mercoledì, giugno 08, 2011

Da iawn Ieuan Wyn Jones

A minnau wedi diflasu braidd ar wleidyddiaeth yn ddiweddar pwy feddyliai mai Ieuan Wyn Jones fyddai yn ailysgogi fy niddordeb drwy gadw draw o agoriad swyddogol, taeogaidd, y Cynulliad ddoe? Ac eto, ar yr un pryd, fe wnaeth ymateb rhai o’n gwleidyddion, yn benodol Carwyn Jones a rhai o aelodau’r grŵp Ceidwadol, f’atgoffa pam ei bod mor drybeilig anodd weithiau barchu fy nghydwladwyr. A dweud y gwir, agwedd pobol fel Carwyn Jones sy’n aml yn gwneud i mi gywilyddio yn fy Nghymreictod.
Ond dyna ni, pwy a ddisgwyliai well gan unoliaethwyr?
Dydw i ddim yn cael fawr o gyfle i roi canmoliaeth i Ieuan Wyn Jones ond roedd aros draw o sbwrielbeth ddoe, waeth beth fo’r rhesymau, yn rhywbeth mawr i’w wneud a buaswn i’n rhoi clod enfawr iddo am wneud, yn enwedig fel arweinydd plaid. Fe fyddai wedi bod yn wych petai pob un o ACau Plaid Cymru wedi gwneud. Fe’u hetholwyd yn genedlaetholwyr. Pa ffordd well o sefyll dros genedlaetholdeb nag ymwrthod â’n ffugdeyrn a chadw draw a gwneud rhywbeth a fyddai o fudd i bobl gyffredin Cymru? Dwi’m yn gwybod pwy fyddai isio bod yn rhan o’r llyfu traed sycoffantaidd yn y lle cyntaf; fel cenedlaetholwr mae meddwl am fod yno’n codi cyfog arna’ i. Mae meddwl am tyngu llw i bennaeth estron yn codi cyfog arna’ i, ond dyna sy’n rhaid i lawn wasanaethu’r etholwyr. Ma’r holl beth yn gwbl, gwbl afiach. Buaswn i yn meddwl hynny, wrth gwrs, achos nid Dafydd Êl mohonof.
Beth arall all rhywun ei ddweud ond am

DA IAWN LEANNE WOOD
DA IAWN BETHAN JENKINS
DA IAWN LLYR HUWS GRIFFITHS
DA IAWN LINDSAY WHITTLE
DA IAWN IEUAN WYN JONES
Ac yn 2016, beth am i holl Aelodau Cynulliad Plaid Cymru wneud safiad o’r fath, dros genedlaetholdeb a thros Gymru?

5 commenti:

Anonimo ha detto...

na, sori, roedd hon yn gachfa o'r radd flaenaf gan IWJ.

Roedd y 4 arall wedi aros draw ar bwynt o egwyddor, roedd IWJ wedi rhoi fewn i'w nagging wife neu pwdu neu rhywbeth a pheidio dod i agoriad y Senedd. Duw dad, mae'n ymgyrchu dros rhagor o bwer i'r Cynulliad ac yna'n cadw draw ar yr un diwrnod mewn 4 mlynedd pan mae pawb o bob blaid yn dod at ei gilydd i ddathlu democratiaeth Cymru.

Y drwg yw ei fod yn geffyl cloff i Blaid Cymru nawr. Gall Llafur gega ar y Blaid bob un tro nad oedd IWJ â digon o barch i'r Cynulliad (anghofiwch am y Cwîn) i droi lan i'w hagoriad swyddogol.

Cachfa yn wir.

Hogyn o Rachub ha detto...

Efallai oedd ei resymau am gadw draw yn wahanol i'r lleill ond doedd o ddim yno. A da iawn am hynny. Sut y gall ymweliad y Frenhines fod yn ddathliad o ddemocratiaeth Cymru wn i ddim. Ma'n snyb i'r Frenhines. Go dda me' fi. A gobeithio neith arweinydd nesa Plaid Cymru hynny yn 2016.

Anonimo ha detto...

Anghofia'r Cwîn am funud. Doedd IWJ ddim yn boicotio'r agoriad roedd dan bawd ei wraig oedd wedi ei nagio am fisoedd ei bod hi eisiau gwyliau.

Mae'n gas i'w ddweud, ond basai wedi bod yn well petai IWJ wedi dweud nad oedd yn y Senedd achos nervous breakdown neu anhwylder arall.

Mae hyn yn gachfa o'r radd flaenaf. Moment Michael Foot i IWJ. Dwi'n ofni fydd rhaid iddo ymddiswyddo'r wythnos yma. Mae wedi rhoi ei Blaid mewn diawl o dwll. Ffwl.

Ywain Gwynedd yr Ail ha detto...

Bollocks, mae'n ddigon teg i IWJ roi ei deulu gyntaf, mae o wedi gneud lot dros y wlad sgino ni ohoni a da chi gyd yn fycars aniolchagar i anghofio hynny!!

Anonimo ha detto...

'rhoi ei deulu gyntaf' - Na, roedd agoriad y Senedd yn ddiwrnod gwaith. Bydd ganddo lwyth o wyliau dros yr haf.

Roedd yn mitcho diwrnod gwaith. Syml â hynny.