giovedì, gennaio 03, 2013

Heb Fangor, heb Aber, heb Gaergybi, heb Lanelli...

Yn 2001 roedd 'na bedair sir Gymraeg, ond roedd gan bob un o'r rheini rywbeth arall yn gyffredin rhyngddynt. Roedd ym mhob un ardal a oedd yn sylweddol llai Cymraeg na gweddill y sir. Dw i wedi clywed sawl gwaith pobl yn dweud y byddai'r Gymraeg yn gryfach pe na bai'r darnau hyn o'r sir yn rhan o'r siroedd a'u bod nhw'n "dragio" gweddill y sir i lawr.

Ond a oedd hynny'n wir mewn gwirionedd? Does ganddo ni mo ystadegau 2011 ar hyn o bryd - fe'u cawn mewn rhyw fis - ond prin fod y sefyllfa'n eithriadol o wahanol o ran hyn ddeng mlynedd yn ddiweddarach.

I ddechrau dylid nodi'r pedair ardal sydd dan sylw: Ynys Cybi yn Sir Fôn; Bangor yng Ngwynedd; Llanelli yn Sir Gâr ac Aberystwyth yng Ngheredigion.

Dylid nodi hefyd, yn sicr yn achos y tri cyntaf, y gwelwyd cwymp mawr yng nghanran y bobl sy'n siarad Cymraeg yn y llefydd hyn dros yr 20-30 mlynedd ddiwethaf, i'r graddau bod y cwymp cyffredinol a welwyd yn 2001 yn y siroedd hynny i raddau cymharol yn deillio o'r cwymp a welwyd yn yr ardaloedd penodol hynny. Dydw i ddim yn sicr, ond dw i'n meddwl bod y sefyllfa yn Aberystwyth ychydig yn wahanol.

Peth arall sy'n gyffredin rhwng y pedwar lle ydi mae nhw ydi cymunedau mwyaf eu siroedd cyfatebol - yn achos Llanelli ac Ynys Cybi (yr oedd 85% o Gaergybi yn 2001) o lot fawr. Felly bydd unrhyw gwymp yn yr ardaloedd hyn yn effeithio'n fawr ar ganran gyffrdinol y sir gyfan.

Yn gyntaf, Sir Fôn ac Ynys Cybi

 
Poblogaeth
Siarad Cymraeg
Canran
Gwahaniaeth ardal / cyffredinol
Ynys Cybi
12,639
5,770
45.7%
-14.1%
Gweddill y sir
52,040
32,939
63.3%
+3.5%
Ynys Môn
64,679
38,709
59.8%
 

 Cwymp ar Ynys Cybi oedd y rheswm pennaf dros y dirywiad yn Ynys Môn y tro diwethaf, a chan fod ond dirywiad bach ym Môn y tro diwethaf, tybed faint o hynny y gellir ei briodoli i ardal Caergybi? Ymddengys i mi fod Ynys Môn yn gyffredinol yn ymddangos yn un o'r ardaloedd lle mae'r Gymraeg wydnaf y dyddiau hyn - yn ystadegol, hynny ydi. Ta waeth, rhyw fymryn yn Gymreiciach fyddai Môn minws Caergybi, ond mae'n dangos bod y Gymraeg yn dal ei thir yn llawer gwell ar yr ynys ei hun nag ar Ynys Cybi.


 
Poblogaeth
Siarad Cymraeg
Canran
Gwahaniaeth ardal / cyffredinol
Aberystwyth
11,136
4,055
36.4%
-15.4%
Gweddill y sir
61,748
33,717
54.6%
+2.8%
Ceredigion
72,884
37,772
51.8%
 

Mymryn bach yn fwy Cymraeg fyddai Ceredigion heb Aberystwyth, sy'n llai Cymraeg na gweddill y sir ers cyn cof beth bynnag, ond roedd mwyafrif go lew heb y dref. Mi fuaswn i'n mentro dweud, pan ddadansoddwn ystadegau 2011 mewn mis, y gallai fod mwyafrif Cymraeg ei iaith yng Ngheredigion ac eithrio Aberystwyth. Er, dydi hynny ddim yn golygu mai dim ond yn Aber y mae Seisnigeiddio yn mynd rhagddo - fe wyddom i'r gwrthwyneb. Ond mae 'na galondid yma o wybod bod myfyrwyr yn chwarae rhan fawr yn hyn o beth yn hytrach na mewnfudwyr parhaol.


 
Poblogaeth
Siarad Cymraeg
Canran
Gwahaniaeth ardal / cyffredinol
Bangor
13,310
6,166
46.3%
-22.4%
Gweddill y sir
99,490
71,329
71.7%
+3.0%
Gwynedd
112,800
77,495
68.7%
 

Ac eithrio ambell i fan yn ne'r sir, mae Bangor yn Seisnicach o lawer na Gwynedd yn gyffredinol - o lawer iawn a dweud y gwir. Mae'r bwlch rhwng Bangor a gweddill y sir yn fwy nac yn y siroedd eraill â'u mannau Seisniciaf o bwys. Yng ngweddill y sir roedd siaradwyr Cymraeg yn fwyafrif enfawr. Ac mae'n hysbys bod dirywiad enfawr yn y Gymraeg ym Mangor dros yr 20 mlynedd ddiwethaf. Mae'n debyg y cawn ddarlun cymysg iawn o Wynedd y tro hwn - buaswn i'n rhagdybio y bydd rhai ardaloedd yn galonogol o gadarn, ac eraill yn siom garw. Ond mentrwn i ddweud y bydd y cwymp ym Mangor yn fwy na gweddill y sir (3%), ac fel yr ardal fwyaf poblog mae hynny'n ystadegol bwysig. Efallai bod Gwynedd fwyaf yn parhau'n gadarn, wedi'r cwbl. Cawn weld.


