Mai jyst yn afiach, tydi? Ai dyma’r drydedd wythnos yn olynol i law ein taro’n ddi-baid? Dydi o’n gwneud dim lles i’r tamp yn y bathrwm – fydd rhif 6 wedi hen ddymchwel erbyn diwedd tymor y monsŵn. Y tro diwethaf i ni gael haf go iawn oedd 2006, os cofiaf yn gywir. Ches i fawr o haf a minnau wedi cracio fy mhen-glin, sy’n drueni, ond dyna’r tro diwethaf y cawsom haul a sychder o ryw lun. Fel hyn y bydd hi o hyn ymlaen, medda’ nhw, hafau gwlyb a chlos, fel maen nhw’n eu cael yn y jwngwl.
Ffoniodd Mam a dweud ei bod hi’r un fath yn y Gogs. Gwir ganlyniad hyn ydi yn lle yfed, dwi’n bwyta, ac wedi magu hanner stôn o rywle yn ddiweddar, sy ddim digon o ysbardun i wneud i mi fwyta cachu fel yr hipi-dwdl-ai-ês ar y penwythnos. Mynd drwy gyfnod o bwyta llawer gormod o gaws ydw i, dachi’n gweld. Os bydd y tywydd yn braf gallaf fynd o’r tŷ ac felly osgoi bwyta caws, ond gan fod y tywydd fel ‘ma mae’r tŷ yn frith o gracyrs, tostwysau a brechdanau caws i gyd yn mynd i’r gâd i’m gwneud yn dew.
Ond yn fwy na hynny oll, mae gweld yr haf yn diflannu yn ddigon i ddigalonni rhywun. P’un a ydych chi’n un am y tywydd braf ai peidio (ac fel y gwyddoch gan fy mod yn crybwyll y peth mor aml, dwi ddim) mae rhywun yn teimlo eu bod nhw’n fod i wneud rhywbeth yn ystod yr haf – i fod yn onest ar y funud mae’n teimlo fel gwastraff o hanner blwyddyn. Asu, mae'n rhaid bod 'na rywbeth gwell i'w wneud na blogio, siawns?
Nessun commento:
Posta un commento