- Twrci. Pam dani mond yn ei fyta fo 'Dolig? Be, heblaw am ei sychder a'i IQ israddol, sy'n ei wneud o mor arbennig i dim ond ei gael unwaith y flwyddyn?
- Anrhegion. Unwaith ti dros 18 mae nhw'n warthus, ond mae Mam dal yn mynnu prynu rhai uffernol o drud i pobl eraill, rhan fwyaf o'r amser dy gefndryd.
- Ferrero Rocher. Siocled y mae pobl tlawd fel ni'n eu prynu, er mwyn inni smalio ein bod ni'n posh fel yr Ambassador. Mae'r Ambassador yn wancar.
- Last Christmas I Gave You My Heart
- Teledu Nadolig. Fedra i ddim stumogi mwy ohono erbyn hyn. Unai rhifyn arbennig siomedig o 'Only Fools and Horses' neu rhyw gonsyrt Nadoligaidd ydi o bob tro, a'r un rhaglenni ers 30 mlynedd.
- Dw i'n gorfod neud blogiad i ddymuno Nadolig Llawen.
Yr un olaf 'di'r gwaethaf, achos dw i'm yn siwr pwy yn union dw i'n dymuno Nadolig Llawen i, achos dw i'm yn gwybod pwy sy'n darllen y blog, nadw? Felly gwaeth imi ddweud
NADOLIG LLAWEN IAWN I BAWB
gan obeithio nad ydi Rhodri Morgan, y Sam Tân newydd na'r boi chwydodd drostai'n y Ddawns Rhyng-gol yn darllan!
Nessun commento:
Posta un commento