Yn Rachub yr wyf yn awr, ac yn hapus iawn o fod 'ma, a gweled defaid a mynyddoedd a ser. Byddwn i wedi rhoi to bach uwchben 'ser' ond 'sgen i ddim mynadd efo'r bastad cyfrifiadur 'ma adra. Dim band llydan, wrth gwrs, dim ond cyfrifiadur o Oes yr Ia sy'n horybl o araf.
Byddwn wedi bod wrth fy modd yn rhoi lluniau o gig Pesda Roc neithiwr i fyny, ond fel y clywoch uchod bydd hynny'n cymryd oes pys (dyna be 'di dywediad). Roedd Cerys Matthews yn dda iawn, rhaid dweud, gyda enwogion eraill o fri yn heidio i Pesda i'w gweld; Bryn Fon, Gruff Rhys, Dai Ddymuniad. Di-ddiwedd ydyw'r rhestr (dyna ddiwedd y rhestr, 'blaw am yr athrawes lesbian o 'Amdani').
Hoffwn ysgrifennu tomen fwy, a chlodfori lagyr Labatt a Jarrod am gadw'n cotiau tu-ol i'r bar inni (ac am dyfu trawsnwch echrydus), hoffwn bori Maes E a newid y lliw y blog 'ma ond gan ei bod wedi cymryd hanner awr yn barod imi wneud hyn a fy mod yn ysu am fath (dw i'n ffycin drewi) gwell imi beidio!
1 commento:
Fues i'n y Tavistock am y tro cynta dydd Sadwrn, gafo ni seremoni wobrwyo 5-a-sice yno. Cracar o le, dries i roi punt yn y jiwcbocs, a dyma'r ddynes tu ol i'r bar yn rhoi cyllell finiog i mi drio sgota'r sofran allan. Dim yn bob man ma sdaff mewn pyb yn rhoi uffar o gyllell fawr finiog yng ngofal boi hanner ffordd drw all-dayer. Parch
Posta un commento