Fel rhywun sy’n hoff o hud a lledrith, heb sôn am fyw yn ei fyd bach ffiaidd ei hun, dwi’n ymgeisydd perffaith ar gyfer licio llyfrau a ffilmiau Harry Potter, ond dydw i ddim. Dwi’n meddwl bod Harry Potter yn rybish; rhyw fath o Lord of the Rings i blant, a dim ots gen i be ddywedith neb, llyfrau plant ydyn nhw. Well gen i Rala Rwdins a’r Dewin Doeth, o leia eu bod nhw’n dallt y byd a’i bethau, a byddai Gandalf yn rhoi cweir go iawn i Dymbl-bôr.
Yn fwy na hynny, yn fy ffordd gul o feddwl, byddwn i byth yn ystyried darllen Harry Potter, yn yr un modd na fyddwn yn ystyried rhoi fy mys mewn cachu ci (neu mewn ci). Dydi gweld plant yn achub y byd ddim yn beth call, achos wnaiff hynny ddim digwydd. Ar gyfer pethau megis, dydi plant yn dda i ddim – todded y pegynau cyn hir, a’r môr a fydd yn traflyncu’r tir, a bydd Joni Bach Tŷ Pen yn blydi iwsles.
Mi es i weld un o’r ffilmiau yn y pictiwrs ‘fyd. Yr un diwethaf oedd o, a dwi ddim yn cofio’r enw, achos mae ‘na ormod o’r ffilmiau wedi bod. Dwi’n cofio bod yn eitha bôrd, os rhywbeth. Cofiwch, mi fyddaf yn gwylio’r ffilmiau adeg y Nadolig neu pan fônt ar ITV ryw ddydd Sul, ond tai’m i drafferth na chost i wneud.
Y broblem fwyaf ydi nad ydi Daniel Radrhywbeth yn gallu actio. Mae o’n rybish. Mae o’n rhy wael i Bobol y Cwm. Mae hynny’n uffernol o wael, ac yn angheuol felly.
Mae ‘na rai wrth gwrs sy wedi tyfu i fyny efo Harry Potter (neu ddim tyfu fyny os ydach chi’n dallt be sy gen i). Rolocs i hynny. Dwi byth wedi dallt pobl sy’n archebu tocynnau ymlaen llaw i fynd i weld ffilm gan eu bod nhw’n obsesd, a dwi ddim yn fodlon eu dallt nhw chwaith, yn enwedig pobl hŷn sy’n mynd i weld ffilmiau plant. Fel Harry Potter.
Nessun commento:
Posta un commento