Dydi o ddim yn
gyfrinach bod addysgu Cymraeg ail iaith wedi bod yn fethiant yn ein hysgolion -
bron yn gyfan gwbl felly. Ddylai hyn ddim fod o syndod i ni. Does ‘na fawr o
ddisgyblion yn gadael ysgolion Saesneg sy'n dod allan y pen draw yn rhugl mewn
ail iaith, y mae'r un mor wir am Ffrangeg ag am y Gymraeg, mae’r holl beth bach o smonach a dweud y
gwir. Gallai fod sawl peth ynghlwm wrth y methiant, gan gynnwys dulliau dysgu
ail iaith mewn ysgolion, ond mae safon athrawon yn y maes hefyd yn rhywbeth i’w
ystyried.
Rŵan, wn i fod hyn
yn dir peryglus - o blith holl broffesiynau’r byd, does fawr o rai mwy touchy
nag athrawon. Allwch chi ddim cynnig y feirniadaeth leiaf i athrawon heb iddyn nhw
wylltio a phwdu. Fedra i ddim dychmygu bod hynny’n beth iach - er y galla i fel aelod o'r ail broffesiwn mwyaf touchy yng Nghymru, cyfieithu, ei ddeall i raddau! Ond fel rhywun
sy’n adnabod ambell athro sy’n dysgu Cymraeg ail iaith, fedra i ddweud wrthoch
eu bod nhw o’r farn nad ydi safon athrawon Cymraeg ail iaith, ar y cyfan, yn
uchel o gwbl. Mae hynny’n deillio i raddau o’r bobl sy’n cael eu derbyn ar
gyrsiau ymarfer dysgu.
Gad i mi rannu hanesyn â
chi. Pan fûm innau’n dilyn cwrs ymarfer dysgu (yn aflwyddiannus) roedd tua 12
ohonom yn y dosbarth. Roedd ‘na raniad clir iawn – roedd pedwar ohonom yn Gymry
iaith gyntaf, ac yn siarad Cymraeg â’n gilydd, a’r saith arall yn Gymry Cymraeg
ail iaith, pob un yn siarad Saesneg ymhlith ei gilydd. Nid dyna oedd y broblem.
Doedd ambell un yn yr ail garfan ddim hyd yn oed yn rhugl yn y Gymraeg, ac
felly dybiwn i ddim ffit i addysgu Cymraeg ail iaith. Beth dwi'n ei olygu wrth 'rhugl' yn yr ystyr hwn? Wel...
Roedd ‘na un yn ein
dosbarth, yr oeddem ni’n pedwar yn ei galw’n Sglodion, oherwydd yr unig air Cymraeg
y clywsom iddi ei ddweud erioed oedd ‘sglodion’. Doedd Sglodion ddim yn gallu
cynnal sgwrs syml yn Gymraeg – roedd yn berffaith amlwg pan siaradai’r tiwtor â
ni na ddeallasai bron dim y dywedodd. Dwi’n cofio’n iawn un tro yn y dosbarth i
ni’r pedwar edrych ar ein gilydd â chryn syndod pan na allasai gofio’r Gymraeg
am Friday, gan ar ôl oedi ddweud ‘dydd
Mercher’.
Tydi honno ddim yn stori unigryw. Mae un o’m ffrindiau, sy’n athro Cymraeg ail iaith llwyddiannus, yn cofio pan ddilynodd yntau’r cwrs hwnnw flwyddyn cyn imi wneud, yn ei flwyddyn yntau fod y tiwtor wedi gofyn i un o’i gyd-fyfyrwyr droi’r golau ymlaen yn yr ystafell, a bod yn rhaid i rywun o’r dosbarth sibrwd wrtho beth oedd y tiwtor yn gofyn iddo ei wneud. am nad oedd y deall y cyfarwyddyd.
