Blwyddyn newydd
dda!
Nos Iau ddiwethaf
mi ges i sgwrs fach yn y dafarn am etholiadau Ffrainc. Mae pawb yn meddwl ei
bod yn gwbl anochel y bydd Marine Le Pen yn cyrraedd yr ail rownd yn yr
etholiadau arlywyddol a gynhelir ar 23 Ebrill eleni, ac i fod yn deg mae
hwnnw’n fet go ddiogel, ynghyd â hithau’n colli yn y rownd derfynol. Mi fu’n
fwriad gen i ysgrifennu pwt am etholiad Ffrainc ers rhai wythnosau – wedi’r
cyfan, mae’n un o etholiadau pwysicaf y byd ac yn haeddu ymdriniaeth. Mi
geisiaf gynnig hynny mewn modd mor gryno ag y gallaf. Ond peidiwch â darllen
ymlaen onid oes gennych chi amser i’w sbario.
Rŵan, dydi o ddim
y peth hawsaf imi wneud hyn; mae’r ffynonellau gorau, yn anochel, yn Ffrangeg a
dwi methu ei siarad. Ond mae ‘na ddigon o gliwiau ar gael sy’n awgrymu y gallai
ambell beth go annisgwyl ddigwydd yn yr etholiad hwnnw.
Mae’n annhebyg os
ydych chi’n darllen hwn eich bod yn gwbl anymwybodol o’r sefyllfa wleidyddol yn
Ffrainc ar hyn o bryd, ond dyma ei chrynhoi’n fras: mae’r polau piniwn yn
awgrymu y bydd Marine Le Pen, arweinyddes y Front
Nationale, a François Fillon o blaid Les
Républicains, yn wynebu ei gilydd yn y rownd derfynol. Mae’r Parti socialiste, sef plaid Hollande (a
fydd ddim yn sefyll) yn debygol o gael crasfa, gan o bosibl ddod yn bumed yn y
rownd gyntaf y tu ôl i’r Front Gauche
(plaid adain chwith eithafol) ac En
Marche! sy’n fudiad newydd a sefydlwyd gan Emmanuel Macron, a arferai fod
yn weinidog yn llywodraeth Hollande ond a’i gadawodd fis Awst i drïo’i lwc yn
yr etholiad hwn. Gambl, yn sicr, ond mae’n debygol bod yr rheiny’n boblogaidd
ac yn eithaf llwyddiannus y dyddiau hyn.
Er mwyn rhoi trefn
i’r blogiad hwn, dwi am fwrw golwg gryno dros bedair plaid, sef pob un a enwyd
uchod eithr y Front Gauche, cyn dod i
gasgliad bras ar yr hyn dwi’n credu a allai ddigwydd.
François Fillon –
Les Républicains
Roedd dewis Fillon
yn sioc i’r system yn y lle cyntaf – Alain Juppé oedd y ffefryn clir i ennill
yr enwebiad ond trodd y blaid am yr ymgeisydd sydd bellaf i’r dde wleidyddol.
Llenwodd Fillon fwlch yng ngwleidyddiaeth y dde yn Ffrainc sydd wedi bod yn wag
am gryn dipyn sef ceidwadaeth Gatholigaidd. Mae pleidleisiau i hynny ar y dde,
ond mae ei feddylfryd economaidd yn Thatcheraidd sy’n wrthun mewn gwlad fel
Ffrainc, lle mae traddodiad cryf o ymyrraeth lywodraethol yn economi’r wlad. Yn
fras, mae ei apêl ym mhleidlais aml-ddewis y rownd gyntaf yn gyfyngedig.
Ddiwedd y llynedd, fodd bynnag, fo oedd y ffefryn i gyrraedd yr ail rownd, bob
amser yn yr 20au uchaf neu’r 30au isel yn y polau piniwn ac o flaen y lleill.
Ond ers hynny, mae ei gefnogaeth wedi dirywio’n sylweddol. Cawsai 30% ar
gyfartaledd ym mholau Tachwedd a Rhagfyr, ond fis yma mae o 4-5% yn is ac y tu
ôl i Le Pen gan mwyaf.
Alla i ddim dweud
fy mod i’n gwybod llawer amdano, ond ar y cyfan mae’n ymgeisydd digon
anysbrydoledig ac yn yr etholiad hwn gallai hynny ei niweidio. Mae’n anodd ei
weld yn peidio â chyrraedd yr ail rownd oherwydd ei gefnogaeth graidd, a
gwelsom yn yr UDA ac yn y DU bwysigrwydd gefnogaeth galed: mae’n fwy llwyddiannus na chynghreiriau gwleidyddol
llac.
Gallai ei
geidwadaeth ar faterion fel mewnfudo ennill cefnogaeth oddi wrth Le Pen, ond gall
ei safbwyntiau ar yr economi, yn galw am ddadreoleiddio ar raddfa enfawr, atal
pobl rhag pleidleisio drosto – yn enwedig wrth droi wrth Le Pen sy’n agosach at
y canol Ffrengig yn yr ystyr hwnnw. Ac mae’n annhebygol o hudo’r rhai o’r
dosbarth gweithiol – sosialwyr traddodiadol –sy’n troi’n gynyddol at y Front Nationale.
Marine Le Pen –
Front Nationale
Mae’n rhagdybiaeth
gyffredin ers sbel y bydd Marine Le Pen yn cyrraedd yr ail rownd. Mae hi’n
gyson ymhlith y ddau uchaf ac mae’r Front
wedi bod yn ennill cefnogaeth dan ei harweinyddiaeth yn gyson, er bod system
etholiadol (annheg) Ffrainc yn eu hatal rhag ennill seddi ar y cyfan. Yn wir, â
phopeth sydd wedi digwydd y llynedd, mae’n anodd ei diystyru. Ond mi wna i
ddarogan yn gwbl hyderus nad Marine Le Pen fydd arlywydd nesaf Ffrainc.
Yr hyn efallai nad
ydym ni y tu allan i Ffrainc wedi amgyffred ydi hyn: mae gan y Front broblemau. Gyda’r banciau yn
gwrthod benthyca arian i’w hymgyrch, mae Le Pen wedi gorfod troi at gwmni ei
thad am fenthyciad o £5.2m; rhywbeth sydd am fwrw amheuaeth dros ei pherthynas
â’i thad. Mae wedi ceisio ymddieithrio rhagddo’n fwriadol i ehangu apêl y blaid,
ond mae amheuon am ei didwylledd wrth wneud hynny yn sicr am ail-godi. Mi
gollodd achos llys y llynedd pan y’i gelwid yn “ast ffasgaidd” gan gomedïwr ac
y ceisiodd ei siwio. Fydd ei hymwelid diweddar â Trump Tower fawr o help
ychwaith – mae Trump yn amhoblogaidd yn Ffrainc ymhlith bron pawb. A bydd ei
hedmygedd cyson o Putin efallai fawr o help.
Y mae craciau yn y
Front Nationale, a dwi ddim yn
argyhoeddedig y bydd pobl yn eu hanwybyddu. Ni waeth i chi weiddi am Trump na
Brexit yn hyn o beth: mae Ffrainc yn wlad wahanol; ac yn draddodiadol dydi’r
blaid ddim wedi gwneud yn well mewn etholiadau na mewn polau. Hynny ydi,
dydi’r pleidleiswyr distaw lu a drodd allan i bleidleisio yn 2016 mor ddistaw
yno. Ni ragwelaf sioc dawel ym mhleidlais Ebrill; mi fyddan ni’n gwybod ymlaen
llaw sut eith hi.
Gallai Fillon
ddenu rhai o’r bobl ar y dde a fyddai’n pleidleisio drosti (tanciau ar y
lawnt ac ati) ond gallai eraill effeithio ar ei phleidlais. A waeth i ni gofio,
mae pleidlais Le Pen, fel Fillon, yn y polau piniwn tua 5% i lawr ar yr hyn yr
oedd yn ei gael ym mis Tachwedd. Tuedd, a thuedd na ellir ei hanwybyddu.
Wrth gwrs mae
pethau a allai ddigwydd rhwng rŵan a mis Ebrill a allai atgyfnerthu ei
chefnogaeth, yn eu plith ymosodiad terfysgol arall. Ond ni all neb ddarogan
hynny.
Partie socialiste
Pwt yn unig a
roddaf i’r blaid sosialaidd. Maen nhw ar chwâl, a fyddan nhw ddim yn cyrraedd
yr ail rownd, ond gallai eu dylanwad ar bwy sy’n cyrraedd fod yn hollbwysig. Yn
syml – petai Manuel Valls yn ennill mae’n debyg y bydden nhw’n ennill tua 10% -
15% o’r bleidlais (gyda’r uchaf ar y raddfa honno’n annhebygol). Petai un o’r
lleill yn ennill gallai fod yn hanner hynny. Debyg na gŵr o’r enw Arnaud
Montebourg ydi’r ffefryn i ennill yr enwebiad.
P’un bynnag,
gyda’i gobeithion yn rhacs waeth pwy sy’n ennill un o enwebiadau mwyaf
anobeithiol Ewrop ar y funud, mae posibiliad cryf y bydd nifer o’r rhai
fyddai’n pleidleisio dros y sosialwyr yn ailystyried eu pleidlais rownd gyntaf.
O’u plith nhw, mae pleidleisio dros Le Pen neu Fillon yn y rownd gyntaf fwy na
thebyg yn amhosibl. Ond, yn strategol, mae un person y gallent bleidleisio
drosto a allai atal y ddau...
Emmanuel Macron -
En Marche!
A dyma ni, y
ffactor rhyfedd, annisgwyl yn yr etholiadau arlywyddol, Emmanuel Macron. Mae’n
ifanc, yn siaradwr da, yn frwdfrydig, ac er ei fod yn rhan o’r llywodraeth
flaenorol dydi o heb fwrw cysgod gormodol drosto chwaith. Mewn polau piniwn mae
un peth yn bwysicach na chanrannau – sef tueddiadau.
