Ta waeth, mae gan IWJ ei
rinweddau ond ni fyddwn erioed wedi ystyried craffter gwleidyddol yn un
ohonynt. Serch hynny, dwi’n tueddu i feddwl fod ei benderfyniad i sefyll i lawr
ym Môn gan arwain y ffordd at isetholiad yn un craff. Mi egluraf pam.
Nid oes yn rhaid imi adrodd
hanes gwleidyddol Môn i unrhyw un sydd yn darllen hwn, ond fe wyddoch fod pobl
Môn yn licio’u cynrychiolwyr cyfredol ar y cyfan. Y tro diwethaf i aelod
seneddol/cynulliad cyfredol golli ar yr Ynys oedd 1951 – ers hynny, yr unig
ffordd y collasai plaid yma oedd drwy newid ymgeisydd.
Dwi’n tueddu i feddwl drwy
gynnal isetholiad y bydd gan Blaid Cymru fantais yn hyn o beth. Fe’i gwelir o
hyd fel deiliad y sedd, ac mae’n haws amddiffyn sedd na’i chipio beth bynnag.
Mantais Plaid Cymru felly.
Rhaid hefyd nodi bod Plaid Cymru
wedi – ar ôl degawd o geisio – sortio’i hun allan ar Fôn. Y mae’r drefniadaeth
yn dda, a gwnaeth y Blaid gystal ag y gallai fod wedi yn yr etholiadau lleol
diweddar. Er i ambell un fynegi siom nad enillodd fwy o seddi, ac i bawb ohonom
ryfeddu braidd ar naïfrwydd/twpdra’r Blaid yn dilyn yr etholiad, roedd yn
enillydd clir. Roedd iddi seiliau cadarn eto ar Fôn.
Gair i gall – ni all rhywun ddarllen
gormod i ganlyniadau etholiadau lleol ar y cyfan. Mae dweud bod Plaid Cymru yn siŵr
o ennill yr isetholiad yn seiliedig ar etholiadau cyngor yr un mor dwp â dweud
bod UKIP yn dirywio ledled Cymru am ei bod wedi gwneud yn wael ym Môn. Ond yn
yr achos hwn mae’n bosibl bod yr etholiadau cyngor yn fwy arwyddocaol nag y
bydden nhw fel arfer, a hynny yn syml oherwydd agosrwydd y ddau etholiad at ei
gilydd. Mae momentwm yn beth peryg.
Mewn theori, hefyd, dylai
etholiad Cynulliad fod yn dir mwy ffrwythlon i Blaid Cymru nag etholiad San
Steffan. Ond mi fuaswn i’n rhoi cyngor caredig fan hyn nad dyma’r achos yn
llwyr. Y gwir plaen ydi, ers 1999, mae patrymau pleidleisio etholiadau
Cynulliad a San Steffan wedi dechrau bod yn gymharol debyg i’w gilydd. Mae gan
Blaid Cymru fantais mewn etholiadau Cynulliad, ond dydi hi ddim yn fantais
enfawr. Ystyriwch hyn: yn etholiad San Steffan 2010 enillodd Plaid Cymru 9,029
o bleidleisiau. Flwyddyn yn ddiweddarach, yn etholiadau’r Cynulliad, enillodd
9,969 o bleidleisiau. Dydi o ddim yn wahaniaeth rhyfeddol.
Felly, yn gryno, dydi’r
ffaith fod isetholiad Cynulliad, yn hytrach nag isetholiad San Steffan, ar y
gorwel, ddim yn fanteisiol tu hwnt. Ac fel y gwelir yn gyson, yr hyn sy’n
digwydd yn San Steffan sy’n dylanwadu ar bleidleisiau pobl mewn bron pob etholiad
arall ar lefel is. Mantais Llafur felly?
Llafur ydi’r unig
blaid sy’n her wirioneddol i Blaid Cymru yn yr isetholiad (af i ddim i oblygiadau ymgeisyddiaeth bosibl Peter Rogers yma). Ond mae wedi dod i’r
amlwg fod Llafur mewn cryn lanast ym Môn. Ni ellir anwybyddu’r etholiad
trychinebus a gafodd ddeufis nôl, nac ychwaith y ffaith nad ydi Llafur wedi
gwneud yn well na 3ydd mewn unrhyw etholiad Cynulliad yma. Dydi Llafur Môn ddim
yn y sefyllfa gryfaf ar hyn o bryd. A, hyd y gwelaf i, dydi Llafur ddim yn
gwneud gystal yn y polau ag y dylai fod yn ei wneud. Gweddol, go lew, ar y
gorau ydi’r arolygon barn iddi.
Ond – gyda Llafur sedd yn
fyr o fwyafrif ym Mae Caerdydd – bydd Llafur yn ymdrechu’n galed yma y tro hwn.
Ac mi fydd yr hyn sy’n digwydd yn San Steffan
yn fanteisiol iddi. Dwi’n amau a fydd yn ddigon o fantais, ond er hynny rhaid
wynebu un gwirionedd anghysurus: does dim angen trefniadaeth nag ymgyrch dda ar
Lafur i wneud yn dda mewn seddi yng Nghymru. Tair sedd yn unig – Dwyfor
Meirionnydd, Ceredigion a Threfaldwyn – sydd yn gyfan gwbl tu hwnt i afael
Llafur yng Nghymru. Dydi Môn yn sicr iawn ddim yn y categori hwn.
Os hoffech astudiaeth achos
roedd etholiad Arfon yn 2010 yn un berffaith. Ar yr un ochr roedd gan Blaid Cymru
AS cyfredol, aelodaeth gref, ymgyrch gadarn, ymgyrchwyr brwd a niferus a
chyllid digonol. Doedd gan Lafur yr un o’r rhain, heb sôn am y ffaith fod y
blaid ar fin colli etholiad dan arweinyddiaeth anobeithiol Gordon Brown. Ac eto, nid oedd ond fil a hanner o bleidleisiau
rhwng y ddwy blaid pan ddaeth noson y cyfrif.
Ysywaeth, gwirionedd y
sefyllfa wleidyddol yng Nghymru benbaladr bron â bod ydi nad oes angen i Lafur
wneud fawr ddim i wneud yn dda mewn etholiad. Serch hynny, mi fentraf ddweud
mai prin ydi’r rhai sy’n meddwl o ddifrif fod Llafur am ennill yr isetholiad
pan ddaw. Po gyntaf y gwaethaf.
Un ffactor arall sy’n rhaid
ei drafod – er na chynigia i sylwadau ar neb – ydi ymgeiswyr. Un o wendidau
mawrion Plaid Cymru ym Môn ers blynyddoedd maith ydi dewis ymgeiswyr gwan,
anaddas i ymladd etholiadau. Yn wir, heb isio bod yn gas, mi fentrwn i ddweud fod
y dewisiadau a gafwyd ers 2001 wedi ymylu ar drychinebus. Rŵan, does gen i ddim
syniad pwy fydd y rhai a fydd yn cynnig eu henwau i ennill Môn, yn sicr nid yn
rhengoedd Llafur, ond dyma chi sedd lle mae’r ymgeisydd yn bwysicach na’r arfer.
Os dewisa unrhyw blaid y person anghywir mae o wedi canu arni ar Fôn.
Ond i grynhoi, roedd
penderfyniad IWJ yn un craff. Mae gan Blaid Cymru’r fantais yma ar hyn o bryd,
a dwi’n tybio waeth beth fo’r sefyllfa wleidyddol yn 2016 y byddai’n anoddach iddi
ennill Ynys Môn bryd hynny nag y bydd ar hyn o bryd. Ac eto, mae ennill yn
hanfodol. Os na fydd beryg y bydd yn rhaid aros oes nes ennill yma eto – yn achos
Ynys Môn, yn llythrennol!