martedì, febbraio 02, 2016

Iowa

Bron tri mis yn ôl, ysgrifennais am y frwydr yn rhengoedd y Gweriniaethwyr, a’r ffaith fy mod i o farn waeth pwy fydd yn ennill yr enwebiad, fy mod i o’r farn fod mantais ganddynt yn yr etholiad arlywyddol waeth pwy fydd yn ennill. Yn y blogiad hwnnw, dywedais mai’r bet call am yr enwebiad oedd TCR (Trump, Carson, Rubio). Ar ôl profi bod hyn yn oed llawfeddygon yn gallu bod yn rhyfeddol o wirion, ma Carson bellach yn hen hanes, sydd wir yn dangos anwadalwch gwleidyddiaeth. Ond ddaeth ‘na ‘C’ arall yn ei le, sef yr erchyll Ted Cruz. Felly o’n i bron yn iawn.

Y peth na soniais amdano bryd hynny oedd ras y Democratiaid. Eto, gan ddangos anwadalwch gwleidyddiaeth, mae’r ras honno bellach yn un ddifyrrach o lawer nag ymddangosai ar yr olwg gyntaf.

P’un bynnag, erbyn hyn mae’r cymal cyntaf drosodd – cawcus Iowa. Dyma ambell sylw brysiog am y canlyniadau o’r ddwy ochr i’r ffens wleidyddol.

Y Llwybr i Ennill

Ma’n werth cyn bwrw ymlaen ystyried hyn – cyn 14 Mawrth mae’r cynadleddwyr yn tueddu i gael eu dyrannu drwy system led-gyfrannol. Ar ôl hynny mae mwy o daleithiau â system lwyr neu rannol winner-takes-all, lle bydd yr enillydd yn hawlio’r holl gynadleddwyr os enillan nhw’r bleidlais. Mae’r rhain yn cynnwys taleithiau mawr fel Florida, Illinois, Ohio, Efrog Newydd a’r fwyaf oll, Califfornia.

Y mae’n system fwy cymhleth na hynny ac mae gwahaniaethau rhwng y rhai Democrataidd a Gweriniaethol. Cyrraedd y pwynt hwnnw ydi’r nod i nifer fawr o’r ymgeiswyr.

Y Gweriniaethwyr

Fydd canlyniad Iowa yn y pen draw ddim yn un enfawr, ond ar ei ôl mae ‘na lu o ymgeiswyr sydd yn edrych fel petaen nhw allan ohoni erbyn hyn waeth beth fydd yn digwydd wythnos nesaf yn New Hampshire. Anodd gweld trywydd i’r enwebiad bellach i Jeb Bush, Chris Christie, Ben Carson a  John Kasich ynghyd â’r mân ymgeiswyr eraill. Mater o leihau’r gorlan ydi Iowa a NH.

O ran Trump, roedd Iowa’n dangos bod troi anfodlonrwydd yn bleidleisiau’n beth anodd. Roedd pethau wastad am fod yn lled agos yn Iowa ond roedd methiant Trump i gael ei bleidleiswyr allan yn sylweddol – roedd ei berfformiad o’n waeth na’r margin of error (ac mae hwnna’n gallu bod yn fawr mewn nifer o bolau Americanaidd). Serch hynny, mae hi ymhell o fod drosodd iddo gan nad Iowa oedd y tir ffrwythlonaf iddo. Nesaf daw NH a De Carolina – dwy dalaith y mae Trump ymhellach o lawer ar y blaen ynddynt. Ond gyda’r gwynt wedi’i daro o’i hwyliau rhyw fymryn, a’i anallu i gael pawb sy’n ei gefnogi i bleidleisio, mae’n siŵr fydd pethau’n agosach na’r disgwyl. Byddwn i ddim serch hynny’n ei ddiystyru. Pwy all wir ei weld yn ildio? Na, mae Trump isio mynd yr holl ffordd, ac os bydd o’n methu ag ennill yr enwebiad fydd o’n siŵr o lusgo pawb arall i lawr efo fo’n fwriadol.

Ar y llaw arall roedd Iowa’n ganlyniad mawr i Cruz – sydd yn fy marn i yr ymgeisydd ffieiddiaf o’r cyfan, ond mi roddaf fy marn i’r naill ochr yn y darn hwn. Y cyfan sydd angen iddo ei wneud ydi aros y tri uchaf tan Ddydd Gŵyl Dewi pan fydd llu o daleithiau’n pleidleisio, llawer iawn ohonynt yn y de lle mae ei gefnogaeth gryfaf, gan gynnwys Texas a Georgia. Os gall Cruz o leiaf ennill mewn llu o’r taleithiau hyn bryd hynny, mae o mewn sefyllfa gref iawn, hyd yn oed os yw ei apêl gyffredinol yn gyfyngedig.

Rubio, ar y llaw arall, ydi’r boi i’w wylio bellach. Gwnaeth o’n well na’r disgwyl o gryn ffordd. Ond dydi’r ffordd ddim yn hollol glir iddo yntau chwaith. Mae llawer iddo fo’n dibynnu ar ymgeiswyr eraill yn tynnu allan, a po gyntaf y gorau. Gellir disgwyl i raddau i bleidleiswyr mwy prif ffrwd ddechrau dod ato, er bod hynny’n sefyllfa ryfedd ynddi ei hun. Dydi Rubio ddim yn ymgeisydd cymedrol yn y lleiaf. Hefyd, rhaid cofio, mae o dal y tu ôl i Trump a Cruz yn y rhan fwyaf o’r polau, ac o ystyried pa mor ddiawledig mae’r ymgeiswyr gwirioneddol gymedrol yn ei wneud, mae modd dadlau nad oes gormod o bleidleisiau iddo eu hennill waeth faint ohonyn nhw sy’n tynnu allan. Bydd ei dalaith o, Florida, yn un o’r taleithiau mawr sy’n winner-takes-all yn pleidleisio ar 15 Mawrth, yn dyngedfennol. Yn ôl y polau oll mae o’n drydydd fanno hefyd, gyda llaw. Y gwir ydi, ar ôl New Hampshire a De Carolina, dydi trydydd ddim yn mynd i fod yn ddigon da, rhaid iddo fo ddisodli naill ai Cruz neu Trump yn y ddau uchaf.

Ar y cyfan, cadarnhaodd Iowa rywbeth sy’n amlwg yn y dŵr yn rhengoedd y Gweriniaethwyr. Rydym ni yn Ewrop wedi gweld y Gweriniaethwyr fel plaid eithafol erioed, ond mae ‘na elfennau cymedrol ynddi (mae’r gwahaniaeth rhwng Clinton a Bush , er enghraifft, yn ddigon ansylweddol ar y cyfan). Maen nhw wedi’u llwyr drechu yn yr etholiadau hyn; mae’r Gweriniaethwyr yn fwy asgell dde nag y maen nhw erioed wedi bod. Mae’n anodd i rywun yr ochr yma i’r Iwerydd mewn difri ddweud pa mor niweidiol, os o gwbl fydd hynny iddyn nhw.

Hefyd, mae ‘na gyfle mawr iawn, iawn ar hyn o bryd y bydd y Gweriniaethwyr mewn sefyllfa mewn rhai misoedd lle na fydd gan unrhyw un o’r ymgeiswyr fwyafrif o gynadleddwyr i gipio’r enwebiad. I bob pwrpas bydd mawrion y blaid yn gorfod dethol ymgeisydd os digwydd hynny. Rubio fyddai hynny heb os. Ond mae sut y gallent ei ddewis gan hefyd gadw cefnogwyr Trump a Cruz yn fodlon yn dasg amhosibl, yn enwedig os ydi o dal wedi dod yn drydydd.

Y Democratiaid

Hon oedd y stori, waeth be ddywed neb. Tan yn ddiweddar iawn, iawn, roedd Hillary Clinton ymhell ar y blaen yn Iowa. O drwch blewyn oedd hi’n fuddugol neithiwr. Rŵan, mae o hyd yn anodd gweld hi’n colli’r enwebiad mewn difrif, ond mae’r ffaith bod Sanders nid ychydig fisoedd yn ôl 40% y tu ôl iddi yn y polau yno a bron â’i threchu neithiwr yn arwyddocaol. A hon yw’r adeg berffaith i ddechrau ennill momentwm. Mae’r syniad mai fater o goroni fyddai dewis Clinton wedi’i chwalu, ac mae hwnnw’n newid canfyddiad pwysig. Y mae’n werth cofio hefyd bod Iowa ddim y math o le y byddai disgwyl i Sanders wneud hyn dda, heb sôn am bron trechu Clinton yno.

Yn ôl y polau, mae Sanders ymhell iawn ar y blaen yn New Hampshire. Mae’n anodd gweld ar ôl neithiwr hynny’n newid, ond fe allai o bosibl leihau’r bwlch yn Ne Carolina (lle mae Clinton ymhell ar y blaen). Ond daw Nevada cyn De Carolina, ac mae ambell sylwebydd wedi awgrymu eisoes y gallai Sanders ennill yno. Mae’n sefyllfa od, ond gallai Sanders wneud y dda iawn yn y taleithiau traddodiadol Democrataidd a Clinton ei ysgubo o’r neilltu yn y taleithiau traddodiadol Gweriniaethol. Mae honno’n adrodd cyfrolau – dydi rhaniadau’r blaid Ddemocrataidd ddim mor amlwg na chas â rhai’r Gweriniaethwyr ond mae nhw yno, ac maen nhw wedi dyfnhau.

Yn fwy cyffredinol, mae ymgeisyddiaeth Sanders – er y bydd yn siŵr o fethu yn y pen draw – yn newyddion drwg i’r Democratiaid. Y gwir ydi, dylai rhaniadau’r Gweriniaethwyr fod wedi gwneud pethau’n haws o lawer i’r Democratiaid eleni ond mae ymgyrch hirhoedlog ac annisgwyl am yr ymgeisyddiaeth ar ddod. Efallai ni fydd hynny’n eu niweidio gormod, ond dydi o’n sicr ddim o gymorth.

Mae’r llwybr at yr arlywyddiaeth ei hun o hyd yn un maith a throellog. Bydd yna fawr o oblygiadau i ganlyniad Iowa yn y pen draw, ond mi ydyn ni o leiaf wedi cael cipolwg bach difyr ar yr hyn a allai ddigwydd dros y misoedd nesaf.

Nessun commento: