giovedì, aprile 22, 2010

Y Syrj Rhyddfrydol - cyfle i Blaid Cymru?

Fel y fi, mae’n siŵr eich bod wedi cael cryn sioc efo cynnydd y Dems Rhydd, y syrj honedig, ers y ddadl ddiwethaf. Er nad ydi polau Cymreig yn ddibynadwy ac na wn innau’n bersonol fanylion yr arolwg diwethaf, mae’n ddiddorol ystyried sut y gall effeithio ar rai o seddau Cymru, yn benodol i ni genedlaetholwyr rai o dargedau’r Blaid.

Dwi ddim am wneud unrhyw broffwydoliaethau terfynol nes yr etholiad – dwi’n mwy a llai sicr fy marn am sawl sedd. Gobeithio y caf llapllop newydd i fedru blogio’n fyw ar y noson! Ond dyma ambell feddwl cyflym am ambell sedd.

Yn gyntaf, dylai’r syrj (gair hyll mi wn!), er gwaethaf ei effaith honedig ar bleidlais Plaid Cymru, fod o fudd i Blaid Cymru mewn ambell sedd. Tra y gall y Rhyddfrydwyr fanteisio ar y gwymp arfaethedig mewn llefydd fel Caerdydd ac Abertawe, ac yn wir y Cymoedd, gan gyfyngu Plaid Cymru i golli eu hernes mewn ambell le, mae’n llai tebygol o effeithio ar dargedau’r Blaid. Heb unrhyw amheuaeth, bydd cynnydd ym mhleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol o fudd i Blaid Cymru yn Nwyfor Meirionnydd a Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr o ran sicrhau mwyafrif iach yr olwg. Byddai hefyd yn sicrhau Arfon (ac yn ôl y sôn mae gan y Blaid bryderon am effaith pleidlais Bangor yno) ac o bosib hefyd yn gwneud Môn, lle gall ambell gannoedd wneud gwahaniaeth enfawr, yn darged mwy cyrraeddadwy.

Dwi’n tueddu i feddwl hefyd, os y parha’r syrj, y gall fod o fudd i Blaid Cymru yn Aberconwy, gan mai’r Ceidwadwyr yr ymddengys fyddai’n dioddef ohono fwyaf. Yn ogystal â hyn, gall hefyd droi Llanelli’n werdd, os ydi ambell Lafurwr yn penderfynu rhoi fôt i’r Rhyddfrydwyr (hyd yn oed petaent am roi i’r Blaid cyn y dadleuon) – yn y sedd honno, alla’ i ddim gweld y syrj yn effeithio ar Blaid Cymru yn fwy na Llafur. Hebddo ai peidio, dwi’n eithaf hyderus bellach y bydd Plaid Cymru yn cipio Llanelli eleni, ond byddai gwybodaeth leol gan rywun yn wych – rhowch wybod!

Ceredigion ydi’r un ddiddorol. Yn arwynebol, ymddengys y byddai parhau â’r syrj yn sicrhau dychwelyd Mark Williams. Ond mae llygedyn o obaith i Blaid Cymru. Y tro diwethaf, roedd y cynnydd yn y bleidlais ryddfrydol yn unol â chwymp debyg yn y bleidlais Dorïaidd. Gyda’r Dems Rhydd ar gynnydd, ar draul y blaid las, mae’n bosibl y bydd y Ceidwadwyr hynny yn troi’n ôl i geisio rhoi hwb i’w plaid naturiol.

Y tro diwethaf, hefyd, Plaid Cymru oedd y gelyn. Mae’r ffaith bod Ceredigion bellach yn diriogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn gadael iddyn nhw gyflawni’r rôl honno, ond gyda’r cynnydd honedig yn y bleidlais ryddfrydol gall eu gelyniaethu’n fwy fyth. Hynny yw, y Democratiaid Rhyddfrydol y byddai’r Ceidwadwyr a Llafurwyr isio’u hatal. Gall hynny, yn ddamcaniaethol ac yng Ngheredigion, olygu bod Ceidwadwyr a Llafurwyr yn fwy parod o fenthyg pleidlais i Blaid Cymru, ac yn sicr olygu na fyddant mor fodlon ar fenthyg pleidlais i’r Dems Rhydd fel yn 2005. Mae’n rhywbeth nas gwelwyd ac nas ystyriwyd hyd yn hyn yn unman, ond oherwydd y polau gall gael ei wireddu: pleidlais wrth-Ryddfrydol.

Tybed faint o Lafurwyr neu Dorïaid fyddai’n fodlon ar gynghreirio, i bob pwrpas, i atal y drefn wleidyddol gyfredol rhag newid ar eu traul?

Mae wrth gwrs bythefnos yn weddill cyn i ni fwrw’n pleidleisiau. Gall unrhyw beth ddigwydd. Ond ni ddylai Plaid Cymru ddigalonni gormod ar sail polau. Gall y sefyllfa fod yn debyg i 1987, pan gynyddodd y Blaid ei chynrychiolaeth ond y tu allan i’r targedau cafodd etholiad siomedig tu hwnt. Os bydd y syrj yn parhau, dydi hi ddim yn amhosibl y gallai ddisgyn i drydydd neu bedwerydd mewn sawl man y dylai fod wedi dod yn ail, ond gan gynyddu ei chynrychiolaeth i bedwar, pump, chwech neu hyd yn oed y saith hudol.

Ymgyrchwyr llawr gwlad sy’n gwybod orau, wrth gwrs, ond dyma fy namcaniaeth bersonol. Croeso i chi ei chadarnhau neu ei gwrthod – byddai gen i ddiddordeb mawr mewn clywed y naill ffordd!

5 commenti:

Anonimo ha detto...

Mae gen i gof o glywed rhai o ymgyrchwyr lleol Plaid Cymru yn Llanelli yn dweud i'r bleidlais Ryddfrydol golapsio bron yn llwyr yn etholiad diwethaf y Cynulliad, a bod hynny wedi mynd law yn llaw a chynnydd sylweddol pleidleisiau Plaid Cymru, gan roi mwyafrif deche i Helen Mary. Felly, os ydy hynny'n awgrymu bod cyn-bleidleiswyr rhyddfrydol wedi benthyg pleidlais i Blaid Cymru, falle mai gweithio'n erbyn Plaid Cymru y gwneith y syrj ma y tro hyn.

Wedi dweud hynny, os ddaru nhw fenthyg pleidlais i Blaid Cymru'r tro diwethaf, er mwyn cael Llafur mas, wedyn fe allai rwyun ddisgwyl i lawer ohonyn nhw wneud yr un peth y tro hyn.

Ar y cyfan, rwy'n go hyderus am Lanelli ac Ynys Mon. Ond rwy'n poeni am Geredigion.

Iwan

Hogyn o Rachub ha detto...

Yn ystadegol byddai hynny'n anghywir, achos enillodd Plaid Cymru bron i 4,000 o bleidleisiau'n fwy yn 2007 nag yn 2003, gyda'r bleidlais Ryddfrydol i lawr llai na 600 (-3.3%) felly mae rheswm i gredu na fydd y bleidlais honno'n effeithio ar y canlyniad terfynol.

Fel, dwi'n hyderus am Lanelli ac erbyn hyn Ynys Môn. Ond Ceredigion, wn i ddim - a 'does dwywaith amdani, RHAID i Blaid Cymru adennill Ceredigion.

Anonimo ha detto...

Mae'n dda o beth dy fod ti'n hyderus ac yn gweld goleuni yn hyn i gyd.

Mae arna i ofn mod i ddim.

Yn gyffredinol mae Etholiad Cyffredinol (San Steffan) yn frwydr rhwng dwy blaid - coch a glas. Mae'r drydedd bleidlais yn cael ei rannu rhwng eraill.

Gall y dair bleidlais newid yn ddibynol ar y zeitgeist a ffactorau mawr y dydd, ond yn gyffredinol mae'r patrwm yn aros yr un fath.

Mae hyn oherwydd fod yna gonsensws dawel wedi bodoli yn Llundain i gadw'r drefn wleidyddol fel ag y mae.

Yn Lloegr mae'r drydedd bledlias yn gyffredinol wedi mynd at y Lib Dems. Nid yn gymaint fel pleidlais bositif ond yn hytrach fel un negyddol.

