mercoledì, ottobre 03, 2012

Gwymon o ddynion

Yr iaith Gymraeg  - y fendith waethaf a roddwyd erioed i genedl y Cymry. Heddiw fe welwyd yn y Cynulliad Cenedlaethol Plaid Cymru’n penderfynu ei bod bellach yn faich rhy drwm i’w ddwyn ar ei rhan hi. Heddiw, penderfynodd Plaid Cymru nad oedd cydraddoldeb llwyr i’r Gymraeg yn ddymunol nac yn werth trafferthu amdano.

Do, dwi erbyn hyn wedi gwylio’r ddadl yn y Cynulliad, yn gwybod y canlyniad, ac os ydych chi’n darllen y blogiad hwn debyg eich bod chi hefyd. A dwi wedi hel fy meddyliau am y pwnc hwn ers rhai misoedd – Plaid Cymru, a’r iaith Gymraeg.

Clywsom heddiw na fydd y Cofnod yn gwbl ddwyieithog ac ni chaiff ei gyhoeddi ar yr un adeg â’r Saesneg. Yn amlwg, mae rhai ieithoedd yn fwy cyfartal na’i gilydd. Caiff Rhodri Glyn a Dafydd Êl draethu faint a fynnant ond erys y ffaith nad oes yn y Cynulliad Cenedlaethol gydraddoldeb llwyr i iaith frodorol Cymru. Dyna’n ddi-flewyn ar dafod y sefyllfa sydd ohoni. Gadawodd y Blaid i hynny ddigwydd yn ddiffwdan. Rhoes eraill gefnogaeth brwd iddo.

Mae’r Blaid wedi’n fwriadol mi deimlaf ymbellhau ei hun oddi wrth yr iaith (sonnir am hyn yn gelfydd ddigon ar flogiad gan Ifan Morgan Jones yn gynharach eleni – dwi ddim am ailadrodd); o beidio â chodi stŵr pan fynnodd Carwyn Jones na ddylid cyfieithu dogfen dechnegol i’r Gymraeg ar gais pysgotwyr Pen Llŷn – arwydd o iaith israddol os bu un erioed - i’w ACau yn mynnu cyfeirio at y Blaid fel The Party of Wales (enw uffernol beth bynnag) ar lawr y siambr – nid fel Plaid Cymru.

Nid tuedd newydd mo hon, mae hi’n un a ddechreuwyd ers i ddatganoli ddechrau, ac fe’i gwelwyd yn glir pan na safodd y Blaid yn gadarn y tu ôl i Simon Glyn ddegawd yn ôl eithr troi arno, a phan fynnodd Cymuned ar ei hanterth dai a gwaith i bobl leol y Fro Gymraeg er budd yr iaith, ac y cawsant eu hanwybyddu’n llwyr gan Blaid Cymru. Do, cafwyd Mesur Iaith ers hynny, ond un peth oedd hynny yng nghanol degawd o ddiffyg ymdrech gan y Blaid ar yr iaith. Ni chafodd trigolion y Fro dai na gwaith. Ymhen 15-20 mlynedd efallai na fydd ganddynt gysur amheus eu hiaith ychwaith.

Deallaf y pwysigrwydd mawr sydd i roi sylw i’r economi ar hyn o bryd, gyda llaw – mae’n hanfodol i Blaid Cymru wneud hynny i ennill pleidleisiau. Ond mae’r diffyg sefyll dros yr iaith, a hynny’n gwbl ddi-sigl, yn annerbyniol i blaid sy’n honni sefyll drosti. Nid mater o ddewis ein brwydrau yw brwydr yr iaith. Rhaid ymladd pob brwydr, a hynny achos mae’r iaith Gymraeg yn werth brwydro drosti. Cydraddoldeb, nid cyfaddawd. Ond yn fwy na hynny nid dyma’r adeg i gefnu ar y Gymraeg.

Pam hynny?

Syml. Y mae’r Gymraeg yn iaith sy’n marw. Y mae nifer y bobl sy’n ei siarad bob dydd a’r cymunedau a’i defnyddio yn dirywio. Dydw i ddim isio meddwl pa mor echrydus y gallai canlyniadau’r cyfrifiad fod pan gânt eu cyhoeddi fis Tachwedd, ond mi brofan nhw fod angen ar y Gymraeg fudiad gwleidyddol cryf i sefyll drosti. Nid jyst dros yr iaith, ond drwy hynny’r Cymry Cymraeg hwythau – yn ein hanfod, ni ydi’r iaith.

