Wel, dwi mewn man rhyfedd ar y funud. Efallai eich bod chi wedi sylweddoli bod y blog wedi bod yn ddistaw yn ddiweddar a felly fydd hi o hyn ymlaen. A dweud y gwir dim ond hyn a hyn y gallwn ei ddweud am hanesion fy nheulu od. Dydi'r ffaith bod Nain yn honni iddi ond wneud un omlet yn ei bywyd o fawr o ddiddordeb i'r rhan fwyaf o bobl, na'r ffaith i 'Nhaid honni iddi roi blawd efo fo. Fe edrychodd hi arno, yn llawn casineb, a dweud bod 'na "rhywbeth yn rong yn dy ben". Dydi Nain ddim yn licio pobol yn gwneud iddi edrych yn wirion ac i'r diben hwnnw mae rhywun yn hapus iawn nad oes ganddi ryngrwyd.
Ond y prif reswm am ddistawrwydd y blog ydi gwleidyddiaeth, un o gonglfeini fy mwydro dros y blynyddoedd diwethaf. Ydi, mae gwleidyddiaeth yn rhannol ddiddorol ar y funud, ond mae gen i gyfaddefiad. Daeth datgeliad ataf yn ddiweddar sef fy mod i wedi llwyr, llwyr colli diddordeb mewn gwleidyddiaeth. Dwi wedi teimlo'n debyg i hyn ambell waith, ond y tro hwn dwi 'di cael amser i bwyso a mesur yn lle dweud rhywbeth yn ffwrdd â hi.
Dwi wedi fy nadrithio o'r blaen ambell waith. Dwi'n teimlo felly ar y funud. Soniwyd lawer am ddiffyg gwahaniaethau'r pleidiau yn etholiad eleni, ac alla i ddim anghytuno. I'r diben hwnnw, dydw i ddim yn teimlo bod unrhyw blaid yn fy nghynrychioli mwyach. Y mae'r Blaid, yn hytrach na arddel ei chenedlaetholdeb, fel petai'n fwyfwy cilio rhagddo - a dim ond hyn a hyn y gall Cymro Cymraeg oddef clywed "dydyn ni ddim jyst i siaradwyr Cymraeg" heb deimlo ar y naill law wedi'i gymryd yn ganiatol ac ar y llall ychydig yn amhwysig, a hynny'n enwedig gan ein bod i raddau helaeth yn teimlo perchenogaeth dros Blaid Cymru. Dydi geiriau diweddar Adam Price a Rhuanedd Richards ddim wedi gwneud llawer i adfer fy ffydd yng nghenedlaetholdeb diwylliannol y Blaid.
Ac anobeithio sydd hefyd yn beth hawdd ac yn rhywbeth rydyn ni gyd yn ei wneud. Haws fyth gwneud hynny yn y sefyllfa wleidyddol ac ariannol sydd ohoni. Ond mae'n ddyfnach na hynny. Rydyn ni'n nôl i'r dyddiau y credasom eu bod ar ben: tra-arglwyddiaeth Llafur dros Gymru. Ac onid ydym wedi gweld dros y flwyddyn ddiwethaf gynnydd yn lleisiau gelynion yr iaith, o brifysgolion i bentrefi'r de-ddwyrain i ACau newydd Llafur. A pha reswm iddynt beidio â bod uchel eu croch? Mae'n torri fy nghalon hyd dorri f'enaid gwybod bod yr iaith o hyd ar drai, ac wela' i ddim gobaith iddi yn y bôn. Agosáu y mae ei thynged, ac nid tynged da mohono.
Mae rheini'n resymau digonol i wfftio gwleidyddiaeth ond nid dyna fy mhroblem. Gwleidyddiaeth ers blynyddoedd fu fy mhrif ddiddordeb, gwleidyddiaeth bleidiol yn bennaf. Dwi jyst ddim yn gweld gwleidyddiaeth fel rhywbeth sy'n werth poeni amdano ddim mwy. A dwi ddim yn gallu ysgogi fy hun i fod efo ots. Dwi ddim yn darllen nac yn gwylio'r newyddion fel yr arferais. Dwi jyst ddim efo mynadd gwneud.
Fel dwi'n dweud, mae'n hawdd teimlo'n anobeithiol ac wedi dadrithio. Ond mae colli diddordeb yn lefel arall i mi. 'Sgen i jyst ddim ots am wleidyddiaeth ddim mwy, ac yn fwy na hynny ddim awydd ailafael ar fy niddordeb ynddi. Wn i ddim faint o bobl sy'n teimlo felly, ond swni ddim yn synnu os mai 'lot' ydi atab.
Pregeth drosodd.
Nessun commento:
Posta un commento