giovedì, ottobre 10, 2019

Gwella'n dawel

“ ‘Doeddwn i ddim yn siŵr sut na ph’un ai a ddylwn i ysgrifennu’r isod; mae’r ffaith fy mod i’n ei ddweud o’n eironig ynddi’i hun, fel y gwelwch maes o law. Ond mi benderfynais ei ysgrifennu, achos dwi’n meddwl fod yna bobl sydd angen ei glywed.”

Fel yna ddechreuais i’r blog hwn. Roeddwn i wedi dechrau ysgrifennu hyn drwy sôn am fy mhroblemau a’m profiadau iechyd meddwl fy hun, ond hanner ffordd drwy’r llith honno mi benderfynais nad dyna oedd y ffordd i fynd, ac na ddeuai i mi dda ohono. Achos pwynt y blog hwn ydi cyfleu, yn syml, fod pethau gwahanol yn gweithio i bobl wahanol pan mae’n dod i iechyd meddwl.

Rydym ni’n byw mewn oes lle mae siarad yn agored am iechyd meddwl yn haws ac yn fwy cyffredin. Dydi hynny ddim yn beth drwg ac nid beirniadu hynny ydw i. Mae dad-stigmateiddio’n hollbwysig yn y maes hwn, a dydyn ni dal ddim yn lle y dylem fod o ran hynny. Ond, mae’n bwysig i unrhyw un sy’n dioddef wybod hefyd nad oes rheidrwydd arnoch chi i ddelio â phethau yn y modd hwnnw ychwaith.

A dwi’n teimlo rheidrwydd i ddweud hynny achos dwi ddim yn teimlo fod o’n rhywbeth sy’n cael ei ddweud, a dwi’n siŵr y caiff rhai pobl allan yno gysur o wybod jyst achos eich bod chi’n delio â phethau’n dawel, dydi hynny ddim yn golygu eich bod chi’n delio â phethau y ffordd rong. Na, nid peidio â thrafod a chelu sydd gen i dan sylw, wna hynny ddim lles, ond yn hytrach os ydych chi’n fwy cyfforddus ddim yn trafod yn agored, mae trafod yn breifat yn hollol iawn.

Dylai neb ddioddef yn dawel. Byth. Ond os ydi gweithredu’n dawel ac yn bersonol yn gweithio i chi, ewch amdani.

Fy hun, dwi’n anghyfforddus ac amharod yn siarad yn agored am fy iechyd meddwl penodol a phersonol; roeddwn i’n meddwl y dylwn ei wneud at ddiben y blogiad hwn, er eironi’r peth, cyn sylwi fod hynny’n groes i’r hyn yr oeddwn i am ei gyfleu. Yn wir, dwi ddim yn gyfforddus hyd yn oed yn cyffwrdd ar y peth mewn fforwm mor agored â fy mlog. Ia, cymhleth, mi wn.  Ond y pwynt ydi; ‘does angen i mi fod yn gyfforddus â gwneud hynny, ac mae hynny’n iawn.

Gall pethau fel y cyfryngau cymdeithasol fod yn fagl (yn nau ystyr, bagl neu magl, y gair hwnnw) wrth wneud hynny; dwi’n sicr y byddai i mi - magl un dyn yw rhyddid y llall! Dydw i ddim isio hynny i mi fy hun. Ac os nad ydych chi, rhaid atgyfnerthu’r pwynt - dim problem - mae’n bwysig i bobl sy’n teimlo felly ddeall fod hynny’n ffordd hollol deg a dilys o ddelio ag iechyd meddwl os mae’n gweithio i chi.

Dydi hynny ddim gyfystyr â dweud na ddylid trafod y peth o gwbl neu geisio ei anwybyddu; go brin fod unrhyw rai ohonom wir yn ddigon cryf i wneud hynny. Mae gen i bobl dwi’n nabod y galla’ i ddibynnu arnyn nhw, a siarad efo nhw, os oes rhaid – dydw i ddim yn benodol ffodus o ran hynny, cofiwch wir-yr fod y bobl hynny’n eich bywyd chi hefyd (ffrindiau, teulu, therapydd, pobl rydych chi’n nabod sydd yn neu wedi bod drwy’r un peth – dim ots pwy, maen nhw yno).

I mi, bydd sgwrs dros ddiod dawel neu decst preifat bob amser yn fwy o therapi na dweud wrth y byd be sydd yn fy mhen. Gallwn fod yn agored a heb gywilydd, ac eto heb ddweud wrth bawb.

Mae’n hawdd gwella o dorri coes – mae ‘na weithdrefn i’w dilyn – ond does yna’r un ffordd o wybod sut y gwnaiff un person penodol ddelio â phroblemau iechyd meddwl. Ffeindiwch eich ffordd chi, a chadwch ati. Achos ‘mae ‘na ffordd i bawb wneud hynny, jyst mater diflas, hir ond gwerth chweil ydi hi o’i ffeindio.

Os oes yna unrhyw beth uchod yn taro tant gyda chi, mae ‘na groeso i chi gysylltu efo fi yn rhyddidigymru@gmail.com. Fel dwi’n dweud, mae’n bwysig trafod, ond drwy hynny gofio na thrafod mewn ffordd ac mewn gofod sy’n gyfforddus i chi sydd angen i chi ei wneud.

Pob hwyl i chi.