Er ei bod ond ychydig ddiwrnodau ers yr etholiad dwi’n
rhyfeddu ar faint o ddadansoddi trylwyr ac actiwli eithriadol o gall a
threiddgar sydd wedi bod mor gyflym ar ôl iddo ddigwydd, a hynny gan bobl o bob ongl i'r sbectrwm gwleidyddol, felly dwi’n teimlo’n
hwyr i’r parti ac fel petawn i’n gorfod ailadrodd mymryn. Ond mae rhai meddyliau
sydd wedi bod yn nofio yn fy mhen dwi isio rhoi rhyw ychydig sylw iddynt, a
hynny’n gryno achos dwisho gwneud fy nhe. Wna i nhw fesul pwynt.
Y system
etholiadol
Does fawr neb yn honni fod y system etholiadol sydd ohoni’n
deg, ond mae diwygio’r system yn farw tan yr etholiad cyffredinol nesaf o leiaf. Dydi’r
Ceidwadwyr ddim isio unrhyw elfen o system gyfrannol, ac mae ganddyn nhw
fwyafrif. Fydd yr SNP yn llwyr anghofio am unrhyw ymrwymiad oedd ganddi yn hyn
o beth, a byddai Llafur fawr gwell eu byd dan y drefn honno. Mae hynny’n gadael
UKIP, y Gwyrddion, y Dems Rhydd a’r Blaid i gyd o blaid system gyfrannol ac mae
ganddyn nhw 13 sedd rhyngddynt. Y mae newid y system bleidleisio yn fater sy’n
farw am rŵan.
Naws wleidyddol
Cymru
Y mae nifer wedi dweud bod yr etholiad hwn yn dangos fod y
syniad fod Cymru'n wlad sylfaenol asgell chwith yn hurt – ac maen nhw’n iawn i
bob pwrpas. Serch hynny, mae'n biti y cymrodd mor hir i rai pobl ddechrau ystyried hyn. Rydyn ni wastad wedi bod yn genedl gymdeithasol geidwadol ac roedd
twf UKIP a’r Ceidwadwyr yng Nghymru’n dangos hynny. Ni lwyddodd y Blaid, sy’n
hoffi gweld ei hun fel plaid i’r chwith o Lafur, fawr o ddim o ran ei
phleidlais, ac er 30 mlynedd o drio dydi hi dal heb wneud hynny. Mi lwyddodd
UKIP, ac i raddau’r Ceidwadwyr wneud hyn; efallai nid er eu bod yn bleidiau'r dde, ond oherwydd hynny.
Y mae Cymru’n wlad ôl-syniadaethol. Dydi chwarae ar fod yn
asgell chwith, fel y gwnaeth Llafur a Phlaid Cymru, ddim efo’r un apêl ag yr
oedd ganddi amser maith iawn yn ôl. Os rhywbeth mae Cymru’n llawer tebycach i
Loegr yn wleidyddol nag y bu erioed. Mae yna ffactorau lu am hynny, ond mae’n
wir.
Bod yn
wladweinydd
Dydi pobl erioed wedi cymryd at Miliband a wnaethon nhw
ddim at Bennet ychwaith. Roedd y ddau arweinydd yn ffactor yn aflwyddiannau eu
pleidiau.
Mae Leanne Wood a Nigel Farage yn wleidyddion poblogaidd (er
bod Farage yr un mor amhoblogaidd ag unrhyw un hefyd), ond dydi’r un ohonyn nhw’n
dod drosodd - nac yn mewn difrif - yn ddeallus nac yn rhyfeddol o alluog. Mewn etholiad dydi hynny ddim yn argyhoeddi pobl ddigon.Ar y llaw arall, mae dau arweinydd a lwyddodd gyfleu eu hunain fel gwladweinyddion: Cameron a Sturgeon. Roedd llwyddiannau’r ddwy blaid y tu hwnt i’w gobeithion achos eu bod nhw wedi dod drosodd fel galluog a gwybod sut mae rheoli gwlad - er, wrth gwrs, i'r ddau gael profiad o wneud hynny.
Llymder
Un pwynt mawr ddarllenais i yn rhywle arall oedd faint a wnaed o lymder –
ac roedd o'n bwynt difyr. Achos, ac mae hyn yn werth ei godi, er bod
pethau wedi bod yn ddu ar gynifer o bobl dros y 5 mlynedd ddiwethaf, mae’r rhan
fwyaf o bobl wedi gwneud yn olreit, os nad yn wych, ac efallai bod llai o bobl
nag y meddyliai’r gwleidyddion sydd isio gweld newid cyfeiriad oherwydd hynny.
Plaid Cymru
Noson gymysg oedd hi i’r Blaid. Roedd yna ganlyniadau da –
nid lleiaf yn Arfon, y Rhondda a Gorllewin Caerdydd. Ar y llaw arall, roedd yna
seddi nad oes angen i mi eu henwi lle’r oedd y canlyniadau’n siomedig, os nad gwael
iawn weithiau. Ta waeth, y pwynt ydi hyn mewn difri: tasa’r Blaid heb gael yr holl sylw,
byddai hwn wedi’i ystyried mewn rhai ffyrdd yn etholiad derbyniol iawn. Ond – â
phlîs peidiwch â bod yn ddiystyriol o’r pwynt hwn, Bleidwyr – cafodd Plaid Cymru y math o
sylw na chredai y câi erioed y tro hwn. Cynyddodd ei phleidlais un y cant. Hynny
ydi, clywodd pobl neges y Blaid yn glir yn yr etholiad hwn ... a’i gwrthod.
Mae gan y Blaid felly o hyd gwestiynau ynghylch ei chyfeiriad gwleidyddol.
