giovedì, febbraio 07, 2013

Addysg Gymraeg, pobl ifanc a'r iaith

Cafwyd llawer o ddadlau yn ddiweddar ynghylch diffyg addysg Gymraeg Sir Gâr a bod hyn yn ffactor mawr yn nirywiad y Gymraeg yn y sir; dywed rhai nad ydi hynny'n wir o gwbl (dw i wedi clywed un person yn dweud bod addysg Gymraeg yn gallu troi pobl yn erbyn y Gymraeg hyd yn oed), gydag eraill yn nodi enghraifft "ryfeddol" y de-ddwyrain.

Yn yr un gwynt, soniwyd hefyd am bobl ifanc yn peidio â siarad Cymraeg â'i gilydd - mae'n nhw'n gydgysylltiedig. Da chwi ddywedwch wrthyf os ydych chi'n anghytuno!

Ambell sylw brysiog, yn seiliedig ar ganfyddiadau, ydi'r canlynol, yn seiliedig ar ganfyddiadau.

Y peth cyntaf i'w nodi ydi nad ydi cyfeirio at De-ddwyrain Cymru yn gymhariaeth dda - dydi'r de-ddwyrain ddim yn Gymraeg ei iaith, ac mae hynny ynddi ei hun yn ddigon o reswm i beidio â chymharu. Serch hynny, dydi llwyddiant addysg Gymraeg yr ardal honno ddim y wyrth yr hoffai rhai pobl feddwl - mi ddylen ni fod yn onest am hynny. Ar lefel gymunedol, mae mewnfudo o ardaloedd Cymraeg wedi gwneud mwy i atgyfnerthu Cymraeg y de-ddwyrain (nid lleiaf o ran cyflenwi athrawon yr ysgolion Cymraeg) nag addysg. Heb fynd i orfanylder, dydi'r system addysg Gymraeg ddim yn creu siaradwyr Cymraeg, ac mae 'na blant yn gadael ysgolion Cymraeg ar ôl degawd o gael eu haddysgu yn yr iaith nad ydyn nhw'n rhugl ynddi. Wn i ddim pam - ond mae o'n digwydd ac mae rhywbeth mawr o'i le. 

Ydi, mae'n creu rhywfaint o siaradwyr Cymraeg. Mae rhai o'r rheini'n siarad Cymraeg â'i gilydd. Ond dydi'r mwyafrif ddim, a lot yn colli'r iaith yn fuan iawn, iawn ar ôl gadael yr ysgol. A'r rheswm ydi nad ydi'r ardaloedd hynny'n rhai Cymraeg. Yn syml, rydyn ni wedi hen dwyllo'n hunain i feddwl y gall addysg achub y Gymraeg, ond twyll fuo hynny erioed.

Gyda llaw, nid swipe ar waith gwych yr ysgolion Cymraeg ydi hynny, ond cydnabyddiaeth bod y ffactorau i gyd yn eu herbyn. Er hynny, efallai bod angen ailfeddwl rhywbeth, achos mae rhywbeth o'i le - yr hyn sy'n anodd ydi dweud beth yn union ydi hynny!

Rydyn ni hefyd yn ein twyllo'n hunain i feddwl bod y ffaith bod y Gymraeg yn weledol yn gyfraniad mawr at hyn. Mae Cymry Cymraeg Caerdydd yn licio brolio pa mor weledol ydi'r iaith yn y brifddinas erbyn hyn (sy ddim yn eithriadol o wir) - ond nid gweld iath sy'n bwysig, eithr ei chlywed. Mi allwch o hyd fyw eich bywyd yn rhannau helaeth o Gymru heb fyth clywed Cymraeg, neu o leiaf heb wybod i chi ei chlywed.

Y mae iaith sydd i'w chlywed ar lawr gwlad mor, mor bwysig - a dyma pam bod tynged y broydd Cymraeg mor, mor bwysig. Ac ar un ystyr, allwn ni ddim wir ddisgwyl i blant ysgol siarad Cymraeg efo'i gilydd pan nad ydi hi'n iaith gymunedol, a hwythau hefyd o gartrefi Saesneg. Nid fel 'na mae'r byd yn gweithio.

Soniodd Carwyn Jones fod ei blant yntau'n siarad Saesneg â'i gilydd. Daw yntau a minnau o'r un math o gartref - tad yn siarad Cymraeg, mam yn siarad Saesneg, a finnau a'r chwaer yn rhugl yn y ddwy iaith, ond yn siarad Saesneg â'n gilydd. Ond prin y siaradais i Saesneg y tu allan i'r cartref - fe'm magwyd mewn cymuned Gymraeg, ac roedd hynny'n ddylanwad pwysicach arna i na hyd yn oed y teulu, ac yn sicr addysg.

Ond un peth mae addysg yn ei roi i rywun ydi hyder. A dyma lle y dylid gwneud cymhariaeth uniongyrchol rhwng Gwynedd a Sir Gâr.

Mae llawer o sôn wedi bod am ddiffyg hyder pobl yn Sir Gâr yn eu hiaith - dydi hynny ddim yn broblem yng Ngwynedd gan mwyaf. Yn wir, mae mwyafrif llethol eithriadol o bobl Gwynedd a fedrant Gymraeg yn hyderus eu bod nhw'n gallu ei siarad - a'i siarad yn iawn. Oce, mi wnawn nhw ddweud "dw i'm yn gwybod geiriau mawr" neu "fedra i'm siarad Cymraeg iawn sti" (chwedyla nhw - yn amlach na pheidio mi fedran nhw wneud y ddau!), ond mi wnawn nhw ddefnyddio'u Cymraeg. O be wela i, nid dyma'r achos yn Sir Gâr.

Does gen i ddim amheuaeth bod hynny'n deillio'n uniongyrchol o addysg Gymraeg Gwynedd. 'Does dim cymharu systemau addysg y ddwy sir, mae un Sir Gâr yn Saesneg iawn ar lefel yr ysgol uwchradd, ond nid dyna'r achos yng Ngwynedd. Ac oherwydd hynny, mae pobl yn hyderus, neu yn achos Sir Gâr ddim mor hyderus, y gallan nhw siarad Cymraeg i lefel y maen nhw'n ei ystyried yn dderbyniol. Ac rydych chi'n llawer mwy tebygol o wneud unrhyw beth os ydych chi'n hyderus yn ei wneud, waeth beth ydyw.

Ac mi fetia' i unrhyw beth, er na fedra i ddweud fy mod i'n gwybod hyn fel ffaith, fod 'na gysylltiad cryf iawn rhwng canfyddiad pobl o'u gallu ieithyddol a pha mor debygol ydyn nhw o drosglwyddo iaith i blentyn.

Dydi o ddim yn syndod felly bod canran uwch o lawer yn siarad Cymraeg yng Ngwynedd na Sir Gâr - mae addysg yn rhan hollbwysig o hynny - fe sefydlwyd cyfundrefn Gymraeg (yn ymarferol - 'dwyieithog' yn swyddogol) yng Ngwynedd tra bod y Gymraeg yn gryf iawn ohono, ond ni welwyd tebyg yn Sir Gâr.

I'r rhai sy'n amau'r ddamcaniaeth, ystyriwch hyn - mae Bangor, o ran addysg Gymraeg a dirywiad ieithyddol, yn debyg iawn i Sir Gaerfyrddin. Nid dim ond un lle y mae'r ddamcaniaeth yn berthnasol iddo.

Gyda llaw, cyn addysg Gymraeg roedd rhywbeth arall a gadwai hyder y Cymry Cymraeg yn eu gallu ieithyddol - yr ysgolion Sul a'r capeli. Dydyn nhw ddim yn rym mwyach, ac a hwythau'n cilio mae eu gallu i gyflawni 'swyddogaeth' addysg Gymraeg wedi lleihau'n arw.

Ond i'r rhai sy'n dal addysg Gymraeg mewn bri ac yn galw am achub yr iaith yn Sir Gâr drwy ei mabwysiadu a chwyldroi system addysgol y sir, mae 'na broblem sy'n cyd-fynd â'r cyfan a ddywedais uchod.

Sefydlwyd y gyfundrefn addysg yng Ngwynedd pan mai hi oedd iaith y mwyafrif llethol. Rhoes hynny hyder i bobl ddefnyddio'r iaith ac a wnaeth, heb amheuaeth, gynnal yr iaith. Hyder yn eu Cymraeg, gystal â gwleidyddiaeth neu weinyddiaeth Plaid Cymru, ydi un o'r rhesymau y gweinyddir y Sir yn Gymraeg. Bu addysg Gymraeg yn asgwrn cefn i'r cyfan.

Gan hynny cynhaliwyd y Fro Gymraeg yng Ngwynedd, a hynny er gwaetha'r ffaith mai dim ond 67% o'r boblogaeth sydd bellach wedi'u geni yng Nghymru - ffigwr cyfatebol Sir Gâr ydy 76%. Lot uwch.

Erbyn hyn, dim ond 44% o bobl Sir Gâr sy'n medru Cymraeg. Llai na hanner. Felly i raddau mae Sir Gâr bellach mewn sefyllfa debyg i'r de-ddwyrain - hynny ydi, dydi addysg Gymraeg ddim am adfer yr iaith ynddi'i hun.

Ylwch, y pwynt ydi hyn: mae addysg Gymraeg ar ei mwyaf effeithiol mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith. Gan hynny, cyfle a gollwyd ydi Sir Gaerfyrddin. Dri deg mlynedd yn ôl gallai fod wedi achub yr iaith yno - neu arafu'r dirywiad. Erbyn hyn, dydw i ddim yn meddwl y gwnâi'r naill na'r llall. A dydi addysg Gymraeg yn sicr ddim yn mynd i gael nifer y bobl ifanc, a fydd yn hŷn ac yna'n hen, yn siarad Cymraeg â'i gilydd. A'r unig ffon fesur y gallwn ni ei defnyddio wrth fesur llwyddiant y Gymraeg fel iaith ydi nid nifer y bobl sy'n ei medru, eithr nifer y bobl sy'n ei defnyddio.

Dydw i ddim yn dweud ei bod yn anobeithiol yn y de-orllewin gyda llaw - ddim o gwbl. Fe fyddai newid y system addysg gosod sylfeini cadarn; waeth inni fod yn onest, yn y Gymru gyfoes dydi 44% yn medu siarad Cymraeg ddim yn rhy ddrwg ar un ystyr.

Ond ateb hirdymor ydi addysg Gymraeg, a rhan o'r ateb yn unig. Peidiwch â rhoi gormod o bwyslais arni, a pheidiwch â disgwyl iddi wneud gwyrthiau dros nos. Mi fydd adennill mwyafrif Sir Gaerfyrddin yn broses galed, boenus - a hirdymor.

3 commenti:

Cai Larsen ha detto...

Blogiad arbennig o dda os ga i ddeud.

Efrogwr ha detto...

Blogiad grymus a pherthnasol, Hogyn. Pa gamau eraill, yn ogystal ag addysg, hoffech weld yn cael eu cymryd yn Sir Gar (a Cheredigion, mae'n debyg)?

Hogyn o Rachub ha detto...

Wn i ddim ydi’r ateb! Dydw i ddim yn gyfarwydd iawn yn bersonol â sefyllfa llawr gwlad y naill sir na’r llall – ond wedi clywed ei bod yn eitha digalon ar y cyfan.

Ond mi fuaswn i’n dweud hyn. Un ymateb o hyd o du llywodraeth i’r iaith Gymraeg ydi strategaethau, deddfau a rhaglenni cenedlaethol sydd yn HOLLOL rong.

1/ Y broblem yn y de-ddwyrain ydi nad ydi’r ysgolion Cymraeg yn creu siaradwyr Cymraeg sy’n parhau i ddefnyddio’r iaith.

2/ Y broblem yn y de-orllewin ydi trosglwyddo iaith.

3/ Y broblem yn y canolbarth a’r gogledd helaeth ydi mewnfudo.

Ni all yr un strategaeth fynd i’r afael â’r cyfan ac mae ceisio gwneud yn ddwl – mae angen rhaglenni lleol grymus i fynd i’r afael â phroblemau penodol. A dydan ni ddim angen mwy o ymchwil i’r problemau na mwy o ymgynghori ychwaith – mae’r problemau yn hysbys i bawb, angen eu datrys sydd rŵan yn lle ffaffian.