Y mae hi’r adeg o’r flwyddyn i orgyffredinoli yn y ffordd fwyaf erchyll posibl. Na, dwi’m am sôn am y Sipswn, achos dwi’n sobor, ond yn hytrach y Cymry (gwrol, dewr, halen y ddaear) a’r Saeson (anfadrwydd pur).
Ryw synfyfyrio wnes am hyn, a dwn i ddim a ydw i’n iawn mewn gwirionedd ond dwi’n meddwl bod elfen o wirionedd i’r peth. A na, heblaw am Mam a’m Taid, dwi ddim yn nabod Sais mewn difrif. Yn wir, o bob un o’m ffrindiau Facebook prin, nad ydw i’n licio’u hanner nhw beth bynnag, un yn unig na fedr y Gymraeg – sef Sais sydd, am ryw reswm, o dan yr argraff mai Almaenwr ydyw. Rhaid i mi ddweud petawn Sais ac fy mod am ddewis cenedligrwydd arall (a phetawn Sais mi a wnawn), nid bod yn Almaenwr fyddai ar frig y rhestr.
Na, rhywbeth am hiwmor y Cymry a’r Saeson sydd i raddau helaeth yn wrthgyferbyniad llwyr rhyngom. Derbynnir yn helaeth, ac mae elfen o wirionedd iddi, fod y Cymry’n cael eithaf trafferth gwneud hwyl am ben eu gwlad a’u hiaith. Does fawr o wadu’r peth mewn difrif, cenedl bach touchy iawn ydan ni, sydd i raddau helaeth yn deillio o’n gwladgarwch brau a’n hansicrwydd cenedlaethol. Gwrthgyferbynnir hyn yn llwyr gan y Saeson – y mae’r Sais yn ddigon parod i wneud hwyl am bob agwedd ar Loegr, a dydyn nhw ddim yn meindio gormod pobl eraill yn ei wneud o ychwaith.
Yn gryno, ar lefel genedlaethol, gall y Sais chwerthin ar ei hun ond prin y gall y Cymro. Y gwahaniaeth ydym ni fel unigolion.
Heb amheuaeth, mae bod yn sarhaus chwaraeus, neu ‘cymryd y piss’ fel y d’wedwn yn Gymraeg, yn elfen bwysig o hiwmor Cymreig – ond nid dim ond ar bobl eraill, ond arnom ni’n hunain. Heb fod yn sentimenalaidd ond mae’n rhywbeth eithaf annwyl amdanom; ac mi wnaiff y Cymry gael y math hwn o hwyl gydag, ac ar, ei gilydd gyda phobl sy’n newydd iddynt.
Dwi ddim o’r farn bod hyn yr un mor wir am Saeson yn gyffredinol – ddim o gwbl a dweud y gwir, ac yn sicr nid i’r un graddau. Y mae’r Saeson yn fwy amddiffynnol o’r hunan a ddim yn licio beirniadaeth, boed honno’n ysgafn a chwaraeus ai peidio, ohonynt eu hunain. Gorgyffredinoli, efallai, ond mae gwirionedd i nodweddion cenedlaethol.
Dyna fy marn a’m hargraffiadau i, beth bynnag. Ond efallai ein bod yn eithaf tebyg wedi’r cwbl. I nifer o Gymry, mae ymosodiad ar Gymru a’i phethau yn ymosodiad personol, a ninnau yn wahanol i’m cymdogion wedi’n diffinio cymaint gan ein gwlad, mewn ffordd fwy cynhenid. Serch hynny, mae ein hanallu cyffredinol i chwerthin arnom ein hunain yn deillio o’n diffyg hyder ynom ni’n hunain. Ond rydym yn araf fagu hyder, ac mae ‘na newid ar droed dwi’n credu.
Os bydd Cymru yma mewn can mlynedd (a rhyngo chi a fi, dwi ddim yn hyderus am hynny – blogiad arall!), gobeithio y gall chwerthin ar ei hun – mae’n un wers werthfawr y gallwn ei dysgu gan y Saeson yn sicr.
3 commenti:
Mae'r blog yma rhy hir o beth uffar. Ti'n llawer mwy ffraeth yn y blogs byr.
Dwi hyd yn oed yn fwy ffraeth mewn dau air...
Fel dywedodd rhywun rhywbryd y gwahaniaeth rhwng Jôc Iddewig a Jôc Wrth-Semitig yw pwy sy'n ei adrodd.
Mae 'na wahaniaeth mawr rhwng Dai Llanilar yn ddweud jôc am Fari'r ddafad gariadus yn y Noson Lawen a Jim Davidson yn adrodd yr un hanes yn Theatr yr Apollo Hammersmith Square!
Posta un commento