Fe wyddoch fy mod i’n licio ystadegau, felly dyma ddarn diduedd am
ffigurau Gwynedd. Ac ydyn, maen nhw’n ddigon diddorol, ond mi adawaf i eraill
gynnig dadansoddiad goddrychol. Fe ranna i’r blogiad hwn yn adrannau inni weld
y darlun cyfan. Er gwybodaeth, pan gyfeiriaf at aelodau annibynnol, dw i hefyd
yn cynnwys y rhai heb nodi plaid, a dw i’n ymddiheuro os oes unrhyw ystadegau
anghywir – mae’n lot o waith ac mae’n ddigon hawdd drysu! Serch hynny gobeithio
fy mod wedi cyfleu darlun cyflawn o sefyllfa wleidyddol Gwynedd.
Gwynedd Gyfan
Newid bach iawn a gafwyd yn nifer y seddi o’i gymharu ag etholiad 2008.
Plaid Cymru enillodd fwyaf (+2 sedd), gyda Llais Gwynedd hefyd yn cipio un yn
fwy. Nid oedd newid yn nifer yr aelodau annibynnol na Llafur, ond aeth y
Democratiaid Rhyddfrydol i lawr o 4 sedd i un yn unig.
O ran canrannau, roedd Plaid Cymru 1.7% yn uwch (40.4%), Llais Gwynedd 3.4%
yn uwch (24.2%) gyda rhai annibynnol i lawr 2.7% i 22.8%, a Llafur i lawr fymryn.
Etholwyd 20 o gynghorwyr yn ddiwrthwynebiad yn 2008 – 18 oedd ffigwr 2012, er
bod un ward eto i ddatgan. Enillodd Llais Gwynedd fil yn fwy o bleidleisiau o
gymharu â 2008, ac roedd y Blaid hefyd i fyny ryw 300-400. Roedd Llafur i lawr
fymryn – yn gwbl groes i’r duedd genedlaethol – gydag ymgeiswyr annibynnol yn
cael mil yn llai o bleidleisiau.
Ymddengys, ar y cyfan, fod Llais Gwynedd, ac i raddau llai Blaid Cymru,
wedi elwa ar drai’r ymgeiswyr annibynnol. Pleidleisiodd 670 o bobl yn llai yn
2012 nag yn 2008.
Arfon
Yn Arfon, enillodd Plaid Cymru sedd yn ychwanegol, ac aelodau
annibynnol ddwy – collodd y Dems Rhydd dair. Roedd nifer y pleidleisiau, canran
y bleidlais a’r newid yn y ganran fel a ganlyn
Plaid Cymru 6,200 (39.8% - 2.5% yn is)
Annibynnol 3,757 (24.1% - 2.6% yn uwch)
Llafur 2,634 (16.9% - 2.3% yn is)
Llais Gwynedd 2,049 (13.2% gyda chynnydd o 4.9%)
Ar wahân i Lais Gwynedd felly, prin fod newid yn ardal Arfon. Er i
ganran Plaid Cymru leihau, enillwyd mwy o bleidleisiau. Gwelwyd cynnydd ym
mhleidlais ymgeiswyr annibynnol, un sylweddol yn un Llais Gwynedd, cwymp bach i
Lafur, a haneru pleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol – enillodd lai na mil, a cholli
un o’u seddi traddodiadol yng Ngwynedd ym Menai Bangor.
Dwyfor
Disodlwyd Plaid Cymru gan Lais Gwynedd fel y blaid fwyaf yn Nwyfor.
Enillodd Llais Gwynedd dair sedd ychwanegol, gyda’r Blaid yn colli dwy, ac
aelodau annibynnol 1. Enillodd Llais Gwynedd 42.2% o’r bleidlais, sef cynnydd o
5.3% - ond nid oedd ond 13 pleidlais yn fwy nag yn 2008. Collodd Plaid Cymru 599
o bleidleisiau ond roedd y ganran yn sefydlog. Arhosodd pleidlais ymgeiswyr
annibynnol yn sefydlog, yn wahanol i weddill Gwynedd. Cadwodd y Democratiaid
Rhyddfrydol sedd yn ddiwrthwynebiad.
I raddau, gellid dadlau mai Plaid Cymru gollodd yn Nwyfor yn hytrach na
Llais Gwynedd yn ennill, ond mae gan y Llais bellach 10 o’r 20 sedd yno, gyda’r
Blaid ar 6 yn unig. Roedd gan Blaid Cymru 15/20 sedd yma yn etholiad 2004, ac
mae’n ardal y mae’n rhaid iddi ei hadennill i sicrhau grym fel plaid fwyafrifol
ar Gyngor Gwynedd.
Meirionnydd
Ni chafwyd etholiad yn 9 allan o’r 20 o seddi ym Meirionnydd (5 Plaid Cymru;
4 Annibynnol), ond cafodd Plaid Cymru lwyddiant mawr yn y seddau a gystadlwyd.
Enillodd dair sedd yn fwy (fyny i 13); 862 o bleidleisiau yn fwy, a 46.7% o’r
bleidlais (+15.7%).
Roedd cwymp sylweddol yn nifer y rhai a bleidleisiodd dros ymgeiswyr
annibynnol (-14.6% lawr i 29.0%). Serch hynny, cafodd Llais Gwynedd noson
aflwyddiannus yma. Un aelod a etholwyd (-2) a chafwyd tua 500 pleidlais yn
llai. Dim ond 5 ymgeisydd a safodd dros y Llais – ond serch hynny ni safodd ond
6 yn 2008 felly gwelwyd colled yn ei chefnogaeth gyffredinol ym Meirionnydd.
Plaid Cymru v Llais Gwynedd
Cystadlodd Plaid Cymru a Llais Gwynedd yn erbyn ei gilydd am 27 o seddi
– 19 ohonynt benben â’i gilydd. Yn y seddi lle mai’r unig ddau ymgeisydd oedd un
o Blaid Cymru ac un o Lais Gwynedd, dyma’r canlyniad cyffredinol:
Plaid Cymru 11 sedd; 5,788 (55.6%)
Llais Gwynedd 8 sedd; 4,616 (44.4%)
Felly Plaid Cymru enillodd y frwydr benben, a hynny yn gymharol hawdd
ar y cyfan. Pan luchiwyd gwrthwynebwyr eraill i’r ornest (ar gyfer 8 sedd mewn
7 ward), cymerodd bethau tro diddorol iawn. Felly yr oedd:
Llais Gwynedd 4 sedd; 1,978 (30.1%)
Plaid Cymru 3 sedd; 2,129 (32.4%)
Eraill 2 sedd; 2,470 (37.5%)
Awgryma hyn raniad ym mhleidlais Plaid Cymru pan gafwyd amryw ymgeisydd,
a Llais Gwynedd fanteisiodd ar hynny. Serch hynny, pe bai’r seddi hyn yn rhai
penben rhwng y Blaid a’r Llais, mae’n aneglur pwy fyddai wedi ennill, er bod y
ffigurau penben yn awgrymu y byddai gan Blaid Cymru fantais.
Casgliad
Cafodd Plaid Cymru etholiad llwyddiannus yng Ngwynedd eleni, er iddi
fethu â chipio mwyafrif dros bawb. Gwelodd gynnydd yn ei phleidlais a chipiodd
seddi ychwanegol. Er colli yn Nwyfor, a cholli’n wael o ran seddi, ni chollodd
yn fawr o ran y bleidlais, a chafodd gynnydd sylweddol iawn ym Meirionnydd. Serch hynny, i’r blaid yn lleol, rhaid
atgyfnerthu yn Nwyfor eto i sicrhau mwyafrifau ar y cyngor. Ar y llaw arall,
mae hi wedi cryfhau ei gafael ar Arfon a Meirionnydd, ond awgryma’r canlyniadau
o hyd elfen o ddadrithio â hi yn y sir.
Roedd etholiad Llais Gwynedd yn llwyddiant ar y cyfan, ond roedd ei
pherfformiad ym Meirionnydd yn wan tu hwnt. Dangosodd nad fflach mo
llwyddiannau 2008, a llwyddodd i ddal tir a enillwyd yn Nwyfor yn dda iawn. Serch
hynny, ni safodd cymaint o ymgeiswyr ag y gobeithid (nifer sylweddol yn llai os
rhywbeth), a phan aeth benben â’i phrif elynion, Plaid Cymru, aflwyddiannus
ydoedd ar y cyfan.
Collodd ymgeiswyr annibynnol lawer iawn o bleidleisiau y tro hwn – er y
cedwid 18 o seddi. Serch hynny, mae mwy o aelodau annibynnol ar y cyngor nag yn
2004, pan roedd 11.
Nid yn annisgwyl, chwalodd pleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol, ac nid
oedd gan y Ceidwadwyr fyth obaith mewn unrhyw ward yng Ngwynedd.
Gwelodd Llafur unwaith eto ddirywiad yng Ngwynedd, yn gwbl groes i
unrhyw ran arall o Gymru. Awgryma wendid mawr yn y blaid leol o ran
trefniadaeth a gweithgarwch, er yn Arfon gwelwyd yn 2010 bod o hyd bleidlais Lafur
gref yma ar lefel Brydeinig nas adlewyrchir ar y lefel leol.