Gan nad ydi trydar yn cynnig digon o le i
rywun fynegi barn gyflawn, dyma fi yma am y tro cyntaf ers misoedd maith i
wneud hynny, a hynny yn sgîl yr etholiadau lleol a gynhaliwyd ddydd Iau. Dw i’n
teimlo rheidrwydd i fynegi fy hun am hyn oherwydd ambell i ymateb hysteraidd
gan Bleidwyr yn disgrifio’r canlyniad fel trychineb, ac ymateb rhai o’n
gwrthwynebwyr sy’n honni rhywbeth tebyg. Ond doedd o ddim.
Yn gyntaf, chwi gofiwch efallai fy mod i
droeon ar y blog hwn wedi digio i’r dim at Blaid Cymru, yn arbennig ar ôl
canlyniadau 2010 a 2011, pan geisiodd y Blaid honni nad oedd yr etholiadau
hynny’n rhy ddrwg yn y bôn (Er gwybodaeth, dwi wedi ailymaelodi erbyn hyn. Dal i
ddigio at y Blaid yn aml fydda i o hyd cofiwch, mae ‘na lot o bethau dwi’n anghytuno â hi yn eu cylch!). Ond y gwir ydi roedd y ddau etholiad hynny’n
warthus i’r Blaid, a dydw i ddim yn un i roi mêl ar sefyllfa i’w melysu. Deuaf at
fy mhryderon, oherwydd mae digon o resymau i siomi â’r canlyniad, ond gadewch
inni ddweud y ffeithiau.
Collodd Plaid Cymru ddeugain sedd eleni, tua
20% o’i chynghorwyr, sy’n nifer sylweddol. Ond roedd hwn yn etholiad lle roedd ‘na
gorwynt Llafuraidd i’w wynebu. Fe ysgubodd Llafur y gwrthwynebiad i’r neilltu,
ond Plaid Cymru wrthsafodd y storom orau. Collodd y Ceidwadwyr dros draean o’u
seddi nhw, a’r Democratiaid Rhyddfrydol hanner. Collodd aelodau Annibynnol ac
eraill fwy na ni hefyd. Un wers inni yma ydi polau
piniwn. Roedd arolwg barn diweddaraf YouGov yn dweud y câi Llafur tua hanner y
bleidlais, ac fe wnaeth llawer iawn ohonom fwrw amheuaeth fawr drosto – yn sgîl
y canlyniadau synnwn i ddim petai’r arolwg yn agos at y gwir. Rhaid derbyn bod
arolygon barn Cymru erbyn hyn yn rhai sy’n agos ati wrth ddarogan canlyniadau. Nid
y byddai credu’r arolwg wedi bod o fudd, ond pan fydd pethau'n edrych yn ddu yn yr arolygon barn, ddylen ni gymryd sylw.
Cofiwn hefyd, roedd 2008 yn rhyfeddol o dda
inni, i’r fath raddau na wnaethom lawn werthfawrogi’r peth. Enillwyd mewn
ardaloedd nas cynrychiolwyd gennym ynghynt. Er inni golli nifer o seddi yn
2012, ni chollwyd yr enillion hynny’n llwyr. Mae o hyd gynghorwyr yng
Nghaerdydd, Torfaen a Wrecsam, er enghraifft, a gallai hynny fod yn bwysig yn y
dyfodol. Beth am ardaloedd eraill?
Ceir o hyd garfan gref yng Nghaerffili, sy’n
sylfaen i adennill y cyngor y tro nesaf. Roedd Rhondda Cynon Taf, ar y llaw
arall, yn siomedig tu hwnt – ond rhaid cofio, ac eithrio yn ’99, dydyn ni byth
wedi bygwth yno, ac mae’n parhau’n gadarnle dihafal i Lafur. Dydw i ddim yn
gwybod os bydd Leanne Wood yn ein galluogi i atgyfnerthu mewn llefydd felly,
amser a ddengys, ond dydi Leanne heb gael amser eto.
Mae’n biti mawr inni golli Caerffili. Roedd yn
gyngor a reolwyd yn dda iawn, iawn dan ein llywyddiaeth ni. Ond rhaid inni jyst
dderbyn, dydi rheoli cyngor yn dda ddim yn golygu y byddwn ni’n ei gadw dan ein
rheolaeth, a dydi hynny ddim yn unigryw inni – dwi’n siŵr bod digon o gynghorau
Ceidwadol a Rhyddfrydol digon gweithgar a llwyddiannus wedi’u colli i Lafur yn
Lloegr oherwydd y cyd-destun ehangach, a’u bod nhw fel ni yn ddiymadferth i
atal hynny rhag digwydd. Dywedaf yn amharod ond yn wir fod Caerdydd yn
enghraifft dda o hyn.
Hefyd, efallai bod yn rhaid inni dderbyn bod
ein perfformiad ni ddim yn ddibynnol arnom ni’n hunain i raddau helaeth, ond ar
fympwy tueddiadau gwleidyddol Prydeinig. Pwynt niwtral, os rhwystredig iawn,
ydi hynny, gyda llaw – weithiau fydd hi’n dda ac weithiau fydd hi’n waeth – ond
gwell yw cofio hynny pan fo pethau’n edrych yn dywyll arnom na cholli gwallt dros
y peth.
Beth am y gorllewin? Darlun cymysg eto oedd hi.
Yn Sir Gâr, gwrthbwyswyd colledion Llanelli gydag enillion yng ngweddill y Sir,
ac rydym yn parhau fel y blaid fwyaf yno. Rhaid peidio â digalonni gormod â'r hyn ddigwyddodd – rhaid deall bod ardal Llanelli’n parhau yn wleidyddol debycach i’r
Cymoedd na gweddill Sir Gâr, ac o ystyried y storom berffaith a gafodd Llafur
cyn yr etholiad, roedd cadw rhai o’r seddi hynny wastad am fod yn anodd. Roedd Ceredigion
yn siomedig iawn. Un arwydd da oedd inni ennill seddi gan y Dems Rhydd, er inni
golli i aelodau Annibynnol. Serch hynny, mae’n bosib, er ein bod sedd i lawr ar
2008, y bydd hi’n haws denu aelodau annibynnol i’n cefnogi er mwyn arwain y sir
am y tro cyntaf erioed. Neith hynny’n iawn.
Cael a chael oedd hi drwy’r gogledd, heb fawr
newid ar y cyfan. Dylen ni fod yn siomedig na chipiwyd Gwynedd, ond eto cafwyd
perfformiad cryfach nag yn 2008 ... ac mae ‘na isetholiad ar y gorwel a allai
ildio mwyafrif inni. Serch hynny, mae’n amlwg iawn nad ydi Llais Gwynedd ar
ddarfod, a hi bellach yw prif blaid Dwyfor, sef cartref ysbrydol
cenedlaetholdeb. Ac eto, mae’n amlwg iawn bod gwleidyddiaeth Gwynedd – ynghyd â
Cheredigion – yn unigryw ac yn annibynnol ar batrymau cenedlaethol.
Fel y dywedais, mae yna bryderon inni ym
Mhlaid Cymru yn deillio o’r etholiad hwn. Diwedd y gân ydi mi gollasom seddi, er
nad ydym, yn wahanol i’r tair plaid arall, mewn math o rym ar lefel
genedlaethol neu Brydeinig. Hefyd, mae’n amlwg imi, er gwaetha’r ffaith bod ganddi
arweinydd hurt ar lefel Brydeinig, nad
pleidlais brotest yn unig oedd hon i Lafur. Petai’n bleidlais brotest, fe
ddylai Plaid Cymru fod wedi gwneud yn well (tybed a ydym wedi ymbellhau cymaint
o’r ddelwedd ohonom fel plaid brotest fel na allem ddenu pleidlais brotest
mwyach? Trafoder!) – roedd elfen gref iawn o gefnogaeth dros Lafur. Nid dim ond
yng Nghymru y gwelwyd hyn – roedd hi hefyd felly’n Yr Alban, sy’n ddiddorol a
dweud y lleiaf.
