Beth sydd angen yw wneud ydi cymeradwyo pobl am gymryd rhan i gyfiethu Twitter i'r Gymraeg. Ydi mae nhw'n defnyddio Google Translate, Ydi mae eu threigliadau a sillafu yn warthus ond pwynt y prosiect ydi gwella iaith rhywyn.
Dwi wedi cyfiethu rhai ymadroddion ac yn gwybod fod nhw'n anghywir drwy obeithio fe fydd rhywyn yn dod ac yn rhoid fersiwn gwell ymlaen.
Fe fydd Twitter i'r Gymraeg ddim yn barod i'r cyhoedd am tua flwyddyn arall. Mae yna lawer o waith profi i'w wneud cyn hynny.
Yn ôl yn mis Rhagfyr mi oedd ni'r Cymru yn cwyno am dirywiad yn y nifer oedd yn siarad a ddefnyddio y Gymraeg. Beth sydd ddim angen ydi mwy o snobyddiaeth iaith.
Be sy wedi fy ngwylltio yn benodol ta? Ddyweda i wrthoch chi. Y frawddeg olaf, a pharodrwydd diddiwedd cymaint o bobl i luchio'r cyhuddiad 'snobyddiaeth iaith/ieithyddol' at rywun am feiddio dweud bod rhywbeth yn is-safonol neu'n anghywir. Mae o'n bathetig a dw i wedi cael llond twll fy nhin ohono.
Oes, mae 'na snobyddiaeth ieithyddol yn digwydd - ro'n i'n meddwl bod hanes Robyn Lewis yn enghraifft berffaith a dweud y gwir. A dwi'n cydnabod ac yn dallt mewn ambell i gyd-destun dydi Cymraeg 'rhy Gymraeg' (os dach chi'n dallt be sy gen i) ddim yn beth da o gwbl. Mae 'na lot bethau yn cael eu cyfieithu yn 'rhy posh' neu mewn ffordd rhy fawreddog - gan gyfieithwyr gwael weithiau, ond yn amlach na pheidio gan bobl sydd ddim yn gyfieithwyr.
Ond wir-yr, ydi safon yr iaith mor isel ein bod ni'n barod i alw pobl sy'n cwyno am gamsillafu a chamdreiglo yn 'snobs ieithyddol'? Wir-yr? Cym off it!
Cyfeirio'n benodol at Twitter oeddwn i yn y blogiad gwreiddiol, a dw i'n sticio at be ddywedais i, mae rhai o'r cyfieithiadau yn "ffycin uffernol" ac isio'u newid. Rhaid bod rhywfaint yn dod o Google Translate ac mi ddyweda i hyn y funud yma mae Google Translate yn shait peidiwch â'i ddefnyddio i gyfieithu uffar o ddim. Ac mae'r ffaith i rai pethau gael eu cymeradwyo yn ddigalon ddigon ynddo'i hun. Ond nid sôn am Twitter ydw i yn y blogiad hwn so dyna daw ar hynny.
Iasgob, 'snobyddiaeth ieithyddol'? A fuasech chi'n galw rhywun yn cwyno am gamsillafu cyson yn Saesneg yn ieithsnob? Nafsach, fydda chi blydi wel ddim. Buaswn i ddim yn galw hanesydd yn 'snob hanes' tasa fo'n dweud wrtha i fod Brwydr Hastings yn 1066 yn lle 1166 achos mi faswn i'n rong. Efo gramadeg mae 'na reolau, ac maen nhw'n gywir neu'n anghywir (ydi, mae gramadeg ein hiaith yn anorfod gymhleth o bosib, ond dadl arall ydi honno).
Felly dyma gri arall, sydd y tro hwn yn flin yn hytrach nag yn awgrym. A neith pobl plîs stopio gweiddi 'snob ieithyddol' bob tro mae rhywun yn pwyntio allan bod rhywbeth ysgrifenedig yn anghywir neu'n wael? Dydi dweud y dylai rhywbeth fod yn gywir neu ei fod yn crap ddim yn gwneud rhywun yn 'snob ieithyddol'.
Ond efallai wir mai fi sy'n anghywir, ac y dylen ni gyd jyst sillafu, cystrawennu a chreu treigladau ym mha bynnag ffordd y mynnom!
4 commenti:
Am y rhesymau hyn, dwi di rhoi fyny. Yn amlwg nid yw rhai'n cymyd sylw o brif lythyren hyd yn oed!
Cydymdeimlo a chytuno.
Er hynny, 'snob ieithyddol' ydi rhywun sy'n penderfynnu fod 'safon' a 'chywirdeb' yn rhywbeth o bwys, yn ysgrifenedig ac ar lafar (a dwi'n son am dafodiethoedd naturiol fan hyn) i'r rhai sy'n rhy ofnus i wella'i gafael ar yr iaith rhag ofn iddynt gael eu hystyried yn, er, 'snobs ieithyddol'!
Shrug off ya complex, Taffy!
Il mio comment è questo - dal di ati, Washi - mae isho i rywun ' i deud hi wrth y diawlad - Avanti populo, fel bydda taid yn ddeud.
nag yw hi'n werth esbonio i bobl fod treigliadau'n bodoli er mwyn ei gwneud hi'n haws ynganu brawddegau? Mae pobl sy'n methu treiglo'n gywir yn rhoi argraff 'stop/start' i'w ffordd o siarad, fel tasen nhw ddim yn siwr o'r hyn mae nhw'n ddweud.
Posta un commento