Does gen i ddim math o ddiddordeb yn y Gemau Olympaidd. Am ryw reswm fydda i’n hoffi javelin ac mi fedraf wylio’r deifio (dwi mond yn dweud hynny oherwydd y bu i mi ei weld yn chwilio am newyddion a phenderfynu gwylio’r gweddill ohono), ond ar wahân i hynny dyma’r tro dwi’n teimlo sympathi dros y bobl hynny sy’n casáu pêl-droed ond sy’n cael cachlwyth ohono bob yn ail flwyddyn yn ystod yr haf.
Ond mae ‘na ddimensiwn gwbl wahanol i’r Gemau Olympaidd. Y peth ydi, dwi’n teimlo wedi fy eithrio yn gyfan gwbl, oherwydd ‘does 'na’r un tîm sy’n fy nghynrychioli i, na’r un tîm felly nid o reidrwydd i mi ei gefnogi, ond y gallaf ei gefnogi.
Ga’i roi enghraifft. Y ddynes beicio, Nicole Cook. Iawn, da iawn hi ac ati ond wyddoch chi, uffern o ots gen i os Cymraeg ydi hi neu ddim. O ran y Gemau Olympaidd, Prydeines ydi Nicole Cook. Prydain bia’r llwyddiant. Nid Cymru. Mae hi’n cynrychioli baner Prydain – baner nad yw’n ei chynrychioli, hyd yn oed.
Buddugoliaeth Brydeinig ydyw. Dyna ddiwedd arni. Pam fod cymaint o Gymry, hyd yn oed y rhai cenedlaetholgar, yn mynnu cefnogi hynny? Dwi jyst ddim yn dallt.
Cymraes ai peidio, sut ydw i, fel un sydd ddim hyd yn oed yn credu ym modolaeth Prydain y wladwriaeth, yn fod i hyd yn oed godi gwên? O waelod perfeddion fy myw, alla i ddim, oherwydd cynrychioli gwlad arall, sy’n amherthnasol i mi, y mae hi. Cynrychioli baner estron, yr wyf yn casáu’r hyn y mae hi’n sefyll drosto, y mae hi.
Dyna y mae hi, a phob ryw athletwr arall sy’n hanu o Gymru, yn ei gynrychioli ar hyn o bryd. Iawn, i’r rhai ohonoch sydd yn Brydeiniwr, digon i’r. I’r “cenedlaetholwyr” sy’n mynnu eu cefnogi, dydyn nhw ddim yn eich cynrychioli – felly pam eu cefnogi? Ffycin ddeffrowch, myn uffern i.
2 commenti:
lowri llew syma - ma dy flog di'n wirioneddol wych, keep up the good work my friend!
Rwy'n ddeall be ti'n dweud ac yn cytuno i raddau, ond o feddwl am athletwr mwyaf llwyddiannus Cymru, Tanni Grey Thompson - mae hi wedi ennill bron y cyfan o'i medalau yn enw Prydain, ac wedi cael ei gwneud yn Dame gan y Cwin o'r herwydd - ond does dim amau ei bod hi'n Gymraes dwymgalon.
Cyn Nicole, mae'n debyg mae Lynn the Leap oedd y Cymro diwethaf i ennill medal aur Olympaidd (1964). Dros Brydain enillwyd y fedal honno hefyd, mae ei gamp wedi ei hen anghofio ym Mhrydain bellach, ond mae'r dyn yn parhau i fod yn chwedlonol yng Nghymru.
Mi fyddai'n braf cael tîm Olympaidd o Gymru - bydda'r medals yn brin - ond ow! byddant yn fythgofiadwy!
Posta un commento