Wn i ddim be fydd yn digwydd de. Fydda ni’n well mae’n siŵr achos mi gawn ni fwy o bensiwn. Gwell na thair ceiniog o godiad gafon ni llynadd. Tair ceiniog, wel be wneith rhywun efo tair ceiniog? Fedar rhywun ddim prynu torth efo tair ceiniog hyd yn oed. Mi fydd pobol yn lluchio tair ceiniog i ffwrdd rŵan. Lluchio fo i ffwrdd lawr y stryd.
Mae gynnon ni Gymraeg gwell na nhw yn y De, de. Mae’n siŵr eu bod nhw’n ein dallt ni’n siarad achos ni sy’n siarad y Gymraeg cywir yn de, ond fydda ni ddim yn eu dallt nhw’n iawn, so o’n i’n cytuno efo hynny ar y rhaglan Gwylwyr ‘na.
Bydd selogion y blog hwn (sud wyt?) wedi hen wybod o ddarllen yr uchod mai Nain ddywedodd y geiriau hyn. Siaradwn ar y ffôn yn bur aml a phan dro’r sgwrs at faterion y dydd gwrando a chytuno fydda i yn hytrach na cheisio cyflwyno dadl gall. Fentrwn i ddim dweud wrthi ei fod o’n hollol rong bod pensiynwyr yn cael codiad mawr yn eu pres tra bod ffïoedd myfyrwyr yn mynd tua’r nefoedd. Fel dywedodd rhywun a oedd newydd gael ei bas bws “mae’r hen bobol yn cael popeth a dydi pobol ifanc yn cael dim byd a dydi o’m yn iawn” a chytuno fydda i â hynny.
Mae ‘na ryw dueddiad dros y ddegawd ddiwethaf o gosbi’r ifanc a gwobrwyo’r hen – y gwir ydi mae’n haws bod yn hen nac yn ifanc heddiw. Pa help a gaiff pobl ifanc gan y Llywodraeth mewn difrif? Rhwng dyledion myfyriwr a diffyg swyddi pa obaith sydd i’r lliaws brynu tŷ, bwrw gwreiddiau, magu teulu ac ati? Fawr ddim. Ac mae pensiynwyr yn cael pasys bws i fynd i le y mynnent. Mae’n annhecach fyth o feddwl mai’r meddygon a’r nyrsys a’r gweithwyr gofal cymdeithasol o’r to iau a fydd yn gofalu am y to hŷn i raddau helaeth. Iau yw’r rhai a fydd yn darparu eu gwasanaethau ac ifanc y milwyr a anfonir dramor ‘er eu mwyn’. A chyfieithu ar eu cyfer, wrth gwrs .... !
Ceir ym Mhrydain heddiw mi deimlaf ddiwylliant gwrth-ifanc. Yn ôl y papurau newydd y genhedlaeth iau ydi gwraidd pob drwg, a dydi gwleidyddion fawr well. Ac mae hyn oll mewn oes y mae bod yn ifanc (pa ddiffiniad bynnag sydd gennych o ‘ifanc’) yn anoddach nag erioed, p’un a ydych yn yr ysgol yn astudio neu’n chwilio am eich swydd gyntaf neu gartref. Yn wir, dydi’r byd na’r Gymru a etifeddir gan y genhedlaeth nesaf fwy nag anrheg rad funud-olaf. Os bernir pob cenhedlaeth gan y genhedlaeth a esgorir ganddi, fydd y llyfrau hanes yn cynnig beirniadaeth lom.
A’r byd yn y fath lanast, prin fod ei etifeddu’n dasg ddymunol.
Ta waeth, rant drosodd. Ffrae dragwyddol yw ffrae’r cenedlaethau, fela mai a fela fydd. Un o’m hoff gerddi yn ddiweddar ydi ‘1914-1918 yr Ieuainc wrth yr Hen” gan W.J. Gruffydd. Cerdd wych, efallai’n sôn am ddigwyddiad penodol y Rhyfel Mawr ond eto mae’n dangos yn noeth iawn berthynas y cenedlaethau. Ac, ew, mae ‘na ddeud i’r pennill olaf:
Mae melltith ar ein gwefus ni
Yn chwerw, ond eto cyfyd gwên,
Wrth gofio nad awn byth fel chwi,
Wrth gofio nad awn byth yn hen.
2 commenti:
"Mae ‘na ryw dueddiad dros y ddegawd ddiwethaf o gosbi’r ifanc a gwobrwyo’r hen"
Mae mwy o bobol hen yn pleidleisio na pobol ifanc! Dyna pam.
Rwy ti'n iawn dwi o hyd yn gweld hyn. Mae'r gân ond oedden nhw'n ddyddie da yn dod i meddwl. Popeth o'r gorffennol yn wych ac yn danllyd ac yn ysbrydoliaeth. Ry'n ni'r ifanc rhy witwat fel base mam-gu yn gweud. Hollol rong oedd hi hefyd ond byddwn i byth yn mentro dadlau â hi.
Posta un commento