Y cyfryngau
cymdeithasol
Ers ethol Obama yn 2008 mae pobl wedi edrych at, a breuddwydio
am, ddylanwad y cyfryngau cymdeithasol. Gwelsom yng Nghymru yn sicr, ond hefyd
ar lefel y Deyrnas Unedig, nad ydi’r cyfryngau cymdeithasol hanner mor
ddylanwadol ag y damcaniaethai rhai pobl eu bod. Dadleuais i hyn am fyd y
blogiau flynyddoedd yn ôl hefyd – mae’r un peth yn wir am Twitter heddiw. Yn
wir, mae natur Twitter yn ei wneud yn anylanwadol ar farn pobl. Cyfrwng i
ennill etholiad nid yw; a dydi o ddim yn rhyfeddol o effeithiol am wthio
safbwyntiau gwleidyddol.
Y broblem efo’r cyfryngau cymdeithasol ydi’r swigen y mae’n
ei chreu. Bu i fwy nag un ohonom ryfeddu hyd at grinjio ar rai o ddisgwyliadau
cefnogwyr Plaid Cymru (er, i fod yn deg, cefnogwyr iau a mwy brwd!) o weld
ambell bôl neu ddarllen ambell beth. Y wers yn fanno ydi, mae yna fyd go iawn y
tu allan i Twitter, a dydi o ddim o reidrwydd yr un peth.
Twll mawr
Llafur Prydain
Mae hwn yn bwynt dwi heb ei ddarllen eto, er hwyrach ei fod
o wedi’i wneud. Mae beirniadaeth wedi bod at Lafur am fod yn rhy asgell chwith yn
yr etholiad hwn. Ond dyma broblem Llafur – ni fu Llafur ôl Blair a Brown yn
blaid asgell chwith beth bynnag, i bob pwrpas dilynai'r un trywydd â nhw.
Clywid llawer dros y misoedd diwethaf na fu i’r Ceidwadwyr
ennill mwyafrif ers 1992. Ond meddyliwch am hyn – dydi Llafur heb ag ennill mwyafrif
ag arweinydd gwirioneddol adain chwith ers 1974.Mae hynny'n gadael cwestiwn mawr i Lafur ym Mhrydain - achos mi fedrid dadlau bod y blaid mewn sefyllfa lle na all ennill etholiad drwy fod naill ai yn y canol gwleidyddol nac ar y chwith.
Twll mawr Llafur
Cymru
Dydw i ddim yn meddwl imi erioed â chytuno â David Taylor,
ond roedd yr erthygl
hon ar ClickOnWales wedi taro’i hoelen ar ei phen. Bu’r ysgrifen yn y tywod
i Lafur yng Nghymru gael etholiad tebyg i hwn ers blynyddoedd, er na
ddigwyddodd i raddau sylweddol tan rŵan.
Ond un gair o gyngor o ran hynny – mae Llafur o hyd yn
llwyr ddominyddu bywyd cyhoeddus yng Nghymru, ac yn wahanol i’r Alban tydi hi
ddim yn wynebu un gwrthwynebydd cryf, trefnus, cyfrwys. Nes y bydd un blaid, a gellid dadlau’n fawr
ynghylch pa blaid, yn gallu gwneud hynny, mae ei gafael ar Gymru, er gwaethaf ei
gwendidau lu, yn debygol o barhau.
Ta waeth, fydd yna lot o mwy o drafod am yr etholiad, er
nad gen i, mewn llefydd eraill dybiwn i, achos os gellir dweud un peth am yr
etholiad hwn roedd yn un eithriadol o ddifyr a fydd yn haeddu cael ei
ddadansoddi a’i drafod yn fanwl.
Reit, dwi ddim yn Dori, ond dwi am gael samon a salad i de.
Welai chi pan welai chi - wyddoch chi fyth pryd y bydda i'n blogio nesaf, oni wyddoch?
3 commenti:
Pwynt bach ella - ond ti'n bod ychydig yn anheg ar yr SNP parthed y system bleidleisio - http://www.independent.co.uk/news/uk/politics/the-snp-would-vote-to-introduce-proportional-representation-at-westminster-nicola-sturgeon-confirms-10223302.html
Pwynt am y 'llymder'. Es pa bryd mae talu nol eich dyled yn beth adain dde? Os ydach chi'n coelio mewn mwy o wariant, mae angen codi trethi lot fawr. Mi wnes i siarad efo digon o gefnogwyr PC oedd yn meddwl bod mynd mlaen a mlaen am stopio'r llymder yn rybish (ond dal i bleidleisio i PC).
Gyla llaw, tydi'n Eidaleg i ddim yn gret - chydig o sialens weithiau i brofi nad robot ydw i...!
Hollol. Mae nifer helaeth o gefnogwyr PC yn dechrau mynegi'r farn y dylem fynd yn ol at bolisiau sy'n pwysleisio annibyniaeth a'r Gymraeg unwaith ac am byth, yn hytrach na pholisiau a gafodd eu geni a'u magu yng Nghomin Greenham.
Nid ail-greu Plaid Lafur y 40au y dylem fod yn ei wneud, ond creu Plaid Cymru sydd o bosibl yn coleddu cyfalafiaeth a busnes cymaint a Sosialaleth. Daeth yn amlwg nad oedd llymder yn effeithio ar nifer helaeth o ddarpar-bleidleiswyr PC , ac felly yn neges amherthnasol iddynt.
Yn anffodus, mae nifer enfawr o'r rhai sy'n dioddef o lymder i weld yn ddifater am bleidlesio, neu'n coleddu UKIP.
Posta un commento