Yng Nghymru mae'r dewis wedi bod yn amgenach, gyda'r Blaid yn cynnig trydydd opsiwn yn ogystal. Mae'r Blaid wedi llwyddo i adeiladu casgliad gref o bleidleisiau positif, yn enwedig yn dilyn sefydlu y Cynulliad Cenedlaethol - datblygiad a ddaeth yn uniongyrchol o ganlyniad i Blaid Cymru. Ond ar y cyfan, oherwydd natur Prydeinig yr etholiad, oherwydd Prydeindod naturiol y cyfryngau a'r system, mae'r Blaid yn ddibynol ar bleidlais negyddol ermwyn ennill y mwyafrif o'i seddau. Dyma'r achos yn Aberconwy a Llanelli er enghraifft, ac i raddau llai Ceredigion. Mae Mon yn eithriad!

Mewn etholiad pan fo'r trydydd plaid Llundeinig yn cael rhanu'r un llwyfan a'r ddwy blaid arall, a'r holl sylw a hyrwyddo a ddaw yn sgil hynny, mae gan hyn oblygiadau anferthol ar y '3ydd plaid arall' yng Nghymru; yn sydyn iawn yn lle gorfod argyhoeddi pleidleiswyr y 'None-of-the-above' i fotio Plaid yn lle'r Libs ar yr un telerau a'r Libs, mae'r Libs yn gallu mopio'r bleidlais yma i fyny trwy eu cyrraedd drwy'r dadleuon teledu a'r holl balava dilynol.

Y peryg yw y gwelwn ni gwymp ym mhleidlais y Blaid, a chynnydd cyfatebol ym mhleidlais y Libs. Bydd canlyniad Dwyfor Meirion yn ddiddorol, gan fod PC mor gryf yno, os fydd pleidlais y Libs wedi cynyddu a PC wedi disgyn tua'r un graddau, bydd y peth yn berffaith amlwg.

Yn sydyn iawn mae Llanelli ac Aberconwy yn fregus. Mae Mon yn wahanol am fod Peter Rogers yno. Mae Ceredigion...wel...mae'n gas gen i feddwl...

Hogyn o Rachub ha detto...

Dwi'n deall dy gonsyrn ac yn ei rannu, yn enwedig o ran nifer y pleidleisiau y caiff y Blaid. Gall lithro is y 10% os ydi'r hinsawdd bresennol yn parhau ac mi fydd hynny'n drychineb.

O ran Ceredigion, un peth ddyweda' i o blaid Plaid Cymru ydi dwi o'r farn na all pleidlais y Rhyddfrydwyr gynyddu llawer yma o'r tro diwethaf - naill ai o'r pleidiau eraill neu'n gyffredinol. Yn sicr, mae'n anodd iawn gen i weld y Dems Rhydd yn dod yn agos at 14,000 yng Ngheredigion - ond mae hynny o fewn cyrraedd Plaid Cymru.

Dyddiau pryderus serch hynny.

Anonimo ha detto...

wedi bod yn meddwl ychydig bach yn fwy am hyn parthed Ceredigion, ac erbyn hyn ychydig yn fwy optimistaidd.

Yn syml, yn 2005 y tebygrwydd yw fod y bleidlais Lafur a Cheidwadol yng Ngheredigion wedi cyrraedd ei isafswm - aiff hi ddim llawer yn is.

Os felly, ble mae'r Libs yn mynd i ffeindio y nifer angenrheidiol o bleidleisiau i guro'r Blaid?

Yn hanesyddol mae gan y Blaid 12,000 o bleidleisiau soled yng Ngheredigion.

Os aiff y gwelwn ni gynnydd ym mhleidlais y Ceidwadwyr, yna ar drail y Libs bydd hyn.

Eu hunig obaith yw trwy ddenu mwy o bleidleiswyr newydd,'turn-out' uchel, a chadw pleidlais Tori/Llafur 2005. Mae am fod yn anodd iawn iddyn nhw sicrhau hyn oll.

Wedi bod yn Arfon a Mon - waw! positif iawn, iawn, iawn i Blaid Cymru.

Wedi treulio peth amser yn Aberconwy - mae'n rhoi ofn i mi gweld y fath ymateb positif ar y stepen drws yno. Mae Phil yn adnabyddus a phoblogaidd, ac mae'r Ceidwadwyr yn wanach nag oeddwn i'n ddisgwyl Mae'r bleidlais Lafur i weld yn 'colapso'. Rwy wedi dechrau cyffroi ynghylch Aberconwy!!!