Pan oeddwn fachgen ac yn aros yn nhŷ Nain (a oedd, gyda llaw, yn argyhoeddedig fod y byd ar fin dod i ben wythnos diwethaf achos bod y môr yn Llanfairfechan mor chwareus) byddwn yn aml ar ddydd Sadwrn yn eistedd yn y lownj a gwylio un o gemau Uwchgyngrhair Rygbi Cymru. Tua phryd hynny hefyd fe ges bwl o ddiddordeb mewn caneuon traddodiadol y Cymry, ac yn eu plith caneuon rygbi. Sosban Fach, bob tro, oedd fy ffefryn. Mae’n un o’r caneuon hynny dwi’n parhau’n hoff iawn ohoni.
Ta waeth, gan nad oedd dim byd arall ar y teledu ar bnawn Sadwrn penderfynais y byddai’n rhaid i mi gefnogi tîm. Wn i ddim ai oherwydd naws Cymraeg y clwb, neu Sosban Fach neu oherwydd bod Yma o Hyd weithiau’n bloeddio o’r seinyddion y bu i mi fagu hoffter o glwb rygbi Llanelli, a bu i mi addo i’m hun y byddwn ryw bryd yn mynd draw i Barc y Strade i’w gwylio yn chwarae. Felly gyda chryn siom heddiw dwi’n sylwi na wnes hynny byth, ac na fyddaf byth yn gwneud.
Byddwn i wedi hoffi gweld y Scarlets yn chwarae yn y Strade, hefyd. Fel llawer o gogs, er fy mod i’n frwd iawn ar y lefel ryngwladol, does gen i fawr o deyrngarwch at ‘run o’r rhanbarthau. Y Scarlets, mae’n siŵr, ydi fy ffefryn, oherwydd hoffter fy nglaslencyndod o Lanelli, ond os ydych chi’n byw pedair awr i ffwrdd dydi hynny ddim yn magu cefnogaeth a theyrngarwch, ac er fy mod i’n byw yng Nghaerdydd, fydd Caerdydd byth yn gartref i mi, felly fydda i ddim yn dilyn y Gleision.
P’un bynnag, mae’n drist bod cymaint o hanes rygbi yn dod i ben heddiw wrth i’r Scarlets chwarae’r gêm olaf erioed ar y Strade. Pob lwc i’r clwb yn y stadiwm newydd. Ond ydw, dwi'n drist na fu i mi erioed weld gêm yno - os oes unrhyw faes rygbi y byddai rhywun isio ymweld â hi, 'does 'na fawr o amheuaeth mai Parc y Strade ydi'r lle eiconig hwnnw.
Nessun commento:
Posta un commento