 
Poblogaeth
Siarad Cymraeg
Canran
Gwahaniaeth ardal / cyffredinol
Llanelli
42,940
14,340
33.3%
-16.8%
Gweddill y sir
124,443
69,462
55.8%
+5.7%
Sir Gâr
167,373
83,802
50.1%
 

Yn olaf, dyma Sir Gâr - y sir sydd fel petai heb ffrind yn y byd ar y funud - ac ardal Llanelli (sef y dref ei hun a hefyd Lanelli Wledig). Fel y gwelwch, byddai Sir Gâr yn 2001 wedi bod yn sylweddol Gymreiciach heb ardal Llanelli yn rhan ohoni. Mentrwn i ddweud y bydd hynny'n wir eto y tro hwn, ond nid i'r graddau y bydd siaradwyr Cymraeg yn fwyafrif yng ngweddill y sir. A fydd 'na gwymp mawr yma? Bydd angen gweld yr ystadegau lleol er mwyn gweld darlun cwbl gyflawn o broblemau'r Gymraeg yma, a ph'un a ydi gweddill y sir yn dilyn patrymau a welwyd yn Llanelli y tro diwethaf.

Ond dyma'r casgliad cyffredinol. Fyddai'r Gymraeg ddim llawer cryfach ar lefel sir gyfan yng Ngwynedd, Ynys Môn na Cheredigion heb Fangor, Ynys Cybi ac Aberystwyth. Tybia rhywun y bydd y Gymraeg yn dirywio mwy ym Mangor ac ar Ynys Cybi na'r dirywiad sir-gyfan cyffredinol, sydd mewn ffordd wyrdroedig, yn galonogol o ran cymunedau gwirioneddol Gymraeg. Er, mentra i ddweud, na fydd yr ystadegau yn galonogol yng ngwir ystyr y gair, chwaith.

Yn Sir Gâr buaswn i'n reddfol feddwl efallai na fydd cwymp yn Llanelli yn wahanol i'r hyn a welwn y tu hwnt i weddill de-ddwyrain y sir, ond cawn weld. Ond y casgliad ydi hyn: dydi'r ardaloedd mawr, mwy Seisnigaidd, ar y cyfan, ddim yn gwneud gwahaniaeth anferthol i Gymreictod cyffredinol Sir.

Rhaid i mi gyfaddef, nid dyna'r casgliad yr oeddwn yn disgwyl ei ffurfio ar ddechrau'r blogiad yma! Fydd yn ddiddorol gweld patrwm 2011.

5 commenti:

Cai Larsen ha detto...

Diolch am honna was - diddorol iawn.

Mi fyddwn i'n bodlon betio cryn dipyn nad yn Llanelli y bydd y cwymp mwyaf yn Sir Gar - o beth uffar.

Anonimo ha detto...

Mae gen Sir Gaerfyrddin Tref Gaerfyrddin hefyd

Hogyn o Rachub ha detto...

Dienw,

Oes, ond dydi Caerfyrddin ei hun ddim yn eithriadol llai Cymreigaidd na gweddill y Sir (43% yn 2001), ac mae o benwmbrath o lot Cymreiciach na Llanelli.

Heb y ddwy dref, byddai 57% o bobl Sir Gâr yn medru Cymraeg, ond wrth wneud dadansoddiad o'r fath elli di ddim jyst diystyrru pob ardal sydd heb fwyafrif Cymraeg ei iaith.

Ioan ha detto...

Dwi'm yn siwr be fasa canlyniad da i'r Gymraeg yn y Census. Dwi'n dueddol o feddwl am galyniad gwell da'r disgwyl fel un da, ac un gwaeth na'r disgwyl fel un drwg.

Fellu, doeddwn i ddim yn meddwl am galyniad Sir Gaerfyrddin fel un gwael - mi roedd o yr un mor ddrwg ac oeddwn i'n ddisgwyl.

O'n rhan i, y canlyniad gwaethaf oedd Gwynedd. Mi roeddwn i wedi disgwyl i'r nifer o siaradwyr fynd i fynu (efo'r ganran yn mynd lawr) - ond yr ystadegyn gwaetha oedd y nifer o bobl yn yr oed 25-39 wedi mynd lawr i 13312 - lawr bron i ddwy fil.

Y cynlyniad gora dwi'n meddwl oedd Ynys Mon, a dyma lle mae dy flog di'n ddiddorol. Mi roedd canlyniadau Caergybi yn 2001 yn echrydus. Mi wnaeth y ganran syrthio 5%, a'r nifer syrthio bron i fil. Mi roedd yna gwymp yn y nifer o blant oedd yn gallu siarad Cymraeg - bron yn unygryw yng Ngymru tu allan i Sir Gaerfyrddin yn 2001...

Bron yn sicr bydd y nifer sy'n siarad cymraeg ym mro Gymraeg Ynys Mon wedi mynd fynu yn 2011.

Gair i orffen - sori am ambell gam-sillafiad: dydw i ddim yn gyfieithydd...!

Ioan ha detto...

Felly, o edrych ar Sir Gaerfyrddin, mi fydd "gweddill y sir" yn 2011 efo canrhan debyg i'r holl Sir yn 2001...