mercoledì, febbraio 10, 2016

Cachfa ddiweddaraf Plaid Cymru

Digon hawdd, mae’n siŵr, wrth ddarllen blog dwi’n ei ysgrifennu am ffolinebau Plaid Cymru feddwl mai’r bwriad ydi ei thanseilio neu ymosod arni. Ond ni fu hynny erioed, nid unwaith, yn fwriad – hyd yn oed petai pawb mwy na bron neb yn darllen. Yn hytrach mae’r blogiau hynny’n gri o rwystredigaeth lwyr â phlaid wleidyddol sydd, ysywaeth, yn edrych yn gynyddol hurt ac amherthnasol.

Os ydych chi’n darllen hwn mi dybiaf i chi ddarllen am fwriad diweddaraf gwallgof y Blaid i geisio sefydlu rhyw fath o gytundeb â’r Gwyrddion a’r Democratiaid Rhyddfrydol cyn etholiad mis Mai – cynllun na ddylai erioed wedi cael ei ystyried heb sôn am fynd i ddwylo’r cyfryngau. A dyma pam fy mod i yma’n egluro pam fod y syniad nid yn unig yn un hurt, ond yn dangos diffyg crebwyll gwleidyddol o’r math mwyaf annealladwy o du’r sawl a feddyliodd amdano.

 
Cyflwr y pleidiau

Mae rhai, fel Adam Price, wastad wedi sôn am yr angen i sefydlu rhyw fath o gynghrair wrth-Lafur yng Nghymru. Yn gyffredinol dydi hynny ddim yn syniad drwg. Y broblem ydi dydi’r sefyllfa wleidyddol bresennol yn gwbl, gwbl amlwg ddim yn caniatáu hynny (onid yw'n cynnwys y Ceidwadwyr, ac mae hynny'n flogiad arall). Mae’r Gwyrddion yn boenus o amherthnasol yng ngwleidyddiaeth Cymru. Eu canlyniadau diweddaraf yng Nghymru oedd 2.6% y llynedd yn yr etholiad cyffredinol, 4.5% yn etholiadau Ewrop yn 2014 a 3.4% yn etholiadau’r Cynulliad yn 2011. Mae hynny heb drafod y ffaith nad oes ganddyn nhw hyd yn oed gynghorydd yma.

O ran y Democratiaid Rhyddfrydol, mae’n debycach y cawn nhw 0 sedd eleni na 2 – sef y mwyaf y maen nhw’n debygol o’i gael. Yn gryno, ar ôl eleni bydd y Democratiaid Rhyddfrydol hwythau yr un mor amherthnasol i wleidyddiaeth Cymru â’r Gwyrddion.

A hyd yn oed os ydi’r ddwy blaid yn cyrraedd y Cynulliad y flwyddyn nesaf, y sefyllfa orau i’r ddwy fyddai dwy sedd yr un. I roi hynny’n ei gyd-destun mae angen 5 sedd ar blaid i ffurfio plaid seneddol yn y Cynulliad. ‘Eraill’ ydyn nhw fel arall. Rhaid bod yn onest hefyd, mae Plaid Cymru'n annhebygol o gyflawni unrhyw beth o bwys ar Fai'r 6ed.

Egwyddor y peth a natur pleidlais y Blaid

Does gen i ddim gronyn o wrthwynebiad i bleidiau’n dod i gytundeb â’i gilydd i beidio â chystadlu yn erbyn ei gilydd cyn etholiad. Mae pwy maen nhw’n gwneud hynny â nhw’n fater arall.

Dwi wedi blogio o’r blaen am y Gwyrddion – pan geisiwyd dod i ryw fath o gytundeb od â nhw yn 2015. Roedd y peth yn warth. O holl bleidiau Cymru, y Gwyrddion ydi’r Seisnicaf ei naws a dydyn nhw erioed wedi dangos mymryn o frwdfrydedd dros ddatganoli, yr iaith Gymraeg na Chymru fel cenedl. Dylai hynny ynddo’i hun eu gwneud yn wrthun i blaid genedlaetholgar honedig. Yn anffodus, yr hyn a ddengys y ffaith i hyn gael ei ystyried ydi bod cenedlaetholdeb, heb ronyn o amheuaeth bellach, yn ail yn rhestr blaenoriaethau Plaid Cymru y tu ôl i syniadaeth wleidyddol asgell chwith leiafrifol, gyfyngedig.

