Mwy na digon trahaus ydwyf i allu dweud y galla i wisgo fel y mynnaf ac edrych yn weddol gall. Iawn, mi gyfaddefaf, nid goth o’r radd flaenaf y byddwn, ond dwi’n iawn efo popeth arall, fwy neu lai. Yr un olwg na fedrai er fy myw edrych yn hanner call ynddo ydi’n ffurfio, crys a thei ac ati. Rŵan, nid y peth deliaf mohonof p’un bynnag ond efo crys a thei dwi ar fy ngwaethaf - sydd, gadewch i mi eich sicrhau, yn bur ffycin ofnadwy.
Ond ow, ond ow, ond ow, mi gachodd dderyn ar fy mhen ddoe. Yn bur ffodus, yn fy ymdrech parhaus, ond nad digalon o aflwyddiannus, i fod yn cŵl, roeddwn yn gwisgo sbectols haul, neu shêds fel y bydd pobl sy’n ymdrechu i fod yn cŵl yn ei ddweud, ar fy mhen. Yn bur ffodus tarodd y cachu hwnnw ac arbedwyd fy ngwallt yn gyffredinol. R’on i’n meddwl mai diferyn mawr o ddŵr o’r coed ydoedd, tan i mi sylwi nad brown a gafaeladwy mo dŵr. Cywir oedd fy namcaniaeth a bu’n rhaid i mi olchi fy ngwallt yn y gweithle.
2 commenti:
On i'n meddwl mai Llandudno oedd y lle i gael anffawd debyg i hyn:) Fe gafodd ffrind i mi lond gwallt o'r stwff wrth iddi gerdded ar y prom.
Eniwê, mi ddylia ti brynu ticedi lottery ychwanegol yr wythnos yma....lwc dda i ti !
Haaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaa ha ha ha ha ha ha ha ha haaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaa ha ha ha ha ha ha haaaaaaaaaaa! Ohhhh mae hyn yn gwneud i mi chwerthin! Dwei'n gytud nad oni yno i weld y peth yn disgwydd. Wedi dweud hynny baswn i wedi chwydu wrth chwerthin gymaint fel nes i'n sdeddfod! O leia nath o d'orfodi di i gael wash!
Posta un commento