lunedì, marzo 10, 2008

S4C

Iawn, iawn gêm wych ac ati, ‘sdim pwynt i mi fynd drwy’r mosiwns yn dweud sut wnes i feddwi a pha mor wych ydi Cymru, achos mi fyddwch yn gwybod neu’n dyfalu neu’n amgyffred hyn oll yn barod. Meddwl am S4C o’n i.

Yn tŷ fues i’n gwylio’r gêm efo Sion, a hynny ar S4C, mwy oherwydd fy mod i’n hoffi clywed HLlD yn dweud pethau fel ‘y deunaw stôn o Donga’ a phiso chwerthin ar hynny. Mae ‘na rhywbeth anfarwol o ddoniol am glywed ‘y gwŷr mewn gwyrdd’ a ‘Pharch Crôc’, ond efallai mai fy hiwmor syml i ydi hynny.

Meddwl oeddwn i faint ydw i’n gwylio S4C, ac mi synnais fy mod i’n ei wylio yn eithaf defodol. Mi wnaf ymdrech go iawn i wylio pethau fel Codi Canu a Johnathan, oherwydd dwi’n eu mwynhau, a Phobol y Cwm ydi’r unig opera sebon dw i’n ei wylio’n rheolaidd, ond am Neighbours (wrth gwrs) a Hollyoaks (dw i’m yn gwylio Hollyoaks ond mae o wastad ar ôl y Simpsons a fyddai ar y we ar ôl y Simpsons a ddim yn newid sianel - am 7 fel arfer dw i dal ar-lein ond yn dueddol o droi’r sianel i S4C a chael Wedi 7 arnodd). Ond mae PyC yn cymharu'n ffafriol efo'r sebonau opera Saesneg mawr: maen nhw'n wirioneddol gachlyd.

Am 7.30 fel arfer mi roddaf Newyddion ‘mlaen. Ar ôl tua 9 rhaid i mi ddweud mai troi at y Saesneg y byddaf ond dw i’n wirioneddol edrych ymlaen at Natur Cymru fydd ar am 9 heno (a diolch i Dduw am hynny, rhaid i rywun lenwi bwlch ar ôl Life in Cold Blood, fedrai’m neud heb raglenni natur am hir). A dweud y gwir, ar wahân i ambell i gachloddest fel Mosgito mae S4C yn olreit y dyddiau hyn. Fe aeth drwy gyfnod. Tua phum mlynedd yn ôl yn sicr roedd arlwy S4C yn wael, ond mae’r safon wedi codi erbyn hyn ac mae’n cymharu’n ffafriol â’r sianeli Saesneg analog.

Rhaid i S4C geisio cynnig rhywbeth i bawb: yn aml ceisir plesio pawb gan lwyddo gyda neb, ond bydd rhai pobl wastad yn cwyno amdani. Ond ers rhyw ddwy flynedd, mae S4C wedi gwella, ac yn olreit ar y cyfan.

Y broblem fawr, o ran y ffigurau gwylio, yn fy marn i, ydi y bu i’r sianel golli llawer o wylwyr yn ystod y cyfnod hwnnw pan ddisgynnodd y safon yn isel iawn, a heb eu hennill yn ôl. Ond o roi cyfle iddi, dydi hi ddim yn ddrwg, ac mae’n cael gormod o feirniadaeth a dim digon o glod yn aml iawn. Ond mewn gwlad mor anwadal â hon, beth arall y gellid ei ddisgwyl?

1 commento:

Dyfrig ha detto...

Dwi'n meddwl mai'r busnes "cynnig rhywbeth i bawb" ydi problem S4C. Hynny yw, os ti'n licio rygbi, ti'n siwr o ffeindio digon i dy ddiddanu, ac mae'r un fath yn wir am un neu ddau o faesydd eraill - byd natur, cerddoriaeth, neu dai a chartrefi. Ac mae'r ddarpariaeth ddrama yn eithaf da, o ystyried.
Gwendid y sianel yw'r rhaglenni am bethau mwy ymenyddol. Mae llawer iawn o raglenni dogfen y sianel yn ymdrin a pethau emosiynol, human interest, yn hytrach na syniadau. Mae'r celfyddydau yn cael eu gwthio i mewn i ghetto hanner awr Y Sioe Gelf. Ac mae'r ddarpariaeth newyddion a materion cyfoes yn drychinebus o wael. Gan mae'r pethau hyn yw fy niddordebau fi, prin y bydda i'n gwylio'r sianel o gwbl - gwaetha'r modd.