Be ffwc ‘di ffradach? Oes y ffasiwn air yn bodoli, neu ai rhywbeth a fathais yn fy meddwod Nadoligaidd ydoedd? Wn i ddim, ond mae o wedi bod yng nghefn fy meddwl ers talwm, a ‘sgen i ddim mynadd chwilio geiriadur Bruce, a dydi Cysill da i ddim i neb mewn difri calon.
Wedi cam-glywed oeddwn i, gan gredu bod rhywun yn galw ‘spring onion’ yn ffradach. Y gair y byddaf yn ei ddefnyddio yw sloj; wn i ddim amdanoch chi. Fodd bynnag, fel y merllys a drafodwyd gynt, mae sawl gair Cymraeg am y ‘spring onion’ hefyd. Dywed Bruce mai sibolsyn, siolen, sgaliwn a shibwnsyn ydyw’r geiriau ar ei chyfer, sydd eto yn fwy na sydd i’r Saesneg (er yn ddibwynt felly).
Yn wir, cymaint o hoff yr ydwyf o’r gair sloj fel y byddaf yn prynu’r llysieuyn ei hun yn ddyfal, dim ond er mwyn cael dweud wrth bobl fy mod wedi cael ‘sloj i de’ neithiwr. Nid celwydd mo hyn: o ran eu blas ni welaf fawr o rinwedd iddynt, ond o ran y gair sloj mi fwytwn un y diwrnod pe cawn y cyfle.
Reit, dyna bum gair Cymraeg am y ‘spring onion’. Tybed a oes mwy?
1 commento:
Ystyr 'ffradach' yw llanast, traed moch neu pan fo popeth yn mynd wyneb i waered, anhrefn ac ati. Wi'n ei weid e - mae'r gair bron a bod yn onomatopeig - i'm clust i ta p'un i. Wi newydd gwglo'r gair a nace fi yw'r unig un sy'n ei weid e diolch byth - own i yn dechra ama.
Shibwns wedwn i am spring onions ac mae'n depyg taw shibwnsyn bysa fe tasa ti'n cal un o'nhw ;-)
Posta un commento