Mae’n ymddangos mai Leanne Wood ydi bellach yr arweinydd
gwleidyddol amlycaf yng Nghymru. Dydi hynny ond â gallu bod yn beth da. Serch hynny,
y gwir ydi dwi ddim yn gweld unrhyw reswm i feddwl y caiff etholiadau’r
Cynulliad fwy o sylw y flwyddyn nesaf yn y cyfryngau Prydeinig – sef o le y
caiff y rhan fwyaf o bobl Cymru eu newyddion o hyd – ac felly ni chaiff y Blaid
yn awtomatig yr un sylw ac y gafodd y tro hwn, mewn ffordd ryfedd. Teg hefyd yw
dweud, pan ddaeth hi lawr ati, na lwyddwyd i fanteisio ar y sylw hwnnw; wedi’r
cyfan ni chynyddodd pleidlais Plaid Cymru ond 16,300 oddi ar 2010. Yn waeth na
hynny efallai, roedd 11,645 o’r cynnydd hwnnw – dros 70% – mewn pum sedd, sef Arfon, Ynys Môn, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Gorllewin Caerdydd a’r Rhondda.
“Mae Plaid Cymru’n
gwneud yn well yn y Cynulliad”
Isod mae tabl o berfformiadau Plaid Cymru ar lefel San
Steffan a lefel y Cynulliad y ganrif hon.
Blwyddyn
|
Etholiad
Cyffredinol
|
Etholiad Cynulliad
| ||
2001
|
195,893
|
14.3%
|
-
|
-
|
2003
|
-
|
-
|
180,185
|
21.2%
|
2005
|
174,838
|
12.6%
|
-
|
-
|
2007
|
-
|
-
|
219,121
|
22.4%
|
2010
|
165,394
|
11.3%
|
-
|
-
|
2011
|
-
|
-
|
182,907
|
19.3%
|
2015
|
181,694
|
12.1%
|
-
|
-
|
Ar gyfartaledd
|
179,455
|
12.6%
|
194,071
|
21.0%
|
Rŵan, yn ganrannol mae yna wahaniaeth digon sylweddol ym
mherfformiad y Blaid mewn etholiadau i’r Senedd o’i gymharu â rhai i San
Steffan, ond ni all neb wadu bod a wnelo hynny â’r ffaith fod y niferoedd sy’n
pleidleisio mewn etholiadau Cynulliad yn sylweddol is – tua 20% yn is.
Serch hynny, dwi’n meddwl ei fod o’n dangos bod yn rhaid
rhoi i’r neilltu y syniad 'ma - sy'n cael ei ailadrodd hyd nes ein bod wedi'i dderbyn fel ffaith - fod Plaid Cymru’n awtomatig yn gwneud yn sylweddol
well ar lefel y Cynulliad na San Steffan. Y gwir ydi, o ran nifer y
pleidleisiau a gaiff, mae’r gwahaniaeth ar y cyfan yn rhyfeddol o fach. Hynny
ydi, dydi Plaid Cymru ddim o
reidrwydd yn gwneud yn well yng nghyd-destun etholiadau Cynulliad i’r graddau y
dylai hwn fod yn bwynt sy’n cael ei godi’n rheolaidd. Mae’n bosibl y gellir
dadlau bod ffawd y Blaid ers 2003 yn yr etholiadau hynny'n dibynnu’n fwy ar ba
mor wael a wna ei gwrthwynebwyr yn hytrach nag ar ba mor dda mae hi’n ei wneud,
achos mae ei pherfformiadau’n eithaf statig.
Dydw i ddim yn meddwl y byddai fawr neb yn anghytuno â’r ffaith
mai saith etholaeth fydd y Blaid yn canolbwyntio arnynt o ddifrif yn 2016:
Aberconwy, Caerffili, Castell-nedd, Cwm Cynon, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, Llanelli a’r
Rhondda. Y mae rhai yn mynnu fod yna seiliau cadarn wedi’u gosod at gipio’r
seddi hyn flwyddyn nesa yn yr etholiad hwn am lu o resymau. Ond y gwir ydi – os
edrychwch chi’n fanylach ar y seddi targed hyn – mae pethau’n eithaf argoelus i
gyfleoedd Plaid Cymru.
Etholaeth
|
Newid % yn y
bleidlais 2010-2015
|
Aberconwy
|
-6.1
|
Caerffili
|
-2.1
|
Castell-nedd
|
-1.8
|
Cwm Cynon
|
-3.5
|
Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro
|
0.0
|
Llanelli
|
-7.0
|
Rhondda
|
+8.9
|
Ac fel y dywedais uchod, dydi pleidlais Plaid Cymru’n fawr ddim uwch mewn etholiadau Cynulliad mewn difrif fel rheol – cyfuniad digon digalon iddi.
Dydw i ddim yn dweud nad oes yna ffactorau fydd yn
ffafrio Plaid Cymru’r flwyddyn nesaf – ond mae yna lot o bethau i’w poeni
amdanynt hefyd. Dwi’n eithaf siŵr bod yna rai ym Mhlaid Cymru sy’n deall hynny ... ond gan ddweud hynny dwi'n hollol siŵr fod yna rai sy ddim.