Ac yn wir, mae’r
duedd i Macron yn un sy’n llawn haeddu sylw. Yn wahanol i Fillon a Le Pen,
cynyddu mae ei bleidlais o’n gyson. Mae Macron o fewn pellter taro i’r ddau.
Gwnaeth un arolwg
barn a gynhaliwyd fis yma ei roi o
flaen Le Pen yn y rownd gyntaf. Yr amod, os liciwch chi, oedd nad oedd y Partie socialiste yn dewis Valls. Ond,
fel y dywedais uchod, hyd yn oed os gwnân nhw hynny, dydi o ddim y tu hwnt i
bob cred y gallai nifer o bleidleiswyr y blaid honno droi ato er mwyn cael
rhywun sydd ddim ar y dde yn yr ail rownd. Mae’n bosib, er yn llai tebygol, y
gallai rhai o bleidleiswyr y Front Gauche
wneud yr un peth. Byddai o’n wirion i beidio ceisio apelio atynt. A dydi o ddim
yn wirion.
Cryfder Macron, yn
fy marn i, ydi ei ddiffyg syniadaeth wleidyddol. Dydi o ddim yn ei ddiffinio ei
hun yn nhermau hynny; gallai fod yn gryfder eithriadol. Rydyn ni eisoes wedi
gweld hyn yn digwydd, o Trump yn UDA i’r M5S yn yr Eidal (heb sôn am bleidiau
llwyddiannus fel un Merkel yn yr Almaen sydd wastad wedi ffafrio ymarferoldeb
dros syniadaeth). Dwi’n gwbl argyhoeddedig na’r duedd wleidyddol sydd ohoni,
ymhlith mudiadau llwyddiannus, ydi symud o ideolegau pendant i sefyllfa fwy
hyblyg. Mae o’n boblyddwr (y gair Cymraeg crap am populist) o fath.
Rydyn ni’n cyfateb
y gair poblyddiaeth i’r adain dde yn aml ond mae hyn yn hollol anghywir; ddadleuwn
i mai ystyr poblyddiaeth gyfoes ydi, yn syml, y reddf i ddweud y peth iawn ar
yr adeg iawn yn y ffordd iawn er mwyn ennill grym, heb fod yn gaeth i ideoleg.
Ac i’r graddau hynny, efallai bod lle i ddadlau bod Le Pen yn fwy o ideolegwr na
phoblyddwr. Macron, nid Le Pen, sy’n dilyn ôl-troed pobl a mudiadau diweddar sy’n
amrywio o Trump i’r M5S i Syriza i’r SNP.
Ategir hynny
efallai gan y ffaith fod Ewrop, yn ôl polau piniwn diweddar, wedi troi’n
sylweddol fwy o blaid yr UE, ym mhob gwlad gan gynnwys Ffrainc. Dydi o ddim yn
gyd-ddigwyddiad fod Le Pen wedi bod yn llai gelyniaethus at Ewrop yn ddiweddar,
na bod Macron yn ffyrnig o’i phlaid.
Gan ddweud hynny,
mae ganddo un anfantais a allai fod yn dyngedfennol – does ganddo fo ddim sail
gadarn i’w gefnogaeth, yn wahanol i Fillon a Le Pen. Bydd unrhyw darfu ar ei
fomentwm o bosib yn lladd ei gyfleoedd.
Casgliad
Mae cynifer o
gwestiynau i’w hystyried wrth ddod i unrhyw gasgliad am beth allai ddigwydd yn
Ffrainc. Pwy ydi’r ymgeisydd mwyaf poblogaidd fel unigolyn? Faint o
bleidleisiau y gall Fillon eu dwyn oddi ar Le Pen, os o gwbl? Pa mor feddal ydi’r
gefnogaeth i Macron? Ydi pleidleiswyr ar y chwith am droi ato i atal y ddau
arall? Ac un ffactor difyr ydi François Bayrou – rhywun sy’n ei roi ei hun yng
nghanol y sbectrwm gwleidyddol, er sy’n Gatholig pybyr, ac sy’n ymgeisydd cyson
mewn etholiadau arlywyddol ond sydd heb ddatgan unrhyw fwriad i sefyll. Byddai
ei gefnogaeth o i Fillon neu Macron yn gallu bod yn dyngedfennol, os yw’n ei rhoi.
Fy nheimlad i ydi
hyn: mae Le Pen (os na ddigwydd ffactorau allanol) wedi colli ei chyfle a’i
momentwm. Mae cefnogaeth Fillon yn ddigon cadarn ac yn annhebygol o ostwng mwy.
Gall Macron ddenu pleidleisiau o du mwy o ffynonellau na nhw. Dwi’n meddwl y
bydd yn llwyddo i wneud hynny, gan wynebu François Fillon yn yr ail rownd, gyda
Le Pen yn colli allan ar y cyfle hwnnw o drwch blewyn.
Ond ddyweda i ddim
mwy na hynny!
1 commento:
Braf i'ch gweld chi 'nol.
Posta un commento