Crëwyd craith ddofn, chwerw yn Nyffryn Ogwen ym 1900-3, a chanrif yn ddiweddarach, am ba reswm bynnag, mae’n dal ym meddyliau pobl y Dyffryn. Mae o fel petai pawb yn cofio’r Streic Fawr yn bersonol. Tydw i ddim yn gallu meddwl am lawer o ardaloedd sydd wedi dal eu gafael ar rywbeth penodol iddyn nhw o’r gorffennol pell mewn ffordd debyg. Bosib mai parhad y chwarel a’i thanio beunydd a’i phresenoldeb cyson sy’n cadw’r hen deimladau’n fyw. Wn i ddim.
Ond fel y dywedais, mae ‘na flas cas yn y geg o hyd pan sonnir am Arglwydd Penrhyn, ac yn benodol George Sholto Douglas Pennant, y ‘brenin y fro yn ei blas’ a oruchwyliasai’r Streic Fawr. Dydi’r teulu ddim yn byw yng Nghastell Penrhyn nac yng Nghymru mwyach, ond mae stâd y Penrhyn dal yn dirfeddiannwr helaeth yn yr ardal.
Roedd y cais cynllunio a gyflwynwyd i Gyngor Gwynedd i godi 69 o dai ym Maes Coetmor yn ddiweddar yn un digon hurt beth bynnag. Nid oes angen cynifer o dai ar Ddyffryn Ogwen pan fo eisoes 120 ar werth yn yr ardal – hyd yn oed os oes 20 o’r tai arfaethedig yn rhai fforddiadwy (llai na thraean). Yn gyffredinol yn yr ardaloedd Cymraeg, helpu pobl i allu fforddio tai sydd eisoes ar werth y dylem fod yn ei wneud yn hytrach na chodi tai.
Af i ddim i fanylion gwrthwynebu’r cais, mae nifer o rai da a dilys, ond wrth gwrs un o’r prif resymau ydi’r Gymraeg. Roedd canlyniadau cyfrifiad 2011 ar gyfer Dyffryn Ogwen yn galondid enfawr i mi, heb sôn am fod yn syndod mawr – gwelwyd cynnydd canrannol yn nifer y bobl a fedrai Gymraeg. Un bach iawn, ond tu allan i orbit Caernarfon, Dyffryn Ogwen oedd yr unig le yn y Fro a welodd gynnydd o gwbl.
Roedd hynny’n eithaf rhyfeddol. Mae’r Dyffryn o hyd yn un o gadarnleoedd yr iaith, hyd yn oed os ydi’r iaith ar lawr gwlad dan bwysau erchyll yno, ond nid y cynnydd ynddo’i hun oedd yn rhywbeth i’w groesawu. Dywed llawer am y Fro gyfoes fod Dyffryn Ogwen erbyn hyn ar ei ffin ddwyreiniol, i’r gogledd a’r dwyrain ohono mae Bangor a Llanfairfechan, sef dwy ardal Saesneg eu hiaith. Dyffryn Ogwen ydi’r ffin. Ydi, mae’r ffin wedi cyrraedd cadarnleoedd cryfaf y Gymraeg. Y peth gobeithiol a welwyd oedd y gall y Gymraeg sefydlogi hyd yn oed ar y ffin ieithyddol. Dydyn ni ddim yn gwneud popeth yn iawn yn Nyffryn Ogwen, ond mae ‘na rywbeth gwydn yno sydd yn, wel, iawn.
Beth fyddai ddim yn iawn fyddai cymeradwyo cais cynllunio o’r fath. Byddai’n ergyd drom i’r Gymraeg ym Methesda. Ni ddeuai’r rhan fwyaf o’r trigolion newydd o’r cylch, ac mae’n deg iawn rhesymegu mai Saesneg fyddai iaith llawer ohonynt. Efallai nad mwyafrif, hyd yn oed, ond byddai llenwi 30-40 o dai newydd gyda phobl ddi-Gymraeg yn y Dyffryn yn ddigon i lusgo’r iaith ar ei lawr.
Beth a wnelo hynny â theulu Pennant felly, meddech chwi? Ddyweda i wrthych. Er eu bod bellach yn byw yn Swydd Amwythig, teulu Pennant sydd bia’r tir ac sydd eisiau codi tai yno – dros 70% ohonynt ddim yn rhai fforddiadwy. Oni fu chwalu Ogwen unwaith yn ddigon i’r teulu, maent eto’n ceisio gwneud hynny ganrif wedi’r chwalfa fawr. Does ryfedd bod o hyd gasineb dwfn atynt yn y dyffryn.
Rhaid pwysleisio nad ydi’r cais eto wedi’i dderbyn. Alla i ond â gobeithio na chaiff ei dderbyn; a dweud y gwir oni fo gweinyddiaeth Gwynedd am fradychu pobl Dyffryn Ogwen yn llwyr alla i ddim gweld y cais yn cael ei gymeradwyo o gwbl. Ond mae o dal yn fy mhoeni i, ac nifer o bobl eraill yn y Dyffryn, o bob oed ac o bob math.
Os ydych chi’n byw yn Nyffryn Ogwen neu â Dyffryn Ogwen yn agos at eich calon, gallwch gyflwyno sylwadau ar y cais yma.
Arferai W.J. Parry fyw yng Nghoetmor – un o arwyr byd chwarela’r gogledd. Disgrifiodd yntau yn ei hunangofiant ddod i gysylltiad â George Sholto:
Yn y fan, clywn Colonel Pennant
yn galw arnaf,- "Parry, come back. Call the men back...Tell them that he
is my son and heir, George." Wedi cyfieithu hyn iddynt,
ychwanegodd,-"Tell them to beware not to offend George, for if they do he
will never forgive, he can never forgive." Wedi i mi gyfieithu hyn
drachefn i'r dynion, troes Colonel Pennant at y mab, yr hwn oedd yn edrych
allan drwy y ffenestr, a'i gefn atom, a dywedod,- "It is so George, is it
not?. Edrychodd ytau dros ei ysgwydd, heb droi ac atebodd, "Let them try,
and they will see
Tydi rhai pethau byth yn newid, nac ydyn?
Nessun commento:
Posta un commento