Ers i mi ysgrifennu at y Frenhines yn ysgol fach a gofyn iddi fod yn penpal i mi, sef yn hawdd iawn y peth mwyaf geeky i mi ei wneud erioed, mae gen i berthynas ryfedd â’r teulu brenhinol ... a nid oherwydd am na chytunodd. Dydw i ddim yn frenhinwr nac yn weriniaethwr o reddf. Petai Cymru’n rhydd mi a groesawn ailddyrchafiad y Tywysogion lawn cymaint â gweriniaeth Gymreig. Mae hyn oherwydd nad oes gen i wrthwynebiad egwyddorol at y syniad o deulu brenhinol ac mi allaf weld rhinweddau i’r fath system, yn ogystal â’i methiannau.
Mae’n rhyfedd i mi fod cymaint o’m cyd-genedlaetholwyr mor reddfol wrth-frenhinol i raddau. Ni fedraf mewn ffordd ddeall yr agwedd hon. Mae gen i wrthwynebiad at y teulu brenhinol mewn un ystyr yn unig: teulu brenhinol Lloegr ydyw. Dyna f’unig broblem, a dyna pam nad ydw i’n ei gydnabod; nid a berthyna i Gymru.
Wrth gwrs, mae’r teitl ‘Tywysog Cymru’ yn sarhad enfawr ar genedl y Cymry: er fel pob sarhad ac anfantais arall sydd arnom ein bai ni ydi hynny am beidio â bod yn ddigon aeddfed i reoli ein gwlad dros ein hunain. Ond serch hynny, mae’r teitl ei hun yn symbol o’n caethiwed a’n trechu. Mae’n wrthun i mi a dylai fod yn wrthyn i genedlaetholwyr ar sail eu cenedlaetholdeb – nid y syniad o ddarpar weriniaeth Brydeinig.
Fy ngwrthwynebiad yw hwn: ni ddylai Sais feddu ar y faith deitl. Mae p’un a ddylai rhywun o gwbl yn fater arall ond gall unrhyw un hanner call gytuno ar y ffaith os oes tywysog, dylai fod yn Gymro. Neu dywysoges yn Gymraes blah blah.
Ond y gwir ydi hyn: mae’r teulu brenhinol yn gwbl amherthnasol i genedlaetholwyr. Dylem ni ddim bod yn cwyno ein bod yn ei erbyn ar sail ‘rydyn ni’n genedlaetholwyr ac felly’n weriniaethwyr’ – sydd ddim o reidrwydd yr achos beth bynnag – ond yn hytrach ‘rydyn ni’n genedlaetholwyr’ atalnod llawn. Mae 'na rywbeth trendy leftie iawn am y sylw a roddir weithiau o'n tu. Annibyniaeth, nid gwerthiniaeth Brydeinig, ddylai fod nid yn unig un o’n nodau yn y maes hwn, ond ein hunig nod.
Yn y bôn, dylai cenedlaetholwyr Cymru dderbyn gan mai teulu brenhinol Lloegr ydyw, mai penderfyniad y Saeson ydyw p’un ai i’w gadw ai peidio. Dylen ni ddim gwastraffu’r un ronyn o’n hymdrech na’n sylw ar y ddadl gweriniaeth/brenhiniaeth eithr canolbwyntio ar annibyniaeth ein gwlad a pha system bynnag a ddaw’n ei sgîl. Fel y dywedais mewn post isod; diwedd Prydain, nid newid Prydain.
3 commenti:
Cytuno'n llwyr, rwy'n gweld y syniad o Gymru fel rhan o'r Weriniaeth Unedig yr un mor wrthyn i'm cenedligrwydd ac ydy cael Cymru yn rhan o'r Deyrnas Unedig.
I gael Tywysog newydd ar y Gymru rydd bydd rhaid dethol yr ymgeisydd llwyddiannus trwy wres brwydr yn ôl ein traddodiad. Ti eisiau ffeit?
Bob amser!
Er fy mod yn byw yn America (mewn gweriniaeth), dwi am wneud cwpl ddwy o sylwadau am y pwnc. Fel brodor de-ddwyrain Cymru a fagwyd yn Lloegr hefyd, dwi'n dod o deulu o frenhinwyr. Heddiw, does dim ots 'da fi os ydy'r Saeson eisiau brenhiniaeth, ond fel chi dwi'n ystyried "tywysogiaeth Cymru" fel sarhad ar ein cenedl. Serch hynny, mae'n eglur bod llawer o Gymru'n addoli'r teulu brenhinol, a'r frenhiniaeth yn clymu'r Derynas Gyfunol wrth ei gilydd. Efallai hynny sydd yn esbonio awydd cenedlaetholwyr am "Weriniaeth Brydeinig." Heb y frenhiniaeth, byddai datgorfforiad y DU, ac annibyniaeth i Gymru, llawer mwy tebygol.
Os gallaf wneud awgrymiad, beth am ddefnyddio'r gair "tywysog," gair cytras i "taoiseach" yng Ngwyddeleg, fel teitl arweinydd etholedig y Cymry?
Posta un commento