mercoledì, dicembre 23, 2015

Eryrod Pasteiog III: Caryl Parry-Jones a'r Wy

Pei pluog y wybren welw; yr eryr pasteiog yw.

 
Eisteddai Caryl Parry-Jones â’i llygaid yn llonydd anelu at yr wy. Eisteddai’r wy yn llonydd hefyd gan syllu’n ôl. Roedd ei chadair bren yn anghyfforddus, ond ei hunig gadair bren ydoedd, felly eisteddai arni’n eiddgar. Ni allai fforddio colli un arall. Un wy oedd ar ôl ganddi, a chymerodd ato fel gwair at y pridd, gan ei anwesu yn ei mynwes am bedair awr hir. Llwgai am na chawsai wy, ac nid oedd ar ôl yn y tŷ fwyd eithr tameidiau caws y noson gynt, ac ymenyn.
Roedd y tŷ mor unig ers ymadawiad Huw Chiswell, neu, fel y’i gelwid gan ei ffrindiau, “Huw”. Lletyai yno am sbel, ond blinodd ar y deuawdu cyson dibaid a gadawsai’r noson gynt, gan adael Caryl heb gwmni; heb ddim, yn wir, eithr ei dri sandal a’i un esgid dda.
Ni segurodd hithau drannoeth ymadawiad Huw. Aeth i’w phot celf, a chael ffelt pen glas allan. Gafaelai am yr wy’n ofalus, a llunio arno ddwy lygad, trwyn smwt, tamaid o wallt a gwên fawr garedig. Fe’i gosododd yn ofalus yn y twb ymenyn a’i roddi ar y bwrdd. Gwenai iddi ei hun.
“Y mae gennyf yn awr gwmni,” meddai’n fuddugoliaethus. Ac edrychodd ar yr wy. A’r wy a edrychodd yn ôl. Gwenodd y ddau at ei gilydd am weddill yr wythnos. Ond nid oedd hyd yn oed i Garyl Parry-Jones wy’n gwmni digonol. Suddodd ei chalon yn y pen draw ac meddai at yr wy, “O, oni fyddet fyw. Byddwn fam iti”.
Roedd fflachiad arian a’i dalliodd ennyd, ond pan welsai drachefn gwelsai dylwythen deg foliog yno o’i blaen. “Henffych Garyl,” meddai’r dylwythen, “yr wyf yma i ateb eich dymuniad. Myfi yw Tylwythen Deg yr Wyau.”
“Brensiach a brawychiaeth,” ebe Caryl, “pwy ydych chi?”
“Clywais gri eich calon. Deuthum i’w hateb, gantores gaboledig.”
“Pam ydych chi yma?” holodd Caryl.
“Rhoddaf i’r wy fywyd a chwi a fyddwch iddo’n fam!”
“A ydych yma i roi bywyd i’r wy a’m gwneud iddo’n fam?”
“Yli,” meddai’r dylwythen wyau, “stopia ofyn pethau dwi newydd ddweud. Mae’n blentynnaidd, ac mi wyt ti’n ddynas yn dy oed a’th amser. Mae gen i gannoedd o ddymuniadau wy i wneud heddiw fel y mae hi, heb orfod dioddef dy nonsens di. Wyt tisho’r wy ‘ma fyw neu be?”
“Ydw,” atebodd Caryl yn bwdlyd ar ôl saib, yn eiddgar eisiau ymddwyn yn anaeddfed. Ennyd, yr oedd fflach arall. Rhwbiodd Caryl ei llygaid. Ac o’i blaen, gwelsai'r llygaid bychain del yn syllu arni, a’r geg fechan ar wyneb yr wy yn edrych arni’n llon. “O fy wy bach!” gorfoleddai, “Wyt fyw! Fe’th alwaf yn Hermon a chawn gyd-fyw yma hyd ddiwedd oes!”
Ond troes gwên yr wy’n banig. “O Mam,” meddai’n drist, “pa beth a wnaethoch? Edrychwch arnaf. Ni allaf gerdded canys nad oes gennyf goesau. Ni allaf ymestyn na gafael am nad oes gennyf freichiau na dwylo. Ac rydych wedi fy rhoi mewn twb ymenyn, yn goron ar y sarhad. Nid yw hyn yn ffordd i neb fyw!* O, paham a roesoch imi fywyd mor greulon a disylwedd? Pa beth a wnaeth i chi feddwl mai syniad da byddai rhoi bywyd i wy?”
“F’anwylyd,” atebodd Caryl yn ddagreuol, “o, f’anwylyd. Rwyt yn gywir. Tyrd yma, ‘machgen”. Ac ymafaelodd am yr wy bach, a rhoddi cusan dyner am ei gorun, a’i wasgu nes i’w blisg ildio a’i bysedd drywanu’i felyn. Wylodd yn wyllt, fel na wylai neb ers Llywelyn, gan rolio ar y llawr ym mherfeddion ei mab wyog, a rholiodd i’r parlwr a rholiodd i’r ardd ac yna rholiodd i’r gegin.
Rhedodd Golwg360 y pennawd “Caryl Parry-Wy” pan dorrodd y stori yn y cyfryngau, oherwydd dyna’r math o bennawd y byddai Golwg360 yn meddwl amdani.


*heblaw am Dyl Mei.

Nessun commento: