Efallai fy mod i’n swnio’n rêl cyfieithydd bach trist, ond mae safon iaith yn bwysig i mi, ac mae bratiaith yn troi fy stumog. Wn i ddim p’un a wnaethoch wylio Taro 9 neithiwr, a drafododd ddirywiad y Gymraeg ymhlith plant ysgol, ond dydi hi fawr o syndod, er ei fod yn benbleth ac yn gwneud fawr o synnwyr.
Fy “nghenhedlaeth” i (nid dyma’r gair cywir ac mi egluraf pam nes ymlaen) ydi un o’r rhai olaf, mi gredaf, fydd â Chymraeg cref, naturiol. Yn 23 oed, mae gen i a llawer iawn o’m cyfeillion, yng Nghaerdydd o bob rhan o’r wlad neu’r rhai yn Nyffryn Ogwen, grap ar ymadroddion ac idiomau, ac rydym yn siarad Cymraeg gyda’n gilydd.
Dwi ddim yn honni o gwbl fod i ni Gymraeg perffaith di-wall, mae hynny’n gwbl anghywir. Ond eto mae hynny’n rhywbeth sy’n gyffredinol gan y cenedlaethau. Os ystyrir cenhedlaeth fy Nain (70+), maen nhw’n defnyddio llawer mwy o eiriau Saesneg unigol na ni, ‘eroplên’, ‘compiwtar’, ‘e-mail’ ac ati. Yn wir, bu i fy modryb sydd newydd gyrraedd ei 60, dwi’n credu, ddweud wrthyf fod gan fy nghenhedlaeth ‘Cymraeg posh’. Clod yn wir.
Ia wir, Cymraeg gwerinol sydd gennym ni. Mae gen i brofiad prin o’r Gymraeg yn ysgolion y cymoedd, ac er mor braf yw gweld twf yn nifer siaradwyr Cymraeg (h.y. y nifer sy’n medru Cymraeg - gwyddom oll yn iawn fod nifer y bobl sy’n defnyddio Cymraeg fel eu prif iaith ar drai ers cyn cof) de Cymru ni ellir disgwyl i blant ysgol yn y fan honno ddysgu Cymraeg naturiol - daw Cymraeg naturiol o siarad Cymraeg gyda’r teulu, gyda ffrindiau ac i raddau helaeth drwy fyw mewn cymdeithas Gymraeg. Gyda dirywiad enbyd y pethau hynny, dirywiad a welir yn y Gymraeg ei hun, hefyd.
Ond yn yr ardaloedd Cymraeg ac ymhlith teuluoedd Cymraeg digwyddodd rhywbeth i’r ‘genhedlaeth’ nesaf. Sôn wyf i am genhedlaeth fy chwaer. Dydyn nhw ddim yn genhedlaeth wahanol i ni - tair blynedd yn iau, ond o siarad â ffrindiau sydd â brodyr a chwiorydd o’r oedran hwnnw daw un peth yn drist o amlwg - mae safon eu Cymraeg yn is na ni, ac maent hefyd yn siarad llai o Gymraeg na ni.
Mi dorrodd rhywbeth yn rhywle, rhywsut. A hynny’n ddiweddar. Nid ydynt mor hoff o gerddoriaeth Gymraeg - galla i ddim dychmygu fy chwaer yn defnyddio Facebook Cymraeg neu’n ymuno â Maes E (yn wir, pan sefydlwyd Maes E roedd rhai o’r aelodau amlycaf yn ifanc - tua 16-17 oed - faint o bobl mor ifanc â hynny sydd bellach ar Faes E? Ddim cymaint). Dydi’r un cariad at iaith ddim yn amlwg yn eu plith.
Y peth trist ydi, dw i ddim yn meddwl fy mod yn gor-gyffredinoli.
Efallai bod y cymunedau Cymraeg wedi dirywio ychydig yn ormod, wn i ddim. Efallai bod oes datganoli wedi gwneud pobl yn rhy gyfforddus parthed yr iaith. Ond mae un ffaith yn sicr. Mae’r Gymraeg yn wannach ymhlith yr ifanc (sef i’r perwyl hwn pobl sy’n 20 oed ac yn iau) nag y bu erioed, ac yn deillio o hynny mae safon y Gymraeg yn dirywio. I nifer, dydi hi jyst ddim digon pwysig i boeni amdani. Geiriau yw iaith – dyna’r cyfan.
Wn i ddim, efallai bod rhywbeth felly’n dod ag aeddfedrwydd. Efallai mai’r lleiafrif a gynhaliodd safon erioed. Ond os yw iaith yn datgymalu, mae hi’n marw. Os mae hi’n colli ei chystrawen, yn cyfieithu yn slafaidd ac yn ymwared â’i hymadroddion, nid iaith mohoni mwyach.
Wn i ddim, ychwaith, ddyfodol y Gymraeg, neu p’un a oes dyfodol iddi mewn gwirionedd. Ond mi wn os bydd y duedd sydd ohoni’n parhau, bydd y dyfodol hwnnw ychydig yn llai goleuach nag y bu.
Nessun commento:
Posta un commento