Ni ellir cyfaddawdu ar y Gymraeg, ac os ydi Plaid Cymru yn fodlon gwneud hynny dydi hi ddim yn sefyll drosti i’r graddau y mae’r iaith yn ei haeddu, ac os felly rhaid gofyn ai hi ydi’r blaid orau i sefyll drosti beth bynnag? P’un bynnag, oni fyddai’n haws gadael i’r Blaid ollwng ei gafael ar yr iaith a gadael i arall ysgwyddo’r baich? Rhydd iddi wedyn, tra’n aros yn gefnogol i’r iaith wrth gwrs, ddenu eraill, a mynnu fwy na thebyg mewn hunan-dwyll most people who vote Plaid aren’t Welsh speakers – fel petaem ni’n rhyw fath o haint afiach – i ddenu’r lliaws ati.

Efallai y byddai. Clywid droeon yr ‘angen’ am ail blaid genedlaetholgar yng Nghymru ond efallai nad dyna’r ateb callaf. Bosib mai problem sylfaenol y Blaid ydi ceisio sefyll dros Gymru gyfan a phawb yng Nghymru. Y mae rhaniadau’r wlad fach hon yn rhai dwfn, wedi’r cyfan.

Dwi wedi tueddu i feddwl fwyfwy ers ychydig o amser mai nid ail blaid genedlaetholgar sydd ei hangen, eithr plaid i’r Cymry Cymraeg – Cynghrair y Cymry Cymraeg os mynnwch chi. Nid y peth hawsaf o ystyried annhegwch y system etholiadol sydd gennym, ond pam lai? Pam lai cael plaid a allai ganolbwyntio’n gyfan gwbl ar sefyll drosom Ni, heb lyffetheiriau plesio pawb?

Plaid i fynnu bod yn RHAID i bopeth yn y Cynulliad fod yn gwbl ddwyieithog – yn y sector cyhoeddus o ran hynny. Plaid i fynnu addysg gyfan gwbl Gymraeg yn y bröydd. Plaid i fynnu swyddi i’r rhai Cymraeg eu hiaith yn eu hardaloedd eu hunain. Plaid i fynnu Deddf Eiddo a fyddai’n sicrhau tai i’r Cymry Cymraeg yn y bröydd Cymraeg. Plaid i fynnu bod gan y rhai Cymraeg eu hiaith hawl sylfaenol i fyw y cyfan o’u bywydau drwy gyfrwng eu hiaith eu hunain yn eu gwlad eu hunain os dymunant. Plaid i fynnu mai ein darn ni o dir ydi hwn a bod gan yr iaith hawl ar rannau helaeth ohoni, ac nad oes gan y mewnlifiad di-Gymraeg yr hawl i darfu arni na’i difethaf yn llwyr, a’n hawl ninnau Gymry Cymraeg i fyw mewn cymunedau Cymraeg.

Efallai, yn wir, mai dyna’r ateb gorau.

3 commenti:

Dylan ha detto...

Mae rhesymeg y bleidlais heddiw'n ddirgelwch llwyr i mi. A yw'n ran o fargen fawr neu rywbeth? Methu deall. Mae'r ddadl bod ffyrdd gwell o wario ar y Gymraeg yn lol llwyr: ni fydd yr arian a arbedir (ac nid oes ffiars o beryg bod y ffigwr gwirioneddol yn agos at fod yn £600,000) yn cael ei ddargyfeirio tuag at yr iaith.

Os yw hyn yn parhau, rhaid gofyn beth yn union sy'n gwahaniaethu Plaid Cymru oddi wrth y pleidiau eraill.

Er hyn i gyd, nid yw dechrau plaid arall yn ddewis ymarferol chwaith.

Ifan Morgan Jones ha detto...

Wedi ymateb i'r blog yma fan hyn http://ifanmj.blogspot.co.uk/2012/10/plaid-cymru-y-fampir.html

@Dylan Mae dechrau plaid newydd yn gwbwl ymarferol. Jesd paid disgwyl bod mewn grym am 40+ mlynedd.

Ond does dim angen i blaid ennill grym na hyd yn oed seddi er mwyn bod yn effeithiol. Mae gan bleidiau ddisgyrchiant gwleidyddol sy'n tynnu ar ei gilydd. Wele effaith UKIP ar y Blaid Geidwadol er enghraifft, ac a dweud y gwir effaith Plaid Cymru ar bleidfiau eraill y Cynulliad!

Dyfrig Thomas ha detto...

Dysgwch y wers a gafwydd yn etholiad 2011 yn Llanelli. Y pleidiau Prydeinig fydd ar ei hennill bob tro.