mercoledì, luglio 01, 2009

Carlo - 40 mlynedd o lyfu tin

Felly deugain mlynedd yn ôl cafodd Carlo ei arwisgo yng Nghaernarfon. Efo rhywfaint o lwc, welwn ni mo’r fath daeogrwydd eto. Os daw, gobeithio y ceir protest a gwrthsefyll a gwrthwynebwyd fel y gwelwyd y tro diwethaf. Tybed a fydd gan Gymru’r egni i wneud hynny?

Na, fwy na thebyg.

Yn ôl arolwg barn gan y BBC mae tua 60% o blaid swydd Tywysog Cymru, a thua’r un faint o blaid arwisgiad arall pan ddaw’r tro. Fe’m synnwyd gan y canlyniad, rhaid i mi gyfaddef. Mae’n torri ‘nghalon fy mod yn Gymro i’r carn sy’n aml iawn yn teimlo cywilydd o fod yn Gymro. O weld taeogrwydd a diffyg hyder pobl Cymru dro ar ôl tro, heb sôn am y difaterwch cyffredinol at yr iaith, yr agwedd ddi-asgwrn cefn at annibynniaeth; dwi’n aml iawn yn meddwl y buasai’n well petawn wedi dilyn ochr Saesneg fy nhreftadaeth bersonol ac i’r diawl a’r Cymro ynof. Mi fyddai’n haws, o leiaf.

Ond yn ôl at Carlo. Dau bwynt yn unig y galla i wneud am hyn, fel un nad oedd yn agos at gael ei geni yn ystod y cyfnod. Y cyntaf ydi, dwi ddim yn weiniaethwr. Ddim o gwbl, mewn difri. Mae unrhyw wlad sydd â threftadaeth a hanes mor gyfoethog, gyda theyrn yn goron ar hynny (esgusodwch y pun gwael), yn iawn gen i. ‘Does gen i ddim byd yn erbyn y syniad o deulu brenhinol – gall yn fwy na dim grisialu gwlad, ei huno a’i hyrwyddo.

Yr ail bwynt ydi hwn: y broblem ydi mai’r wlad dan sylw ydi Lloegr. Dyna fy ngwrthwynebiad i fod yn ddeiliad i’r frenhines. Pe bawn i’n Sais (cyflawn) mi fyddwn i’n falch o’r teulu brenhinol.

Ond fel cenedlaetholwr, mae swydd Carlo yn swydd dwi’n ei weld fel sarhad ar Gymru. Mae’r egwyddor yn syml: os oes angen tywysog ar Gymru, dylai hwnnw fod yn Gymro. Mae Carlo’n symbol o orthymiad y Cymry, yn symbol o genedl a goncwerwyd. Os ydi 60% ohonom go wir yn gefnogol i hynny, yn wirioneddol credu y gall mwyaf Sais y Saeson gynrychioli Cymru, waeth i ni fod yn Orllewin Lloegr ddim.

2 commenti:

Dylan ha detto...

Dw i'n amheus iawn o'r arolwg Beaufort yna. 58% yn swnio'n anhygoel o uchel. Mae'n debyg (yn ôl y disgwyl) mai'r henoed sydd fwyaf gefnogol i'r goron a Charlo, ond hyd yn oed wedyn dw i'n ei chael hi'n anodd derbyn y ffigwr.

Ta waeth am hynny, mi wna i fwyta fy nhrôns os fydd arwisgiad arall (a mi wna i fwyta bob un pâar yn fy nrôr os fydd un yn Dre!). Dw i'n meddwl bod David Melding yn agos iawn ati: pan ddaw diwrnod coroni Carlo, mi fydd o'n cadw teitl Tywysog Cymru. Mi fyddai hynny'n arbed lot o strach i bawb am wn i.

Hogyn o Rachub ha detto...

Jyst er gwybodaeth dwi hefyd yn amheus o'r ffigur o 58% - yn enwedig yn fy mhrofiad i, ac yn benodol iawn oherwydd Beaufort Research sydd wedi cynnal yr arolwg!

Serch hynny dydi gallu annatod y Cymry i gymryd cam yn ôl pan ddylen nhw fod yn cymryd un ymlaen byth yn stopio fy rhyfeddu.