Fydda i nôl yng Nghaerdydd
ymhen rhai dyddiau felly tawelu wnaiff y blog eto dybiwn i. Ond wyddoch, ar ryw
fath o hap a dweud y gwir, mi drydarais hwn yn gynharach heddiw:
Rhyw ffaith fach ddiddorol
ro’n i’n ei feddwl. Ond mi ddechreuais feddwl felly, tybed pa mor hir neu
fyrhoedlog ydi’r Deyrnas Unedig go iawn? Nid yn y cyd-destun rhyngwladol, achos
tydi hi ddim wedi bod o gwmpas bron dim ers i wareiddiad ddechrau (er bod y Cymry’n
genedl hen iawn, dydyn ni ddim erioed wedi bod yn wladwriaeth ond am rai
blynyddoedd dan Hywel Dda, Rhodri Fawr a Glyndŵr). Ond yn hytrach, yng
nghyd-destun ynysoedd Prydain. Sut mae bodolaeth y Deyrnas Unedig hyd yma fel
gwladwriaeth bendant, unigryw yn cymharu â theyrnasoedd a gwladwriaethau eraill
yr ynysoedd hyn?
Tydi’r isod ddim yn
ddiffiniol – dydyn ni ddim yn gwybod pryd y sefydlwyd ambell deyrnas. Ac mae
rhai wedi ymffurfio’n raddol a dadfeilio’n rannol. A dwi heb gynnwys pob un
wrth reswm! Rhestr fras ydi hon - a sori ymlaen llaw am ei blerwch.
1.
Gwynedd 5ed G – 1282 800+
mlynedd
2.
Teyrnas
yr Alban 9fed G – 1653 odd.
800 mlynedd
3.
Munster 340 – 1138 798
mlynedd
4.
Teyrnas
Lloegr 927 – 1649 722
mlynedd
5.
Powys 5ed
G – 1160 700+ mlynedd
6.
Ystrad Clud 5ed
G – 11eg G odd. 600
mlynedd
7.
Dyfed 410 – 920 510
mlynedd
8.
Ceredigion 5ed G – 10fed G dd. 500 mlynedd
9.
Manaw a’r Ynysoedd 849 – 1216 417 mlynedd
10.
Mersia 527-
918 391
mlynedd
11.
Wessex 6ed
G – 927 377 mlynedd
12.
Dwyrain Anglia 6eg
G – 918 odd. 370 mlynedd
13.
Sussex 477
– 825 348 mlynedd
14. Y Deyrnas Unedig 1707 - 306
mlynedd hyd yma
15.
Northumbria 653
– 954 301 mlynedd
16.
Cernyw 577
– 875(?) 298 mlynedd
17.
Deheubarth 920 – 1197 277
mlynedd
18.
Seisyllwg 680 – 920 240
mlynedd
19.
Rheged 6ed
G – 7fed G odd. 100
mlynedd
20.
Danelaw 886
– 954 68 mlynedd
Felly, fel y gwelwch, babi bach ydi’r Deyrnas Unedig o’i chymharu â rhai
o wladwriaethau eraill yr ynysoedd hyn a bydd yn rhaid iddi fodoli am o leiaf hanner
mileniwm arall i ddisodli Gwynedd.
Tybed pa ods y byddai William Hill yn ei gynnig ar hynny’n digwydd?
2 commenti:
Roedd Powys yn eitha annibynol hyd at 1536
Dydw i ddim yn siwr am y dadansoddiad uchod. Dim ond ers 1921 mae'r Deyrnas Unedig ar ei ffurf bresennol ers colli Iwerddon. Os nad yw hynny'n cyfri a ddylai uno'r Alban at Loegr gyfri?
Posta un commento