Yr hyn a ddengys hynny ydi, fel dwi hefyd wedi dweud o’r blaid, anallu neu amharodrwydd mawrion y Blaid i gydnabod ... adnabod hyd yn oed ... natur ei phleidlais hi. Mae o’n dorcalonnus ... o dwp, ac yn drewi o gyfforddusrwydd anhaeddiannol â'i sefyllfa. Unig pwynt gwerthu unigryw Plaid Cymru ydi ei chenedlaetholdeb. Yn hytrach mae hi’n mynd o’i ffordd i geisio apelio at lefftis, lleiafrifoedd a hipis a hynny oll drwy fod yn ofalus iawn peidio ag ypsetio Saeson. Y bleidlais sydd yno i’w hennill – os caf i fod yn blaen – ydi’r dosbarth gweithiol Cymraeg. Nhw ydi’r mwyafrif, a dydyn nhw ddim yn licio Llafur ddim mwy.

 
Y fathemateg etholiadol

Dylai hwn fod yn amlwg, ond yn amlwg dydi o ddim. Byddai pact o’r fath ddim yn dod yn agos at yr 18-22 sedd a grybwyllwyd. Mae hynny’n deillio o amhoblogrwydd y Democratiaid Rhyddfrydol, amherthnasedd y Gwyrddion yng Nghymru ac anallu cyson Plaid Cymru i ennill y seddi sydd eu hangen arni. Mae’r tri pheth hynny’n wir eleni. A hyd yn oed petai modd cyrraedd 18 sedd, fel lleiafswm, mae problem fwy craidd...

Y strategaeth etholiadol

Dylai hwn fod wedi bod yn boenus o amlwg cyn hyd yn oed meddwl am geisio trafodaethau. Sut yn union y byddai’n gweithio? Iawn, mi fedra i werthfawrogi y gallai weithio i raddau yn yr etholaethau (ond, cym off it, y Dems Rhydd a’r Gwyrddion yn cytuno i beidio â sefyll yng Ngheredigion?) ond does yna ddim hyd yn oed mymryn o gyfle o gael cytundeb yn y rhanbarthau, sef y lle mwyaf addas i gael cytundeb. Fyddai Leanne Wood yn fodlon ildio i’r Gwyrddion ranbarth Canol De Cymru, er enghraifft? A fyddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn fodlon ildio’r Canolbarth i’r Blaid neu'r Gwyrddion o ystyried eu bod nhw’n wynebu colli pob etholaeth?

Ond dywedwn ni fod hynny, drwy ledrith yn cael ei gytuno arno, mae problem sydd hyn yn oed yn fwy craidd...

Trosglwyddo pleidleisiau

I gael unrhyw gyfle o lwyddo byddai angen i’r pleidiau oll ddarbwyllo eu pleidleiswyr nhw fwrw pleidlais dros blaid arall. A hefyd, byddai angen iddyn nhw gynyddu eu pleidlais oddi ar yr etholiad diwethaf. Mae hynny’n mynd â fi’n ôl at y pwynt uchod – diffyg dealltwriaeth o natur cefnogwyr nid yn unig y Blaid, ond y ddwy blaid arall hefyd.

Gymerwn ni Gaerffili ac Islwyn, sydd yn rhanbarth de-ddwyrain Cymru lle mae Plaid Cymru’n tueddu i wneud yn gymharol dda. A fyddai’r rhai sy’n pleidleisio i’r Blaid yno’n gallu cael eu darbwyllo gan Blaid Cymru i bleidleisio i’r Gwyrddion ar y rhestr, er enghraifft? Na – does yn yr ardaloedd hynny ddim mo demograffeg pleidleiswyr y Gwyrddion. A fyddan nhw’n cael eu darbwyllo i roi fôt i’r Democratiaid Rhyddfrydol a glymbleidiodd â’r Ceidwadwyr? Wrth gwrs ddim.

A fyddai pleidleiswyr y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Canolbarth yn gallu cael eu darbwyllo i bleidleisio dros Blaid Cymru, neu Wyrddion y Gogledd drosti? Na – dydi'r rhai fyddai'n pleidleisio drostynt ddim yn agored i hynny o'u hanfod. Y mae’r holl beth mor rhyfeddol o amlwg o amhosibl dwi bron â sgrechian. Dydi pleidleiswyr Plaid Cymru ddim o reidrwydd yn amgylcheddwyr nac yn rhyddfrydwyr. A dweud y gwir, byddwn i’n dadlau bod y rhan fwyaf helaeth o’i phleidleiswyr y naill na’r llall.

O, ac un pwynt arall.

