. Yn finiocach. Pob dymuniad yn demtasiwn dwyllodrus.

Merwino’n araf rhwng y clustogau. Ceisio cysur cynfas. Aflwyddo. Rhy boeth, rhy oer, rhy anghyfforddus. Rhy fyw. Rhy farw.

Lliwiau a lleisiau’n llenwi’r duwch, a’r duwch yn eu trechu liw gan liw, lais gan lais. Llithro o’r byd yn ddi-ffarwél, yn ddi-hiraeth – llithro i gwsg yn ddi-gyfarch, yn ddieisiau. Cipolwg ar ddiffodd llwyr a llawenydd dimbydrwydd y tu hwnt i rith bodoli. Un sŵn, un glec, un ysgytiad yn dy gydio’n ôl i fyd y byw a diawlio’r peth. Y galon yn curo’n ddibwrpas. Y meddwl yn troi’n ddi-gyfeiriad. Ac ar ôl ymdrech y dydd eto ddisgyn yn araf bach fesul anadl. 

Cwsg. Hyfryd gwsg. Lle i ganlyn breuddwyd. Lle i gyfarch hunllefau a’u cynefindra’n caethiwo. Y fan lle taro’r cythraul darian gobaith â gwayw gwirionedd, nes hawlio’r nos. Y fan lle mae dy gryfderau’n adnewyddu eu hunain, yn ymrymuso’n arfwisg amdanat a thwyll eu ffugfawreddu’n tawelu’r gwaed. Cartref cofleidio cyfyngiadau’r bod – hwythau iti’n gell, a’th gell sy’n fach o’u herwydd.

Dyna bob nos.

martedì, agosto 09, 2016

Eryrod Pasteiog IV: Coflith Calan Trwyn

**Yn amlwg mae Calan Trwyn yn gymeriad dychmygol. Dim ond rhywun gwallgof fyddai'n honni bod cymeriad mor hynod yn seiliedig ar rywun go iawn**

Coffa da am yr hen frawd Calan Trwyn – awdur, bardd, bon viveur, gwnïwr – a fu farw. A fu erioed i Gymru gymeriad mor lliwgar? Yr oedd ei fywyd yn llawn straeon difyr nad oes lle eu hadrodd oll yma am efe’r bywddarluniwr brwd.

Yr oedd iddo’r ochr ysgafn a chwareus na ŵyr y lliaws amdani. Yr oedd yn gydweithiwr difyr a diog, na hoffai ddim yn fwy ond am fynnu gan bawb arall yn y swyddfa bob blwyddyn wy Pasg. Cawsai lu ohonynt bob tro canys na feiddiai neb beryglu gwireddu’r bygythiadau a daflai atynt pe gwrthodent. Yna fe’u rhoddodd yn ei ddesg a’u cadw yno am flwyddyn gyfan, canys na fwytai siocled ei hun, ond gadawodd iddynt bydru yno a drewi’r swyddfa gyfan ag arogl hen siocled nychlyd. Denodd gan hynny bryfaid a threuliai ei ddiwrnodau yn y gweithle’n eu dal, ac yn eu rhoddi mewn bocs a alwai Y Fynwent Bryfed gan wneuthur i bawb arall gyfogi. Ond un felly oedd yr hen Galan a maddeuid  bob tro ei gamweddau direidus yn y pen draw.

Hoff ydoedd hefyd o gerdded coedwigoedd, er nas cerddai drwyddynt eithr trostynt. Aethai â’i lif gadwyn ag ef gan ddifa coed dirifedi o amgylch Ynys Môn. Ar ôl eu gosod yn rhes drefnus dinoethai’n gyfan gwbl a cherddai trostynt yn gweiddi at y gwiwerod: ‘Wele, myfi yw brenin y goedwig!’ ac yna saethu atynt yn aflwyddiannus â’i ddryll. Yr oedd yn wir gas ganddo goed a byddai’n digio pob tro y gwelsai un yn ddi-ffael. Meddai rhai y gallai gwympo coed gan un edrychiad, ond ni phrofid hynny fyth ac ni welais i mo hynny, dim ond y casineb tanllyd y tu ôl i’w sbectol anffasiynol.

Chwerthin sy’n rhaid. Ond mor frwd ei gasineb at y goedwig a’i lythyru blin diflino at Cyfoeth Naturiol Cymru’n mynnu diwedd arnynt (ni chawsai ond ymatebion swyddogol, a’i gwylltiodd yn rhagor; os oes un peth yn wir am yr hen Galan, ni wyddai neb sut i ymateb iddo) yr oedd ganddo un diléit, sef paneidio. Paneidiasai ar ei ben ei hun yng nghaffi’r pentref, neb ond efe a’r hen Idwal, canys gadawsai pawb arall yn frysiog fel haid o wyddau gwylltion pan glywsant y si ei fod ar ddyfod. Eisteddai’n bytheirio Idwal am ddwyawr, yn aros nes i’w baned wan o de oeri’n llwyr cyn ei llymeitian yn fwriadol swnllyd, ac yna’n gadael cyn i Idwal gael dweud dim. Nid mewn deugain mlynedd o gyfeillgarwch agos y cawsai air i sgwrs â Calan, ond un felly oedd yr hen Galan, yn siarad yn ddi-baid waeth p’un a wrandawsai gwrthrych ei fileindra arno ai peidio.

Unwaith, bwytodd iâr gyfan gerbron cyfarfod llawn Cyngor Gwynedd.

Gorffwys mewn hedd, yr hen Galan Trwyn.


Cwsg yn dawel, dywysog annwyl



Ymwadiad: Gan fod Calan Trwyn wedi marw, ac yn rhyfeddol o ddychmygol, nid oes modd gwrthbrofi’r honiadau enllibus uchod, sydd yn ddiau’n gwbl wir.

sabato, agosto 06, 2016

Gwanwyn a Haf

Un o feibion y gwanwyn ydw i. Ces i fy ngeni yn y gwanwyn a dwi bob amser wedi teimlo rhyw ryfeddod dwfn ar yr adeg honno o’r flwyddyn. Dan gymylau gwynion yr awyr newydd a glesni ifanc y dail, mae o wastad wedi rhoi gwefr imi. Pan ddaw'r gwanwyn dwi'n teimlo fy mod i'n ôl adref ar ôl bod i ffwrdd am ry hir.

Ond dyna wanwyn. Gobennydd diogel, gobeithiol; y gobaith cynhenid, anneallus hwnnw a enir gan yr egin cyntaf bregus. Yr ystrydebol ŵyn a'r gwenoliaid, plant y caeau a phlant y gwynt, eto yno. Y clustfeinio beunydd boreol am y gwcw fach ddrwg. Awel oer gyntaf dyddiau’r tes yn llenwi’r ffroenau heb ias y gaeaf. Dydw i ddim yn gwybod beth ydi o am y gwanwyn, a ddeallaf i fyth. Am wn i, y dyddiau prin lle mae pawb yn disgwyl rhywbeth gwell i ddod, yn ffyliaid bob un. Yr ennyd pan fydd rhywun yn penderfynu ar lasiad o win coch gludiog dan yr haul, llyfr wrth law.

Ond megis popeth, gwell y bwriad a’r edrych ymlaen na’r gwneuthur. Os gwanwyn yw llymaid cyntaf y gwydr, yr haf ydi’r hanner ffordd lle ti’n sylweddoli nad ydi pethau gystal â’r disgwyl. Ydi mae’r haul yma, ond lle anwesai haul gwanwyn y caeau, y mae haul haf yn eu taro, yn sychu’n llwyr nentydd a phyllau bach y penbyliaid a chrimpio f’annwyl redyn. Y mae awel oer yn siomi, a phob cawod law yn ergyd. Mae’r ŵyn wedi mynd, ac yn eu lle sŵn peiriannau llenwi’r awyr o’r ffermydd a’r gerddi. Drwy ryw fargen gas, mae cysgodion cymylau’n teimlo’n oerach a rhywun yn sylwi bod yr edrych ymlaen yn well na’r hyn a esgorwyd o groth y flwyddyn.

O na fyddai’n wanwyn o hyd, a chawn i fod yn ffŵl bythol heb fyth sylweddoli hynny.

domenica, giugno 26, 2016

Cyfle euraidd y mudiad cenedlaethol

Dwi ddim am fynd dros y refferendwm; dwi ddim am bwyntio bai ar neb – wnes i hynny cyn y refferendwm a dwi’n sefyll wrth bob gair – a dwi ddim am fyfyrio am fy nheimladau personol i ar y mater y tu hwnt i ddweud fy mod i wedi dod o’r dyfnder ac yn gweld pethau’n gliriach.

Dwi am fentro dweud na’r canlyniad a gafwyd ydi’r cyfle mwyaf fydd gan Gymru o sicrhau annibyniaeth byth. Bydda i’n gryno, achos er bod angen bod yn glyfar wrth gynllunio hyn oll, a bod angen strategaeth ar waith, mae’r ateb yn rhyfeddol o syml.

Mae’r refferendwm drosodd ac fe’i collwyd. Does dim herio’r peth – mae’r ddeiseb ar-lein ‘na efo’i llofnodion lu yn wastraff amser ac mae angen ei hanwybyddu’n llwyr. Gallai honno, o lwyddo, osod cynsail a fyddai’n sicrhau parhad y Deyrnas Unedig am byth, ond blogiad arall ydi hwnnw. Diolch byth na fydd hi’n llwyddo.

Y sefyllfa sydd ohoni ydi hyn: pleidleisiodd 52% o bobl Cymru o blaid gadael yr UE. Ond mae hynny’n gadael bron hanner y boblogaeth sydd eisiau bod yn rhan ohoni. Yn wahanol i’r sefyllfa a fu, mae hynny’n gadael dau ddewis cwbl, diamheuaeth o glir i bobl Cymru – os ydyn nhw eisiau bod yn rhan o’r UE, rhaid ar annibyniaeth i Gymru. Does yna ddim troi’n ôl i’r Deyrnas Unedig. Ond mae gan Gymru’r dewis.

Gallwn roi i’r neilltu gymhlethdodau di-baid a chymleth a diflas datganoli graddol. Dydi’r rheiny ddim yn tanio pobl – ond am y tro cyntaf erioed, gall y posibiliad o Gymru annibynnol yn rhan o’r UE wneud hynny. Dydi ffederaliaeth ddim yn rhan o’r ddadl ychwaith; yr unig ffederaliaeth wirioneddol sydd i’w chael ydi ffederaliaeth fel rhan o Ewrop.

Targedu’r 48% sydd eisiau a chyfleu’r ddadl fel ag y mae hi: Cymru annibynnol ydi’r unig drywydd yn ôl i’r UE. Dydi honno ddim yn ddadl y gellir ei gwrthbrofi – mae hi’n ffaith a does yr un blaid arall yn gallu dadlau fel arall. Mae honno’n law brin o gryf i'w chael mewn gwleidyddiaeth a byddai peidio dadlau’r peth yn ddi-baid efallai’r peth mwyaf twp i’r mudiad cenedlaethol ei wneud erioed.

Dydi’r 48% ddim am heidio i Blaid Cymru i gyd ond i lawer iawn o bobl, mi dybiaf, yn enwedig yng ngwres y foment, byddai annibyniaeth yn yr UE yn opsiwn llawer, llawer mwy atyniadol na bod ynghlwm wrth Loegr y tu allan i’r UE. Ac mae’n mynd i orfodi pobl i ddewis ochr; cyn heddiw, doedd dim angen gwneud hynny i’r fath raddau yng Nghymru achos y gwir ydi roedd gennym ni ormod o opsiynau i’w hochri â nhw.
 
Ond beth am y 52%? Syml hefyd – ond mae angen bod yn ddewr â’r cyhoedd, hyd yn oed, byddwn i’n mentro dweud, yn ymosodol. Dyma sydd angen ei ddweud wrthynt. Bydd eu bywydau nhw’n anos ar ôl inni adael Ewrop, byddan nhw’n dioddef yn sgîl eu camgymeriad, ac mi fyddan nhw’n gweld eisiau’r Undeb Ewropeaidd. Bu Cymru’n unigryw anniolchgar yn ei phleidlais, a buan y byddan nhw’n sylweddoli hynny. Dydi honno ddim yn codi bwganod nac yn dychryn pobl – mae’r ffigurau ar ochr Plaid Cymru yn hyn o beth. Mae angen pwyntio allan i bobl yn union beth fydd yn cael ei golli o’u cymunedau yn sgîl eu penderfyniad. Pan fydd pobl yn sylweddoli bod eu bywydau'n waeth y tu allan i'r UE, mi fydd yn gwrthbwyso'r don o genedlaetholdeb Prydeinig a Seisnig sy'n anochel ar ddod.
 
Y gwir ydi, mae pobl Cymru am ddioddef ar ôl dewis gadael Ewrop. Er bod cynifer o bobl yn meddwl na allai pethau fod yn waeth, maen nhw’n mynd i fod yn waeth, a’r unig, unig olau yn y tywyllwch hwnnw ydi Cymru annibynnol yn Ewrop. Ac maen nhw’n mynd i sylweddoli ar y peth. A bydd modd eu denu i’r gorlan.

Wrth gwrs, byddai pethau’n haws petai Cymru wedi pleidleisio dros aros – ond mae’r ffaith bod y canlyniad mor agos bron gystal a dal yn gyfle euraidd.

Dwi ‘di treulio’r penwythnos yn anobeithio am ganlyniad nos Iau. Ond mae’r niwl wedi codi rhywfaint, ac mi fedra i ddweud yn gwbl onest ar ôl pendroni fy mod i, am y tro cyntaf ers y bûm i’n ifanc a ffôl a llawn gobaith, yn gweld Cymru rydd yn bosibiliad go iawn.

Mae hwn yn gyfle llawer, llawer rhy dda i'w golli.

domenica, giugno 19, 2016

Mewnfudo a'r Refferendwm

Ddywedwn i ddim fy mod i wedi synnu ar y ffaith bod y ddadl ar y refferendwm wedi bod yn un wael. Dwi wedi rhyfeddu braidd ar ba mor wael y mae hi wedi bod; y naill ochr a’r llall yn codi bwganod, a’r anonestrwydd pur o fynnu nad oes i’r ochr arall bwyntiau teg, rhesymegol waeth p’un ai mewn neu allan fydd hi. A dweud y gwir, mae fideo hwn yn crynhoi sut dwi’n ei deimlo am yr holl beth – byddwn i’n argymell i chi ei wylio achos mae’n taro’r hoelen ar ei phen yn well nag unrhyw beth arall dwi wedi’i glywed am yr holl ffars.

Y ddadl fawr efallai ydi mewnfudo, safbwynt, dwi am geisio dadlau, sydd wedi’i golli gan y dosbarth canol rhyddfrydol ers cyfnod o rai blynyddoedd, a’u methiant nhw allai sicrhau bod y DU yn gadael yr UE wythnos nesaf. Cyn bwrw ymlaen, dylwn i nodi dau beth. Y cyntaf ydi dwi ddim am drafod sut mae’r ochr Gadael wedi troi mewnfudwyr yn gocyn hitio achos mi dybiaf fod hynny’n gwbl amlwg i unrhyw un sy’n trafferthu darllen hwn; does yna ddim amheuaeth fod elfennau senoffobig a hiliol yn cronni o amgylch yr ochr Gadael. Yn ail, mewnfudo economaidd sy dan sylw yma, nid ffoaduriaid. Mae unrhyw un sy’n ceisio trafod y ddau beth yn yr un gwynt yn bod yn anonest neu’n ddwl neu’r ddau.

Dylwn hefyd nodi, er didwylledd, fy mod innau’n llwyr yn erbyn mewnfudo digyfyngiad – petai gen i awydd pleidleisio dros Adael mi fyddai lefel y mewnfudo i Brydain (a dwi am edrych ar hyn o safbwynt Prydeinig) yn brif reswm gennyf dros wneud hynny.

Os edrychwch chi ar y polau, pobl o’r dosbarth gweithiol sydd fwyaf brwd dros adael yr UE, gyda’r dosbarth canol yn fwyaf brwd o blaid. Mewnfudo sy’n llywio pryderon y cyntaf am aros, a’r posibiliad o chwalfa economaidd yn poeni’r ail am adael – sefyllfa ryfedd ar yr olwg gyntaf, ond un deg. Mae’r dosbarth gweithiol wedi bod dan y lach ers cyhyd, a heb weld eu bywydau’n gwella ers cyhyd, fel eu bod nhw’n teimlo does ganddyn nhw fawr o ddim i’w golli petai’r economi’n gwaethygu ar ôl gadael yr UE; mae efallai elfen o’r dosbarth canol eisiau cadw'r fraint economaidd a rydd y status quo iddynt, er bod damcaniaethu’n rhan fawr o’r rhagdybiaeth honno gen i.

Ond pam taw mewnfudo sy’n poeni’r dosbarthiadau is yn fwy? Rŵan, mae’r dosbarth gweithiol o’i hanfod yn fwy ceidwadol ar faterion cymdeithasol na’r dosbarth canol, mae hynny’n hen beth. Ond mae’r ateb yn gwbl syml. Caiff un dosbarth fudd o fewnfudo, ac mae’r problemau a achosir yn sgîl mewnfudo bron yn gyfan gwbl yn effeithio ar y llall. Mae gennyf dan sylw yma mewnfudo o’r tu allan i’r UE hefyd, ac er bod hynny rywfaint yn wahanol yng nghyd-destun y Refferendwm, mae o dal yn berthnasol i’r drafodaeth.

Ystyriwch y peth ennyd. Yn lle mae mewnfudwyr yn byw? Nid yn y maestrefi braf, ond yn y rhannau tlotach o ddinasoedd. Heblaw am gael plymar neis o Wlad Pwyl neu rywun o Slofacia i blastro’r wal, dydi’r dosbarth canol jyst ddim yn dod ar draws mewnfudwyr, dyna’r gwir. Pobl dosbarth gweithiol sy’n gorfod cystadlu yn eu herbyn yn y farchnad swyddi am swyddi megis; pobl dosbarth gweithiol sy’n dioddef o gywasgu cyflogau o’u herwydd; pobl dosbarth gweithiol sy’n cystadlu am dai’n lleol; pobl dosbarth gweithiol sy’n byw yn yr ardaloedd hynny lle mae gwasanaethau dan fwy o bwysau achos mewnfudo i ategu’r ffaith eu bod wedi’u tanariannu a’u hanwybyddu ers cyhyd. A phan wyt ti’n teimlo’n fath anobaith ac anniddigwch, dydi sôn am sut mae’r UE yn diogelu hawliau’r gweithwyr jyst ddim yn taro tant; yn enwedig, bosib, ar ôl inni gyd weld y ffordd filain ochrodd yr UE â’r banciau Almaenaidd dros weithwyr gwlad Groeg.

Yr unig bobl y mae’r gystadleuaeth economaidd honno’n fuddiol iddynt ydi pobl fusnes gyfoethog a phobl sy’n gallu fforddio’r gwasanaethau a sgiliau crefft, a rydd y dosbarth gweithiol yn draddodiadol, am bris rhatach. Y ras i’r gwaelod, medda’ nhw. 

Y mae ffordd o amgylch y fath broblemau - er nad yr UE sy’n eu cynnig. Ond mae’r pryderon hyn sydd gan y bobl sydd ar eu colled (neu nad ydynt ar eu hennill o leiaf) o ganlyniad i fewnfudo wedi’u diystyru mewn modd cwbl ffiaidd ers dros ddegawd, ac mae wedi ein harwain lawr trywydd brawychus. A bai’r dosbarth canol, rhyddfrydol a mwy gwleidyddol ydi’r peth yn gyfan gwbl. Ddegawd yn ôl, pan ddechreuwyd mynegi pryderon am lefel y mewnfudo i Brydain ac i rai ardaloedd yn benodol lluchiwyd y cyhuddiad o hiliaeth o bob tu yn erbyn unrhyw un a feiddiai gwestiynu’r peth; gan amlaf gan y dosbarth canol rhyddfrydol at y dosbarth gweithiol, nid ag elfen ansylweddol o ddirmyg, diystyru a “bihafiwch o flaen eich gwell”. A bu tawelwch cymharol ar y pwnc yn sgîl yr ofn o gael eich labelu’n hilgi.

Erbyn pum mlynedd yn ôl, roedd y problemau a’r buddion yn fwy, ond roedd elfen o gasineb wedi treiddio i mewn i’r ddadl. Roedd pethau'n ffrwtian - dyna sy'n digwydd i ddŵr sosban o roi'r caead arni. Diystyru a bychanu oedd y dacteg o hyd - doedd yna ddim modd cynnal dadl gall ar fewnfudo ac eto bai'r dosbarth canol, rhyddfrydol a’r chwith wleidyddol  oedd hyn am sefydlu’r naratif, sef peidio â thrafod y peth am fod hynny'n haws. “Dwi ddim yn hiliol ond...” ddywedai pobl wrth godi llais erbyn hynny, a oedd wrth gwrs yn arwydd o hilgi cudd yn ôl y sawl nad oedd mewnfudo’n effeithio arnynt.

Erbyn hyn, rydyn ni wedi cyrraedd y rhan o’r llwybr lle mae pobl wedi cael llond bol ar gael eu hanwybyddu cymaint ar y mater fel eu bod nhw’n fodlon dweud “dim ots gen i os wyt ti’n meddwl fy mod i’n hiliol”, sy'n arswydus braidd. Dylai fod gan unrhyw un ots am gael ei gyhuddo o hiliaeth, ond ar ôl blynyddoedd o gael eu cyhuddo o hynny’n annheg mae’r cyhuddiad o du’r dosbarth gwleidyddol aruchel yn golygu llawer llai. Ond doedd y sefyllfa sydd ohoni fyth yn anochel. Fe’i crëwyd. 

Petawn wedi cael dadl gall, onest am broblemau mewnfudo a mynd i’r afael â nhw mewn ffordd gall, onest ni fyddai wedi bod y fath fodd i chwipio a chreu’r fath gasineb sy’n bodoli heddiw. Ond mae’n bwysig cofio, dydi’r pryderon am fewnfudo ddim yn rhai hiliol nac yn wleidyddiaeth casineb gan mwyaf hyd yn oed yn yr hinsawdd wleidyddol sydd ohoni. Er petaech chi’n darllen Twitter – caer fawr ar-lein rhyddfrydiaeth dosbarth canol – fyddech chi’n meddwl fel arall. Er, dydi Twitter yn gwneud fawr fwy na chadarnhau pa mor out of touch ydi ei brif ddemograffeg, sy’n lledu’r un faint o bwlshit a memes disynnwyr â’r ochr Gadael.

Gan hynny yr hyn mae’r ochr Gadael wedi gwneud yn llwyddiannus ac yn gwbl warthus ydi anwybyddu rhai o  gymhlethdodau mannach mewnfudo, fel mewnfudo o’r tu allan i’r UE, gan droi’r cyfan i mewn i un lwmp o anwybodaeth lwyr, gorgyffredinoli ac ystrydebaeth yn gwbl fwriadol a gwneud Gadael yr UE yn ateb i’r cyfan. 

Dydyn ni heb gael dadl ddeallus a chawn ni ddim un rŵan. Bu’r drafodaeth ar y Gwasanaeth Iechyd yn un dwi’n meddwl sy’n cyfleu’r peth; mae’r ochr Gadael yn dweud na all y GIG ymdopi os bydd gormod o fewnfudwyr a’r ochr Aros yn mynnu y câi’r GIG ei chwalu heb fewnfudo gan chwydu dros ddadleuon ei gilydd. Ond mae’r ddau’n iawn. Ewch i unrhyw ysbyty ac mae’n berffaith amlwg pa mor hanfodol ydi gweithwyr tramor i gynnig unrhyw wasanaeth iechyd. Ewch i feddygfa leol mewn ardal â chyfran uchel o fewnfudwyr ac fe welwch bwysau ychwanegol ar y feddygfa honno a thrafferth cael apwyntiad o fewn cyfnod call. Cael a chael.

 
*           *           *

Dyna grynhoi’n flêr fy nheimladau i am y problemau y gall, ac y mae, mewnfudo’n ei achosi i bobl dosbarth gweithiol o ran swyddi a gwasanaethau. Ond mae elfen fwy perygl dwi am fynd ar ei hôl yma, sef yr elfen hunaniaeth a chymunedau cydlynol: er dwi ddim yn bwriadu troedio’n ofalus.
 
Un peth sy’n dod nid yn sgîl mewnfudo o reidrwydd ond lefel sylweddol ohono ydi’r ffordd y gall newid llun cymuned, a’r ffaith bod pobl yn teimlo colli gafael arni. Os rhywbeth, roedd diystyru’r ddadl hon yn llawer mwy perygl na’r rhai uchod, achos mae’n mynd i galon pobl. Nid newid o’i hanfod ydi’r broblem ychwaith ond newid dros nos. 
 
Nid arferai fod yn broblem yn y modd y mae hi heddiw. Gyda llai o fewnfudo arferai pobl gymhathu’n haws i’w cymuned newydd, allan o reidrwydd – doedd dim cymuned alltud ddigonol i syrthio’n ôl arni. Stryd ddwyffordd ydi cymhathu, wrth gwrs, ond mae’r baich mwyaf ar y mewnfudwr, nid y gymuned leol. Dydi hynny ddim yn digwydd mwyach, neu yn sicr ddim i’r fath raddau. Mae lefel y mewnfudo wedi galluogi mewnfudwyr i greu eu cymunedau a’u rhwydweithiau eu hunain i’r fath raddau eu bod yn hunangynhaliol a ddim wir angen fod yn rhan o’r gymuned ehangach, sydd wedi cyfrannu’n arw at ddiffyg cydlyniad cymdeithasol.
 
Dwi’n byw yn Grangetown yng Nghaerdydd y rhan fwyaf o’r flwyddyn. Mae Grangetown yn cael ei hystyried yn ardal amlddiwylliannol, ond mae hyn yn anwiredd. Nid diwylliannau’n dod at ei gilydd i greu amlddiwylliannaeth a geir yma ond cymunedau ar wahân yn gwneud eu peth eu hunain ac, er yn oddefgar o’i gilydd ar y cyfan, ddim yn cymysgu llawer. Mae’r Arabiaid yn cadw atynt eu hunain, y Pwyliaid yn tueddu i wneud hynny, Hindŵiaid â chymuned gaeedig – o, a hefyd y Cymry Cymraeg. Does dim angen cymhathu. Ac mae hynny’n berygl.
 
Gall rhywun gerdded i mewn i Tesco bach yn Grangetown heb glywed gair o Saesneg – ar yr adeg iawn o’r dydd gallwch chi gerdded lawr stryd heb ei chlywed. Mi fedra i ddeall yn llwyr pobl sydd wedi byw yno hyd eu hoes yn teimlo colli eu cymuned o glywed ieithoedd gwahanol yn dominyddu. Am wn i, mae hynny’n rhan annatod ohonom ni fel pobl. Ac nid dim ond teimlad o golli cymuned ydi hynny ond ei chael wedi’i rhwygo oddi arnoch.
 
Ceredigion, unrhyw un? Abersoch? Benllech? O na, mae Saeson yn symud i ardaloedd Cymraeg yn wahanol. Heblaw am y ffaith, o ran hunaniaeth ac ymdeimlad o gymuned leol, dydi o ddim yn wahanol o gwbl ac mae honni’n wahanol yn anonest. Os ydych chi’n meddwl eu bod nhw’n wahanol, dwi’n fodlon betio’r morgais eich bod chi’n genedlaetholwr dosbarth canol rhyddfrydol; sy’n tueddu i arddel safonau dwbl yn y ddadl benodol hon.
 
O’u plith nhw y daw rhyfeddod bod pobl mewn llefydd â lefel isel o fewnfudo o dramor – y Cymoedd, Cernyw, Gogledd Lloegr – yn pleidleisio dros UKIP achos mewnfudo. Efallai nad ydi’r peth yn syndod yn y bôn. Efallai mai’r gwir ydi eu bod nhw’n gweld Caerdydd, Casnewydd a Llundain ac yn meddwl, yn syml, nad ydyn nhw am i’w hardaloedd nhw fod yr un peth, a’u bod nhw’n ofni taw dyna fydd yn digwydd gyda mewnfudo digyfyngiad.
 
I gwblhau’r cylch, daw hynny â ni’n ôl at y dosbarth canol â’i dueddiad rhyddfrydol a’r dosbarth gweithiol. Pa gymunedau sy’n newid llun o ganlyniad i fewnfudo? Nid yr ardaloedd llewyrchus eithr yr ardaloedd tlotach dosbarth gweithiol, felly megis y dadleuon economaidd, os ydyn ni’n sôn am golli hunaniaeth a’r ymdeimlad anobeithiol o weld eich cymuned leol yn cael ei disodli’n araf gan gymuned ddŵad (neu gymunedau dŵad yn hytrach), unwaith yn rhagor pobl dlotach sy’n dioddef y tolc annifyr hwnnw ar ben y tolc economaidd.
 

*           *           *

 
Mae rhinweddau i ddwy ochr dadl y Refferendwm, er dwi’n gobeithio o waelod calon mai Aros aiff â hi. Yn sicr, mi fydd yr ofnau am fewnfudo y mae’r ochr Gadael wedi’u chwyddo’n ddidrugaredd ac mewn ffordd hyll yn chwarae ei ran os taw Gadael fydd hi. Dwi ddim yn yr uchod yn esgusodi hynny fymryn.
 
Serch hynny, mae bai enfawr ar y dosbarth gwleidyddol, y dosbarth canol a’r chwith wleidyddol am greu’r sefyllfa hon yn y lle cyntaf – mae eu diystyru cyson nhw o bryderon teg pobl gyffredin dosbarth gweithiol ers dros ddegawd wedi corlannu’r dosbarth hwnnw at yr ochr Gadael. Waeth beth fydd y canlyniad fore Gwener, mae’r mater yma i aros, ac os na chaiff ei drafod mewn ffordd fwy agored, mwy aeddfed a llai diystyriol - mewn ffordd sy’n cydnabod pryderon a phroblemau - mae’n eithaf brawychus meddwl beth allai ddigwydd.

domenica, giugno 05, 2016

Dafad goll ar lwybr sicr

Pan gerddi di lwybrau’r defaid yng nghrasboethni’r haf, chwys hallt dy dalcen yn llifo’n ddiflas i losgi dy lygaid a chân arferol erchwyn y mynydd yn fud wrth i’r anifeiliaid guddio rhag y gwres, fe weli ddefaid. Maen nhw’n gorweddian yng nghysgodion y waliau neu’r coed neu’r cerrig mwyaf, yn ddistaw dioddef dan eu gwlân gaeaf. Ni wyddant fod y llwybr a fedyddiwyd ganddynt hyd yn oed yno; rwyt ti’n eiddigeddus ohonyn nhw. Rwyt ti hyd yn oed yn eiddigeddus o’r ŵyn bach na welant ond un gwanwyn cyn cael eu boddi mewn grefi ar blât Sul, eu gwaed a’u braster yn ei flasuso. 

Achos dwyt ti fwy na dafad dy hun; fe’th fagiwyd yn neidio cerrig y caeau, ac rwyt ti dal yn gallu ei wneud, ac mae gennyt ti o hyd drwyn am snwyro dy ffordd ar hyd y coridorau culion rhwng pentyrrau’r eithin at lannerch weiriog heb gael dy bigo ganddynt. Ond yn wahanol i bob dafad go iawn, un goll wyt ti, dy draed rhwng dau le a dy feddwl rhwng o leiaf ddau fyd yn gyson. Ac er gwellt carpiog beudy dy ben, wrandewaist ti fyth ar dy galon rhag i honno losgi’r beudy i’r llawr, fel y mae byth a beunydd yn bygwth ei wneud.

Drwy ymgais ddisynnwyr i ddenig rhag y cyfan mi wyt ti’n gadael y llwybr defaid weithiau, am newid bach. Weithiau llonnir dy galon gan y daith, gan wenci fach yn loncian neu’r adar bach yn chwarae a’r awyr hirfaith las yn ensynio nef – o! mi wyt ti’n dyheu am y munudau byrion hynny’n fwy na dim – ond yn amlach na heb ymgolli yn y brwyn fyddi di, yn cael socsan mwdlyd ar glwt o rostir, yn diwallu dy sychder yn y pyllau llonydd, budron, cyn cropian yn ôl i’r un hen lwybr cyfarwydd, yn drech na thi dy hun. Ond boed dda neu ddrwg, nid wyt well o’th antur fach ar y cyrion, oherwydd fel popeth, wedi mynd y mae hi. Fyddet ti ddim mewn lle gwahanol ar y llwybr pe na baet wedi ymadael ag ef yn y lle cyntaf. Ti’n dod yn ôl achos bod y cyrion, yn eu hanfod dyfnaf, yr un mor gwbl ddibwynt â’r dro ar y llwybr defaid, ac mae gwirionedd cas hynny’n dy rwygo’n rhacs. 

A dyna ryfeddod ffiaidd y llwybr. Mi wyddost y ffordd yn ôl, mae dy draed yn lle’r wyt ti, ac mi wyt ti'n gwybod yn iawn beth sydd o dy flaen. Ac eto, ti dal yn ddafad wrth ei ddilyn fel deilen ddi-liw yn yr afon; dafad goll sy’n gwybod i le y mae o’n mynd. A'r unig beth sy'n ysgogi pob cam ydi gwybod bod pawb yn union yr un fath â chdi.

martedì, maggio 31, 2016

Pytiau ym machlud olaf Mai

Dyma fi, y funud hon, yn sbïo ar yr olygfa odidocaf sydd i’w chael i mi, yn gweld popeth o lethr ddeheuol Moel Faban i Foel-y-ci tua’r gorllewin. Roedd heddiw’n ddiwrnod braf. Roeddwn i’n gallu arogli’r rhedyn ifanc yn y caeau’n gynharach, ond rŵan mae’r cymylau wedi cochi a’r mursennod mân olaf yn darfod gyda’r dydd. Y mae o’m blaen amlinelliad cyfarwydd Carnedd Dafydd a’r Glyderau, a llond cae o frwyn. Mae yno ambell ddafad yn dal i fynd o gae i gae rhwng y waliau cerrig blêr, ac ar fy ne dwy frân ar y gwifrau trydan yn gwmni i’w gilydd ers hanner awr, fel petaen nhw’n cyd-wylio Môn dan wybren danllyd olaf Mai.
 
Mae ‘na dristwch cynhenid ond hyfryd i fachlud nosweithiau’r haf. Fedr rhywun deimlo’r dydd yn ildio’i le i’r nos yn ddiymdrech, a’r nos hithau’n ei anwesu tua’i derfyn anochel. Nid oedd ond hanner awr yn ôl barau diddiwedd o wenoliaid yn llithro ac yn prancio drwy’r awyr yn ddireidus. Y mae rhywbeth gwylaidd iawn yn y peth. Hyd yn oed yma mae ôl dyn ymhobman, a’n gafael dros y tir yn wydn, o’n gwifrau i’n cartrefi i’r chwarel borffor; ac eto ni hidia’r gwenoliaid ddim amdanom. Ni wyddant y sirioldeb maen nhw’n ei roi i mi yn eu gwylio ers pan fûm i’n hogyn bach, a thydi na’r eithin na’r copaon cas yn gwybod hynny ychwaith. Fy nghyfrinach wirion i ydi’r peth.
 
Ond mae’r gwenoliaid yn mynd i’w nythod – maen nhw’n hedfan yn fwy unionsyth wrth fynd am adref. A chyn hir ystlumod fydd yn cymryd eu lle, yn chwilio tamaid o wyfyn twp i de. Ac mi fydda i dal yma’n eu gwylio nhw, wedi gorfod rhoi fy llyfr i’r naill ochr er mwyn cael eistedd mewn tawelwch ac ymdoddi i’r dyffryn; y clwb criced ar y dde, mur deiliog o wrych ar y chwith, a’r ffenestri’n goleuo’n ddifywyd gan belydrau golau’r machlud o’m blaen, ac un chwipiad o gwmwl uwch Glyder Fawr, fel lwmp o hufen ar gacen.
 
Ac am ddeg ar y dot, gwelaf ddwy wennol olaf y diwrnod a'r ystlum cyntaf un, fel petai'r peth wedi'i flaengynllunio. Ac yn nyfnaf haen fy nghalon, dwi wir yn coelio ei fod o.