Nid oedd cyfnod 1999 – 2009 wedi sefydlu
patrwm amlbleidiol yng Nghymru, fel y tybiasom. Yn hytrach, efallai mai blip i’r
blaid Lafur ydoedd. Efallai ddim – ond mae’n bosibiliad. Y mae’r Cymry yn
draddodiadol yn heidio at Lafur pan fydd pethau’n ddrwg arnynt. Dydi hynny, er
y carem feddwl yn wahanol, heb newid.
Yr her i’r Blaid ydi ei thactegau dros y
blynyddoedd nesaf. Mae’n rhaid iddi fod yn graff, a chofio mai prif nod unrhyw
blaid wleidyddol ydi ennill etholiadau ac nid dadleuon syniadaethol, a bwrw ati
i wneud hynny. Y nod ydi 2016. Mae’n rhy fuan i ddarogan dim, ond tybiai rhywun
y bydd y sefyllfa bryd hynny’n hawdd ei rhagweld. Bydd UKIP a Llafur yn gwneud
yn dda yn 2014. Yn 2015, caiff y glymblaid ei hysgubo o’r neilltu – fydd y Dems
Rhydd wedi’u difa’n llwyr ac mi fydd y Ceidwadwyr mewn sefyllfa debyg i ’97, os
nad yn waeth. Yn wir, rhagwela ambell i sylwebydd y bydd adain dde ranedig ym
Mhrydain erbyn hynny gyda UKIP yn dwyn pleidleisiau lu gan y Ceidwadwyr. A bydd
y blaid Lafur yn etifeddu economi a fydd o hyd mewn cyflwr gwael.
Ac mae hynny oll heb ystyried y ffaith y
gallai’r Alban fod yn annibynnol bryd hynny. Dw i ddim yn gwybod a fydd hi, ond
mae’n elfen arall i’r gymysgedd.
Yn 2016, bydd Llafur wedi rheoli Cymru ers 17
mlynedd hir. Bydd hi mewn grym yn Llundain a hynny yng nghanol trybini
economaidd, gydag arweinydd a etholwyd am nad David Cameron mohono, nid am ei
fod yntau’n boblogaidd ei hun. Bydd gan y Ceidwadwyr a’r Dems Rhydd eu
problemau eu hunain hefyd – dydi hi ddim yn amhosib na fydd y Dems Rhydd yn
bodoli mwyach. Yn debyg i 1999, gallai 2016 fod yn adeg berffaith i awr fawr
Plaid Cymru ddyfod. Yn wir, mewn rhai ffyrdd, gallai fod yn well.
Ta waeth, nôl i rŵan, y pwynt ydi hyn – er nad
ydym ni yn y sefyllfa gryfaf ar hyn o bryd, gallai eleni fod wedi bod yn
llawer, llawer gwaeth. Ond doedd hi ddim. Dydyn ni ddim wedi ein hysgubo o
ardaloedd 2008, er i’n cynrychiolaeth yno leihau, a gwrthsafwyd y storom yn
well na phleidiau eraill, er ein bod ni yn wahanol iddyn nhw wrthi’n ailadeiladu.
Megis dechrau mae’r gwaith hwnnw a megis dechrau mae’r daith i 2016.
Roedd ymateb rhai yn y trydarfyd yn orymateb
llwyr – roedd o’n ymylu ar hysteria. Dw i’n rhannu eich siom i’r dim, ond dydi’r
byd ddim ar ben, ac er ein sefydlu bron i 90 mlynedd yn ôl erbyn hyn, megis
dechrau mae’r frwydr dros ryddid o ddifrif.
A ydy'r sefyllfa yn anobeithiol? Ydy', wrth
gwrs, os bodlonwn ni i anobeithio. 'Does dim yn y byd yn fwy cysurus nag
anobeithio. Wedyn gall dyn fynd ymlaen i fwynhau byw.
-
Saunders Lewis
2 commenti:
Roedd YouGov reit allan ohoni parthed cefnogaeth y Toriaid.
Beth oedd canran y bleidlais boblogaidd i bob plaid? Dwi'm di gweld y stats yn nunlla. Odd yougov yn darogan tua 18% i'r Toris dwi'n meddwl, faint gatho nhw mewn gwirionedd?
Posta un commento