Jyst ystyriwch hynny am
eiliad fach. Wn i ddim os bu newid ers imi geisio bod yn athro dan hyfforddiant
saith mlynedd yn ôl, ond bryd hynny roedd pobl na allent gynnal sgwrs yn y
Gymraeg yn cael eu derbyn i’r cwrs TAR i fod yn athrawon Cymraeg. Felly rhaid
gofyn o ran ail iaith, ai’r holl system o addysgu ydi’r bai mewn gwirionedd,
ynteu’r athrawon eu hunain*?
* * *
Un peth, fodd bynnag, a
ddylai fod o fwy o bryder inni mewn difrif, ydi’r ysgolion Cymraeg eu hunain. Tydi
o ddim yn rhywbeth a gydnabyddir yn eang, ond mae ‘na lawer o ddisgyblion mewn
addysg Cymraeg sy’n gadael y system ar ôl 12 mlynedd a mwy o addysg drochi nad
ydynt yn rhugl. Rydyn ni’n gywir wedi nodi bod diffyg cyfleoedd i ymarfer Cymraeg
y tu allan i’r ysgol yn broblem yn hyn o beth, ond rhaid gofyn er gwaethaf hynny sut ddiawl fod
hyn yn digwydd? Mae 12 mlynedd mewn addysg Gymraeg (h.y. 4-16 oed – y cyfnod ‘lleiaf’
o addysg Gymraeg mewn ffordd) ac yna’n methu â siarad yr iaith yn rhugl yn
rhyfeddol.
Dwi’n ddigon call i
wybod bod y gair ‘rhugl’ ynddo’i hun yn un anodd ei ddiffinio gan fod rhuglder
yn raddfa yn hytrach nag yn safon benodol, ond dwi’n ei ddefnyddio fel term ymbarél
llac. Efallai mai’r diffiniad gorau fyddai gallu cynnal sgwrs yn y Gymraeg nad yw'n arwynebol yn yr ystyr hwn - ac mae disgyblion yn yr ysgolion Cymraeg
na allant wneud hynny.
Yn fy marn i, nid safon yr
addysgu yn yr ysgolion Cymraeg ydi’r broblem yn hyn o beth (yn wahanol i ail
iaith i raddau helaeth) ond y ffaith syml fod cymdeithas yn nwyrain Cymru bron
yn uniaith Saesneg. Serch hynny, pan fo disgyblion yn gadael addysg drochi a
ddim yn rhugl yn yr iaith, efallai bod yn rhaid inni ailystyried popeth rydyn
ni’n ei wneud yn y maes.
*Un ymwadiad cyflym ar y pwynt hwn - tydw i ddim yn dweud bod pob athro sy'n dysgu ail iaith yn gwneud hynny'n wael, jyst bod 'na lot yn.
11 commenti:
Ahem Jason - dwi ddim eisiau profi dy thesis am athrawon croendenau, ond wir Dduw mae derbyn beirniadaeth jyst yn rhan o'r job erbyn heddiw.
Dwi'n cytuno efo llawer o'r gweddill gyda llaw.
Tafod yn foch, Cai, dwi'n deall yn iawn y pwysau y mae athrawon yn ei wynebu heddiw a'r feirniadaeth sy'n cael ei luchio i'w cyfeiriad - fel yr awgrymais, byddwn i fy hun methu â delio â'r pwysau sy'n deillio o fod yn athro yn y system fodern.
Ond eto, chwe wythnos o wyliau haf de ... ;)
Mi on i'n gweithio am y dair cyntaf.
Ond ar ol dweud beth ddywedais i mae gen i un peth bach arall i'w ddweud - Steff Owen, Russ Jones, Mary Danks, Mari Sexton, Chris Schoen, Chris Jones, y Mrs, Paul Jennings, Dai Burns, Julia Latham, Edwina Williams-Jones, Paul O'Leary, Dai Bullock, Helen Hartley, Clare Richardson, Helen Smith - mi gymrodd honna ddau funud o feddwl. Mae'r cwbl yn gyfoedion, fwy neu lai i mi, y cwbl wedi bod trwy'r sector Saesneg (y rhan fwyaf yng Nghaerdydd) a'r unig un dwi erioed wedi siarad Saesneg efo hi ydi'r Mrs - pan roedd y plant yn fach a doeddem ddim am iddynt ddeall beth roeddem yn yn ei ddweud.
Y pwynt efo'r uchod dwi'n meddwl ydi eu bod wedi dysgu'r Gymraeg yn iawn oherwydd eu bod eisiau ei dysgu'n iawn.
Dwi'n cofio bod mewn tafarn ym Mhontypridd a siarad gyda merch oedd yn gweithio y tu ol i'r bar. Roedd hi'n gyn ddysgybl yn Ysgol Gymraeg lleol. Dwi wedi anghofio'r enw nawr. Roeddwyn yn ceisio siarad Cymraeg a hi ond di'm o'r gwbl. Roedd hi'n fy neall on yn gwrthod siarad yr un gair. Ac mi roedd ganddi rhai teulu o ardal Llanelli oedd yn Gymry Cymraeg hefyd. Oedd siarad Cymraeg efallai ddim yn 'cwl' iawn?
Rhydfelen wrth gwrs!
"Yn fy marn i, nid safon yr addysgu yn yr ysgolion Cymraeg ydi’r broblem yn hyn o beth (yn wahanol i ail iaith i raddau helaeth) ond y ffaith syml fod cymdeithas yn nwyrain Cymru bron yn uniaith Saesneg."
Taro'r hoelen ar ei phen! Ond sut allwn ni wella'r sefyllfa? Siŵr o fod bydd hi'n cymryd nifer o genedlaethau i gymdeithas ddwyieithog ddatblygu yn nwyrain Cymru, ac mae'n debygol bydd y Fro wedi crebachu'n llwyr erbyn hynny.
Yr ateb delfrydol ydi cynnal a chynyddu'r Fro Gymraeg a gwneud y Gymraeg yn beth naturiol hyd yn oed mewn ardaloedd heb fwyafrif. Y mae pethau y gallwn eu gwneud i gynnal y Fro, ond ei hehangu ... mae hynny'n cymryd rhywun llawer mwy deallusol a chlyfar na fi i fedru cynnig ateb!
Ond jyst fel ôl-nodyn, dyma un rheswm dwi yn bersonol ddim yn poeni gormod am yr ystadegyn diweddar bod mond tua thraean o bobl 16-24 sy'n medu Cymraeg yn ei siarad gyda'u ffrindiau. Dydi hwnna ddim, i raddau, yn adlewyrchu Cymry Cymraeg ifanc yn siarad Saesneg â'i gilydd ond yn hytrach pobl yn mynd i'r ysgolion Cymraeg, wedi'u magu yn Saesneg ac o gymunedau Saesneg, yn siarad Saesneg.
Dwi ddim yn meddwl bod angen bod ofn beirniadu athrawon. Nid yr athrawon eu hunain sy'n cael eu beirniadu ond y system sy'n caniatáu iddynt ddysgu iaith nad ydynt yn ei siarad yn rhugl eu hunain. Mae'n digwydd hyd yn oed yn y sector addysg oedolion gan fod llawer iawn o'r athrawon wedi dysgu Cymraeg eu hunain. Gall hynny fod yn beth da wrth gwrs ond rhaid gwirio eu bod wedi cyrraedd lefel benodol.
Welbru
Mae'r cohort TAR Cymraeg 2013-14 ym Mangor yn hollol rhugl bob un yn y Gymraeg, os yw hynny'n codi dy galon tipyn bach... d'wn i ddim os yw'r sefyllfa'n waeth yn yr ardaloedd mwy seisnigedig. Ym mha le wnest di ddilyn y TAR?
@BoiCymraeg
UWIC yng Nghaerdydd ddilynais i'r cwrs TAR - fedra i'n hawdd ddychmygu bod y sefyllfa yn well o lawer ym Mangor. Ond mae o'n 7 mlynedd ers imi wneud TAR felly gobeithio bod pethau wedi gwella
Posta un commento