Rhyddhau’r stori i’r cyfryngau

Wn i ddim o ba ffynhonnell y daethai hyn. Mae fy ngreddf yn dweud – o ddarllen ambell beth ar Twitter – o du Plaid Cymru. Ni allaf ond â mynegi hyn: os dyna’r achos, mae’r ffynhonnell yn haeddu cael ei ysbaddu’n gyhoeddus. Am beth mor rhyfeddol, mor wirioneddol dwp i’w wneud. Mae’n embaras llwyr. Mae’n berffaith amlwg fod y Dems Rhydd – y nhw sy’n wynebu colli pob sedd sydd ganddynt – wedi tynnu allan o’r darpar gytundeb cyn unrhyw un arall. Dydyn nhw sy’n wynebu colli pob sedd, sydd mewn sefyllfa gwbl anobeithiol, ddim yn fodlon rhoi cynnig ar hyn. Achos yn y bôn, dydi hyn ddim yn effeithio ar y Dems Rhydd na’r Gwyrddion. Debyg na chaiff fawr o effaith ar bleidlais y Blaid ar ddiwrnod yr etholiad, does bron dim yng Nghymru’n cael effaith ar ddim gwaetha’r modd, ond i’r rhai sy’n ymddiddori mewn gwleidyddiaeth maen nhw’n edrych yn dwp.

Ylwch, rhowch y peth fel hyn. Mae’n siŵr bod y syniad ddaeth i’r amlwg heddiw wedi cael ei ferwi dros gyfnod a chyda brwdfrydedd. Dydw i ddim yn un i ganu fy nghlodydd fy hun – wir, dwi ddim – ond mae o wedi cymryd llai nag awr i fi, nad ydw i'n fwy na thipyn cyfieithydd sydd erioed wedi gweithio yn y byd gwleidyddol mewn unrhyw ffordd, rwygo’r peth yn rhacs yn y blogiad hwn. Fyddwn i’n gallu dweud mwy, ond mae awr yn ddigon i dreulio ar y gachfa ddiweddaraf ‘ma o du ein plaid genedlaethol ddi-glem.
 
***
 
Ac un gair i gloi, rhag ofn i ryw smartarse droi fyny â chwyno fy mod i'n cwyno am Blaid Cymru ond yn gwneud dim fy hun. Dwi ddim yn aelod o blaid. Pleidleisiwr ydw i: nid mwy na llai. Nid fy nyletswydd i - nid fymryn - ydi dewis plaid wleidyddol na chyfrannu ati. Dyletswydd plaid wleidyddol ydi fy narbwyllo i bleidleisio drosti efo'i syniadau a'i gweithredoedd. Ac ar y funud, dwi bron yn sicr pan ddaw hi at etholiad mis Mai, eistedd ar fy nhin a wna i drwy'r dydd a pheidio â bwrw pleidlais, achos bod holl bleidiau ein gwlad ar hyn o bryd yn gawod o gachu pur. Iawn ydi meddwl yn ddwfn am syniadau , "datrysiadau", hefyd, ond pan maen nhw'n syniadau shit peidiwch â ffycin pwdu bod rhywun yn pwyntio'r peth allan. Rhowch hwnnw yn eich ffycin cetyn a'i smocio.
 

martedì, febbraio 02, 2016

Iowa

Bron tri mis yn ôl, ysgrifennais am y frwydr yn rhengoedd y Gweriniaethwyr, a’r ffaith fy mod i o farn waeth pwy fydd yn ennill yr enwebiad, fy mod i o’r farn fod mantais ganddynt yn yr etholiad arlywyddol waeth pwy fydd yn ennill. Yn y blogiad hwnnw, dywedais mai’r bet call am yr enwebiad oedd TCR (Trump, Carson, Rubio). Ar ôl profi bod hyn yn oed llawfeddygon yn gallu bod yn rhyfeddol o wirion, ma Carson bellach yn hen hanes, sydd wir yn dangos anwadalwch gwleidyddiaeth. Ond ddaeth ‘na ‘C’ arall yn ei le, sef yr erchyll Ted Cruz. Felly o’n i bron yn iawn.

Y peth na soniais amdano bryd hynny oedd ras y Democratiaid. Eto, gan ddangos anwadalwch gwleidyddiaeth, mae’r ras honno bellach yn un ddifyrrach o lawer nag ymddangosai ar yr olwg gyntaf.

P’un bynnag, erbyn hyn mae’r cymal cyntaf drosodd – cawcus Iowa. Dyma ambell sylw brysiog am y canlyniadau o’r ddwy ochr i’r ffens wleidyddol.

Y Llwybr i Ennill

Ma’n werth cyn bwrw ymlaen ystyried hyn – cyn 14 Mawrth mae’r cynadleddwyr yn tueddu i gael eu dyrannu drwy system led-gyfrannol. Ar ôl hynny mae mwy o daleithiau â system lwyr neu rannol winner-takes-all, lle bydd yr enillydd yn hawlio’r holl gynadleddwyr os enillan nhw’r bleidlais. Mae’r rhain yn cynnwys taleithiau mawr fel Florida, Illinois, Ohio, Efrog Newydd a’r fwyaf oll, Califfornia.

Y mae’n system fwy cymhleth na hynny ac mae gwahaniaethau rhwng y rhai Democrataidd a Gweriniaethol. Cyrraedd y pwynt hwnnw ydi’r nod i nifer fawr o’r ymgeiswyr.

Y Gweriniaethwyr

Fydd canlyniad Iowa yn y pen draw ddim yn un enfawr, ond ar ei ôl mae ‘na lu o ymgeiswyr sydd yn edrych fel petaen nhw allan ohoni erbyn hyn waeth beth fydd yn digwydd wythnos nesaf yn New Hampshire. Anodd gweld trywydd i’r enwebiad bellach i Jeb Bush, Chris Christie, Ben Carson a  John Kasich ynghyd â’r mân ymgeiswyr eraill. Mater o leihau’r gorlan ydi Iowa a NH.

O ran Trump, roedd Iowa’n dangos bod troi anfodlonrwydd yn bleidleisiau’n beth anodd. Roedd pethau wastad am fod yn lled agos yn Iowa ond roedd methiant Trump i gael ei bleidleiswyr allan yn sylweddol – roedd ei berfformiad o’n waeth na’r margin of error (ac mae hwnna’n gallu bod yn fawr mewn nifer o bolau Americanaidd). Serch hynny, mae hi ymhell o fod drosodd iddo gan nad Iowa oedd y tir ffrwythlonaf iddo. Nesaf daw NH a De Carolina – dwy dalaith y mae Trump ymhellach o lawer ar y blaen ynddynt. Ond gyda’r gwynt wedi’i daro o’i hwyliau rhyw fymryn, a’i anallu i gael pawb sy’n ei gefnogi i bleidleisio, mae’n siŵr fydd pethau’n agosach na’r disgwyl. Byddwn i ddim serch hynny’n ei ddiystyru. Pwy all wir ei weld yn ildio? Na, mae Trump isio mynd yr holl ffordd, ac os bydd o’n methu ag ennill yr enwebiad fydd o’n siŵr o lusgo pawb arall i lawr efo fo’n fwriadol.

Ar y llaw arall roedd Iowa’n ganlyniad mawr i Cruz – sydd yn fy marn i yr ymgeisydd ffieiddiaf o’r cyfan, ond mi roddaf fy marn i’r naill ochr yn y darn hwn. Y cyfan sydd angen iddo ei wneud ydi aros y tri uchaf tan Ddydd Gŵyl Dewi pan fydd llu o daleithiau’n pleidleisio, llawer iawn ohonynt yn y de lle mae ei gefnogaeth gryfaf, gan gynnwys Texas a Georgia. Os gall Cruz o leiaf ennill mewn llu o’r taleithiau hyn bryd hynny, mae o mewn sefyllfa gref iawn, hyd yn oed os yw ei apêl gyffredinol yn gyfyngedig.

Rubio, ar y llaw arall, ydi’r boi i’w wylio bellach. Gwnaeth o’n well na’r disgwyl o gryn ffordd. Ond dydi’r ffordd ddim yn hollol glir iddo yntau chwaith. Mae llawer iddo fo’n dibynnu ar ymgeiswyr eraill yn tynnu allan, a po gyntaf y gorau. Gellir disgwyl i raddau i bleidleiswyr mwy prif ffrwd ddechrau dod ato, er bod hynny’n sefyllfa ryfedd ynddi ei hun. Dydi Rubio ddim yn ymgeisydd cymedrol yn y lleiaf. Hefyd, rhaid cofio, mae o dal y tu ôl i Trump a Cruz yn y rhan fwyaf o’r polau, ac o ystyried pa mor ddiawledig mae’r ymgeiswyr gwirioneddol gymedrol yn ei wneud, mae modd dadlau nad oes gormod o bleidleisiau iddo eu hennill waeth faint ohonyn nhw sy’n tynnu allan. Bydd ei dalaith o, Florida, yn un o’r taleithiau mawr sy’n winner-takes-all yn pleidleisio ar 15 Mawrth, yn dyngedfennol. Yn ôl y polau oll mae o’n drydydd fanno hefyd, gyda llaw. Y gwir ydi, ar ôl New Hampshire a De Carolina, dydi trydydd ddim yn mynd i fod yn ddigon da, rhaid iddo fo ddisodli naill ai Cruz neu Trump yn y ddau uchaf.

Ar y cyfan, cadarnhaodd Iowa rywbeth sy’n amlwg yn y dŵr yn rhengoedd y Gweriniaethwyr. Rydym ni yn Ewrop wedi gweld y Gweriniaethwyr fel plaid eithafol erioed, ond mae ‘na elfennau cymedrol ynddi (mae’r gwahaniaeth rhwng Clinton a Bush , er enghraifft, yn ddigon ansylweddol ar y cyfan). Maen nhw wedi’u llwyr drechu yn yr etholiadau hyn; mae’r Gweriniaethwyr yn fwy asgell dde nag y maen nhw erioed wedi bod. Mae’n anodd i rywun yr ochr yma i’r Iwerydd mewn difri ddweud pa mor niweidiol, os o gwbl fydd hynny iddyn nhw.

Hefyd, mae ‘na gyfle mawr iawn, iawn ar hyn o bryd y bydd y Gweriniaethwyr mewn sefyllfa mewn rhai misoedd lle na fydd gan unrhyw un o’r ymgeiswyr fwyafrif o gynadleddwyr i gipio’r enwebiad. I bob pwrpas bydd mawrion y blaid yn gorfod dethol ymgeisydd os digwydd hynny. Rubio fyddai hynny heb os. Ond mae sut y gallent ei ddewis gan hefyd gadw cefnogwyr Trump a Cruz yn fodlon yn dasg amhosibl, yn enwedig os ydi o dal wedi dod yn drydydd.

Y Democratiaid

Hon oedd y stori, waeth be ddywed neb. Tan yn ddiweddar iawn, iawn, roedd Hillary Clinton ymhell ar y blaen yn Iowa. O drwch blewyn oedd hi’n fuddugol neithiwr. Rŵan, mae o hyd yn anodd gweld hi’n colli’r enwebiad mewn difrif, ond mae’r ffaith bod Sanders nid ychydig fisoedd yn ôl 40% y tu ôl iddi yn y polau yno a bron â’i threchu neithiwr yn arwyddocaol. A hon yw’r adeg berffaith i ddechrau ennill momentwm. Mae’r syniad mai fater o goroni fyddai dewis Clinton wedi’i chwalu, ac mae hwnnw’n newid canfyddiad pwysig. Y mae’n werth cofio hefyd bod Iowa ddim y math o le y byddai disgwyl i Sanders wneud hyn dda, heb sôn am bron trechu Clinton yno.

Yn ôl y polau, mae Sanders ymhell iawn ar y blaen yn New Hampshire. Mae’n anodd gweld ar ôl neithiwr hynny’n newid, ond fe allai o bosibl leihau’r bwlch yn Ne Carolina (lle mae Clinton ymhell ar y blaen). Ond daw Nevada cyn De Carolina, ac mae ambell sylwebydd wedi awgrymu eisoes y gallai Sanders ennill yno. Mae’n sefyllfa od, ond gallai Sanders wneud y dda iawn yn y taleithiau traddodiadol Democrataidd a Clinton ei ysgubo o’r neilltu yn y taleithiau traddodiadol Gweriniaethol. Mae honno’n adrodd cyfrolau – dydi rhaniadau’r blaid Ddemocrataidd ddim mor amlwg na chas â rhai’r Gweriniaethwyr ond mae nhw yno, ac maen nhw wedi dyfnhau.

Yn fwy cyffredinol, mae ymgeisyddiaeth Sanders – er y bydd yn siŵr o fethu yn y pen draw – yn newyddion drwg i’r Democratiaid. Y gwir ydi, dylai rhaniadau’r Gweriniaethwyr fod wedi gwneud pethau’n haws o lawer i’r Democratiaid eleni ond mae ymgyrch hirhoedlog ac annisgwyl am yr ymgeisyddiaeth ar ddod. Efallai ni fydd hynny’n eu niweidio gormod, ond dydi o’n sicr ddim o gymorth.

Mae’r llwybr at yr arlywyddiaeth ei hun o hyd yn un maith a throellog. Bydd yna fawr o oblygiadau i ganlyniad Iowa yn y pen draw, ond mi ydyn ni o leiaf wedi cael cipolwg bach difyr ar yr hyn a allai ddigwydd dros y misoedd nesaf.