“He’s an ugly little bloke, but humourous and clever”
-- Mam, am Ian Hislop
Mae rhywbeth adfywiol iawn am law'r Gogledd. Does gwair yng Nghaerdydd sydd mor ir, nac yn arogli cystal â gwair y Gogledd. A dydi hi ddim fel bo’r Gogledd yn wlypach na Chaerdydd: trwy’r wythnos mae hi ‘di bod yn dywydd crap yng Nghaerdydd, ac yn ôl adroddiadau cyson Mam a Nain yn eithaf braf yn y Gogledd. Wedyn dw i’n cyrraedd, ac mae’n newid byd.
Ydw, dw i’n ôl yn Rachub, cadarnle’r Gymraeg a smôcs rhad. Richmond, gan amlaf. Ond tu hwnt i’r pwynt hynny ydyw. Dw i’n falch o fod yn ôl. Mae mynd i’r ysgol yn llawer mwy blinedig i athro na disgybl, er cyn hwylused ydyw chwerthin am ben rhai o’r plant rhyfeddach, ymhyfrydu yn wir garedigrwydd a mwynder rhai, a blino ar y rhai trahaus ac anghynnes. Go damnia na chaf i eu henwi yma.
Felly dyna grynodeb byr ac eithaf aneglur o’m hanes diweddar ichwi. Byddaf yn dysgu fy ngwers gyntaf yr wythnos nesaf; ac er mai dim ond blwyddyn 7 y byddaf yn eu herio mae fy nerfau yn cael y gorau ohonof. Cefais freuddwyd, gwelwch, am fy ngwers gyntaf, ac fe fu’n rhaid imi weiddi nerth fy mhen a gyrru dau ddisgybl allan o’r dosbarth. Er mwyn Duw, na fydded hi fel’na go iawn.
2 commenti:
Dwi'n cofio pryd symudes i lawr o'r canolbarth i Gerdiff ges i fy synnu pa mor dwym mae hi!
peidied ef a phoeni'n ormodol am ei wers gyntaf. Poen a thosturi y cei o boeni'n ormodol. Gan amlaf mae'r wers honno'n mynd yn well na'r disgwyl! ond wedi dweud hynny mae'n debyg y byddai ef yn rhoi ffwt in mowth a gneud smonach go iawn. Athro shit y byddi ond arfer gwna'r plant ag athro shit, nid mod i'n gwybod hynny gan mai gwychathro ollalleuog sgil a gwybodaeth diderfyn yw f'enw nid TIWBS?????
Posta un commento