venerdì, maggio 02, 2008

Plaid yn cipio Gerlan - hwrê!

Hoffwn i fod y cyntaf i gynnig llongyfarchiadau gwresog i Dyfrig am ennill ward Gerlan (sydd, yn bwysicach fyth, yn cynnwys Rachub – a dweud y gwir dwi’m yn hapus iawn na Gerlan ydi enw’r ward. Cynnig enw mwy addas: Rachub) yn disodli Llafur. Dwi ddim yn gwybod yr union ganlyniad oherwydd na fedraf fynd i safle Gwynedd, a ph’un bynnag Maes E sydd â’r gossip diweddaraf i gyd heddiw!

Er fy nadrithio diweddar o'r Blaid, dwi’n eithaf ffigwr o gasineb i rai o Lafurwyr Rachub, felly mae’n wirioneddol wneud i mi wenu’n slei tu fewn bod Plaid Cymru wedi, am y tro cyntaf erioed, cipio’r ward ar y cyngor oddi wrthynt. Llongyfarchiadau eto!

(Methu disgwyl i weld a ydi Sion White yn ennill heno yng Nghwmderi!!)

1 commento:

Dyfrig ha detto...

Diolch o galon i chdi. Mi oedd hi'n dipyn o synod, i ddeud y gwir. Roeddwn i'n gobeithio ella byswn i'n dod yn agos, neu yn ffliwcio hi o rhyw 1 bleidlais. Ond doeddwn i rioed yn dychmygu buddugoliaeth go iawn.
Er diddordeb, mi fues i'n gwylio'r bocsus yn cael eu gwagio nos iau. Roedd bocs Gerlan yn drwm er fy mhlaid i (2:1 i fi), yn ol y disgwyl. Ond mi oedd bocs Rachub yn rhannu yn eithaf cyfartal i lawr y canol, a dyna oedd yr help mawr.