Felly, beth ydw i yn ei hoffi am y Nadolig? Dyna gwestiwn nad ydw i wedi ei ateb, erioed. I neb. Er mwyn cydymffurfio â hwyl yr ŵyl (yn faleisus o amharod) dw i’n meddwl y dylwn drafod hyn mymryn. Cewch weld wedyn fy mod yn berson neis, wedi’r cwbl (mae hyn yn gelwydd llwyr a dwi ddim am i chi ei ledaenu. Diolch).
Yn gyntaf, ydw, dw i’n yn hoffi’r goleuadau mymryn. Hynny yw, nid y goleuadau lu a welir ar dai cyngor a thai pobl gomon sy’n gweithio’n Spar dw i’n feddwl, ond y rhai go iawn swyddogol mewn trefi a phentrefi ar y waliau bob ochr i’r strydoedd. Mae rheiny’n eithaf neis.
Iawn, dydi twrci ddim yn wych ond dw i yn ei licio. A chinio Nadolig. Wn i ddim pe sylweddolech chi, ond cinio Nadolig ydi cinio dydd Sul efo sosejys wedi’u lapio mewn bacwn. Ond ta waeth. Mae’n flasus iawn, oni bai eich bod chi wedi meddwi gormod ar Noswaith Nadolig.
Dyna un peth fydda i’n hoffi hefyd. Noswaith Nadolig, a mynd am ‘chydig o beints lawr i Besda. Er y trais a’r trywanu a’r smac a’r cwffio mae o hyd hiraeth parhaol yn fy nghalon am fynd o amgylch tafarndai Bethesda, a gweld pobl nad ydw i’n eu gweld yn aml iawn. A minnau ddim yn gweld fy nheulu mor aml a hoffwn, mae’r Nadolig hefyd yn gyfle i’w gweld unwaith eto.
A thu ôl i’r Sion Corns a’r coed Nadolig a’r anrhegion dyna dw i’n licio am ‘Ddolig, gweld pawb. Bydd hyd yn oed Myfi yn dymuno ‘Nadolig Llawen’ i bobl, ac yn ei feddwl (fel arfer yr unig frawddegau y byddaf yn eu dweud ac yn eu golygu ydi “dos i nôl peint i mi” a “sod off Dyfed”).
Ah, dwi’n teimlo’n fwynach o lawer ar ôl dweud hynny. Mae blog yn therapi da.
1 commento:
Un o'n hoff atgofion fel plentyn oedd fynd gyda'n nhad i Fethesda a Gerlan i fynd ag anrhegion i Nain ac Anti Ceri. Yn anffodus heb fod am flynyddoedd. Bydd rhaid i mi fynd a'r mab a'r merch i Ddyffryn Ogwen cyn bo hir.
Posta un commento